Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Mike Stevens, Owain Williams a Dafydd Meurig (Aelod Cabinet Amgylchedd)

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones fuddiant personol, yn eitem 5 ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn aelod o’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 233 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 22.2.18 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 22.2 2018 fel cofnod cywir o’r cyfarfod.

 

5.

DIWEDDARAID YMCHWILIAD CRAFFU CYNLLUNIO A'R IAITH GYMRAEG pdf eicon PDF 473 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

         

Derbyn diweddariad ar waith yr ymchwiliad

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Gadeirydd gweithgor yr ymchwiliad yn gofyn i’r Pwyllgor Craffu argymell bod y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd yn ystyried argymhellion a sylwadau pellach y gweithgor ynghyd ag ymatebion y Panel Polisi Cynllunio ar y Cyd, cyn bwrw ymlaen gydag Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y Canllaw Cynllunio Atodol (CCA).

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, rhoddwyd datganiad ar y darlun ieithyddol yng Ngwynedd. Atgoffwyd yr Aelodau o eiriau Arweinydd y Cyngor, wrth gyflwyno Cynllun y Cyngor 8.3.18, yn amlinellu'r angen i flaenoriaethu’r Iaith Gymraeg drwy barhau i roi arweiniad a hyrwyddo’r defnydd ar bob achlysur. Ategwyd yr angen i weithredu’n arloesol ac awgrymodd nad oedd y CCA, yn ei ffurf bresennol, yn cyfarch hyn mewn modd a fyddai’n cyfrannu at newid y patrwm o leihad mewn siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd. Nododd hefyd bod y gweithgor yn ystyried nad oedd y CCA wedi ei baratoi’n ddigonol ar           gyfer cynnal Ymgynghoriad Cyhoeddus.

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod gofynion rhai o’r argymhellion yn syml ac mai siomedig iawn oedd derbyn bod y Panel wedi gwrthod yr argymhellion er bod tystiolaeth gadarn i’r casgliadau.

·         Posibilrwydd bod rhai argymhellion yn groes i bolisi PS1, ond angen bod yn fwy ymatebol i’r sefyllfa

·         Bod angen ymgynghori gyda Mudiadau Iaith a Swyddogion Iaith Prifysgol Bangor ac nid swyddogion y Cyngor yn unig.

·         Bod yr argymhellion yn rhoi ‘cig ar yr asgwrni gryfhau'r canllaw yn unol â gofynion yr Aelod Cabinet

·         Bod agwedd y swyddogion i ddatganiadnad oedd angen ymestyn yr amserlenyn anodd ei ddeall

 

Trafodwyd pob argymhelliad drwy ystyried ymateb y Panel a sylwadau / cwestiynau pellach oedd gan y gweithgor i’r ymatebion hynny.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Swyddogion y sylwadau isod:

·         Bod sylwadau'r gweithgor wedi eu cyfarch drwy roi mwy o wybodaeth ar rai elfennau o’r Canllaw

·         Bod y Canllaw yn fwy eglur o ganlyniad i rai sylwadau

·         Bod mwy o bwyslais ar yr ymgeisydd i ymgymryd â’r gwaith asesu

·         Bod disgwyl i’r ymgeisydd gyflawni’r gofynion perthnasol - byddai diffyg gwneud hyn yn gallu effeithio ar y penderfyniad. Pwysau ar yr ymgeisydd i weithredu’n briodol

·         I ystyried dau o’r argymhellion (1a ac 1b) byddai rhaid addasu polisi PS1.Nid yw hyn yn bosib nag yn briodol i waith y Panel.

·         Nad oedd yr argymhellion wedi eu hanwybyddurhai addasiadau wedi eu gweithredu

·         Bod y gwaith paratoi ieithyddol wedi cael ei baratoi gyda chefnogaeth swyddogion iaith a bod y Canllaw yn adnabod sefyllfa'r Gymraeg yng Nghymru

·         Yng nghyd-destun ymchwil a dadansoddeg nodwyd bod y Canllaw yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr sydd gan yr Uned Polisi i rannu gyda’r ymgeisydd wrth gwblhau asesiadau.

