Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Is GADEIRYDD

I ethol Is gadeirydd am 2015/16

Cofnod:

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Caerwyn Roberts yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu hwn am 2015/16.

 

 

2.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2015/16

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Angela Russell yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu hwn am 2015/16.

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Llywarch Bowen Jones, Linda Morgan a Mike Stevens ynghyd a’r Cynghorydd Gethin Glyn Williams nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor yma ar gyfer eitem 11

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 300 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid arwyddo cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 24 Chwefror, 2015, fel rhai cywir

 

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2015 fel cofnod cywir o’r cyfarfod

7.

ARBEDION EFFEITHLONRWYDD 2015/16 - 2017/18 pdf eicon PDF 127 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd John Wynn Jones

 

Ystyried Adroddiad  Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol

Cofnod:

a)     Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet  yn amlygu gofynion y Cabinet i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ystyried yn ehangach gynllun arbedion effeithlonrwydd yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i drefn wahanol o newid lampau stryd. Bydd sylwadau’r Pwyllgor Craffu yn cael ei gyfeirio yn ôl i’r Cabinet am benderfyniad terfynol.

 

Mae’r drefn newid crynswth yn golygu bod y Cyngor yn newid lampau ar amlder o 3 blynedd mewn un stryd neu ardal, er bod rhai llusernau yn parhau i weithio. Yn sgil datblygiadau diweddar mewn  technoleg goleuo, lle gwelir oes weithredol lampau megis LED yn ymestyn dros fwy o flynyddoedd, mae’n disodli’r angen am drefn grynswth. O ganlyniad gellid diddymu'r drefn o newid lampau ar amlder o 3 blynedd a rhagwelir y gall hyn sicrhau arbedion o £97,000 yn flynyddol i’r Cyngor mewn costau cynnal goleuadau stryd. Yn ychwanegol, drwy gyflwyno lampau LED mae swîts rheoli goleuo megis pylu yn caniatáu ymestyn oes y llusern ymhellach. Bydd hyn hefyd yn lleihau costau ynni ac allyriadau carbon.

 

b)     Mewn ymateb gwnaed y sylwadau canlynol:

-       Bod yr egwyddor yn cael ei groesawu ond angen sicrwydd bod y goleuni yn ddigonol

-       Rhaid sicrhau nad oed effaith ar ddiogelwch y cyhoedd

-       Bod oes y  lampau newydd o 7 – 10 mlynedd yn gywir a realistig

-       Bod angen ystyried bod gofynion gwahanol ar gyfer gwahanol wardiau. Y newid eisoes wedi ei groesawu mewn rhai cymunedau

-       Bod angen cynnal trafodaethau gyda’r cynghorau cymuned o ran awgrymu syniadau a threfniadau diffodd

-       Beth fydd yn digwydd i’r trydanwyr gan na fydd agen newid lampau mor aml?

-       Sut mae’r cynllun yn cydymffurfio a chreu statws awyr dywyll?

 

c)     Mewn ymateb i’r sylwadau nodwyd bod gan y Cyngor 17 mil o lampau a bod y cynllun yn golygu newid 10 mil ohonynt i dechnoleg LED (1mil ohonynt yn rhannol – nos). Amlygwyd bod y Cabinet wedi cytuno i’r Adran ddefnyddio £1.4m o gyllid buddsoddi i arbed y Cyngor i wneud y gwaith am y rheswm y bydd y lampau LED newydd yn cynnig 260k o arbedion costau ynni. Yn ychwanegol, nodwyd bod creu effaith pylu a defnyddio lampau LED yn cydymffurfio a chynllun awyr dywyll; bod y goleuadau newydd yn taflu golau i’r llawr yn hytrach nac i fyny ac i’r ochr; bod pylu am gael ei dreialu mewn rhai wardiau rhwng 10 yr hwyr a 6 y bore. O ran cynnal y newid, amlygwyd y bydd angen un trydanwr yn llai ar gyfer newidiadau crynswth ac un trydanwr ychwanegol am gyfnod o dair blynedd ar gyfer y newidiadau LED. Ar ôl pedair blynedd bydd rhaid rhesymoli nifer y trydanwyr er bydd angen cynllun yn ei le erbyn hynny i gyflwyno lampau addas ar gyfer y ffyrdd a’r cyffyrdd.

