Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Annwen Davies, Louise Hughes, Linda Morgan, Robert J Wright.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 230 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid arwyddo cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 21 Mai, 2015, fel rhai cywir

Cofnod:

 

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 21 Mai 2015 fel cofnod cywir o’r cyfarfod. Adroddwyd bod trafodaethau am bresenoldeb un o gynrychiolwyr Plaid Cymru ar yr Awdurdod Tân wedi eu cynnal.

 

5.

CARTREFI CYMUNEDOL GWYNEDD pdf eicon PDF 679 KB

 

Ystyried Adroddiad Blynyddol, (2014 -15), Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

Cofnod:

(a)       Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) 2014 - 2015. Cyfeiriwyd at y Cytundeb Trosglwyddo a nodwyd bod yn ofynnol iddynt nodi sut maent  wedi gwireddu’r addewidion a wnaed i denantiaid yn y Ddogfen Gynnig  a  gweithredu goblygiadau dan y Cytundeb Trosglwyddo. Tynnwyd sylw at rai materion penodol:

 

·       Bod 167 (98.8%) o'r addewidion o fewn y Ddogfen Gynnig "Eich Cartref, Eich Dewis" wedi eu cyflwyno'n llwyddiannus, ers diwedd mis Mawrth 2015. Nodwyd bod CCG yn parhau i roi blaenoriaeth i swyddi lleol gan sicrhau bod y gwariant yn cael ei gylchdroi. Ar ddiwedd Mawrth 2015 roedd 257 yn cael eu cyflogi ar  raglen gwella Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)  ar draws yr holl ddarparwyr gwasanaeth. Wrth i lif gwaith a rhaglen gwella SATC dynnu tua'r terfyn, nodwyd bod lefelau staffio Darparwyr Gwasanaeth yn gostwng ac o ganlyniad ffigyrau nifer prentisiaid a hyfforddeion yn lleihau.

 

·       CCG  wedi ennill gwobr Partneriaeth a Mentergarwch Cymdeithas Penseiri Ymgynghorol (2013), a gwobr am Gyfraniad Arbennig yn y Gwobrwyon Caffael Cenedlaethol (2014). Yn dilyn hynny, maent wedi derbyn canmoliaeth am y modd y mae busnesau lleol a phobl leol wedi cael budd o'r swyddi a'r prentisiaethau sydd wedi eu creu. Yn 2015, derbyniwyd gwobr gan Caffael Cenedlaethol Cymru.

 

·       Ers bodolaeth CCG a hyd at Fawrth 2015, mae 180 o brosiectau cymunedol wedi derbyn budd o grantiau (cyfanswm £975,699) drwy Gronfa Budd Cymunedol CCG gyda buddsoddiad ychwanegol o £5.6M wedi ei ddiogelu drwy arian cydgyfeirio.

 

·       Bod pwyslais CCG yn newid. Dros y pum mlynedd diwethaf y pwyslais oedd sicrhau bod stoc y gymdeithas yn cydymffurfio a’r safon ac mae hyn yn parhau yn ymrwymiad clir. Erbyn hyn, mae cyfeiriad y busnes yn newid a lluniwyd Cynllun Corfforaethol 2015/20 yn amlinellu strategaeth a dyheadau am y pum mlynedd nesaf. Bydd mesurau lles yn gwasgu ar denantiaid a rhaid rhoi ystyriaeth ar y ddarpariaeth fydd yn cael ei gynnig.

 

·       Y busnes yn parhau i dyfu er mwyn sicrhau hyfywedd tymor hir - datblygiadau newydd ym Maesgeirchen a Phwllheli ynghyd â chyrraedd targed i ddarparu tai fforddiadwy ac ymchwilio i ffynonellau incwm newydd. Er bydd y gwariant yn lleihau o’r flwyddyn yma ymlaen, bydd CCG yn parhau i fuddsoddi a chylchdroi arian o fewn y Sir.

 

·       Elfennau cydweithio gyda chwmnïoedd mawr a threfniadau is-gontractio yn codi rhai pryderon, ond CCG yn parhau i weithio drwy hyn.

 

·       Parhau i ymgynghori gyda thenantiaid i gynnwys cwsmeriaid ym mhopeth maent yn wneud.

 

·       O ganlyniad i’r newid pwyslais, y berthynas gyda’r Cyngor, o safbwynt monitro yn newid.

 

(b)       Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

 

                 i.       Llongyfarchwyd CCG ar eu llwyddiant o dderbyn gwobr Caffael Cenedlaethol Cymru ac ar eu hadroddiad positif. Diolchwyd iddynt am lwyddiant y gronfa gymunedol a’u parodrwydd i wella stadau cymysg eu heiddo.

