skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Elwyn Edwards, Berwyn Parry Jones Keith Jones a Gethin Glyn Williams

 

            Cydymdeimlwyd gyda’r Cynghorydd Seimon Glyn oedd wedi colli ei dad yn           ddiweddar

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 139 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 7.12.17 fel rhai cywir  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 07.12 2017 fel cofnod cywir o’r cyfarfod

5.

BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS - Y CYNLLUN LLESIANT (drafft) pdf eicon PDF 248 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet

         

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Arweinydd y Cyngor yn gofyn i Aelodau’r Pwyllgor graffu cynnwys Cynllun Llesiant (drafft) Gwynedd a Môn a chyflwyno unrhyw sylwadau. Eglurwyd bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ddilyniant o’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol a bod awydd a phenderfyniad i weithredu yn wahanol i’r Bwrdd blaenorol i sicrhau gwahaniaeth. Adroddwyd mai cam cyntaf y broses oedd cyhoeddi cynllun llesiant oedd yn amlinellu sut y bwriedir gwella llesiant trigolion y ddwy Sir. Ategwyd bod cyfnod o dri mis o ymgynghori statudol ar y cynllun oedd yn amlinellu’r egwyddorion yn fras (fyddai yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth) ac yn dilyn y cyfnod yma bydd y Bwrdd yn ystyried yr ymatebion cyn llunio Cynllun Llesiant terfynol.

 

Amlygodd yr Arweinydd, fel aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ei fod yn edrych ymlaen at greu partneriaethau newydd fyddai yn datblygu prosiectau. Derbyniwyd y gall fod yn ddiwydiant  ‘creu geiriau’, ond yr ewyllys yw gweld canlyniadau drwy ymateb i’r her o weithio mewn dulliau gwahanol. Gyda dyfodiad yr ardaloedd llesiant hyn yn galluogi canolbwyntio o few ardaloedd penodol - adnabod anghenion ardaloedd gwahanol - anelu gwaith i’r mannau sydd angen sylw.

 

Pwysleisiwyd mai un o’r partneriaid yw Cyngor Gwynedd ac mai penderfyniad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fydd cynnwys y cynllun terfynol.

 

Ategwyd bod ymdrech i greu dogfen ddealladwy fyddai yn cynnal sgwrs gyda chymunedau drwy geisio diffinio lles. Anogwyd yr Aelodau i annog pobl i wneud sylwadau ar y ddogfen ymgynghori.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod y ddogfen yn un i’w chroesawu sydd yn adnabod materion a dyheadau dealladwy.

·         Anodd yw cyfarch a gweithredu. Er canmol yr hyn sydd angen sylw, dim adnodd i weithredu.

·         Methiant nad oedd datrysiadau e.e., elfennau o annog cydweithio, wedi eu cynnwys. Dechrau da, ond angen gosod targedau ac ymgysylltu yn effeithiol.

·         Angen cynnig rhesymau i bobl aros yng Ngwynedd

·         Y ddogfen yn gosod sylfaen dda ond dim gwerth os nad oes gweithrediad.

·         Bydd rhaid newid diwylliant os am weithredu yn effeithiol

·         Croesawu gwaith ymchwil cefndirol da sydd yn gosod sylfaen i symud ymlaen

·         Derbyn bod angen gosod blaenoriaethau megis yr Iaith Gymraeg, Iechyd a Thlodi, ond angen gweld grymuso cymunedau yn ganolig i bob dim gan ystyried prosiectau fyddai’n arbed arian.

·         Gweithredu ar gyflwyniad deddfau Llywodraeth Cymru ond dim adnodd i weithredu.

·         Swyddi o safon uchel yn allweddol, ond dim awgrym sut i’w cael.  Canolrif cyflog Môn yn uwch na ffigwr Cymru gyfan – sut all Môn, fel Sir gyfochrog, fod gymaint uwch na Gwynedd? Gofynwyd am wybodaeth manwl gan yr Uwch Reolwr Cefngoaeth Gorforaethol.

·         Bod yr economi yn hanfodol bwysig.

