Lleoliad: Canolfan Fenter Congl Meinciau, Botwnnog
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Cofnod: PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Glyn Roberts yn gadeirydd y cyd-bwyllgor hwn am y flwyddyn
2019/20. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Cofnod: PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd T.Victor Jones yn is-gadeirydd y cyd-bwyllgor hwn am y
flwyddyn 2019/20. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Simon Glyn a John Brynmor Hughes (Cyngor Gwynedd) a’r
Cynghorydd Angela Russell (Pencampwr Cefn Gwlad Cyngor Gwynedd) ynghyd ag Andy Godber (Ymddiriedolaeth
Genedlaethol), Morgan Jones-Parry (Fforwm Mynediad Arfon a Dwyfor), John
Gosling (Partneriaeth Dwristiaeth Abersoch a Llŷn) ac Andrew Davidson
(Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried
unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Ail-ddatblygu cytiau glan môr Nododd y
Swyddog AHNE Llŷn fod cynrychiolydd Partneriaeth Dwristiaeth Abersoch a Llŷn, oedd yn methu bod
yn bresennol yn y cyfarfod, wedi gofyn iddo godi mater ar ei ran mewn perthynas
ag ail-ddatblygu cwt glan môr yn Abersoch.
Eglurwyd bod yr aelod wedi datgan pryder bod y cwt newydd yn fwy na’r hen
un a gafodd ei ddymchwel, ac wedi gofyn i’r swyddogion fynd i gael golwg
arno. Nodwyd, fodd bynnag, er bod
caniatâd cynllunio i ail-ddatblygu’r cwt wedi ei wrthod yn wreiddiol, bod y
cais wedi’i ganiatáu’n ddiweddarach drwy apêl.
Hysbyswyd y cynrychiolydd bod y drefn wedi’i dilyn yn yr achos hwn, ond
cydnabyddid bod yna bryder cyffredinol bod caniatâd cynllunio yn cael ei roi yn
weddol gyson i ddatblygiadau o’r math. Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Swyddog
AHNE Llŷn, gan fod yr apêl wedi’i chaniatáu yn yr achos hwn, nad oedd yna
fawr ddim y gellid ei wneud am y sefyllfa. Nododd aelod
nad oedd y broblem hon wedi’i chyfyngu i gytiau glan môr yn unig a bod yna
lawer o dai sylweddol o ran maint yn cael eu caniatáu ar draws y cymunedau. Nododd aelod
mai cymharol ychydig geisiadau oedd yn dod gerbron Pwyllgor Cynllunio Cyngor
Gwynedd bellach gan fod gan y swyddogion lawer mwy o hawliau dirprwyedig i
wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.
Nododd fod ceisiadau am dai gan bobl leol yn cael eu gwrthod ar y sail
nad ydynt yn dai fforddiadwy, ond roedd sefyllfa’r farchnad dai mewn llefydd
fel Abersoch a Llanengan yn golygu nad oedd unrhyw dai yn fforddiadwy yno. Pwysleisiodd fod rhaid pwyso ar y drefn
gynllunio neu ni fyddai yna bobl Cymraeg yn byw yn yr ardaloedd hyn. Nododd aelod fod
y sgaffaldiau sy’n ffurfio sylfaen y cytiau glan môr yn Nefyn yn cael eu gadael
yno trwy gydol y flwyddyn ac yn creu blerwch. Nododd y
Swyddog AHNE Llŷn y gellid rhoi sylw i’r materion hyn wrth adolygu’r
cynllun rheoli. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2019, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r
Cyd-bwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf, 2019, fel rhai cywir. |
|
MATERION CENEDLAETHOL PDF 79 KB Cyflwyno
adroddiad Swyddog AHNE Llŷn. Cofnod: Cyflwynodd y
Swyddog AHNE Llŷn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys gwybodaeth bellach am y
sefyllfa genedlaethol mewn perthynas â’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol
Eithriadol yng Nghymru. Rhoddwyd
diweddariad ar y datblygiadau canlynol:- ·
Amcanion a themâu blaenoriaeth y ddogfen ‘Cydnerth a
Gwerthfawr – Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Ardaloedd o Harddwch
Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol’. ·
Cynigion ar gyfer cynyddu cydraddoldeb gyda’r Parciau
Cenedlaethol o ran statws, proffil ac adnoddau. ·
Cynigion ar gyfer sefydlu Partneriaeth Tirlun
Cenedlaethol Cymru. ·
Penodiad Rheolwr Datblygu Cymru i gynorthwyo
