Lleoliad: Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6NL. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD I ethol cadeirydd am y flwyddyn 2018/19. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol Morgan Jones-Parry yn Gadeirydd am y flwyddyn 2018/19. |
|
IS-GADEIRYDD I ethol is-gadeirydd am y flwyddyn 2018/19. Cofnod: PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Gareth Williams yn Is-gadeirydd am y flwyddyn 2018/19. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: John Gosling (Partneriaeth Dwristiaeth Abersoch a Llŷn), Sianelen Pleming (Cyngor Cymuned Pistyll), Sian Parri (Cyngor Cymuned Tudweiliog), Alun Price (Cyfoeth Naturiol Cymru) a Gillian Walker (Cyfeillion Llŷn). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Nododd Rheolwr
Gwasanaeth AHNE Llŷn drwy ei amryfusedd nad oedd yr eitem ganlynol wedi ei
gynnwys ar y rhaglen. Tanddaearu
gwifrau trydan Croesawyd
Alan Jones (SP Energy Networks) i’r cyfarfod. Rhoddodd gyflwyniad ar gynllun tanddaearu gwifrau trydan yn yr AHNE
gan nodi y cynhelir cyfarfodydd diweddaru efo swyddogion yr AHNE bob 6 mis.
Manylodd ar y gwaith a gwblhawyd yn ystod y cyfnod 2010-15 yn Aberdesach, Rhiw
a Llithfaen a’r gwaith a gwblhawyd ac oedd yn symud yn ei flaen ers 2015 ym
Mynydd Cilan, Comin Mynytho, Sarn Bach, Dwyros a Bryncynan. Nododd bod cyllideb
o £8 miliwn wedi ei glustnodi ar gyfer y 3 AHNE a’r Parciau Cenedlaethol yn y
gogledd am y cyfnod 2015-22 a bod angen adnabod prosiectau ar gyfer y dyfodol. Mewn
ymateb i sylwadau gan aelodau yng nghyswllt tirlithriad o ganlyniad i erydiad dŵr
yn dilyn cwblhau gwaith tanddaearu yn Nant Gwrtheyrn a diogelwch y gwaith
adfer, nododd cynrychiolydd SP Energy Networks y byddai’n edrych i mewn i’r
mater. Holodd
Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn am y gwaith tanddaearu ar Gomin Mynytho. Mewn
ymateb, nododd cynrychiolydd SP Energy Networks y byddai’r gwaith yn mynd yn ei
flaen unwaith ceir hawl gan y tirfeddiannwr. Mewn
ymateb i gwestiwn gan aelod yng nghyswllt pwy oedd yn penderfynu o ran y
safleoedd y gwneir gwaith tanddaearu gwifrau trydan, eglurodd cynrychiolydd SP
Energy Networks bod swyddogion yr AHNE yn cynnig safleoedd posib a’i fod ef yn
ystyried ymarferoldeb tanddaearu gwifrau trydan yn y safleoedd posib. Ymhelaethodd
bod gweithredu ar safleoedd oedd yn ymarferol bosib i wneud y gwaith yn
ddibynnol ar dderbyn hawl gan y tirfeddiannwr. Eglurodd bod tirfeddiannwr yn
derbyn taliad way-leave am wifrau
trydan uwchben y tir oherwydd eu heffaith ar waith amaethyddol o ddydd i ddydd
a bod taliad llai ar gyfer gwifrau trydan wedi eu tanddaearu. Eglurodd
ymhellach bod tirfeddiannwr yn gallu rhoi rhybudd i derfynu’r hawl os nad oedd
hawddfraint ar y tir yn weithredol. Nododd mai anghyffredin oedd y defnydd o
hawddfraint ar dir gan ei fod yn broses anoddach. Holodd
aelod faint oedd cyfanswm hyd gwifrau trydan uwchben y tir yn yr AHNE. Mewn
ymateb, nododd cynrychiolydd SP Energy Networks mai cyfran fechan o’r
rhwydwaith cyflawn oedd uwchben y tir. Ychwanegodd y canolbwyntir ar yr
ardaloedd mwyaf ymarferol o ran tanddaearu gwifrau trydan. Tynnodd
Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn sylw bod erthygl wedi ei gynnwys yng
nghylchgrawn ‘Llygad Llŷn’ ar y gwaith a gwblhawyd yng Nghilan. Cyfeiriodd
aelod at newidydd trydan nad oedd bellach yn weithredol ger cyn waith
carthffosiaeth Nefyn a holodd o ran ei dynnu oddi yno. Nododd cynrychiolydd SP
Energy Networks y byddai’n edrych i mewn i’r mater. Diolchodd
y Cadeirydd i gynrychiolydd SP Energy Networks am ei gyflwyniad. Nododd
cynrychiolydd SP Energy Networks y byddai’n cysylltu efo Rheolwr Gwasanaeth
AHNE Llŷn o ran safleoedd posib ar gyfer tanddaearu gwifrau trydan. Pencampwr Cefn Gwlad Nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn bod y Cynghorydd Angela Russell wedi ei phenodi yn Bencampwr Cefn Gwlad gan Gyngor Gwynedd. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2017, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Cyd-Bwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2017, fel rhai cywir. |
