Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Y Cynghorwyr Anwen Davies, Simon Glyn a Peter Read.

2.

DIOGELU PLANT AC OEDOLION

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan yr Uwch Reolwr Diogelu ac Ansawdd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau.

 

3.

AMRYWIAETH MEWN DEMOCRATIAETH pdf eicon PDF 103 KB

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan y Rheolwr Aelodau - Gwasanaeth Democrataidd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a nodi sylwadau.

4.

ARDALOEDD YR ASESIAD LLESIANT

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cyflawni a Chefnogi Newid.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau fynegi barn.

 

Pwyntiau Gweithredu:

 

  • Aelodau i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad o ran sut mae’r Sir yn cael ei rhannu’n ardaloedd ar gyfer asesiad o lesiant y boblogaeth leol, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 unai yn Rhaeadr neu drwy anfon sylwadau yn uniongyrchol i’r Uwch Reolwr Gwasanaeth Cyflawni a Chefnogi Newid JanetRoberts@gwynedd.gov.uk 

 

5.

RHAGLEN WAITH Y GWASANAETH ADFYWIO CYMUNEDOL - ARDAL DWYFOR pdf eicon PDF 538 KB

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Adfywio Cymunedol raglen waith y Swyddog Adfywio Lleol. Manylodd Swyddog Adfywio Ardal Dwyfor ar brosiectau penodol.

 

Pwynt Gweithredu:

 

  • Derbyn diweddariad pellach ymhen 6 mis.

 

6.

CYNLLUN CYFLOGAETH LLŶN AC EIFIONYDD pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Strategaeth a Datblygu y Cynllun Cyflogaeth er mwyn i’r Pwyllgor Ardal argymell i’r Cyngor ei fabwysiadu fel sail ar gyfer cyfeirio ymdrechion y Cyngor a’i bartneriaid i gynnal a chreu gwaith yn Ardal Dwyfor.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a nodi sylwadau.

 

Pwyntiau Gweithredu:

 

  • Argymell y Cynllun fel sail ar gyfer cyfeirio ymdrechion y Cyngor a’i bartneriaid i gynnal a chreu gwaith yn Ardal Dwyfor;
  • Ystyried cynnwys isadeiledd ffyrdd fel cynllun yn y Rhaglen Waith.