Partneriaethau AHNE i weithredu blaenoriaethau Cydnerth a Gwerthfawr
Llywodraeth Cymru. ·
Y cynigion yn deillio o’r adolygiad o’r tirweddau
dynodedig yn Lloegr (“Glover Review”) a’r prif gasgliad bod potensial i’r
Ardaloedd Dynodedig wneud llawer mwy drwy gydweithio fel teulu o dan sefydliad
newydd: “Tirweddau Cenedlaethol”. Nodwyd hefyd
bod Unedau AHNE wedi cael cyfle yn ystod y blynyddoedd diweddar i roi cynigion
am gyllid uniongyrchol i Lywodraeth Cymru er ariannu prosiectau a bod gwybodaeth
am rai o’r prosiectau a ariannwyd gyda’r arian yma wedi ei chynnwys yn yr
adroddiad ar Brosiectau’r Uned AHNE. Yn dilyn ymlaen
o’r drafodaeth o dan eitem 6 uchod, nododd y Swyddog AHNE Llŷn fod
cynigion yr adolygiad o’r tirweddau dynodedig yn Lloegr yn cyfeirio at roi mwy
o ddylanwad i’r AHNE’au gyda materion cynllunio. Byddai’n rhaid cadw golwg ar y sefyllfa yma
ac adrodd yn ôl i’r cyfarfodydd nesaf. O safbwynt yr
ariannu, nodwyd mai £59,000 a ddyrannwyd i AHNE Llŷn allan o’r £4m ar
gyfer ardaloedd dynodedig, tra bo Môn wedi derbyn £350,000. Holwyd beth oedd y meini prawf, sut bod Môn
wedi llwyddo i ddenu swm sylweddol uwch a sut roedd y Llywodraeth yn penderfynu
ar y dyraniad. Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog AHNE y
derbyniodd yr Uned wahoddiad byr rybudd i roi cynigion i mewn. Ychydig o ganllawiau a dderbyniwyd, ac
eithrio nodi bod yr arian ar gyfer prosiectau cyfalaf yn unig. Roedd hynny’n cyfyngu ar yr Uned o safbwynt
cynlluniau, a hefyd o ran y capasiti i wario’r arian erbyn diwedd Mawrth
2020. Gan hynny, cyflwynwyd cynigion ar
sail yr hyn fyddai wedi bod yn bosib’ ei gyflawni yn yr amser oedd ar
gael. Eglurwyd bod Môn wedi cyflwyno
cais sylweddol fwy. Nid oedd yn amlwg
sut y byddent yn llwyddo i wario’r arian erbyn diwedd Mawrth y flwyddyn
nesaf. Mewn ymateb i sylw gan aelod, cytunwyd y
byddai’n fuddiol cael rhywfaint o gynlluniau yn barod ymlaen llaw fel bod modd
ymgeisio am ragor o arian ar yr adeg briodol. Holwyd oedd modd
trosglwyddo rhywfaint o arian Interreg ar gyfer y cynlluniau hyn, ond nodwyd na
fyddai hynny’n bosib’ gan mai prosiectau refeniw yn unig a ganiateir. PENDERFYNWYD
derbyn y wybodaeth. |
|
CYNLLUN RHEOLI’R AHNE PDF 69 KB Cyflwyno
adroddiad Swyddog AHNE Llŷn. Cofnod: Cyflwynodd y
Swyddog AHNE Llŷn yr adroddiad, a oedd yn amlygu bod angen dechrau adolygu
Cynllun Rheoli’r AHNE a’r asesiadau amgylcheddol cysylltiol yn fuan, gan fod
cyfnod gweithredu’r cynllun presennol yn dod i ben yn 2020. Manylwyd ar
gynnydd y gwaith hyd yma a’r amserlen ddrafft. Awgrymwyd bod y
bwriad i adolygu’r cynllun mewn blwyddyn yn uchelgeisiol iawn o ystyried bod yr
adolygiad diwethaf wedi cymryd 4 blynedd.
Mewn ymateb,
eglurodd y Swyddog AHNE Llŷn y byddai yna lai o newidiadau y tro yma. Ad-drefnwyd y cynllun yn sylweddol y tro
diwethaf ac hefyd fe osodwyd gwaith allan i ymgynghorwyr. Hefyd, y tro hwn, gobeithid y byddai’r
cydweithio agosach gyda AHNE’au Bryniau Clwyd a Môn o gymorth i symud ymlaen yn
gynt. Awgrymodd aelod fod adolygu bob 5 mlynedd yn
defnyddio llawer o adnoddau’r AHNE. Mewn
ymateb, eglurodd y Swyddog AHNE Llŷn fod y Ddeddf Cefn Gwlad yn nodi bod
rhaid cynnal adolygiad o’r cynllun bob 5 mlynedd, ac y byddai’n anodd newid y
sefyllfa heb newid y ddeddf. Holwyd, yn
dilyn o’r gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan y Llywodraeth i effaith tai haf ar
gyflenwad tai i bobl leol mewn ardaloedd gwledig, oedd modd rhoi mewnbwn o ran
y sefyllfa tai haf yn yr AHNE. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Swyddog AHNE
Llŷn y gellid yn bendant edrych ar hynny wrth gynnal yr adolygiad gan y
byddai hynny’n dystiolaeth gefndirol ar gyfer y cynllun. PENDERFYNWYD
derbyn y wybodaeth. |
|
PROSIECTAU'R UNED ANHE PDF 74 KB Cyflwyno
adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn. Cofnod: Cyflwynodd y Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn adroddiad
ar waith y Gwasanaeth AHNE. Rhoddwyd diweddariad ar y prosiectau canlynol: ·
Hyfforddiant Sgiliau Gwledig ·
Sbwriel Morol ·
Rhywogaethau Ymledol ·
Tanddaearu Gwifrau Trydan ·
Cynnal Asedau – Cyfleon Gwirfoddoli ·
Cystadleuaeth Ffotograffiaeth AHNE ·
Prosiectau Cyfalaf – Cyllid Llywodraeth Cymru, sef:- - Eglwys Carnguwch - gwaith
trwsio ac ail-osod giatiau a gosod arwyddion i gyfeirio o gyfeiriad Llwyndyrys - Gwaith adnewyddu wal derfyn
Cae’r Nant a chreu bwlch fel lle pasio i gerbydau - Gwella Llwybrau Cilan - Gwella Mynediad i Dir Mynediad
Bwlch Mawr, Gyrn Ddu, Gyrn Goch Dosbarthwyd ychydig gopïau o lyfryn gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
ynglŷn â phrosiect ffermio “Talu am Ganlyniadau” ym Mhorth Gwylan, a
nododd y Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn fod ganddi fwy o gopïau yn y swyddfa
petai’r rhywun yn dymuno copi. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Gan
gyfeirio at y bwriad i osod tap dŵr
cyhoeddus ger y toiledau yn Abersoch,
nododd cynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru fod modd
darparu paneli wrth ymyl pwyntiau
ail-lenwi yn egluro pam bod angen lleihau’r defnydd o blastigion. Awgrymwyd bod y Swyddog AHNE Llŷn yn trafod
ymhellach gyda’r cynrychiolydd. ·
Nododd
aelod fod Jac y Neidiwr yn
fwy o broblem na Changlwm
Siapan gan ei fod yn
lledaenu yn llawer cynt. Mewn ymateb, nododd y Swyddog AHNE Llŷn y byddai’r Uned yn
dal i fynd ar ôl hyn,
ond bod ‘Himalayan Balsam’ yn
broblem fawr yn yr ardal
bellach. Nododd fod y planhigyn
wedi ymledu o’r mynydd yn
Nefyn i lawr
i’r traeth ac efallai y byddai’n brosiect da i ymgeisio
am arian ar
ei gyfer gan Lywodraeth Cymru. Ychwanegodd fod llawer o waith wedi’i wneud ar
hyn ym Môn a bod y bartneriaeth ‘Himalayan Balsam’ yno
yn mapio’r ardaloedd hynny lle mae’r planhigyn
yn tyfu. Awgrymwyd cysylltu â’r bartneriaeth
ym Môn i weld oes modd ymestyn
y gwaith mapio i gynnwys Llŷn
hefyd. ·
Nododd aelod nad oedd yna unrhyw beth ar wefan yr AHNE ynglŷn â’r
Prosiect Awyr Dywyll, er bo cyfeiriad at hyn yn aml ar y gwefannau
cymdeithasol. Mynegwyd dymuniad i weld
llawer o ddigwyddiadau’n cymryd lle unwaith y byddai’r Swyddog Prosiect yn ôl
yn ei gwaith. ·
Holodd
aelod a fyddai’n bosib’ cael prosiect
i gael
gwared â’r coed helyg ar
Garn Boduan gan fod perygl iddynt
ymledu ac amharu ar yr olion
yno. Awgrymodd y Swyddog AHNE Llŷn y gellid cynnwys hyn yn
y cynllun rheoli. Nododd yr aelod y byddai’n
pasio manylion cyswllt y perchennog ymlaen i’r swyddog. · Nododd aelod fod Scottish Power wedi uwchraddio un o’u llinellau yn Sarn Bach a holwyd a fyddai’n bosib’ trafod gyda hwy ymlaen llaw i weld a fyddai modd eu tanddaearu. Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog AHNE Llŷn fod Scottish Power yn fwy awyddus i danddaearu mewn rhai llefydd nag eraill, a chyfeiriodd at dair o linellau y bwriedir eu tanddaearu y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Y GRONFA DATBLYGU CYNALIADWY PDF 63 KB Cyflwyno
adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn. Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad y Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn a oedd yn manylu ar sefyllfa’r
Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Nodwyd, o’r
£55,000 oedd ar gael i’r Gronfa ar ddechrau blwyddyn ariannol 2019/20, bod y
cyfan eisoes wedi ei glustnodi. Nodwyd bod
prosiect Ffynhonnau – Cadwch Gymru’n Daclus wedi ei
dynnu’n ôl oherwydd diffyg arian cyfatebol ac y defnyddiwyd y tanwariant i
ariannu’r prosiectau a ganlyn:- ·
Sgyrsiau Hanes
Lleol Bryncroes ·
Arwyddion
Newydd Eglwysi Bro Madryn ·
Parêd Dewi
Sant, Pwllheli ·
Be Nawn Ni
Heddiw? PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth. |