skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Peter Garlick, Keith Jones, Linda Morgan a Gethin Glyn Williams

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd yr aelod canlynol fuddiant personol, yn yr eitemau canlynol am y rhesymau a nodir:

 

·         Y Cynghorwyr Owain Williams a Berwyn Parry Jones yn eitemau 6 a 7  ar y rhaglen oherwydd eu bod yn Aelodau o’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd

 

Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 95 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 07.02.2019 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 7.02.2018 fel cofnod cywir o’r cyfarfod yn ddarostyngedig i nodi bod y Cynghorydd Stephen Churchman yn bresennol.

 

5.

BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS pdf eicon PDF 85 KB

 

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

Darparu adroddiad ar gynnydd gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn adrodd ar gynnydd gwaith Bwrdd Gwasanaethau Gwynedd ac Ynys Môn. Atgoffwyd yr aelodau bod y Bwrdd wedi cytuno ar feysydd blaenoriaeth fyddai’n gwella llesiant economaidd, amgylchedd a diwylliannol y ddwy sir. Rhoddwyd diweddariad byr ar y datblygiadau o fewn y chwe maes blaenoriaeth.

 

Adroddwyd bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn destun craffu gan  Bwyllgor Craffu / Sgriwtini dynodedig awdurdodau lleol Gwynedd ac Ynys Môn. Wrth sefydlu’r Bwrdd, cytunwyd y byddai panel craffu ar y cyd rhwng y ddwy sir yn cael ei ddatblygu i wneud y gwaith craffu. Nodwyd y byddai swyddogion craffu Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn yn rhoi sylw i’r camau gweithredu allweddol mewn perthynas â sefydlu panel ar y cyd yn ystod y misoedd nesaf.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Er cytuno gyda’r ddelfryd, posib creu diwydiant o eiriau / siop siarad

·         Bod angen dwyn perswâd ar gwmnïoedd mawr i ddatblygu gwybodaeth ddwyieithog

·         Cynllun Iaith a Thaith plentyn – derbyn pwrpas y cynllun, ond ar y llaw arall Canolfannau Iaith yn cael eu hadolygu

·         Cartrefi ar gyfer Pobl Leol – rhaid adnabod safleoedd yn y llefydd cywir a bod y cartrefi yn ymateb i’r angen

·         Amcan Iechyd a Gofal - angen datblygu cydweithio effeithiol rhwng y Bwrdd Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Angen sicrhau bod y gwasanaeth yn gallu cynnig a chyflawni'r hyn sy’n cael ei geisio

·         Awgrym i wahodd arweinyddion yr Is-grwpiau i wneud cyflwyniadau unigol ar gynnydd y prosiectau.

 

Mewn ymateb i’r sylw o’r pryder y gall cyfarfodydd y Bwrdd fod yn ‘siop siarad’, nododd yr Aelod Cabinet ei fod yn awyddus i weld y prosiectau sy’n atebol i’r Bwrdd, yn cael effaith ar ddinasyddion Gwynedd a Môn. Er cytuno mai delfryd yw’r ddeddfwriaeth, mynegodd bod ymdrech benodol i weithio mewn dulliau arloesol drwy gydweithio i wella’r gwasanaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r panel craffu ar y cyd, nododd yr aelod Cabinet y tebygolrwydd y byddai cynrychiolaeth debyg o’r ddwy Sir yn aelodau ar y panel. Ategodd bod Rheolwyr Craffu yn cyfarfod i drafod y datblygiad. Gwnaed sylw pellach bod sefydlu panel yn gallu arwain at greu siop siarad arall a bod angen osgoi hyn.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r elfen economaidd, nododd nad oedd y maes penodol yma wedi ei adnabod fel un o feysydd gwaith y Bwrdd gan mai’r Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru fydd yn gwneud hyn ar draws y Gogledd. Wedi dweud hynny, derbyniwyd y sylw bod gan yr economi effaith uniongyrchol ar dlodi sef un o feysydd gwaith y Bwrdd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut mae cyllido’r prosiectau, nodwyd mai gwaith yr is-grwpiau, wrth adnabod eu prosiectau, yw cyflwyno ac adnabod ffynonellau ariannol ar eu cyfer yn eu cynllun busnes. Os gall prosiectau gael eu cyflawni yn well drwy gydweithio a chreu partneriaethau, debyg byddai arbedion posib. Mewn ymateb i awgrym i herio  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

