skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2019/2020

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Elfed Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu hwn am 2019/20.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am 2019/2020

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Gethin Glyn Williams yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu hwn am 2019/20.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Simon Glyn, Aled W Jones, Linda Morgan, Elfed Roberts a Mike Stevens.

 

Hysbyswyd yr Aelodau bod y Cynghorydd Linda Morgan wedi derbyn llawdriniaeth yn ddiweddar a’i bod erbyn hyn yn gwella. Roedd y Pwyllgor yn anfon eu dymuniadau gorau ati am wellhad buan.

 

Croesawyd y Cynghorwyr Angela Russell a Dafydd Owen fel aelodau newydd i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau a diolchwyd i’r Cynghorwyr Peter Garlick a Keith Jones am eu cyfraniadau i’r Pwyllgor.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol, yn yr eitem canlynol am y rheswm          a nodir:

 

·         Y Cynghorwyr Owain Williams a Berwyn Parry Jones yn eitem 10  ar y rhaglen oherwydd eu bod yn Aelodau o’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd

 

   Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 107 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 4.4.19 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 4.04.2019 fel cofnod cywir o’r cyfarfod.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS 2018-19 pdf eicon PDF 190 KB

AELOD CABINET: Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

I ystyried yr adroddiad blynyddol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Dyfrig Siencyn yn amlinellu’r hyn a gyflawnwyd dros y flwyddyn ddiwethaf gan Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn. Atgoffwyd yr aelodau bod y Bwrdd wedi cytuno ar feysydd blaenoriaeth fyddai’n gwella llesiant economaidd, amgylcheddol a diwylliannol y ddwy sir.

 

Adroddwyd bod y Bwrdd yn derbyn yr angen i ganolbwyntio ar yr hyn y gellid ei gyflawni yn yr hinsawdd sydd ohoni gan fod adnoddau’r corff cyhoeddus o dan bwysau a bygythiadau pellach mewn arbedion. Er hynny, drwy gydweithio gellid manteisio  ac adnabod cyfleoedd i weithio mewn ffyrdd gwahanol a chyflwyno dulliau arloesol o weithredu.

 

Rhoddwyd diweddariad byr ar y datblygiadau o fewn y chwe maes blaenoriaeth.

 

Adroddwyd bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn destun craffu gan  Bwyllgor Craffu / Sgriwtini dynodedig awdurdodau lleol Gwynedd ac Ynys Môn ac y byddai panel craffu ar y cyd rhwng y ddwy sir yn cael ei ddatblygu i graffu’r gwaith. Nodwyd bod swyddogion craffu Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn yn trafod camau gweithredu allweddol mewn perthynas â’r opsiwn o sefydlu panel ar y cyd yn ystod y misoedd nesaf.

 

Roedd yr Aelod Cabinet yn hyderus yng ngwaith y Bwrdd ac yn adrodd bod ymdeimlad o ymddiriedaeth ymysg Partneriaethau ac awydd a brwdfrydedd o fod eisiau llwyddo. Diolchodd i bawb am eu cyfraniad.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â diffyg adnoddau i wireddu’r amcanion ynghyd a cholli grantiau yn sgil Brexit, nododd yr Aelod Cabinet, er yr angen i ddefnyddio arian presennol, drwy rannu a chydweithio gellid llwyddo ar y cyd. Ategodd bod Llywodraeth Cymru eu hunain mewn sefyllfa anarferol o orfod gosod cyllidebau heb wybod beth fydd eu cyfraniad. Er i’r sefyllfa fod yn un ddryslyd, rhaid dyheu am y gorau  gan ddarganfod ffordd well, arloesol o weithio.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Newid Hinsawdd – mynegwyd siom mai adweithiol oedd y gwaith yng nghyd-destun llifogydd yn hytrach nag arloesol ac uchelgeisiol.

