Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfa'r Cyngor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5AA. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd Peter Read (Cyngor Gwynedd), Cynghorydd Mici Plwm (Cyngor Tref Pwllheli) a’r Cynghorydd Ioan Thomas (Aelod Cabinet – Datblygu’r Economi). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2017, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Hydref, 2017, fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 197 KB Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Nododd y Swyddog
Morwrol a Pharciau Gwledig bod staff yr harbwr wedi bod yn brysur o ran gwaith
dros y Gaeaf gyda’r tywydd garw yn ffactor. Diolchodd
Cynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch i Reolwr Harbwr
Pwllheli a’r staff am ail osod rhaffau a bwi ar ei gwch gan sicrhau ei
diogelwch. Nododd
Cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli ei
werthfawrogiad o waith staff yr harbwr ar ran y Gymdeithas. Tywysodd y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw
at y prif bwyntiau canlynol: ·
Bod adroddiad archwilwyr
Asiantaeth Gwylwyr y Glannau ar eu harolygiad trylwyr o drefniadau a systemau
diogelwch presennol harbyrau bwrdeistrefol Gwynedd er sicrhau cydymffurfiaeth
a’r Cod Diogelwch Porthladdoedd wedi ei gynnwys yn y rhaglen. Roedd yr
archwilwyr yn nodi bod y Cyngor yn cyd-fynd gyda’r gofynion yn gyffredinol ond
bod angen addasu rhai elfennau yn gysylltiedig â chofnodi dyletswyddau a nodi
pwy oedd y Daliwr Dyletswydd a’r Person Dynodedig. ·
Bod yr archwilwyr wedi
nodi sylw bod diffyg lled yn sianel fordwyo yr harbwr er nad
oedd yn dechnegol yn rhan o’r archwiliad. ·
Comisiynwyd cwmni
allanol i gynnal arolwg hydograffig llawn o’r sianel fordwyo, ceg yr harbwr
mewnol a basn y marina gan gynnwys basn angorfeydd pontŵn Plas Heli. Roedd
copi electroneg o’r adroddiad ynghyd â chopïau papur ar gael
i’r aelodau yn swyddfa’r Hafan. ·
Byddai gwaith lefelu
gwely’r sianel yn cael ei gwblhau yn mis Mai a gwaith carthu'r basn yn cael ei
gwblhau yn ystod misoedd y Gaeaf 2018/19. ·
Comisiynwyd
Ymgynghoriaeth Gwynedd i wneud gwaith dylunio manwl Grwyn y Crud. Gobeithir
byddai gwaith adfer Grwyn y Crud wedi ei gwblhau cyn Hydref 2018; ·
Byddai gwaith carthu ceg
yr harbwr yn cael ei gynnal yn mis Ebrill. Dyma fyddai’r ymgyrch diwethaf cyn
symud deunydd o’r domen i ardal traeth Carreg y Defaid. ·
Byddai bwiau parth
cyflymdra uchel ardal traeth Marian y De ac ardal traeth Abererch yn cael eu
lleoli ar eu safle priodol cyn Gŵyl y Sulgwyn. ·
Tynnu sylw bod rhestr
gwaith cynnal a chadw yr Hafan a’r Harbwr wedi ei gynnwys yn y rhaglen.
Gofynwyd i’r aelodau nodi unrhyw waith pellach y dylid ei ystyried. ·
Bod craen symudol yr
Hafan wedi dirywio tu hwnt i werth buddsoddi arian
sylweddol i’w gynnal a chadw. Gan fod gwasanaeth craen symudol ar gael gan gwmnïau yn lleol ym Mhwllheli bwriedir gwerthu’r
craen gan brynu gwasanaeth craen fel bod angen gan gwmnïau lleol yn y dyfodol.