 

ch)    O ran diogelu’r gymuned, rhaid arfer gyda’r goleuadau cyn dod i farn arbennig bod newid i ymddangosiad y golau yn beryg. Rhaid cadw safonau o ran diogelu’r cyhoedd ac felly os bydd unrhyw achos sydd yn peri pryder, bydd rhaid tynnu sylw'r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DEFNYDD O HAWLIAU GORFODAETH pdf eicon PDF 125 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd John Wyn Jones

           

Ystyried Adroddiad Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol

Cofnod:

 

a)    Adroddwyd bod y Pwyllgor Craffu Cymunedau, wrth drafod eu rhaglen waith am y flwyddyn yn y gweithdy blynyddol, wedi blaenoriaethu ymchwiliad craffu i drefn cynllunio'r Cyngor ac y buasai rhaid i unrhyw ymchwiliad craffu arall gael ei gynnal wedi i’r ymchwiliad hwnnw gael ei gwblhau. Er hynny, nodwyd bod yr Aelod Cabinet a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol  wedi cynnig yr angen am ymchwiliad craffu i’r defnydd o hawliau gorfodaeth.

Gofynnwyd i’r Aelodau benderfynu,
-     os oedd angen ymchwiliad i’r maes

-       pa mor hir y byddant yn fodlon disgwyl cyn gweithredu

-       edrych ar y maes yn gynt a derbyn trafodaeth gychwynnol ynglŷn â chyfleon a phosibiliadau.

 

b)    Cyflwynwyd adroddiad gan y Cynghorydd John Wyn Jones yn cynnig awgrymiadau cychwynnol ar gyfer sefydlu cylch gorchwyl i gynnal ymchwiliad craffu i’r maes Gorfodaeth Stryd yn ystod 2015/16. Amlygwyd bod cyfrifoldebau Gwasanaeth Stryd Cyngor Gwynedd yn ymestyn i godi ymwybyddiaeth ac addysgu’r cyhoedd ar sicrhau amgylchedd glan a diogel,  monitro perfformiad glendid strydoedd, rheoli cŵn, sbwriel, graffiti a phosteri, gwaredu slei bach, cyflwyno gwastraff, gwastraff masnachwyr, trosglwyddo gwastraff a dyletswyddau gofal.

 

Adroddwyd bod y maes gorfodaeth yn faes sydd angen sylw gan y Cyngor ynglŷn â sut mae symud ymlaen a sut i gael y gorau i’r rhai hynny sydd yn ceisio rheolaeth. Nodwyd bod materion gorfodaeth stryd yn enwedig rheoli baw cŵn yn un o bwysigrwydd mawr i drethdalwyr ac y dylid rhoi sylw ar sut i gael y gorau o reoli’r gwasanaeth yn effeithiol. Nodwyd hefyd barodrwydd yr adran am farn gyffredinol ar y sefyllfa ac i geisio awgrymiadau modern ar sut i fynd ati i ddelio a materion gorfodaeth stryd.

 

Amlygwyd bod ymateb i’r materion yn un heriol gydag adnoddau prin i gynnal maes eang iawn mewn cyfnod o doriadau ac arbedion effeithlonrwydd.  O ganlyniad awgrymwyd bod y mater yn cynnig ei hun i gael ei graffu ac y dylid ystyried syniadau newydd  (cymharu ag awdurdodau eraill a chydweithio yn rhanbarthol i geisio cyflwyno gwasanaethau) ac nid craffu gwaith y Cyngor yn unig.

 

c)    Mewn ymateb i’r sylwadau nodwyd,

 

-       bod diffyg biniau baw cyn mewn ardaloedd lle mae'r broblem amlycaf

-       angen hyfforddiant a chyhoeddusrwydd pendant a phenodol

-       angen amlygu defnydd y bin aml pwrpasol gwyrdd

-       angen cadarnhad o drefniadau’r gwasanaeth – pwy sydd yn casglu? Pwy sydd yn gosod y biniau?

-       cais i ystyried cydweithio yn fwy effeithiol gyda chynghorau cymuned

 

PENDERFYNWYD YMATEB I GAIS YR AELOD CABINET A PHENNAETH PRIFFYRDD A BWRDEISTREFOL DRWY FLAENORIAETHU YMCHWILIAD CRAFFU I FAES GORFODAETH STRYD DROS Y DREFN CYNLLUNIO 

 

9.

HYLENDID BWYD pdf eicon PDF 244 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Ystyried Adroddiad  Pennaeth Rheoleiddio

Cofnod:

ARCHWILIAD MANWL YR ASIANTAETHAU SAFONAU BWYD AR DREFNIADAU CYNGOR GWYNEDD AR GYFER GORFODAETH DEDDF DIOGELWCH BWYD 1990: 6ed a 7fed Mawrth 2014 - Adroddiad diweddaru

 

a)    Ail ddiweddarodd y Cynghorydd Dafydd Meurig ar y cynnydd a wnaed gan Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd i ymdrin â chanfyddiadau Archwiliad Manwl yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Atgoffwyd yr aelodau bod Cynllun Gweithredu wedi ei baratoi oedd yn manylu ar sut roedd y gwasanaeth yn bwriadu cywiro’r diffyg cydymffurfiaeth. Cafodd y cynllun gweithredu sêl bendith yr ASB yn ystod Hydref 2014 a sefydlwyd Grŵp Tasg a Gorffen i gwblhau’r gwaith a fanylwyd. Nodwyd yn yr adroddiad bod y cynllun gweithredu yn manylu 13 maes ar gyfer cwblhau gwelliannau.