GOR-DDATBLYGIAD MEYSYDD CARAFANAU pdf eicon PDF 487 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

I ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Uwch Reolwr Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn rhoi cyfle i’r Pwyllgor graffu’r Canllaw Cynllunio Atodol: Cyfleusterau ac Atyniadau i Dwristiaid (drafft terfynol), yn dilyn yr ymgynghoriadau cyhoeddus, gan gynnig adborth cyn iddo gael ei ystyried gan y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Nad oedd y canllaw yn amlygu yn glir yr effaith gronnol

·         Nad oedd gwrthwynebiad i’r safleoedd, ond angen ceisio gwarchod yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE)

·         Bod angen rheoli’r defnydd o leiniau caled – a oes adnoddau i reoli hyn?

·         TWR 2 - pryderon bod modd dymchwel adeiladau ac adeiladu uned gwyliau ac nid / tai i bobl leol

·         Airbnb - problem eithafol yn ein cymunedau wrth i bobl droi eu tai yn lletyau gwyliau

·         Oes modd cyfyngu ar y nifer drwy roi cwota yn ei le?

 

Nododd yr Aelod Cabinet y byddai’r sylwadau yn cael eu bwydo i mewn i drafodaeth y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd.

 

Amlygodd Uwch Reolwr Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd mai canllaw drafft oedd wedi ei gyflwyno yn ceisio rhoi arweiniad clir a chyson o ran gweithrediad polisïau. Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd o ran yr effaith gronnol, bod y mater wedi ei drafod yn y canllaw, ond roedd yn derbyn ac yn nodi'r angen i’w amlygu yn gliriach ynghyd a’r sylw am TWR2. Yng nghyd-destun gorfodaeth, amlygodd bod gorfodaeth yn faes heriol ar draws y gwasanaeth a gwnaed cais i’r Cynghorwyr adrodd ar unrhyw achlysur o dor cyfraith. Ategodd bod amodau clir ar ddefnydd safleoedd a defnydd llety y dylid cydymffurfio a hwy.

 

Mynegodd y Cadeirydd bod y sylwadau eisoes wedi ei cyfleu mewn cyfarfodydd blaenorol ac er ‘yn nodi’, nid ydynt wedi eu cynnwys yn y canllaw. Awgrymodd bod gwrthdaro rhwng swyddogion a chynghorwyr ac nad oedd y sylwadau yn cael eu derbyn / cynnwys.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r diffyg ymateb i’r ymgynghoriad, nodwyd bod ymgynghori sylweddol wedi ei wneud a derbyniwyd bod yr ymateb wedi bod yn siomedig, Cadarnhawyd bod yr uned wedi mynd tu hwnt i’w gallu i godi ymwybyddiaeth a cheisio ymatebion a bod Gwasanaeth Cymru Wledig a’r AHNE wedi cael ei cynnwys ar y rhestr ymgynghori.

 

Mewn ymateb i’r sylw am roi cwota yn ei le, nododd yr Uwch Reolwr Cynllunio, er yn derbyn y sylw, bod angen rhoi ystyriaeth i fanteision twristiaeth. Nododd hefyd bod y swyddogion yn derbyn sylwadau Cynghorwyr, yn ymateb yn adeiladol iddynt a sicrhawyd y byddai’r sylwadau yn mynd gerbron y Pwyllgor Polisi. Ategodd Pennaeth yr Amgylchedd nad oedd eisiau i’r canfyddiad o ‘beidio gwrando’ gael ei ddiystyru a bod y sylw o wrthdrawiad yn codi pryder. Nododd bod angen ceisio datrysiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gyda chais i’r canllaw terfynol gael ei gylchredeg yn y cylch nesaf.

 

7.

CCA CYNNAL A CHREU CYMUNEDAU NODEDIG A CHYNALIADWY pdf eicon PDF 587 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

I ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cynllunio yn codi ymwybyddiaeth  o ddatblygiad y canllaw uchod cyn i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd benderfynu ar ei addasrwydd i’w fabwysiadu 23.5.19. Gwnaed cais i’r Pwyllgor Craffu gyflwyno sylwadau ar y canllaw i’r Pwyllgor Polisi.

