skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr Gareth Roberts ac Owain Williams, ynghyd â Gillian Walker (Cyngor Cymuned Botwnnog).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Cyfeiriodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn at ymholiad cyn cyflwyno cais a gyflwynwyd i’r Gwasanaeth Cynllunio yng nghyswllt gosod cabanau glan y môr a chynllun twristiaeth ar safle Mynydd Tir y Cwmwd, Llanbedrog (cais rhif C16/1094/38/YM). Nododd bod yr Uned AHNE wedi cyflwyno sylwadau yn datgan pryder sylweddol am y bwriad o ran yr AHNE.

 

Nododd aelodau eu pryderon o ran y bwriad a’i effaith ar yr AHNE. Cyfeiriodd aelod at gais cynllunio rhif C16/1226/39/LL – Castellmarch, Abersoch a oedd gerbron y Pwyllgor Cynllunio ar 28 Tachwedd 2016 gan dynnu sylw nad oedd cyfeiriad at yr Uned AHNE fel ymgynghorai statudol yn yr adroddiad a gyflwynir i’r Pwyllgor. Mewn ymateb, nododd  Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn ei fod yn credu fod y safle tu allan i ffin yr AHNE ond y byddai’n gwneud ymholiadau efo’r Gwasanaeth Cynllunio.

 

Cyfeiriwyd at benderfyniad y Cyd-Bwyllgor yn ei gyfarfod ar 24 Mehefin 2015:

 

“…bod trefniadau yn cael eu gwneud i ddiwygio’r cyfansoddiad er galluogi bob Aelod Lleol i fod yn aelod o’r Cydbwyllgor erbyn Mai 2017.”

 

Nodwyd gan na fyddai ffiniau etholiadol yn cael eu diwygio bellach ar gyfer etholiad Cynghorau Lleol yn Mai 2017 fe gyflwynir adroddiad ar y mater i’r cyfarfod nesaf.

 

Tynnwyd sylw bod adeilad Frondeg fel rhan o’r drefn doriadau yn cau ond nad oedd cadarnhad o ran dyddiad cau. Nodwyd y cynhelir cyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor pan fu’r adeilad yn cau mwyaf tebygol ym Mhwllheli.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 227 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf, 2016, fel rhai cywir.

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2016, fel rhai cywir.

 

5.

YMWELWYR YN CYFRANNU

Derbyn cyflwyniad gan Rhian Hughes, Arloesi Gwynedd Wledig.

Cofnod:

Atgoffwyd yr aelodau y derbyniwyd cyflwyniad gan yr Uwch Swyddog Datblygu Twristiaeth yng nghyfarfod y Cyd-Bwyllgor ar 18 Tachwedd 2015 ar gynlluniau posib i dderbyn cyfraniad ariannol gan dwristiaid er mwyn ei fuddsoddi mewn ardal benodol.

 

Croesawyd Rhian Hughes (Swyddog Thematic Arloesi Gwynedd Wledig, Menter Môn) ac Alun Fôn Williams (Uwch Swyddog Datblygu Twristiaeth, Cyngor Gwynedd) i’r cyfarfod. Derbyniwyd cyflwyniad ar gynllun peilot rhodd ymwelwyr a sefydlwyd yn ardal Eryri gan Bartneriaeth Eryri sef Rhodd Eryri. Nodwyd bod Menter Môn wedi cael tendr i dreialu’r cynllun drwy gynllun grant LEADER sydd yn ariannu peilota prosiectau arloesol. Adroddwyd bod 25 busnes yn rhan o’r cynllun Rhodd Eryri ac y gobeithir y bydd rhagor yn y dyfodol.

 

Dangoswyd ffilm fer a oedd yn hyrwyddo cynllun Rhodd Eryri. Nodwyd bod potensial ar gyfer cynllun o’r fath yn ardal Llŷn ac fe fyddai Menter Môn yn gallu peilota’r cynllun am oddeutu £5,000.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau, ymatebwyd fel a ganlyn:

·        Bod peilot cynllun Rhodd Eryri yn rhedeg o fis Gorffennaf 2016 tan fis Medi 2017 er mwyn cynnwys yr holl dymhorau. Nodwyd y cynhelir digwyddiad ym mis Ionawr lle cyhoeddir y cyfanswm a gasglwyd hyd yn hyn.

·        Bod cynllun tebyg yn Ardal y Llynnoedd yn creu incwm o oddeutu £100,000 y flwyddyn gydag ond llefydd gwely a brecwast a gwestai yn rhan o’r cynllun. Nodwyd bod cynllun Rhodd Eryri yn cynnwys atyniadau a digwyddiadau yn ogystal.

·        Bod cynllun grant LEADER yn parhau am gyfnod o 5 mlynedd felly fe ellir aros dan ddiwedd peilot Rhodd Eryri cyn penderfynu os am dreialu cynllun o’r fath yn ardal Llŷn.