 

                ii.       Cymeradwywyd datblygiadau o’r newydd, ond angen sicrhau mwy o unedau ar gyfer pobl hŷn ac unedau un llofft. Mewn ymateb nodwyd  bod CCG yn ymwybodol o gynnydd yn nifer pobl hŷn ac o’r ystadegau clir sydd tystiolaethu’r  pwyslais ar gadw pobl h  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DEFNYDD O HAWLIAU GORFODAETH pdf eicon PDF 293 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd John Wyn Jones

           

a)            Cyflwyno crynodeb sgopio ar gyfer Ymchwiliad Craffu

b)            Ystyried  aelodau i wasanaethu ar yr Ymchwiliad Craffu

Cofnod:

a)      Cyflwynwyd briff cychwynnol ar gyfer Ymchwiliad Craffu i’r defnydd o hawliau gorfodaeth stryd. Amlygwyd bod Gwasanaeth Stryd Cyngor Gwynedd yn dîm cymharol fychan yn gweithio o fewn cyllideb net o £300k. Mae’r gwasanaeth yn gyfrifol am godi ymwybyddiaeth ac addysgu’r cyhoedd ar sicrhau amgylchedd glan a diogel, gweithredu polisïau ar graffiti, nodwyddau a lanteri, monitro perfformiad glendid strydoedd a chynnal a chynorthwyo mewn ystod o ymgyrchoedd perthnasol. Bydd yr ymchwiliad craffu yn rhedeg am gyfnod o chwe mis gyda’r bwriad o lunio argymhellion clir yn seiliedig ar dystiolaeth er ystyriaeth gan yr Aelod Cabinet.

 

b)      Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

 

·         Bod y broblem baw ci  yn un amlwg i’r dyn ar y stryd, ond rhaid cofio nad ymchwiliad i faw cŵn yn unig sydd yma  - rhaid ystyried y briff yn ei gyfanrwydd.

·         Angen sicrhau bod pob ardal yn y Sir yn cael sylw ac nid y mannau prysur yn unig

·         Nid yw’r ymchwiliad yn edrych i graffu gwaith yr adran, ond i gefnogi gwaith yr adran ac i geisio ehangu sgôp y gwaith y mae’r adran yn wneud.

·         Biniau amlbwrpas yn cael eu treialu yn Nhywyn - llwyddiannus iawn ond angen codi ymwybyddiaeth

·         Angen hyfforddiant a chyhoeddusrwydd pendant a phenodol

·         Angen cadarnhad o drefniadau’r gwasanaeth – pwy sydd yn casglu? Pwy sydd yn gosod y biniau?

·         Angen ystyried gwm cnoi – posib yma cydweithio gydag ysgolion.

 

c)      PENDERFYNWYD derbyn y briff ac enwebu’r  Aelodau canlynol i wasanaethu ar yr ymchwiliad. Y Cynghorwyr Dilwyn Morgan, Mike Stevens, Tudor Owen, Annwen Hughes, Annwen Daniels ac Angela Russell i wasanaethu ar yr ymchwiliad.

 

7.

CYNLLUNIO A'R IAITH GYMRAEG pdf eicon PDF 203 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Ystyried adroddiad  Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni

Cofnod:

a)      Cyflwynwyd adroddiad gan Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni yn ymateb i ddau bryder ymysg Cynghorwyr a’r cyhoedd o’r drefn Cynllunio a’r Iaith Gymraeg. Y pryder cyntaf oedd trefniadau mewnol y Cyngor wrth ymdrin ag asesiadau ardrawiad ieithyddol mewn pwyllgorau cynllunio. Roedd yr ail bryder yn un ehangach ynglŷn â statws yr iaith Gymraeg yn y Gyfundrefn Cynllunio.

 

Adroddwyd bod y mater cyntaf, yn dilyn trafodaeth gyda swyddogion y Gwasanaeth Cynllunio a’r Cynghorydd Elwyn Edwards,  wedi ei ddatrys gyda dolen ar y rhaglen yn cyfeirio ymlaen at y cynlluniau perthnasol ar wybodaeth gefndirol.

 

b)      O ran statws yr Iaith Gymraeg yn y Drefn Cynllunio (Lefel lleol a Chenedlaethol), amlygwyd bod bwriad rhaglennu eitem bwrpasol ar gyfer y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor hwn ar y 17eg o Dachwedd i drafod yn llawn.  Wrth ystyried meysydd ar gyfer y drafodaeth cyflwynwyd sylwadau cychwynnol gyda chais i’r aelodau ychwanegu atynt.;

 

·         Gosod y cyd-destun statudol o ran y Bil Cynllunio ac ati

·         Egluro’r Polisi Cynllunio Cenedlaethol (TAN 20)

·         Egluro’r Polisi Cynllunio Lleol Cyfredol (Y Cynllun Datblygu Unedol a’r Canllaw Cynllunio Atodol: Cynllunio a’r Iaith Gymraeg)

·         Egluro sut mae’r Gwasanaeth yn gweithredu o fewn y cyd-destun polisi cyfredol

·         Rhoi gwybodaeth ynglŷn â’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (Drafft)

·         Egluro sut, yng nghyd-destun gofynion TAN 20, y bydd gofyn i ni ddelio gyda’r Iaith Gymraeg wrth benderfynu ceisiadau cynllunio ar ôl i'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd gael ei fabwysiadu a sut mae’r Gwasanaeth yn ceisio ymateb i hyn.