Atgoffwyd yr aelodau bod y gweithgor craffu, sydd yn ymchwilio i’r broses ymgynghori ar y Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) drafft  ar ran y Pwyllgor Craffu, wedi cyflwyno sylwadau ac argymhellion i’r Pwyllgor, sydd, yn ei dro, wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor Polisi eu hystyried cyn cyhoeddi’r Canllaw ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Amlygodd Cadeirydd y Gweithgor Craffu ei ddymuniad i wrthod yr adroddiad gan fod awgrymiadau'r gweithgor wedi eu diystyru. Nododd hefyd, yn dilyn cyhoeddiad Polisi Cynllunio Rhifyn 10 bod angen ystyried y newidiadau fyddai’n cael effaith ar y CCA. Awgrymodd y dylid parhau i ddefnyddio'r CCA presennol hyd 2020 a phenodi arbenigwyr i geisio tystiolaethu ar effaith y canllaw gan lunio addasiadau erbyn Awst 2020. Mynegodd bod trafodaethau wedi bod yn anodd ac wedi eu hatal, ac nad oedd y gweithgor wedi cael gwrandawiad teg.

Ategodd y Cynghorydd Aled Evans (aelod o’r gweithgor craffu)  bod angen i’r canllaw fod yn gryf a gwerthfawr ac roedd yn cwestiynu ei werth yn y ffurf bresennol.

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Swyddog Monitro, bod yr adroddiad yn cynnwys sylwadau yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus gyda chais i’r Pwyllgor am sylwadau pellach. Byddai gwrthod yr adroddiad yn golygu ail gyfleu sylwadau blaenorol fyddai yn amhriodol. Nododd fod yr hyn oedd yn cael ei ofyn yn anodd i’w gyflawni gan y byddai’n golygu newid y polisi. Pwysleisiodd nad oes modd i’r Canllaw newid y polisi, ac mai pwrpas y Canllaw yw cynnig mwy o eglurhad ac arweiniad parthed sut i weithredu’r polisi. Amlygodd bod y trothwyon o ran pryd mae’n ofynnol gofyn am asesiad/datganiad ieithyddol wedi ei gosod allan yng ngeiriad y polisi 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd Uwch Reolwr Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd bod y gweithgor yn gwrthwynebu’r polisi ac mai ymdrech yw’r canllaw ar sut i gynnal a dehongli’r polisi. Ategodd mai annheg oedd y cyhuddiad o ‘atal trafodaeth’ a pheidio gwrando. Nododd bod y broses o gydweithio gyda’r Pwyllgor Craffu, y Gweithgor Craffu  a Phwyllgor Sgriwtini Môn, er yn un hir, wedi bod yn un agored ac nad oedd sylwadau'r Gweithgor a’r Pwyllgor Craffu wedi eu diystyru. Amlygodd nad oedd tystiolaeth wedi ei dderbyn i dystiolaethu nad oedd y polisi yn gweithio a’i fod yn cael ei fonitro yn flynyddol. Mynegodd fod cyfraniad y gweithgor wedi bod yn werthfawr a bod rhai newidiadau wedi eu gwneud yn dilyn y sylwadau a dderbyniwyd e.e., arbenigwyr allanol cynllunio ac iaith wedi eu penodi i werthuso gwerth y canllaw. Ategodd bod cyfle am sylwadau pellach  cyn i’r Pwyllgor Polisi ei drafod ymhellach 23.05.19.

Cwestiynodd y Cynghorydd Aled Evans yr angen am ganllaw os nad oes angen asesiad iaith ar safleoedd sydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

MATERION CYNLLUNIO A'R DREFN DIRPRWYO pdf eicon PDF 560 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

I ystyried adroddiad Pennaeth yr Adran Amgylchedd a Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad oedd wedi ei baratoi ar y cyd gan Bennaeth yr Adran Amgylchedd a Phennaeth yr Adran Gyfreithiol  yn cyfarch penderfyniad a wnaed yn y cyfarfod blaenorol (7.2.19)

 

·      bod cyfarfod anffurfiol yn cael ei gynnal rhwng y Cadeirydd Y Cynghorydd Seimon Glyn, Cynghorydd Aled Wyn Jones, Cynghorydd Gruffydd Williams, Cynghorydd Dafydd Meurig (Aelod Cabinet Amgylchedd) a’r Swyddogion perthnasol er mwyn cytuno ar y materion sydd angen eu cyfarch yn yr adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i gyfarfod Ebrill y 4ydd 2019.