|
CYNLLUN RHEOLI’R AHNE PDF 55 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Cofnod: Cyflwynodd
Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yr adroddiad, gan nodi bod Cynllun Rheoli’r
AHNE wedi ei fabwysiadu yn ffurfiol gan y Cyngor trwy drefn ddirprwyedig yr
Aelod Cabinet Amgylchedd. Cyfeiriodd
at yr adolygiad nesaf o’r Cynllun Rheoli, gan nodi bod Cyfoeth Naturiol Cymru,
a oedd yn cydgordio gwaith cenedlaethol ar yr AHNE, wedi dechrau paratoi
canllawiau newydd ar gyfer yr adolygiad nesaf. Nododd ei fod yn ymddangos o
ganlyniad i ddatblygiadau diweddar o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
(Cymru) 2015, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a’r Deyrnas Unedig yn gadael yr
Undeb Ewropeaidd, y byddai rhai newidiadau i’r broses a’i fod yn debygol y
byddai statws y cynlluniau yn uwch. Mewn
ymateb i gwestiwn gan aelod o ran statws Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) yng
Nghymru yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd, nododd Rheolwr Cefn Gwlad a
Mynediad eu bod wedi eu dynodi o dan gyfraith gwlad. Holodd
aelod yng nghyswllt cyhoeddi’r Cynllun Rheoli. Mewn ymateb, nododd Rheolwr
Gwasanaeth AHNE Llŷn bod y Cynllun wedi ei anfon i’r argraffdy i’w
brintio, gan egluro y byddai copïau caled ar gael yn fuan a fe gyhoeddir
fersiwn electroneg ar y we. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth. |
|
MATERION CENEDLAETHOL PDF 59 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Cofnod: Cyflwynodd
Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yr adroddiad, a oedd yn rhoi diweddariad o
ran yr adolygiad mewn perthynas â’r tirweddau dynodedig (Parciau Cenedlaethol
a’r AHNE) yng Nghymru. Nododd
bod Hannah Blythyn AC wedi ei phenodi yn Weinidog dros yr Amgylchedd yn
Nhachwedd 2017 a’i bod hi bellach efo cyfrifoldeb dros dirweddau dynodedig
Cymru. Adroddodd bod y gweinidog wedi cadarnhau mewn datganiad i’r Senedd ar 13
Mawrth 2018 bod Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i’r tirweddau dynodedig.
Ychwanegodd ei bod wedi nodi bod cydraddoldeb rhwng yr AHNE â’r Parciau
Cenedlaethol o ran polisi cynllunio ond nad oedd hynny yn wir o ran statws,
proffil ac adnoddau. Disgwylir cyhoeddiad pellach yn Sioe Frenhinol Cymru. Mewn
ymateb i gwestiwn gan aelod yng nghyswllt cyllid pellach i’r AHNE, nododd
Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn nad oedd cyfeiriad at gyllid pellach ond bod
sylwadau’r gweinidog yn gadarnhaol a gobeithir y byddai mwy o statws i’r AHNE. Nododd
aelod y byddai’n anodd gwireddu heb gyllid pellach. Holodd aelod os dylid
ystyried nodi ffigwr i Lywodraeth Cymru o ran faint o gyllid yr oedd angen i
wireddu. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn os byddai statws
yr AHNE yn cael ei uchafu i fod yr un statws a’r Parciau Cenedlaethol disgwylir
i Lywodraeth Cymru amlinellu o ran gweithdrefnau ac yna edrych ar yr adnoddau
ar gyfer gwireddu. Ychwanegodd bod trafodaethau yn cael eu cynnal rhwng y 5
AHNE, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Gymdeithas dros AHNE er mwyn cyflwyno cynnig
gerbron Llywodraeth Cymru yn fuan. Nododd
aelod bod datganiad y gweinidog yn un cyffrous, cyn y datganiad roedd yn
aneglur iawn o ran statws ac amcanion yr AHNE. Ychwanegodd ei bryder na fyddai
argymhellion yr Athro Terry Marsden, yn ei adroddiad ‘Tirweddau Cenedlaethol –
Gwireddu eu Potensial’, yn cael eu gweithredu. Mewn ymateb i’r sylwadau uchod,
nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn bod adroddiad yr Athro Terry Marsden
yn cynnwys cyfanswm o 69 argymhelliad, roedd yn obeithiol y byddai’r
argymhellion pwysicaf yn cael eu gweithredu. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth. |
|
Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn gwybyddu’r