·        Pwysleisiwyd bod angen grŵp i redeg y peilot ond fe fyddai Menter Môn yn cefnogi’r grŵp ac fe ellir cadw'r costau i lawr gan ddefnyddio'r un brandio a thempled gwefan a grëwyd ar gyfer Rhodd Eryri gan ei deilwra i ardal Llŷn.

·        Nid oedd gorfodaeth i gyfrannu a’i fod i fyny i’r ymwelydd os am gyfrannu neu beidio.

·        Ni dderbyniwyd gwrthwynebiad i’r bwriad gan fusnesau yn Ardal Eryri ond roedd rhai ddim yn siŵr os oeddent eisiau bod yn rhan o’r peilot. Gwahoddir busnesau sydd yn rhan o’r cynllun ynghyd â busnesau sydd ddim a’r wasg i’r digwyddiad ym mis Ionawr ac fe obeithir y bydd yn ysbrydoli busnesau eraill i ddod yn rhan o’r peilot.

 

Diolchodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn am y diweddariad gan nodi ei fod yn syniad i’w ystyried a bod angen pwyso a mesur yr oblygiadau a thrafod efo eraill megis Tîm Llwybr yr Arfordir o ran peilota cynllun o’r fath yn ardal Llŷn.

 

Nododd aelod ei fod yn syniad y dylid ei ystyried ar ddiwedd peilot Rhodd Eryri er mwyn asesu ei lwyddiant. Ychwanegodd aelod y dylid derbyn adroddiad yng nghyswllt sefydlu cynllun o’r fath yn Llŷn.

 

Diolchodd y Cadeirydd am y cyflwyniad gan ofyn a fyddai’n  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

GWYL ARFORDIR LLŶN pdf eicon PDF 299 KB

Cyflwyno adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn yn manylu ar weithgareddau Gŵyl Arfordir Llŷn 2016. Adroddwyd bod y Gwasanaeth AHNE wedi cydweithio efo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgueddfa Forwrol Llŷn a Phlas Heli. Nodwyd bod y Gwasanaeth AHNE wedi cynnal tair taith fel rhan o’r Ŵyl yn ardaloedd Rhiw, Llanbedrog a Nant Gwrtheyrn.

 

Nodwyd y byddai’r partneriaid yn cyfarfod o fewn yr wythnosau nesaf i drafod Gŵyl 2017 ac fe dderbyniwyd cais gan gydlynwyr Marchnad Cynnyrch Llŷn i fod yn rhan o’r trafodaethau er mwyn adnabod cyfleoedd i gydweithio.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth.

7.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL GWYNEDD A MÔN 2011-26 pdf eicon PDF 138 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn rhoi diweddariad ar y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn 2011-26. Nododd y trafodwyd y polisïau perthnasol i’r Ardal o Harddwch o’r Cynllun Adnau Drafft yng nghyfarfod y Cyd-Bwyllgor ar 25 Mawrth 2015 ac fe anfonwyd ymateb y Cyd-Bwyllgor i’r ymgynghoriad i’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd.

 

Adroddwyd bod y Cyd-Bwyllgor yn ei gyfarfod ar 13 Gorffennaf 2016 wedi penderfynu cyflwyno’r achos mewn gwrandawiad o’r Archwiliad Annibynnol, gyda 2 Arolygydd annibynnol yn ystyried yr holl wrthwynebiadau oedd heb eu datrys, yng nghyswllt y materion canlynol:

 

·           Polisi ADN1 – ‘Ynni Gwynt ar y Tir’;

·           Polisi ADN2 – ‘Technoleg Ynni Adnewyddadwy Arall’;

·           Polisi TWR5 – ‘Safleoedd Carafanau Teithiol, Gwersylla a Llety Gwersylla Amgen dros dro’;

·           Polisi Strategol PS16 – ‘Gwarchod a gwella'r Amgylchedd Naturiol’;

·           Polisi AMG3 – ‘Gwarchod yr Arfordir’.

 

Nodwyd bod y Cadeirydd wedi cynrychioli’r Cyd-Bwyllgor mewn gwrandawiad ar faterion yn ymwneud â’r Amgylchedd Naturiol/Adeiledig a’r Economi a’r Is-gadeirydd yn y gwrandawiad ar faterion Ynni Adnewyddol.

 

Nododd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd eu bod wedi derbyn gwrandawiad teg wrth gyflwyno sylwadau’r Cyd-Bwyllgor. Nododd aelod ei ddiolch i’r cyfieithydd a oedd yn bresennol yng nghyfarfodydd y gwrandawiad gan nodi bod canmoliaeth i safon y cyfieithu.

