skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2018/2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Seimon Glyn yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu hwn am 2018/19.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is – gadeirydd ar gyfer 2018 / 2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Mike Stevens yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu hwn am 2018/19.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Keith Jones a  Linda Morgan,

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 93 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 19.04.18 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 19.4 2018 fel cofnod cywir o’r cyfarfod.

 

7.

DIWEDDARIAD AR YMCHWILIAD CRAFFU CYNLLUNIO A'R IAITH GYMRAEG pdf eicon PDF 100 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

I dderbyn diweddariad ar waith yr ymchwiliad

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Yn dilyn cyfarwyddyd cyfreithiol mynegodd y Cadeirydd, oherwydd anghysondebau rhwng cynnwys yr adroddiad a’r ddogfen hwyr a ddosbarthwyd (cofnodion Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd 26.4.18) nad oedd modd trafod pob cymal o’r adroddiad. Yn dilyn y cyngor cyfreithiol, penderfynodd y Cadeirydd mai gwell fyddai gohirio yr eitem. Ychwanegodd ei fod am wneud cais i gadeirydd yr ymchwiliad ynghyd a’r aelodau i edrych ar yr anghysondebau a chynnig sylwadau.

 

            PENDERFYNWYD gohirio yr eitem