·         Yng nghyd-destun ymgysylltu ac ymgynghori, amlygwyd bod yr egwyddorion ymgysylltu wedi eu hystyried a bod y gwaith ymgysylltu yn cael ei gyfarch a’r trefniadau yn cydymffurfio a’r angen. Amlygwyd bod cynllun ymgysylltu wedi ei ystyried gan Swyddogion Ymgysylltu'r Cyngor ac y byddai yn atodiad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

TORRI GWAIR - TIROEDD AGORED Y CYNGOR pdf eicon PDF 247 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth Griffith

         

Ystyried adroddiad Pennaeth Priffyrdd a  Bwrdeistrefol


Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn ceisio barn y Pwyllgor Craffu ar yr angen i wneud arbediad pellach o fewn y gwasanaeth. Amlygwyd bod toriadau Her Gwynedd wedi eu cyflawni, ond bod £50k o arbedion effeithlonrwydd heb eu cwblhau (2017/2018). Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried camau fel, lleihau amlder torri gwair o 3 toriad i 2 yn flynyddol ar gyrion pentrefi a threfi a darparu llai o lecynnau blodau.

Teimlai'r Aelod Cabinet bod yr Adran wedi mynd mor bell ag y gallent a mynegodd y  byddai torri pellach yn debygol o greu mwy o broblemau. Gofynnodd i’r Pwyllgor am eu harweiniad i geisio adnabod toriadau ariannol pellach fydd yn debygol o gael effaith ar edrychiad pentrefi a threfi'r Sir.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod angen ystyried a pharatoi cynlluniau cytbwys

·         Cyfle i fod yn arloesol a chreu partneriaethau cymunedol i gynnal llecynnau blodau a mynwentydd

·         Ystyried noddi cwmnïau i fabwysiadu cylchfannau a llecynnau blodau

·         Ystyried cynlluniau amgen – ceisio cael grwpiau cymunedol i fabwysiadau tiroedd

·         Cynnal cystadleuaeth rhwng pentrefi / trefi / cymunedau

·         Ystyried cydweithio gyda Bwrdd Iechyd gan annog prosiectau llesiant

·         Ystyried defnyddio gorchmynion Gwasanaethau Cymunedol (os yn gyfreithiol bosib)

·         Ystyried goblygiadau peidio torri gwair a gwrychoedd yng nghyd-destun iechyd a diogelwch. A fydd cynnydd yn nifer hawliadau yswiriant o bosib, yn cael effaith sylweddol ar yr arbediad?

·         Rhaid i amserlen torri gwair fod yn gywir

·         Awgrym y gall Cynghorau Cymuned gynorthwyo gyda’r gwaith.

·         Bod posib ystyried  myfyrwyr cyrsiau garddwriaeth  Coleg Menai

·         Ystyried defnyddio gwair artiffisial ar ymylon ffyrdd o fewn parthau 30 mya

 

Cynigiwyd ac eiliwyd newid amlder torri meysydd chwarae a mynwentydd o 6 i 5

 

Mewn ymateb, nododd Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol bod lleihau amlder torri gwair mynwentydd o 8 i 6 wedi derbyn nifer fawr o gwynion ac felly bod angen ystyried yn ofalus goblygiadau'r cynnig o dorri ymhellach.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn sylw'r Pennaeth Adran bod peryg gwneud arbedion torri   gwair pellach ac edrych ar wireddu arbediad £29k drwy wario llai ar welyau blodau. Awgrymwyd i’r Adran ymchwilio ymhellach i syniadau amgen.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i’r cynnig i edrych ar wireddu arbediad £29k drwy wario llai ar welyau blodau. Awgrymwyd i’r Adran ymchwilio ymhellach i syniadau amgen ac yn y tymor hir sefydlu partneriaethau ac ystyried cynllun noddi.

