skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd R. H. Wyn Williams, Arfon Hughes (Cyngor Tref Nefyn), William I. Hughes (Undeb Amaethwyr Cymru) a John Eric Williams (Cyfeillion Llŷn).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 311 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Mehefin, 2015, fel rhai cywir. (copi ynghlwm).

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2015, fel rhai cywir.

5.

YMWELWYR YN CYFRANNU

Cyflwyniad gan Alun Fôn Williams, Uwch Swyddog Datblygu Twristiaeth.

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan yr Uwch Swyddog Datblygu Twristiaeth ar gynlluniau posib i dderbyn cyfraniad ariannol gan dwristiaid er mwyn ei fuddsoddi mewn ardal benodol. Nododd bod dau fath o gynllun posib, sef -Cynllun Treth Ymwelwyr a Chynllun Rhodd Ymwelwyr.

 

Nododd gan nad oedd gorfodaeth i gyfrannu mewn Cynllun Rhodd Ymwelwyr ei fod yn fwy deniadol na’r Cynllun Treth Ymwelwyr. Adroddodd bod 25 cynllun o’r fath yn weithredol yn y Deyrnas Unedig gyda nifer o ffyrdd posib i ymwelwyr gyfrannu megis:

·        biliau gwestai,

·        biliau bwytai,

·        tocynnau meysydd parcio;

·        tocynnau atyniadau,

·        drwy i-beacons.

 

Nododd bod cynllun peilot rhodd ymwelwyr yn dechrau yn Llanberis mis Rhagfyr 2015 am gyfnod o flwyddyn ac os fyddai’n llwyddiannus bwriedir lledaenu’r cynllun ar draws Gwynedd.

                

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau, ymatebodd yr Uwch Swyddog Datblygu Twristiaeth fel a ganlyn:

·        Bod gan gynlluniau o’r math potensial ond bod angen adnodd dynol i gysylltu â chwmnïau ynghyd â chyllideb sylfaenol er mwyn sicrhau llwyddiant;

·        Bod rhaid cynnal cynllun peilot oherwydd rheolau cynllun grant LEADER;

·        Mai gwirfoddol fyddai’r cyfraniad gydag opsiwn i optio mewn neu allan;

·        Byddai cynllun o’r fath yn cynnwys hyrwyddo’r Iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig;

·        Bod enghreifftiau gwahanol o weinyddu cynlluniau o’r fath megis drwy fenter gymdeithasol, gwirfoddolwyr a.y.y.b;

·        Ei fod yn fwy na parod i gysylltu â Menter Môn a oedd yn cynnal y peilot yn Llanberis yng nghyswllt sefydlu cynllun yn yr AHNE.

 

Diolchwyd i’r Uwch Swyddog Datblygu Twristiaeth am ei gyflwyniad.

6.

PROSIECTAU DIWEDDAR UNED AHNE LLŶN pdf eicon PDF 386 KB

Cyflwyno adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn.

Cofnod:

Cyflwynodd Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn adroddiad ar waith yr Uned AHNE. Rhoddwyd cyflwyniad ar brosiectau llwyddiannus diweddar a ariannwyd yn rhannol gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Nodwyd bod dros £400,000 o grantiau wedi eu dyrannu i dros 100 o brosiectau ers 2010.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod parthed cynllun tanddaearu gwifrau trydan yn yr AHNE, nododd y Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn bod lluniau/mapiau ar gael gan yr uned.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

7.

MATERION CYNLLUNIO pdf eicon PDF 433 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn rhoi diweddariad ar faterion cynllunio perthnasol i ardal Llŷn a’r AHNE.

 

Nododd y Cadeirydd ei fod yn awyddus i drafod safbwynt y Cydbwyllgor ar ffermydd solar, o ystyried y nifer cynyddol o geisiadau, er mwyn dod i gonsensws os dylid mabwysiadu datganiad ar geisiadau cynllunio o’r math yma neu beidio, fel y gwnaed efo ceisiadau cynllunio am dyrbinau gwynt.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y prif bwyntiau canlynol:

·        Bod angen ystyried effaith gronnus ceisiadau o’r math yma ar y dirwedd;

·        Ei fod o werth i’r Cydbwyllgor roi sylwadau ar geisiadau cynllunio;

·        Gan fod posibilrwydd y byddai’r feed-in tariff yn cael ei ddiddymu blwyddyn nesaf efallai na fyddai cymaint o geisiadau cynllunio;

