skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Estynnwyd croeso i’r Cynghorydd Hefin Underwood a oedd yn mynychu ei gyfarfod cyntaf.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 218 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2015, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor Ymgynghorol a gynhaliwyd ar 20 Hydref, 2015 fel rhai cywir.

5.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 158 KB

Cyflwyno adroddiad ysgrifenedig gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad cryno o’r cyfnod rhwng Hydref 2015 a Mawrth 2016, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·         Ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Arfaethedig ar gyfer Llamhidyddion yr Harbwr ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig Arfaethedig newydd ac estynedig ar gyfer adar y môr, nodwyd y dylai’r mudiadau, pe dymunent, gyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad yn uniongyrchol. Cadarnhawyd mai 19 Ebrill 2016 oedd dyddiad cau’r ymgynghoriad.

·         Gofynnir i aelodau dynnu sylw’r Gwasanaeth i faterion yng nghyswllt y Cod Diogelwch Morwrol;

·         Bod oediad o ran llunio Mesuryddion Perfformiad drafft mewn perthynas â rheolaeth yr harbyrau a thraethau. Nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned yr ymchwilir i fesuryddion a ddefnyddir gan eraill er llunio rhai oedd yn mesur effaith, ansawdd a diogelwch. Cylchredir y mesuryddion drafft i sylw’r aelodau.

·         Cynhaliwyd archwiliad gan Awdurdod Goleudai Tŷ’r Drindod ar 24 Chwefror 2016. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at ddiffyg y gwasanaeth i gydymffurfio â gofynionPanar’ ac yn tynnu sylw fod angen caniatâd Tŷ’r Drindod cyn newid lleoliad cymhorthyddion mordwyo. Nodwyd nad oedd yn ymarferol bosib bob tro i dderbyn caniatâd ymlaen llaw.

·         Yn dilyn ymgynghori gyda’r Pwyllgor Ymgynghorol yn y cyfarfod blaenorol, cytunwyd ar leoliadau'r bwiau parth cyflymder uchaf a chadarnhawyd bod angen parhau i gynnal bwiau ar draeth Marian y De yn 2016. Cytunwyd bod angen addasu bwiau parth cyflymder uchaf ardal Glandon er adlewyrchu’r gweithgareddau sydd yn cael eu cynnal yn yr ardal hon o harbwr Pwllheli. Nodwyd y byddai’r cynllun newydd yn weithredol o fis Mai ymlaen.

·         Y gwnaed gwaith i garthu ceg yr harbwr a lefelu gwely’r sianel a gwneir gwaith pellach yn ystod yr Haf i gadw’r lefelau. Fe wneir arolwg hydrograffeg dros yr wythnosau nesaf i gadarnhau’r lefelau.

·         Bod 67K tunnell o ddefnydd a garthwyd wedi ei symud i Garreg y Defaid.

·         Manylwyd ar sefyllfa gyllidebol yr Harbwr a’r Hafan hyd at ddiwedd Chwefror 2016.

·         Manylwyd ar y ffioedd gan nodi bod modd i unigolion dalu mewn 10 rhan daliad am angorfa flynyddol yn Hafan Pwllheli gyda’r gost bellach ond yn 5% yn uwch na thalu mewn un taliad o gymharu â 8% yn uwch yn flaenorol. Gobeithir y byddai’r opsiwn o dalu yn y modd hwn yn annog deiliad i aros a denu eraill i gymryd angorfa flynyddol.

·         Amlygwyd buddsoddiadau yn y cyfnod gan nodi yn 2016/17 y gwneir gwaith ar gysgodfan a phont droed Cei Gogledd yn dilyn ymgynghori efo’r Cyngor Tref.

·         Y gobeithir y bydd gwellhad o ran y sefyllfa o gychod pŵer a badau dŵr personol yn cael eu lansio drwy drefniant cwmnïau masnachol yn ardal Penrhyn Glandon heb eu cofrestru gyda chyfarwyddyd wedi ei roi i’r cwmnïau bod rhaid cofrestru cyn ceir mynd ar y dŵr.

 

Nodwyd y penderfynwyd yn y cyfarfod blaenorol y byddai’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 18 Hydref 2016.

Cofnod:

Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 18 Hydref, 2016.