 

PENDERFYNWYD:

·         Gwireddu arbediad £29k drwy wario llai ar welyau blodau.       

·         Awgrymwyd i’r Adran ymchwilio ymhellach i syniadau amgen ac yn y tymor hir sefydlu partneriaethau a chyflwyno cynllun noddi.

 

 

7.

TREIAL GORFODAETH STRYD pdf eicon PDF 335 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth Griffith

         

Ystyried adroddiad Pennaeth Priffyrdd a  Bwrdeistrefol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet yn gofyn i’r Pwyllgor Craffu argymell ffordd ymlaen er mwyn ceisio gwella’r ddarpariaeth i wella glendid ac edrychiad    strydoedd y Sir. Yn unol ag argymhelliad  gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau 22.9.16 i’r Cyngor edrych ar allanoli elfennau o waith y tîm gorfodi i ategu gwaith y tîm mewnol, comisiynwyd cwmni allanol i gynnal treial am flwyddyn. Dechreuodd y treial ym mis Chwefror eleni ond wedi ychydig ddyddiau cytunwyd ar gais y cwmni i’r cytundeb ddod i   ben. Yn dilyn aflwyddiant y treial, cyfeiriwyd at restr posib o opsiynau oedd angen i’r Pwyllgor eu hystyried i sicrhau mynd i’r afael â gorfodaeth stryd.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Awgrym i ddefnyddio ac ehangu cyfrifoldebau a hawliau swyddogion morwrol, cymhorthyddion traethau a harbwr ynghyd â swyddogion gorfodaeth traffig

·         Cyfle i gadw gwaith o fewn y Cyngor a defnyddio’r ddarpariaeth bresennol

·         Cynnig i adolygu dirwyon

·         Angen ystyried pwysau gwaith ychwanegol

 

            Awgrymwyd ehangu cydweithio rhyngadrannol (opsiwn 4)

            Awgrymwyd ystyried y ddarpariaeth bresennol (opsiwn 3)

            Awgrymwyd cydweithio gyda Siroedd eraill (opsiwn 2)

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r rhesymau pam daeth y cytundeb gyda’r cwmni allanol i ben, nodwyd bod problemau wedi codi wrth recriwtio a chadw staff dwyieithog oedd yn unol â pholisïau'r Cyngor. Ategwyd bod y treial wedi bod yn llawer rhy fyr i fesur yr effaith.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfansymiau dirwyon, nodwyd bod dirwy yn £100 ac os telir o fewn 10 diwrnod bydd yn gostwng i £75. Ategwyd bod nifer y dirwyon yn cael eu hadrodd i Lywodraeth Cymru, ond bod gwahaniaeth sylweddol yn y cyfansymiau rhwng Awdurdodau sydd gydag neu heb, gwmnïau preifat. Mewn ymateb i gwestiwn dilynol ynglŷn ag adolygu cyfansymiau'r dirwyon drwy ystyried pob sefyllfa yn ei dro, mynegodd yr Aelod Cabinet ei fwriad i’r Swyddogion Gorfodaeth gael rôl o gynghori yn hytrach na gosod dirwyon yn unig. Ategodd Pennaeth y Gwasanaeth bod y dirwyon yn cael eu hadolygu yn flynyddol.

 

            Cynigiwyd ac eiliwyd i gyfuno 3 opsiwn posib i geisio datrysiadau.

 

            PENDERFYNWYD

 

(i)                  Cydweithio gyda Siroedd eraill cyfagos i wella ar y ddarpariaeth.

(ii)                Ail ystyried y lefelau staffio presennol yn yr Uned Gorfodaeth Stryd.

(iii)              Ehangu’r cydweithio rhyngadrannol lle mae staff o adrannau eraill y Cyngor yn derbyn yr hawl dirprwyedig i orfodi ar y stryd.