·         A oes dyhead i gydweithio gyda’r Asiantaethau Tai Cymdeithasol o ran adeiladu tai / cartrefi carbon isel

·         Angen ystyried dulliau rhad o adeiladu a chynnal tai – e.e., ynni isel, ynni haul, gwres daear, fyddai yn sicrhau arbedion i’r dyfodol ac elfen fforddiadwy i’r tenant

·         Cartrefi ar gyfer Pobl Leol – rhaid adnabod safleoedd yn y llefydd cywir a bod y cartrefi yn ymateb i’r angen

·         Bod angen manylion mesuryddion a cherrig milltir ar y prosiectau ynghyd a gosod amserlen gadarn yn hytrach na nodi tymor byr, canolog, hir

·         Angen cydnabod ac ymateb i faterion tlodi – posib ystyried banciau bwyd

·         Angen ail asesu niferoedd / anghenion tai yn sgil oediad Cynllun Wylfa Newydd

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r berthynas gyda Llywodraeth Cymru a gallu'r Bwrdd  i ddylanwadu ar addasu polisïau i gyflawni newid, nododd yr Aelod Cabinet bod y bartneriaeth yn cynrychioli nifer o gyrff cyhoeddus ac felly petai barn neu sylw angen ei fynegi, byddai pwysau ar hynny. Derbyniwyd mai anodd fyddai cael dylanwad ar bolisïau ond angen sicrhau bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD CRAFFU GORFODAETH GWASTRAFF pdf eicon PDF 151 KB

AELOD CABINET: Cynghorydd Catrin Wager

 

I ystyried adroddiad yr Ymchwiliad Craffu

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr ymchwiliad craffu Gorfodaeth Gwastraff i’r Aelod Cabinet Catrin Wager. Atgoffwyd pawb beth oedd cefndir y briff a rhoddwyd crynodeb o’r gwaith a wnaed gan y Cynghorydd Stephen Churchman, Cadeirydd yr ymchwiliad.

 

Ategodd yr Aelod Cabinet ei diolch i’r aelodau am eu hymchwiliad trylwyr a’r gwaith ymgysylltu da a wnaed gyda gwahanol grwpiau o bobl. Cydnabuwyd bod yr adroddiad yn adlewyrchiad teg o’r gwaith a croesawodd yr angen i ymgymryd ag ymgyrch hyrwyddo sirol i godi ymwybyddiaeth o’r trefniadau gwastraff ac ailgylchu. Amlygodd nad oedd bwriad dechrau dirwyo pawb ar unwaith a chreu incwm o gyflwyno pwerau Adran 46 a 47 o’r Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd (1990). Pwysleisiodd y byddai pob achos yn cael ei drin fel achos unigol a cyfeiriodd ar y Siart Lif oedd yn amlinellu’r camau gweithredu.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod angen asesu pob sefyllfa yn unigol

·         Awgrym defnyddio bagiau duon / plastig clir ar strydoedd trafferthus fel bod y strydoedd yn lan a chlir ar ôl casgliadau

·         Pwysig sefydlu trefn a chadw at newidiadau

·         Croesawu’r casgliadau arbennig - pwysig bod urddas a pharch yn cael ei ystyried

·         Croesawu’r bwriad o siarad efo unigolion i ddatrys y problemau - nifer o strydoedd bach, cul, grisiau, diffyg storfa yn creu problemau i rai

·         Bod casglwyr sbwriel yn gadael llanast - nid yw yn adlewyrchiad da ein bod yn colli gwastraff rydym yn ei gasglu!

·         Angen sicrhau bod y casglwyr yn cau drysau’r lori wrth gasglu

·         Bod cynnydd mewn defnydd o drigolion yn defnyddio biniau cyhoeddus i waredu eu sbwriel

·         Angen cosbi cwmnïau sydd yn cynhyrchu plastig

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd Cadeirydd yr ymchwiliad bod y gweithgor wedi derbyn nad oedd yr un trefniant yn gweithio i bawb ac felly ceisiwyd yr argymhelliad i gyd weithio gydag adrannau eraill megis Tai ac Amgylchedd (Cynllunio)  i geisio datrysiadau. Ategwyd bod y Gwasanaeth hefyd wedi adolygu eu trefniadau casglu gwastraff gyda’r gobaith y bydd arferion a diwylliant yn newid o ganlyniad. Y gobaith yw y bydd staff yn cadw at yr un teithiau gan ymgyfarwyddo gydag anghenion ac arferion pobl. Nodwyd bod y newidiadau yn dechrau yn Nwyfor (Gorffennaf 2019)

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn y 6 argymhelliad ynghyd ac ychwanegu argymhelliad i weithwyr y gwasanaeth casglu weithredu yn briodol fel nad yw gwastraff yn dianc allan o’r cerbydau.