·         Cyllid yn ffactor sydd yn cyfyngu'r gallu i gyflawni - angen ceisio meddwl mewn dulliau gwahanol

·         Rhaid blaenoriaethu swyddi gwerth uchel a chyflenwad tai i annog pobl i aros yn lleol

·         Awgrym creu Pencampwr Swyddi

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r economi, eglurwyd bod y Cyngor wedi adnabod bod cydweithio ar draws y Gogledd yn gweithio, ond o safbwynt adfywio cymunedol, derbyniwyd nad oedd digon o sylw  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYDBWYSEDD CYNALIADWYEDD pdf eicon PDF 224 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

         

Ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

CYDBWYSEDD CYNALIADWYEDD – STATWS AWYR DYWYLL

 

Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn dilyn cais gan y Pwyllgor Craffu am fwy o wybodaeth ynglŷn â Statws Awyr Dywyll. Adroddwyd ar fanylion cefndirol ynghyd a manteision i ddynodiad ardal o warchodfa awyr dywyll.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod manteision amlwg i’r statws, yn enwedig ei effaith ar yr amgylchedd a byd natur

·         Bod newidiadau i oleuadau stryd wedi cael effaith bositif

·         Bod angen sicrhau cydbwysedd statws yn erbyn iechyd a diogelwch

·         Rhaid rhoi ystyriaeth i bryderon cymunedau lleol

·         Wrth ystyried dynodiad awyr dywyll i Lŷn angen gosod cyd-destun

·         Ni ddylid defnyddio polisïau i wrthod ceisiadau yng nghyd-destun diogelwch

·         Bod angen cynllun rheoli i fesur effaith - awgrym i osod gwaelodlin a mesur yr effaith mae unrhyw newidiadau wedi ei gael ar yr amgylchedd, er enghraifft.

 

Croesawyd y sylw o ddarparu cynllun rheoli. Mewn ymateb i’r sylwadau ynglŷn â chanfod cydbwysedd statws yn erbyn iechyd a diogelwch nodwyd bod nifer o ystyriaethau ynglŷn â sicrhau statws awyr dywyll. Gyda phob achos yn unigryw, ategwyd bod rhaid cydbwyso a dehongli tystiolaeth ar gyfer pob achos yn ei dro.

 

Penderfynwyd derbyn y wybodaeth

 

 

7.

CYNLLUN DIRPRWYO CYNLLUNIO pdf eicon PDF 420 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth yr Adran Amgylchedd am y cynllun dirprwyo cynllunio (drafft) newydd oedd yn cynnwys yr addasiadau a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Craffu. Atgoffwyd yr Aelodau bod ymchwiliad craffu i faes cynllunio wedi cael ei gwblhau gan Aelodau o’r Pwyllgor Craffu a bod y cynllun dirprwyo yn un o’r meysydd gafodd ei ymchwilio. Un o argymhellion yr ymchwiliad craffu hwnnw oedd addasu trothwyon y cynllun dirprwyo. Cyfeiriwyd at y cynllun dirprwyo arfaethedig oedd wedi ei gynnwys gyda’r adroddiad ynghyd a’r buddion amlwg ac eang o weithredu’r newidiadau.

 

Amlygwyd mai un o’r buddion hynny fyddai cyfeirio llai o geisiadau i raglen y Pwyllgor Cynllunio. Ar sail y canran uchel  o geisiadau sydd yn cael eu cyfeirio ar hyn o bryd, nodwyd y byddai’r newidiadau yn sicrhau bod y Pwyllgor yn canolbwyntio ar ymdrin â materion sydd o wir ddiddordeb iddynt yn unig. Byddai hyn yn gwneud y defnydd gorau o amser ac arbenigedd aelodau’r Pwyllgor a’r swyddogion perthnasol.

 

Cydnabuwyd a chefnogwyd fod yr hawl sydd gan yr Aelod Lleol neu ddau aelod arall i alw cais i bwyllgor o dan amgylchiadau penodol, yn parhau fel y sefyllfa bresennol ac ystyriwyd hyn yn dderbyniol.