 

Nododd aelod nad oedd symudiad o ran tyrbinau gwynt yn yr AHNE yn y gwrandawiad felly fe ddylid sicrhau fod safbwynt y Cyd-Bwyllgor yn cael ei nodi’n gryf yng Nghynllun Rheoli’r AHNE. Tynnodd sylw bod astudiaethau mwy cyfredol o ran ffermydd gwynt a ffermydd solar yn nodi bod y clystyrau gwynt a argymhellwyd gan gwmni ARUP Associates yn 2012 ddim yn gywir oherwydd ni ddefnyddiwyd yr ardaloedd chwilio cywir a bod symudiad tuag at ddynodi’r ardal o gwmpas Rhoslan fel yr unig ardal yn Nwyfor ar gyfer ffermydd solar oherwydd materion tirwedd a capasiti’r grid cenedlaethol.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y byddai ymgynghoriad ar y pwyntiau gweithredu yn codi o’r gwrandawiad yn cychwyn ym mis Ionawr 2017 ac nad oedd disgwyl newid mawr. Ychwanegwyd y byddai adroddiad yr Arolygwyr yn cael ei rhyddhau yn Mawrth 2017.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth.

 

 

8.

TIRWEDDAU'R DYFODOL CYMRU pdf eicon PDF 395 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn rhoi diweddariad o ran yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd bod grŵp bychan wedi bod yn gweithio ar dynnu holl waith rhaglen Tirweddau’r Dyfodol Cymru at ei gilydd mewn dogfen a fyddai’n gosod cyfeiriad at y dyfodol a mesurau ar gyfer y meysydd gwaith.

 

Adroddwyd bod Adroddiad Terfynol Drafft wedi ei chyhoeddi a bod copïau ar gael i’r aelodau gan y Gwasanaeth AHNE pe dymunent gopi. Nodwyd bod y Gweithgor a sefydlwyd wedi ystyried yr adroddiad ac wedi dod i’r farn ei fod yn rhy gyffredinol ac o ganlyniad fod angen ail-edrych arno cyn ei gyhoeddi yn mis Ionawr 2017.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yr anfonwyd neges i Arglwydd Dafydd Ellis-Thomas, Cadeirydd y rhaglen datblygu o ran yr angen i ystyried Tir y Goron ond ni dderbyniwyd ymateb hyd yma.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth.

 

9.

Y GRONFA DATBLYGU CYNALIADWY pdf eicon PDF 273 KB

Cyflwyno adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn yn manylu ar sefyllfa’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy a datblygiadau ar y gweill. Nodwyd mai £55,000 oedd swm y Gronfa ar ddechrau’r flwyddyn ariannol bresennol gyda £173.67 yn weddill.

 

Nododd aelodau eu pryderon nad oedd prosiect Cae Chwarae Aberdaron wedi hawlio'r cyfraniad sylweddol a gynigwyd iddynt a bod amser yn brin i ddosrannu’r arian i unrhyw brosiectau eraill o ystyried bod angen i bob prosiect gael ei gwblhau a hawlio’r arian cyn diwedd Chwefror 2017.

 

Mewn ymateb i’r pryderon, nododd Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn y cynhelir cyfarfod efo cynrychiolwyr Cae Chwarae Aberdaron cyn y Nadolig i gael cadarnhad o’r sefyllfa. Nodwyd pe na fyddai’r prosiect yn hawlio’r cyfraniad a gynigwyd nad oedd yn pryderu o ran dosrannu’r arian i brosiectau eraill gan y derbyniwyd ceisiadau drafft eraill eisoes ac fe barheir i hyrwyddo’r gronfa.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y derbynnir cadarnhad o ran swm y gronfa ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol fel arfer yn ystod mis Ebrill.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth.

 

10.

CYNLLUN RHEOLI’R AHNE pdf eicon PDF 362 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn rhoi diweddariad ar y gwaith o ddiweddaru ac adolygu Cynllun Rheoli’r AHNE. Tywyswyd yr aelodau trwy 2 bennod drafft o Ran 2 o’r cynllun rheoli sefIaith a Diwylliant’ a ‘Yr Amgylchedd Hanesyddola oedd yn atodiad i’r adroddiad. Nodwyd yr anelir i ddod a gweddill penodau Rhan 2 o’r cynllun diwygiedig gerbron cyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau roi sylwadau, ymatebodd y swyddogion i’r sylwadau fel a ganlyn:

 

Iaith a Diwylliant

·        Fe nodir yn y tablNifer o siaradwyr Cymraeg, Cymunedau’r AHNE’ mai canrannau yw’r ffigyrau.

·        Y cynhwysir cyfeiriad at hanes yr iaith a chefndir sefydlu Plaid Cymru.

·        Fe nodir fel pwnc llosg, newidiadau i enwau traddodiadol tai a llefydd gyda pholisi i ymateb.

 

Yr Amgylchedd Hanesyddol

·        Fe ddiwygir brawddeg o dan fwyngloddio o dan y pennawd ‘Y Cyfnod Ol-Ganoloesol (1500-1800) i ddarllenDechreuodd gwaith manganîs Rhiw yn 1840 ac erbyn 1927 roedd 50 yn gweithio yno.’

·        Croesawir derbyn nodiadau technegol a gwybodaeth ychwanegol gan gynrychiolydd Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd o ran hanes milwrol diweddar a.y.b. a gosod y wybodaeth ym mhennodYr Amgylchedd Hanesyddolyng nghyd-destun Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     derbyn yr adroddiad;

(ii)    bod Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn diwygio’r penodau drafft yn unol â sylwadau’r Cyd-Bwyllgor.