 

PENDERFYNWYD

·         diolch i’r gweithgor am adroddiad trylwyr

·         derbyn y chwe argymhelliad oedd wedi ei cynnwys yn yr adroddiad

 

1.    Defnyddio pwerau Deddf Gwarchod yr Amgylchedd (1990) Adrannau 46 a 47 sy’n ymwneud a chynhwysyddion gwastraff i gyflwyno trefn newydd lle a phryd a bo’r angen, i ddirwyo trigolion a busnesau sy’n gwaredu eu gwastraff ar y diwrnod anghywir neu yn y ffordd  anghywir fel mater o flaenoriaeth. 

 

2.    Ymgymryd ag ymgyrch hyrwyddo sirol i godi ymwybyddiaeth o’r trefniadau gwastraff ac ailgylchu gyda ffocws penodol ar Ddinas Bangor a chydnabod y gwahaniaethau daearyddol a demograffig yn y sir ar wahanol adegau o’r flwyddyn.

 

3.    Gosod sticeri “QR code” ar gynhwysyddion ailgylchu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

INCWM O FEYSYDD PARCIO pdf eicon PDF 55 KB

AELOD CABINET: Cynghorydd Gareth Griffith

 

I ystyried yr adroddiad

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried sefydlu Grŵp Tasg i gynorthwyo’r Gwasanaeth gyda’r gwaith o ddadansoddi amrediad opsiynau ar gyfer rheoli parcio yng Ngwynedd. Amlygwyd mai’r bwriad yw asesu’r opsiynau posib ar gyfer cynyddu’r incwm o feysydd parcio gan ystyried a fuasai modd gwneud hynny heb gynyddu’r gost i drigolion Gwynedd.

 

            Cynigiwyd bod angen rhwng 3 a 6 aelod ar gyfer y Grŵp Tasg gyda chynrychiolaeth o Arfon, Meirionnydd  a Dwyfor.

 

            PENDERFYNWYD ethol y Cynghorwyr Kevin Morris Jones (Arfon), Angela Russell (Dwyfor), Annwen Hughes a Gethin Glyn Williams (Meirionnydd) fel aelodau’r Grŵp Tasg. Gwnaed cais i’r Gwasanaeth gyflwyno briff, cylch gorchwyl ag amserlen ar gyfer y Grŵp Tasg i gyfarfod nesaf Pwyllgor Craffu Cymunedau – 26.9.19

 

10.

ADRODDIAD CRAFFU CYNLLUNIO A'R IAITH GYMRAEG pdf eicon PDF 27 KB

AELOD CABINET: Cynghorydd Gareth Griffith

 

I ystyried adroddiad yr Ymchwiliad Craffu

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr ymchwiliad craffu Cynllunio a’r Iaith Gymraeg i’r Aelod Cabinet Gareth Griffith. Atgoffwyd yr aelodau o gefndir y penderfyniad i gynnal yr ymchwiliad gan y Cynghorydd Gruffydd Williams, Cadeirydd yr ymchwiliad. Diolchodd i’r holl gyfranogwyr am eu cydweithrediad gyda’r gwaith.

 

Yn dilyn trafodaethau gyda Gwasanaeth Cyfreithiol y Cyngor a’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd ynglŷn â gwahaniaeth barn am yr argymhellion cychwynnol, nodwyd bod cyfaddawd bellach wedi ei gyrraedd a chytundeb ar y pum argymhelliad. Er hynny, amlygodd Cadeirydd yr ymchwiliad, yn dilyn ymgynghoriad gydag aelodau eraill y gweithgor ei fod yn dymuno addasu'r argymhelliad o ddod a’r ymchwiliad i ben a pharhau gyda’r gwaith ymchwil oherwydd bod anghysondebau wedi codi o’r gwaith.

 

Diolchodd yr Uwch Reolwr Cynllunio am y gwaith ymchwil a nododd bod y Gwasanaeth, lle roedd yn ymarferol bosib, wedi cydweithio i hwyluso’r gwaith. Ategodd bod briff yr ymchwiliad ychydig yn ehangach na’r elfen paratoi canllaw cynllunio atodol yn unig. Nododd bod y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi gwneud cais i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau am sylwadau ar yr ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus ar y Canllaw Cynllunio Atodol (Rhagfyr 2018 – Ionawr 2019). O ganlyniad mynegodd mai rhan D o’r adroddiad yn unig fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Polisi ar y 17 o Orffennaf 2019 – bydd sylwadau pellach yr ymchwiliad yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfod dilynol yn mis Medi. Gofynnodd hefyd am eglurder pellach am yr argymhelliad i barhau gyda’r gwaith ymchwil.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a sylw ‘byddai’n anghyfreithlon cynnwys y datganiad hwn yn y Canllaw’ (ymateb y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd i argymhellion cychwynnol 1a ac 1b Tachwedd 2018), nododd yr Uwch Gyfreithiwr bod yr argymhelliad yn ymwneud a newid deddfwriaeth ac nid y broses ymgynghorol statudol. Nid oedd modd i’r cydbwyllgor ystyried y ddau argymhelliad gan mai ymgynghori ar y canllaw cynllunio oedd gerbron. Byddai angen mynd at y llywodraeth i newid y ddeddfwriaeth.

