skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Plas Heli, Pwllheli, LL53 5YQ. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol cadeirydd am y flwyddyn 2017/18.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol Sian Parri yn Gadeirydd am y flwyddyn 2017/18.

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol is-gadeirydd am y flwyddyn 2017/18.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Gareth Williams yn Is-gadeirydd am y flwyddyn 2017/18.

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr Anwen Davies, John Brynmor Hughes ac Aled Wyn Jones (Cyngor Gwynedd) ynghyd â Brett Garner (Cymdeithas Pysgotwyr Llŷn), Laura Hughes (Ymddiriedolaeth Genedlaethol) ac Alun Price (Cyfoeth Naturiol Cymru).

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Datganodd Gruffydd Williams (Cyngor Tref Nefyn) fuddiant personol, yn eitem 5 ar y rhaglen ‘Mater Brys’, oherwydd ei fod yn aelod o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd. Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd yr ystafell yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn bod cais diwygiedig wedi ei gyflwyno i’r Gwasanaeth Cynllunio ar safle 'The Shanty, Abersoch' (cais rhif C17/1024/39/LL). Atgoffodd yr aelodau bod y Cyd-Bwyllgor wedi trafod y cais gwreiddiol yn y cyfarfod blaenorol ar 6 Medi 2017 ac wedi cyflwyno’r sylwadau isod ar y cais i’r Gwasanaeth Cynllunio:

 

Ø  Bod Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn yn gwrthwynebu’r cais ar sail:

·         Byddai’r bwriad yn or-ddatblygiad o’r safle amlwg hon gyda’r ôl troed yn sylweddol fwy na’r tŷ presennol.

·         Byddai’r datblygiad yn ymwthiol.

 

Ø  Bod y Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol yn pryderu o ran effaith gronnol datblygiadau o’r fath ar yr AHNE.

 

Nododd y gwrthodwyd y cais gwreiddiol yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 25 Medi 2017.

 

Adroddodd bod y Pwyllgor Cynllunio yn ei gyfarfod ar 18 Rhagfyr 2017 wedi gohirio penderfyniad ar y cais diwygiedig er mwyn rhoi cyfle i’r Cyd-Bwyllgor gyflwyno sylwadau ar y cais.

 

Nododd bod y bwriad wedi ei leihau o ran maint y tŷ, nid oedd modurdy yn rhan o’r cais diwygiedig a byddai mwy o lystyfiant o gwmpas y datblygiad gan ei fod yn llai. Nododd ei fod wedi cyflwyno sylwadau ar y cais ar ran yr Uned AHNE i’r Gwasanaeth Cynllunio yn unol â’r drefn. Eglurodd ei fod ef fel cynllunydd siartredig yn gymwys i gyflwyno sylwadau ar geisiadau cynllunio.

 

Nododd ei fod wedi cyflwyno sylwadau ar y cais o ran materion yn ymwneud â’r effaith ar yr AHNE a’i fod o’r farn:

·         Bod ymdrech da i geisio dylunio’r adeilad i weddu i’r safle unigryw ar drwyn y Penrhyn a bod safon y dyluniad yn uwch na’r datblygiadau bob ochr a oedd yn fwy trefol a digymeriad;

·         Bod y deunyddiau ar y cyfan yn addas i’r safle arfordirol;

·         Wedi pwyso a mesur manylion y cais na fyddai’r bwriad yn amharu ar yr AHNE.

 

Amlygodd fod yr Uned AHNE wedi cyflwyno sylwadau yn datgan pryder am nifer o geisiadau i ddymchwel ac ail-adeiladu yn ardal Abersoch, er enghraifft Gwesty Harbour Hotel, Gwesty White House a Blaen y Wawr ond fod y ceisiadau wedi eu caniatáu er hynny.

 

Tynnodd sylw’r aelodau at y cynlluniau a lluniau o’r datblygiad a oedd wedi eu harddangos yn y cyfarfod, gan nodi bod un cynllun yn dangos y gwahaniaeth rhwng y cais gwreiddiol a’r cais diwygiedig. Nododd bod cynrychiolydd o gwmni Cadnant Planning (asiant y cais) yn bresennol a byddai’n ymateb i gwestiynau’r aelodau. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau edrych ar y cynlluniau a’r lluniau.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nododd yr aelodau'r prif bwyntiau canlynol:

·         Er bod maint y tŷ wedi lleihau dal yn pryderu gan ei fod yn parhau i fod yn dri llawr gyda defnydd helaeth o wydr ar safle amlwg;

·         Bod maint y tŷ yn fwy na’r tŷ gwreiddiol a ni fyddai’r tŷ arfaethedig yn yr union leoliad a’r tŷ presennol;

·         Pryder o ran effaith gronnol datblygiadau o’r fath ar yr ardal;

·         Bod angen gwarchod adeiladau hanesyddol a byddai’r bwriad yn or-ddatblygiad o’r safle gyda dyluniad estron;

·         Byddai caniatáu’r cais yn gosod cynsail.

