skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2016/17.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Michael Sol Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor am 2016/17.

 

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am 2016/17.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Hefin Underwood yn Is-gadeirydd y Pwyllgor am 2016/17.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Peter Read (Cyngor Gwynedd), W. A. Partington (Cymdeithas Masnachwyr Morwrol), Cynghorydd Mici Plwm (Cyngor Tref Pwllheli) a’r Cynghorydd Mandy Williams-Davies (Aelod Cabinet - Economi).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 219 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2016, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor Ymgynghorol a gynhaliwyd ar 22 Mawrth, 2016 fel rhai cywir.

 

7.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 183 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad cryno o’r cyfnod rhwng Ebrill 2016 a Hydref 2016, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod 58 cwch wedi angori yn yr Harbwr allanol, gyda 18 cwch wedi manteisio ar y cyfle i angori ar bontŵn Plas Heli. Cyflwynwyd y cynnig yma dros dro oherwydd  ansicrwydd o ran cyflwr angorfeydd yn Ardal 5 a 6. Ar y cyfan golygai hyn bod cyfanswm o 83 cwch wedi angori yn 2016 o gymharu â 87 cwch yn 2015.

·         Cadarnhawyd bod 287 cwch ar angorfa pontŵn blynyddol yn yr Hafan, sef 68% o’r cyfanswm nifer angorfeydd pontŵn sydd ar gael. Roedd hyn yn cymharu gyda 292 cwch a fu ar angorfa pontŵn yn 2015.

·         Gofynnir i aelodau dynnu sylw’r Gwasanaeth i faterion yng nghyswllt y Côd Diogelwch Morwrol.

·         Bod yr Uwch Swyddog Harbyrau yn adolygu’r côd diogelwch ac y bydd Uwch Arolygydd Gwylwyr y Glannau yn ymweld â’r Cyngor yn mis Chwefror 2017 i’w archwilio ac i gyflwyno adborth ar y côd.

·         Bod y Gwasanaeth yn parhau i ddatblygu Mesuryddion Perfformiad mewn perthynas â rheolaeth yr harbyrau. Cylchredir y mesuryddion i sylw’r aelodau ac y gobeithir y gallai’r aelodau gyfrannu at y mesuryddion yn ystod 2017-18.

·         Cynhaliwyd archwiliad gan Awdurdod Goleudai Tŷ’r Drindod ar 26 Gorffennaf 2016. Roedd adroddiad 2016 yn cadarnhau gwelliant yng nghyflwr a lleoliadau cymhorthion mordwyo harbyrau yng Ngwynedd.

·         Bod cymhorthydd mordwyo ‘Hafan y Môr’ yn parhau i fod oddi ar ei safle. Nodwyd er nad oedd y Cyngor yn gyfrifol am y cymhorthydd bod y Cyngor efo cyfrifoldeb i sicrhau bod perchennog y cymhorthydd yn cydymffurfio efo gofynion Tŷ’r Drindod. Roedd y Gwasanaeth wedi gohebu efo rheolwyr Hafan y Môr yn nodi’r gofyn i ail leoli’r cymhorthydd ar ei safle fel mater brys.

·         Yn dilyn ymgynghori gyda’r Pwyllgor Ymgynghorol, gweithredwyd ar fân welliannau i osodiad bwiau parth cyflymder uchaf ardal Glandon ac yn ystod tymor yr haf gosodwyd bwiau ychwanegol gan fod cychod pŵer yn tramwyo yn agos at y lan ar gyflymder uchel ar adegau. Nodwyd er cwblhau man welliannau y derbyniwyd sawl cwyn gan y cyhoedd o ran cychod pŵer yn mordwyo ar gyflymder uchel yn yr ardal. Roedd y Gwasanaeth wedi adnabod y cwch ac fe anfonwyd llythyr o rybudd i’r perchennog. 

·         Manylwyd ar sefyllfa gyllidebol yr Harbwr a’r Hafan hyd at ddiwedd Medi 2016.

 

Cyfeiriwyd at Ardal 5 a 6 gan nodi'r angen i gynllunio gwaith sylweddol ar yr angorfeydd oherwydd bod llaid wedi cronni yn yr ardal gyda banciau yn cynyddu. Nodwyd bod nifer o gwsmeriaid a angorwyd yn Ardal 5 a 6 yn 2015 wedi manteisio ar y cyfle i angori ar angorfeydd pontŵn Plas Heli yn ystod 2016 a diolchwyd i Blas Heli am eu cydweithrediad.

 

Adroddwyd y derbyniwyd dyfynbris o oddeutu £8,000 (ar yr offer yn unig) yng nghyswllt tynnu’r holl angorfeydd presennol allan o Ardal 5 a 6 gan ail osod un rhes  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli ar 21 Mawrth 2017.

Cofnod:

Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 21 Mawrth, 2017.