·        Bod rhan fwyaf o’r ceisiadau a ganiatawyd eisoes wedi eu sgrinio’n ddigonol;

·        Nad oedd yn bosib sgrinio datblygiadau solar yn ystod tymor y Gaeaf;

·        Bod angen rhoi cyfyngiad ar faint cynlluniau paneli solar;

·        Nad oedd Canllawiau Cynllunio Atodol i warchod yr AHNE o or-ddatblygiadau o’r math yma a ni fyddai rhai mewn lle am gryn amser ar ôl i’r Cyngor fabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd 2011-2026;

·        Y dylid rhoi trefn mewn lle i allu galw cyfarfod arbennig o’r Cyd-Bwyllgor i roi sylw penodol ar geisiadau cynllunio unigol a fyddai’n niweidio’r AHNE;

·        Y dylid edrych ar y sefyllfa yn yr ardaloedd o harddwch eraill;

·        Bod Gwasanaeth Archeolegol Gwynedd wedi gwneud asesiad astudiaeth sylfaenol dros Gymru o ran capasiti ar gyfer datblygiadau o’r math yma ac anfonir yr adroddiad i’r Uned AHNE.

 

Nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y byddai’n llunio adroddiad cynhwysfawr yng nghyswllt datblygiadau solar i gyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     derbyn yr adroddiad;

(ii)    sefydlu trefn lle gall y Cadeirydd mewn ymgynghoriad a Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn galw cyfarfod arbennig o’r Cyd-Bwyllgor i roi sylw penodol ar geisiadau cynllunio unigol a fyddai’n niweidio’r AHNE;

(iii)  bod Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn cyflwyno adroddiad yng nghyswllt datblygiadau solar i gyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor.

8.

CYNLLUN RHEOLI’R AHNE pdf eicon PDF 430 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn rhoi diweddariad ar y gwaith o ddiweddaru ac adolygu Cynllun Rheoli’r AHNE. Tywyswyd yr aelodau trwy Rhan 1 o’r cynllun rheoli oedd yn atodiad i’r adroddiad. Nodwyd yr anelir i ddod a Rhan 2 o’r cynllun diwygiedig gerbron y Cyd-Bwyllgor yn ystod Gwanwyn 2016.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau roi sylwadau, ymatebodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn i’r sylwadau fel a ganlyn:

·        O ran effaith datblygiadau ar y tirlun, byddai cyfeiriad penodol at ddatblygiadau megis tyrbinau gwynt a phaneli solar yn Rhan 2;

·        Bod polisïau cenedlaethol ynghyd â Chynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG) yn delio â materion cynllunio ond byddai cyfeiriad yn Rhan 2 at dueddiadau a pholisïau newydd oedd yn effeithio ar yr AHNE;

·        Bod dynodiad Ardal Gwarchod y Dirwedd yn creu math o fyffer i warchod gosodiad yr AHNE ynghyd a’r golygfeydd i mewn ac allan o’r AHNE. Ychwanegodd bod y CDUG yn rhoi ystyriaeth i’r dynodiad;

·        Y byddai pwyslais yn y cynllun ar greu tirlun byw a chynnal cymdeithas. Nodwyd y rhoddir sylw i faterion megis anghenion y gymuned leol, diwydiannau traddodiadol, lles cymunedol a datblygiadau cynaliadwy.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

9.

HER GWYNEDD pdf eicon PDF 313 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn manylu ar drefniadau’r Cyngor yng nghyswllt ymgynghori ar doriadau i wasanaethau. Nodwyd bod dileu’r Uned AHNE wedi ei gynnwys fel toriad posibl. Ychwanegwyd y byddai dileu’r uned yn arbed £39,150 i’r Cyngor.

 

Nodwyd yr ysgrifennwyd at aelodau’r Cyd-Bwyllgor a phartneriaid gwaith yr Uned AHNE i dynnu sylw at y bygythiad i’r uned. Anogwyd yr aelodau i lenwi holiadur Her Gwynedd a nodwyd bod cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei ymestyn i 30 Tachwedd 2015.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Rheoleiddio yr asesir ymatebion i’r ymgynghoriad ar grynswth y wybodaeth yn hytrach na nifer o unigolion oedd wedi dewis pa bynnag opsiwn. Anogodd yr aelodau i lenwi’r holiadur unai ar-lein neu drwy lenwi’r holiadur papur.