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor gadarnhau a chefnogi’r drafft o’r cynllun dirprwyo arfaethedig cyn

ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ar argymhelliad y Swyddog Monitro gan ei fod yn fater cyfansoddiadol.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Nad yw nifer y ceisiadau sydd yn mynd gerbron y Pwyllgor Cynllunio yn ormodol. Pwrpas y Pwyllgor Cynllunio yw gwneud penderfyniadau.

·         Hapus gyda’r drefn bresennol – angen cadw at drefn ddemocrataidd

·         Derbyn bod y newidiadau yn arbed adnoddau ac amser, ond a yw hyn yn golygu y byddai ceisiadau sydd yn peidio cael eu cyfeirio at bwyllgor yn derbyn llai o sylw

·         Angen ystyried natur y gwrthwynebiadau yn hytrach na’r niferoedd

·         Dylid ystyried cyflwyno cais i bwyllgor ‘fyddai o ddiddordeb’ - bod hyn a hyn o ohebiaeth yn golygu ‘creu diddordeb’ hyd yn oed os mai un rheswm yn unig sydd dros wrthod / caniatáu.

·         Derbyn bod gan yr Aelodau Lleol hawl i gyfeirio cais i Bwyllgor - hyn yn fanteisiol ac yn sicrhau'r farn leol. Er hynny, gall greu sefyllfa fregus i Aelodau Lleol os yn agored i gyhuddiadau am eu barn.

·         Er mwyn rhoi ystyriaeth i’r sefyllfa hyd yn hyn, gofynnwyd am wybodaeth gan yr Uwch Reolwr Cynllunio am faint o geisiadau a gyfeiriwyd at y Pwyllgor Cynllunio, faint o’r ceisiadau hynny a aeth i apêl a faint o’r apeliadau a lwyddodd.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd yr Uwch Gyfreithiwr bod angen cael cydbwysedd ac nad oedd y newidiadau yn cwestiynu sut mae’r Pwyllgor Cynllunio yn gwneud penderfyniadau. Amlygodd bod gan yr Aelodau rôl allweddol i gyfeirio ceisiadau ymlaen er mwyn sicrhau'r elfen leol. Pwrpas y newidiadau yw sicrhau bod y ceisiadau sydd yn cael eu trafod yn y pwyllgor yn rhai o sylwedd.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd yr Uwch  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DIWEDDARAID YMCHWILIAD CRAFFU CYNLLUNIO A'R IAITH GYMRAEG pdf eicon PDF 347 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

         

Derbyn diweddariad ar waith yr ymchwiliad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(Cadeiriwyd yr eitem yma gan Is Gadeirydd y Pwyllgor, y Cynghorydd Mike Stevens, gan fod y Cadeirydd, y Cynghorydd Seimon Glyn yn aelod o’r ymchwiliad).

 

Croesawyd y Cynghorydd Aled Evans i’r cyfarfod oedd yn aelod o’r ymchwiliad ac yn cynrychioli'r Pwyllgor Iaith)

 

Cyflwynwyd diweddariad ar yr ymchwiliad craffu i gynllunio a’r iaith Gymraeg gan gadeirydd yr Ymchwiliad, y Cynghorydd Gruffydd Williams. Tynnwyd sylw at y prif ganfyddiadau ac amlygodd y byddai’r canfyddiadau, ynghyd â sylwadau’r Pwyllgor yn cael eu cynnwys mewn adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i’r Panel Polisi Cynllunio ar y Cyd 9.3.18.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod niferoedd siaradwyr Cymraeg Gwynedd yn disgyn ac felly angen gwneud rhywbeth i gynnal hyn

·         Rhaid i asesiad iaith fod yn annibynnol ac yn dryloyw. Croesawu hyn fel cam pendant ymlaen

·         Awgrym i ystyried 3 annedd mewn datblygiad ar hap yn hytrach na 5

·         Bod angen ystyried effaith cronnol

·         Bod angen gwybodaeth am effaith y datblygiadau

 

Cymeradwywyd y gwaith hyd yn hyn ynghyd a’r camau nesaf.  Ategwyd bod angen i’r wybodaeth fod yn gadarn a bod iaith yn rhan annatod i’r drefn cynllunio yma yng Ngwynedd.