 

Mewn ymateb i ganfyddiad un aelod bod Polisi PS1 yn ddiwerth ac nad oedd y canllaw wedi ei brofi yn iawn, nododd yr Uwch Reolwr Cynllunio nad oedd y broses monitro flynyddol wedi ei gwblhau ac felly nid oedd tystiolaeth i gefnogi’r farn. Ategodd yr Uwch Reolwr bod Polisi PS1 yn rhoi hyblygrwydd sylweddol wrth ystyried yr iaith Gymraeg, pan yn berthnasol, gyda’r canllaw yn mynd i fanylder ar sut i weithredu hyn. Os na fyddai datblygiadau penodol yn cwrdd gyda’r math o dai sydd yn cael eu datblygu, bydd y Gwasanaeth Cynllunio yn annog trafodaeth fuan yn y broses gyda’r datblygwr i amlygu’r hyn fyddant angen ei wneud i roi ystyriaeth i’r iaith Gymraeg.

 

Ategodd y Swyddog Monitro, bod fframwaith statudol a pholisi perthnasol yn cyfyngu gallu'r awdurdod i ofyn i ddatblygwr am asesiad iaith tu hwnt i’r gofyn. Os bydd pryderon a chanfyddiadau yn codi nad yw Polisi PS1 yn gweithredu yn unol â’r egwyddor, a bod tystiolaeth yn cael ei gyflwyno yn cefnogi’r canfyddiadau, bydd trefniadau adolygu priodol yn ei lle gan y gyfundrefn.

 

Wrth  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

CRAFFU TREFNIADAU PERFFORMIAD pdf eicon PDF 44 KB

a)    Ystyried yr adroddiad

 

b)    I ethol aelod i fynychu Cyfarfodydd Herio Perfformiad (Adran Amgylchedd)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Atgoffwyd yr aelodau bod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal rhwng Aelodau Cabinet, Penaethiaid Adran a’u Rheolwyr Gwasanaeth i adolygu gwaith a pherfformiad y gwasanaeth. Bydd y Prif Weithredwr neu Gyfarwyddwr Corfforaethol yn bresennol yn y cyfarfodydd hyn i herio’r perfformiad. Yn ogystal bydd dau aelod o bob Pwyllgor Craffu (ynghyd a’r Pwyllgor Archwilio) yn cael gwahoddiad i’r cyfarfodydd hyn er mwyn cael blas ar faterion perfformiad a hefyd os bydd unrhyw faterion perfformiad all deilyngu sylw mewn Pwyllgor Craffu maes o law. Disgwyli’r i’r aelodau adrodd yn ôl i gyfarfod anffurfiol cyntaf o’r Pwyllgor Craffu perthnasol yn dilyn y cyfarfodydd hyn.

 

            Yn dilyn newid mewn aelodaeth y Pwyllgor a dymuniad aelod i sefyll i lawr, cadarnhawyd yr enwebiadau oedd yn cynrychioli’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yn y cyfarfodydd herio perfformiad ynghyd ac enwebiadau i’r seddi gwag.

 

            PENDERFYNWYD ar yr enwebiadau canlynol,

 

            Cynghorwyr Edgar Owen ac Elwyn Jones            Priffyrdd a Bwrdeistrefol

Cynghorwyr Berwyn P Jones ac R Glyn Daniels  Amgylchedd

            Cynghorwyr Simon Glyn a Mike Stevens              Ymgynghoriaeth Gwynedd

 

            Yn dilyn cyhoeddiad bod Gareth James, Rheolwr Aelodau - Cefnogi a Chraffu yn ymddeol ar ddiwedd y mis, diolchwyd i Gareth am ei waith a’i gefnogaeth i’r Pwyllgor Craffu dros y blynyddoedd. Dymunwyd ymddeoliad hapus iddo.