 

Mewn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 408 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Medi 2017, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Cyd-Bwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Medi 2017, fel rhai cywir yn ddarostyngedig i ddiwygio’r presenoldeb yn y fersiwn Saesneg i nodi bod Brett Garner yn cynrychioli “Llŷn Fishermen’s Association”.

7.

CYNLLUN RHEOLI'R AHNE - NEWIDIADAU ARFAETHEDIG pdf eicon PDF 217 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yr adroddiad, gan nodi yng nghyfarfod y Cyd-Bwyllgor ar 6 Medi 2017 penderfynwyd derbyn drafft diwygiedig o Gynllun Rheoli’r AHNE fel sail ar gyfer ymgynghori cyhoeddus. Adroddodd y cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 2 Hydref a 10 Tachwedd.

 

Tywysodd yr aelodau drwy Atodiad 1 i’r adroddiad a oedd yn cynnwys crynodeb o’r prif sylwadau a dderbyniwyd, sylwadau’r Gwasanaeth AHNE ac argymhelliad i newid y cynllun neu beidio.

 

Nododd aelodau unigol y prif sylwadau isod yng nghyswllt y sylwadau a dderbyniwyd fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus:

·         Fyddai’n bosib defnyddio geiriad gwahanol i Brexit, unai ‘gadael yr Undeb Ewropeaidd’ neu’r sillafiad Cymraeg?

·         6.3 - Bod y ffens ar Fwlch yr Eifl yn cael effaith weledol ar yr AHNE. Roedd yn ardal mynediad agored ac roedd yn mynd yn syth at wal amddiffynnol Tre’r Ceiri. Ddim yn deall sut y cafwyd rhoi ffens;

·         6.3 - Bod angen cyfeirio at y gwaith a gyflawnwyd eisoes o ran tanddaearu gwifrau ar Fwlch yr Eifl yn y Cynllun;

·         6.7 - Bod meysydd carafanau teithiol yn gorboblogi eu meysydd ac oherwydd diffyg staffio gan y Cyngor o ran gorfodaeth roedd yn anodd ei reoli. Yr angen i sgrinio meysydd carafanau i leihau’r effaith weledol;

·         12.2 - O ran ymestyn y tymor twristiaeth yn yr ardal yn gynaliadwy a gwarchodol o’r amgylchedd, yr angen i hyrwyddo yn gynaliadwy i’r iaith Gymraeg yn ogystal gan wneud yr iaith yn bwynt gwerthu’r ardal. Roedd angen cydnabod bod twristiaeth er yn beth da wedi cael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg yn yr ardal;

·         12.6 - Y dylid bod arwyddion yn cyfeirio pobl at yr AHNE o’r A55 fel rhan o Raglen Ffyrdd Cymru i dynnu sylw pobl at yr ardal;

·         12.6 - Bod angen sicrhau nad oedd Ffordd y Glannau a fyddai’n cychwyn yn Aberdaron a gorffen yn Nhŷ Ddewi fel rhan o Raglen Ffyrdd Cymru yn cael ei hyrwyddo ar draul rhannau eraill o Ben Llŷn;

·         13 - Bod angen hyrwyddo llwybr amlddefnydd mynediad i bawb o Nefyn i Benrhyn Nefyn;

·         13.3 - Fyddai’n bosib nodi yn y Cynllun Rheoli beth a nodir yng Nghynllun Gwella Hawliau Tramwy'r Cyngor i atgyfnerthu paragraff 13.11.2 yn enwedig o ran blaenoriaethau;

·         13.4 - Bod sylw Cyfoeth Naturiol Cymru yn eithaf negyddol o ran grŵp o wirfoddolwyr yn gwneud y gwaith gan nodi na fyddai’n gwbl ddigonol i atal colli rhannau pwysig o’r rhwydwaith. Dylid nodi bod gwaith gwirfoddolwyr o fudd pellach i’r rhwydwaith na ddim ond o safbwynt iechyd a’r iaith Gymraeg;

·         Fyddai’n bosib cynnwys map mwy manwl o’r AHNE yn y Cynllun?

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Gellir newid i beidio defnyddio’r gair Brexit yn y fersiwn Gymraeg;

·         O ran y ffens ar Fwlch yr Eifl, y gwnaed ymholiadau â Chyfoeth Naturiol Cymru ac fe wneir ymholiadau pellach;

·         Yn unol â’r argymhelliad fe roddir mwy o wybodaeth am gynlluniau tanddaearu gwifrau ym mharagraff 6.92 o’r Cynllun Rheoli ac ychwanegu cyfeiriad at y ffens;

·         Yr awgrymir yn y Cynllun i gynnal arolwg  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.