 

Ychwanegodd bod y toriadau yn cael eu gorfodi ar y Cyngor a byddai goblygiadau i nifer o wasanaethau. Nododd bod oddeutu 65 o’r Cynghorwyr wedi asesu nifer o opsiynau mewn gweithdai cyn i’r Cabinet benderfynu ar y rhestr toriadau sydd yn destun yr ymgynghoriad. Nodwyd y cynhelir gweithdai pellach efo’r holl gynghorwyr yn dechrau 2016 i drafod yr ymatebion cyn i’r Cabinet ystyried y cynigion ac yna byddai’r Cyngor Llawn ar 3 Mawrth 2016 yn penderfynu ar y gyllideb ar gyfer 2015-16.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nododd yr aelodau'r prif bwyntiau canlynol:

·        Bod yr holiadur ddim yn bositif;

·        Ni ellir cyflwyno cynigion amgen;

·        Bod yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig yn cefnogi dynodiad yr AHNE a’i werth cenedlaethol;

·        Bod yr adolygiad yn nodi y byddai gweinyddiaeth yr AHNE yn parhau i fod yn rhan o’r Cyngor;

·        Bod gofyn statudol o ran gwarchod yr ardal o harddwch;

·        Bod yr holiadur yn anodd i’w lenwi ac yn rhy gymhleth;

·        Mai oddeutu 1,500 oedd wedi llenwi’r holiadur hyd yma a bod hyn yn siomedig o ystyried bod poblogaeth Gwynedd oddeutu 120,000;

·        Bod rhaid arbed y swm yn llawn i allu cyflwyno ymateb ar-lein ac felly bod unigolion ddim yn parhau â’r holiadur gan olygu na cheir syniadau da ym mlwch olaf yr holiadur, lle gofynnir am unrhyw sylwadau arall, gan groesdoriad o’r gymuned;

·        Y dylid cynnal mwy o drafodaethau efo’r Cynghorau Cymuned a grwpiau perthnasol;

·        Bod yr uned yn gweinyddu’r Gronfa Datblygu Gynaliadwy felly beth fyddai’r oblygiadau o ran dyrannu grantiau.

 

Diolchwyd i’r Aelod Cabinet Rheoleddio am fynychu’r cyfarfod.

 

Awgrymwyd y dylai’r Cadeirydd anfon llythyr mewn ymateb i’r ymgynghoriad yn nodi’r angen i gadw’r Uned AHNE er mwyn gwarchod y dynodiad.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     derbyn yr adroddiad;

(ii)    bod y Cadeirydd yn anfon llythyr mewn ymateb i’r ymgynghoriad yn nodi’r angen i gadw’r Uned AHNE er mwyn gwarchod y dynodiad.

10.

ADOLYGIAD O DIRWEDDAU DYNODEDIG CYMRU pdf eicon PDF 383 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn gosod cyd-destun yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig Cymru. Nodwyd bod yr adroddiad terfynol oedd wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn cynnwys 69 argymhelliad.

 

Adroddwyd bod Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol wedi cyhoeddi datganiad ar 29 Hydref 2015 yn nodi ei fod yn sefydlu gweithgor, dan arweinyddiaeth yr Arglwydd Dafydd Ellis-Thomas i ystyried yr argymhellion gan gyflwyno eu canfyddiadau mewn adroddiad y flwyddyn nesaf.

 

Nodwyd y byddai’r Cadeirydd a Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn mynychu cyfarfod cychwynnol y gweithgor ar yr 20fed o Dachwedd.

 

Tywyswyd yr aelodau drwy grynodeb o’r adroddiad terfynol gan dynnu sylw at argymhellion penodol.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y prif sylwadau canlynol:

·        Bod cadw enw’r dynodiadau Parciau Cenedlaethol ac AHNE gyda’r prif ddynodiad i’w adnabod fel Tirweddau Cenedlaethol Cymru i’w gefnogi gan y byddai’n helpu i godi statws yr AHNE;

·        Er mwyn i’r Parc Cenedlaethol a’r AHNE fod yn ddynodiadau cyfwerth y byddai rhaid newid deddf a gallai hynny gymryd oddeutu 4 neu 5 mlynedd;

·        Bod yr adroddiad yn gefnogol i ddynodiad yr AHNE ac yn rhoi awdurdod ac amlygrwydd iddo;

·        Bod sefydlu’r gweithgor yn golygu oediad o ran gweithredu’r argymhellion;

·        Bod angen bod yn ofalus o ran colli’r gogwydd Gymraeg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.