aelodau am 3 apêl cynllunio am ddatblygiadau yn yr AHNE, sef: ·
The Shanty, Abersoch (Cais
Cynllunio Rhif C17/1024/39/LL) – caniatawyd yr apêl; ·
Ger Glynllifon, Llanbedrog
(Cais Cynllunio Rhif C17/0725/38/AM) – gwrthodwyd yr apêl; ·
Coed ger Gorse Bank, Abersoch
(Cais Rhif C17/1185/39/CC) – gwrthodwyd yr apêl. Cyfeiriodd
aelod at Bolisi TWR2 ‘Llety Gwyliau’ o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd
a Môn (CDLl), gan nodi ei bryder o ran y cynnydd yn y nifer o geisiadau i drosi
adeiladau yn llety gwyliau. Nododd ei fod yn rhan o’r polisi i ganiatáu
ceisiadau o’r fath fel rhan o ehangu busnes. Ymhelaethodd ei fod yn anodd
gwneud ymchwil o ran gorddarpariaeth o lety hunanarlwyo yn yr ardal a bod y
polisi yn benagored gan nad oedd yn nodi canran. Nododd ei fod wedi gofyn am
adolygiad o’r polisi. Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn ei
fod yn rhannu’r pryder, gan fod y polisi blaenorol oedd yn cyfeirio at
adeiladau traddodiadol wedi ei wanhau. Cyfeiriodd
aelod at apêl ‘Coed ger Gorse Bank, Abersoch’, gan nodi bod coed tebyg wedi eu
tynnu dros y ffordd i Whitehouse, Abersoch a coed wedi eu tocio ger y cwrs
golff. Pwysleisiodd bod angen cadw golwg ar achosion o’r fath. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y byddai’n crybwyll
yr uchod gyda’r Uned Bioamrywiaeth ond os nad oedd gorchymyn gwarchodaeth ar y
coed nid oedd posib ei atal. Nododd
aelod bod y polisïau cynllunio yn gadael pobl ifanc yr ardal i lawr gyda
cheisiadau cynllunio i ail-wneud adeiladau cerrig yn cael eu gwrthod. Mewn
ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y byddai’n cyfleu’r sylwadau
i’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd. Nododd aelod bod y mater wedi codi yng
nghyfarfod y Panel Polisi Cynllunio ar y Cyd. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth. |
|
Cyflwyno adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn. Cofnod: Cyflwynodd Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn adroddiad ar waith y
Gwasanaeth AHNE. Rhoddwyd diweddariad ar y prosiectau canlynol: ·
Arolwg Tiroedd Comin ·
Rhywogaethau Ymledol ·
Hyfforddiant Sgiliau Gwledig ·
Gwella Mynediad ·
Awyr Dywyll. Holodd aelod os oedd hawl mynd efo beic modur dros dir comin. Nododd aelod
mai Cyfoeth Naturiol Cymru oedd yn gyfrifol am eu rheoli. Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod, eglurodd Rheolwr Cefn Gwlad a Mynediad mai mynediad ar droed yn
unig oedd ar dir agored ond bod hawliau eraill mewn rhai llefydd. Cyfeiriodd
aelod at Foel Saethon lle'r oedd bryngaer Oes yr Haearn. Nododd ei fod yn dir
agored ond nid oedd llwybr cyhoeddus. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth
AHNE Llŷn ei fod wedi ceisio cael hawl ar gyfer Mynydd Ystum ond nid oedd
y tirfeddiannwr yn rhy gefnogol. Nododd y byddai’n ceisio adnabod a chysylltu
efo’r tirfeddiannwr yn yr achos yma. Holodd
aelod pam fod llwybr rhif 12 yng Nghilan wedi ei ddewis ar gyfer gwella
mynediad. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE
Llŷn bod y llwybr wedi ei ddewis mewn ymgynghoriad â Uwch Swyddog Hawliau
Tramwy (Dwyfor). Nododd aelod bod Cyngor Ynys Môn wedi derbyn arian grant i drin y planhigyn
ymledol Jac y Neidiwr. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn ei
fod wedi siarad efo’r Swyddog AHNE yng Nghyngor Ynys Môn a’i fod wedi crybwyll
mynd ato i drafod. Eglurodd bod gwaith o ran gwaredu Canclwm Siapaneaidd yn yr
AHNE yn cael ei ariannu gan arian bloc grant Cyfoeth Naturiol Cymru a bod cryn
waith mapio i wneud cyn cychwyn ar y gwaith. Cyfeiriodd
aelod at y llwybr oedd yn cychwyn o Gefn Morfa ac yn mynd o Blas yng Ngheidio i
Geidio, gan nodi ei fod wedi gordyfu. Nododd ei bod wedi cysylltu efo Uwch
Swyddog Hawliau Tramwy (Dwyfor). Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE
Llŷn y byddai’n cysylltu efo Uwch Swyddog Hawliau Tramwy (Dwyfor) yng
nghylch y mater. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth. |