 

c)      Mewn ymateb i’r sylwadau cychwynnol i gynnal y drafodaeth, amlygodd y swyddogion Cynllunio;

·       yng nghyd-destun TAN 20, bod canllawiau drafft newydd ar gyfer asesiadau ieithyddol a chymunedol, ond nad oedd bwriad eu gweithredu tan yr etholiad nesaf - y pwyllgor Cynllunio felly yn parhau gyda’r polisïau cyfredol

·       Bod arolygwyr apêl yn arbenigo mewn meysydd cynllunio perthnasol ac nid yn y Gymraeg yn unig

·       Bod Cyngor Gwynedd yn mynd tu hwnt i’r angen yng nghyd destun canllawiau.

 

ch)    Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

·         Derbyn bod y ddolen yn syniad da ac effeithiol

·         Angen diffiniad o’r term ‘Cyfarwyddyd Cynllunio’

·         Rhaid sicrhau bod yr asesiad iaith yn cael ei gyfarch gan swyddogion priodol – angen i’r arolygaeth gael ei gwblhau gan swyddogion sydd yn deall y sefyllfaoedd cymunedol ac ieithyddol

·         Carl Sargeant yn annog ystyriaeth i’r iaith Gymraeg, pam felly na ellir rhoi ystyriaeth i’r Iaith Gymraeg cyn yr etholiad

PENDERFYNWYD derbyn bod y trefniadau o ran papurau Pwyllgor Cynllunio wedi gwella’n ddigonol a chytuno i geisio adroddiad i gyfarfod nesaf y pwyllgor fel yr amlinellwyd, ond ychwanegu’r elfennau canlynol iddo;

·       Canllawiau asesiadau iaith a pwy sydd yn eu gweithredu

·       Cyfarch rôl arolygaeth cynllunio

·       Angen diffiniad o’r term ‘Cyfarwyddyd Cynllunio’

 

 

8.

CYFLWYNO ARGYMHELLION YMCHWILIAD CRAFFU DIGARTREFEDD pdf eicon PDF 2 MB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Ioan Thomas

 

Ystyried Adroddiad y Grŵp Ymchwiliad Craffu

Cofnod:

a)         Cyflwynwyd adroddiad yr ymchwiliad craffu Digartrefedd i’r Aelod Cabinet Ioan Thomas. Atgoffwyd pawb gan gadeirydd yr ymchwiliad, y Cynghorydd Eric Jones, beth oedd cefndir y briff a rhoddwyd crynodeb o’r gwaith a wnaed. Profwyd bod yr ymchwiliad wedi bod yn hynod o werthfawr, yn agoriad llygad i faes heriol ac anodd sydd yn ymdrin ag unigolion a theuluoedd ar draws y gymuned. Amlinellwyd bod gwaith ardderchog yn cael ei weithredu, ond adnabuwyd argymhellion lle ystyriwyd lle i wella. Nodwyd nad oedd hyn yn feirniadaeth o’r swyddogion sydd yn y maes, ond yn fater y gall rhai addasiadau wella’r ddarpariaeth. Diolchwyd i aelodau’r ymchwiliad am eu hymrwymiad, i ‘r Cynghorydd Stephen Churchman am fynychu pob ymweliad hostel er mwyn sicrhau cysondeb barn ac i’r swyddogion am eu gwaith, yn arbennig i Susan Griffith (Rheolwr Digartrefedd a Tai Cefnogol)  a Catrin Roberts (Swyddog Strategol Datblygu Tai).

 

b)    Ategodd yr Aelod Cabinet ei ddiolch i’r aelodau am eu hymroddiad i’r ymchwiliad oedd wedi cyflenwi rôl craffu werthfawr i faes heriol. Amlinellwyd, yr her ariannol ac felly anodd derbyn pob argymhelliad, ond y gobaith oedd gweithredu'r mwyafrif ohonynt. Ategodd, yr  Uwch Reolwr Tai ei werthfawrogiad am y gwaith a’r trosolwg gwerthfawr a roddwyd i’r maes. Amlygodd bod rhai argymhellion eisoes wedi eu gwireddu neu wedi eu blaenoriaethu (gyda chyfyngiadau ariannol i eraill). Anogwyd pob aelod i ymweld â Hostel.

 

c)      Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

 

·         Pwysig cydweithio i gael y gorau i’r Digartrefedd - mae’r gwasanaeth sydd yn cael ei ddarparu yn hanfodol

·         Rhaid sicrhau ymyrraeth gynnar a chanolbwyntio ar wasanaeth ataliol

·         Llongyfarchwyd yr adroddiad a gwnaed cais am ddiweddariad ymhen 6 - 9 mis

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, mabwysiadu’r argymhellion ynddo a cheisio adroddiad yn ôl gan yr Aelod Cabinet mewn tua 6 – 9 mis o’r hyn sydd wedi ei gyflawni yn dilyn yr argymhellion.

 

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 10:00am a daeth i ben am 12:05pm