skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2015/16.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Michael Sol Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor am 2015/16.

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am 2015/16.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Peter Read yn Is-gadeirydd y Pwyllgor am 2015/16.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Peter Read (Cyngor Gwynedd), Clive Moore (Sefydliad y Bad Achub), Andrew Picken (Siambr Fasnach Pwllheli) a’r Cynghorydd Mandy Williams-Davies (Aelod Cabinet – Economi).

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 224 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o'r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 31 Mawrth, 2015, fel rhai cywir.

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor Ymgynghorol a gynhaliwyd ar 31 Mawrth, 2015 fel rhai cywir.

7.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 247 KB

Cyflwyno adroddiad ysgrifenedig gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod lleihad yn y nifer o angorfeydd blynyddol o gymharu â 2014, oedd yn adlewyrchu’r economi ehangach;

·         O ran y Cod Diogelwch Morwrol, y byddai’r Uwch Swyddog Harbyrau yn ei adolygu cyn i’r awdurdod annibynnol a benodwyd, sef Harbwr Caernarfon ei archwilio. Nodwyd bod y Cod yn rhoi arweiniad ac yn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd bod diogelwch defnyddwyr yn bwysig i’r Cyngor;

·         Y gwerthfawrogir sylwadau ar gynnwys y Cod gan yr aelodau;

·         Bod y gwasanaeth yn awyddus i ddatblygu Mesuryddion Perfformiad mewn perthynas â rheolaeth yr harbyrau ac y gwahoddir syniadau neu awgrymiadau cychwynnol gan yr aelodau;

·         Cyfeiriwyd at absenoldeb aelod o staff oherwydd salwch a nodwyd bod Cymorthyddion Harbwr yn llenwi’r bwlch er ceisio sicrhau gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos ar gyfer defnyddwyr;

·         Bod oedi o ran symud y deunydd a garthwyd yn yr Harbwr oherwydd y disgwylir am gadarnhad o gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd y gobeithir cwblhau’r gwaith erbyn diwedd Mawrth 2016;

·         Ystyrir neilltuo cyllid o £50,000 yn flynyddol ar gyfer gwneud gwaith carthu yng Ngheg yr Harbwr a gobeithir gwneud y gwaith blwyddyn nesaf, yr un adeg a symud y deunydd a garthwyd yn yr Harbwr;

·         Manylwyd ar gyfrifon 2014-15 yr Harbwr a’r Hafan;

·         Bwriedir cynyddu ffioedd yr Hafan ar gyfer blwyddyn ariannol 2015-16 yn unol â chwyddiant a rhewi ffioedd yr Harbwr Allanol er mwyn annog unigolion i gymryd angorfa;

·         Bod pryderon o ran diogelwch a chostau cynnal offer rheoli cwch yr harbwr ac asesir opsiynau o ran ei newid;

·         Yn dilyn derbyn pryderon o ran ansawdd y disel coch a ddarperir yn yr Harbwr gan Gymdeithas Masnachwyr Morwrol Pwllheli, nodwyd bod ymholiadau wedi ei gwneud yn y Pwyllgorau Harbwr eraill a chafwyd cadarnhad eu bod yn fodlon efo ansawdd y disel coch. Ychwanegwyd y parheir i fonitro’r sefyllfa;

·         Gwneir gwaith i leihau’r bwnd a diffinio llwybr cyhoeddus wrth ymyl Plas Heli gan osod ffens o ran diogelwch. Ymgynghorwyd efo Swyddog Llwybrau’r Cyngor a oedd yn gefnogol i’r bwriad;

·         Aseswyd opsiynau talu ar gyfer defnyddwyr yr Harbwr a ffafrir Standing Order yn hytrach na Debyd Uniongyrchol. Nodwyd yr edrychir ar yr opsiwn o dalu Standing Order dros gyfnod o 12 mis yn hytrach na 7 mis os arwyddir cytundeb cyn canol mis Chwefror.

 

Tynnodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig sylw at fwiau parth cyflymder uchaf ar draeth Marian y De a gofynnodd am farn yr aelodau o ran eu tynnu. Nododd yr aelodau y dylid eu cadw i sicrhau diogelwch defnyddwyr.

 

Gofynnwyd yn ogystal i’r aelodau am eu barn o ran addasu ardal parth cyflymder uchaf ardal traeth Glandon er hwyluso gweithgareddau hamdden. Nododd yr aelodau bod angen bod yn ofalus o ran diogelwch defnyddwyr a dylid ystyried y posibilrwydd o greu ardaloedd nofio dynodedig.

 

PENDERFYNWYD bod y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yn gwneud gwaith ymchwil o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ETHOL SYLWEDYDDION

I ethol sylwedyddion i wasanaethu ar y canlynol

 

a)    Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi

b)    Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw

c)    Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog

 

Cofnod:

Adroddwyd bod angen ethol sylwedydd/ion i wasanaethu ar Bwyllgorau Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi, Abermaw a Porthmadog.               

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Michael Sol Owen i wasanaethu fel sylwedydd ar Bwyllgorau Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi, Abermaw a Porthmadog.

 

9.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 22 Mawrth, 2016.

 

Cofnod:

Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 22 Mawrth, 2016.