Byddai hyn yn fwy cost effeithiol. ·
Bod staff yr harbwr wedi
cydweithio efo’r Clwb Hwylio i glirio a thacluso safle’r hen Glwb Hwylio. ·
Bod gwaith wedi ei
gwblhau ar ddiwrnod y cyfarfod i lenwi’r tyllau yn arwyneb maes
parcio Traeth Glandon. Cynhelir trafodaethau efo Plas Heli yng nghyswllt
cynllun i darmacio rhan o’r maes parcio. · Bod newidiadau wedi eu cyflwyno yn nhelerau rhai staff yr Hafan sydd wedi penderfynu trosglwyddo allan o warchodaeth TUPE i gytundeb cyflogaeth y Cyngor. Mae 3 aelod staff yr Hafan yn parhau dan warchodaeth telerau gwaith TUPE. Yn dilyn y newidiadau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ADOLYGIAD HAFAN A HARBWR PWLLHELI PDF 244 KB Cyflwyno adroddiad
yr Uwch Reolwr
Economi a Chymuned. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
yr Uwch Reolwr
Economi a Chymuned yn rhoi diweddariad
ar fwriad yr Adran Economi
a Chymuned i adolygu model rheoli ar gyfer yr
Harbwr a’r Hafan ac i geisio
barn y Pwyllgor ar y meini prawf i’w ddefnyddio
ar gyfer gwerthuso’r modelau posib. Nodwyd bod Bwrdd Prosiect wedi ei
sefydlu gyda’r aelodaeth yn cynnwys
Aelod Cabinet - Datblygu’r Economi; y Cynghorwyr Dylan
Bullard, Peter Read, Angela Russell a Hefin Underwood, ynghyd
â swyddogion. Eglurwyd mai’r cam cyntaf oedd sefydlu
os oedd achos
i newid. Sefydlir yr amcanion
cyflawni a geisir o’r Hafan a’r
Harbwr gan eu defnyddio fel
meini prawf i werthuso’r model presennol yn erbyn
modelau amgen. Hysbyswyd ei
bod yn fwriad ymgysylltu gyda budd-ddeiliaid i gael mewnbwn
ar yr amcanion
yn ystod mis Mawrth a mis
Ebrill. Byddai canlyniadau’r trafodaethau hynny’n cael eu
bwydo i mewn
i’r meini prawf terfynol ac yn sail i fynd
ati i werthuso’r
modelau. Nodwyd fel man cychwyn i gynnau
trafodaeth roedd y Bwrdd Prosiect yn cynnig y meini
prawf canlynol (nad oeddent
mewn unrhyw drefn blaenoriaeth): a) Yn atgyfnerthu’r economi drwy fod yn
fasnachol hyfyw a thrwy hynny cefnogi cwmnïau morwrol a swyddi lleol b) Yn sbardun economaidd drwy ddenu ac uchafu
defnydd o’r harbwr c) Y gallu i hyrwyddo’r iaith Gymraeg ch)
Cynnig budd ariannol i’r Cyngor d) Y gallu i ddenu buddsoddiad dd) Yn fodel busnes a chynaliadwy e) Yn fodel posib i’w weithredu Nododd Cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli y byddai rhan fwyaf
o aelodau’r Gymdeithas i ffwrdd yn
y cyfnod y bwriedir ymgysylltu â budd-ddeiliaid. Ychwanegodd Cynrychiolydd Cymdeithas Masnachwyr Morwrol bod y cyfnod yn gyfnod prysur
i’r busnesau. Mewn ymateb, nododd
yr Uwch Reolwr
Economi a Chymuned y byddai’n trafod y mater efo’r cynrychiolwyr ar ôl y cyfarfod. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gynnig
sylwadau ar y meini prawf drafft,
nodwyd y prif bwyntiau canlynol: ·
Angen cyfeirio at gwsmeriaid
yn y meini prawf a’r angen
i gadw cwsmeriaid
presennol a denu
rhai newydd. ·
Angen rhoi sylw i’r cyfleusterau yn yr Harbwr
gyda nifer wedi eu colli
yn y blynyddoedd diwethaf. ·
Dylid cryfhau maen prawf b) o ran defnydd gan bobl leol. ·
Dylid cynnwys yr angen i ail-fuddsoddi
yn y meini prawf. Mewn ymateb i sylwadau pellach
gan aelodau, nododd yr Uwch
Reolwr Economi a Chymuned y cwblheir gwaith manylach yng Ngham 2 pryd
datblygir achos busnes amlinellol. PENDERFYNWYD: (i)
nodi a derbyn yr adroddiad; (ii)
cyflwyno’r sylwadau
uchod i’r Bwrdd Prosiect. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir y cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol
Harbwr Pwllheli ar 16 Hydref 2018. Cofnod: Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 16 Hydref, 2018. |