 

Amlygwyd bod yr adroddiad yn cyfarch y materion a drafodwyd yn y cyfarfod anffurfiol a gynhaliwyd 20.02.19 ynghyd ag egluro gofynion gyda chais cynllunio i newid amod a gweithrediad y Cynllun Dirprwyo.

 

Mewn ymateb i’r adroddiad amlygodd y Cynghorydd Gruffydd Williams fod ganddo bryderon parhaus am  judgement call’ y swyddogion yng nghyd-destun cais cynllunio Plas Pistyll ac amlygodd siom o effaith y penderfyniadau hyn ar y cais cynllunio. Holodd am y  broses a ddefnyddiwyd gan Swyddogion wrth wneud y penderfyniad.

 

Mewn ymateb i’r sylw nododd y Cadeirydd bod y pryderon eisoes wedi eu nodi yn y cyfarfod blaenorol

 

Gwnaed awgrym gan y Cadeirydd, fel ychwanegiad i bwynt 7 yn y Cynllun Dirprwyo, bod ‘ceisiadau cynllunio y mae’r Pennaeth Amgylchedd yn ystyried y dylid eu cyfeirio at Bwyllgor,’ hefyd i gynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio. Buasai hyn yn grymuso rôl y Cadeirydd. Awgrymwyd y byddai modd i’r Cadeirydd gyfleu pryderon aelodau lleol.

 

Mewn ymateb i’r awgrym amlygwyd bod gan bob Cynghorydd yr hawl i gyfeirio cais i Bwyllgor os bydd datblygiad arfaethedig yn ei ward. Ystyriwyd y byddai’r awgrym yn rhoi pwysau ychwanegol diangen ar y Cadeirydd o ystyried nifer y ceisiadau. Nododd y Swyddog Monitro bod adolygiad o’r Cynllun Dirprwyo ar y gweill ac nad oedd problem ystyried yr awgrym.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â threfniadau / canllawiau galw ceisiadau i Bwyllgor nodwyd bod trefniadau / canllawiau  gwahanol gan Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Gwynedd,

 

            Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr adroddiad

 

            PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad

 

9.

Y GWASANAETH SYDD YN CAEL EI DDARPARU GAN YR UNED SAFONAU MASNACH (GWARCHOD Y CYHOEDD) pdf eicon PDF 113 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

I godi ymwybyddiaeth am ddyletswyddau a chyfrifoldebau’r Uned Safonau Masnach, allbynnau’r gwaith a’r heriau

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor (cyfarfod Hydref 2018), cyflwynwyd adroddiad pellach gan Bennaeth yr Adran Amgylchedd yn crynhoi prif faterion a meysydd gwaith yr Uned Safonau Masnach ynghyd a manylion pellach yn ymwneud a pherfformiad yr Uned.

 

Er yn canmol yr adroddiad roedd y Pwyllgor o’r farn mai ‘mater er gwybodaethoedd yr eitem ac y dylid ystyried, i’r dyfodol bod materion er gwybodaeth yn cael eu gwarantu fel eitemau ar gyfer y Fforymau Ardal.

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaeth, er yn derbyn y sylw, bod angen codi ymwybyddiaeth er mwyn rhoi cyfle i’r Aelodau graffu rhai swyddogaethau o’r gwasanaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r bwriad i gydweithio gyda chynghorau eraill ar draws y Gogledd mynegodd Rheolwr Gwarchod Y Cyhoedd (Masnach) bod cynllun rhanbarthol eisoes mewn bodolaeth ar gyfer rhannu arbenigedd. Ategwyd bod dadansoddwr yn edrych ar y problemau ac yna yn blaenoriaethu yn unol â’r angen.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd derbyn yr adroddiad gydag awgrym i’r mater gael ei drafod ymhellach yn y Fforymau Ardal

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac i’r mater gael ei drafod ymhellach yn y Fforymau Ardal.