 

b)    Amlygwyd bod yr Uned bellach wedi dileu’r diffygion cydymffurfiaeth ffurfiol a adnabuwyd yn ystod yr ymchwiliad. Adroddwyd hefyd bod cyfrifoldeb ar y Cyngor i sicrhau ein bod yn cwrdd â gofynion argymhellion yr ymchwiliad cyhoeddus a gorfodaeth deddfwriaeth mewn busnesau newydd  a dylai  ymdrechion diweddar y gwasanaeth barhau. Nodwyd bod yr ASB wedi adrodd eu bwriad i gynnal archwiliad llawn o weithgareddau’r Uned Bwyd  yn y dyfodol agos.

c)    Holiwyd yr Aelod Cabinet os oedd yr ASB yntau wedi rhoi sylwadau ar y cynllun gweithredu neu roi sêl bendith yn unig. Mewn ymateb, nodwyd bod yr ASB wedi cynnig cefnogaeth ar y trefniadau gwaith a bod y gwelliannau wedi eu datblygu ar y cyd - y gwasanaeth yn hyderus eu bod yn dderbyniol. Adroddwyd bod addasiadau i drefniadau gwaith wedi eu cyfeirio at yr ASB, ond dim adborth ysgrifenedig wedi ei dderbyn hyd yma.

 

PENDERFYNWYD croesawu’r y diweddariad a llongyfarchwyd y tîm ar eu gwaith o sicrhau bod trefniadau mewnol yr adran yn cydymffurfio gydag argymhellion yr Ymchwiliad Cyhoeddus i’r achosion o E-coli 0157 yn Ne Cymru ym Medi 2005 a bod yr holl amcanion wedi eu cyflawni.

 

10.

BRIFF YMCHWILIAD CRAFFU - Y DREFN CYNLLUNIO pdf eicon PDF 229 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

           

a)         Cyflwyno crynodeb sgopio ar gyfer Ymchwiliad Craffu

 

b)         Ystyried  aelodau i wasanaethu ar yr Ymchwiliad Craffu

Cofnod:

 

a)    Amlygodd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni yn sgil y drafodaeth a gafwyd ar ddechrau’r cyfarfod ynglŷn â rhoi blaenoriaeth i ymchwiliad craffu i faes gorfodaeth stryd bod amserlen yr ymchwiliadau craffu bellach wedi newid. O ganlyniad, awgrymwyd bod yr aelodau yn derbyn y briff a chynnig sylwadau.

 

b)    Cyflwynwyd cais gan yr Aelod Cabinet i gynnal ymchwiliad craffu i drefn cynllunio'r Cyngor. Gwnaed awgrym y dylid sicrhau bod y drefn gynllunio yn cyd fynd ag anghenion cymunedau’r Sir ac yn rhoi ystyriaeth lawn i  faterion fel yr  economi wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio yn ogystal â ffactorau eraill. Nodwyd hefyd bod yr ymchwiliad yma yn benodol berthnasol i Ardal Awdurdod Cynllunio Cyngor Gwynedd yn unig, gan mai Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw’r Awdurdod Cynllunio ar gyfer ardal y Parc.

c)    Nodwyd bod swyddogion yr Adran cynllunio yn fodlon gyda’r briff. Atgoffwyd yr aelodau bod y system gynllunio yn gweithredu o fewn fframwaith statudol a bod rhaid deall y fframwaith polisïau yn genedlaethol ac yn lleol. Yn ogystal, croesawyd yr angen i edrych yn fanylach ar sut mae’r Cyngor yn gweithredu o fewn y drefn statudol honno.

ch) Mewn ymateb amlygwyd yr angen i roi wyneb cyhoeddus i’r adran cynllunio a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd. O ran ymchwilio yn benodol i gyfundrefn gynllunio'r Cyngor yn unig, nodwyd y buasai cymhlethdod yn codi o gynnwys y Parc Cenedlaethol. Ychwanegwyd bod cydweithio da rhwng adrannau cynllunio'r Parc a’r Cyngor, ond ar gyfer yr ymchwiliad rhaid rhoi'r ffocws ar adran cynllunio'r Cyngor. Nodwyd bod y Parc yn ymwybodol bod yr ymchwiliad craffu ar draul. Amlygwyd hefyd bod newidiadau statudol i’r drefn cynllunio yn cael eu hamlygu yn Bil Cynllunio Llywodraeth Cymru sydd yn cynnig trefniadau newydd i symleiddio a chysoni’r broses ar draws holl Awdurdodau Cymru.

 

d)    Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Rhaid sicrhau mai'r cwsmer sydd yn cael cyfiawnder - angen eglurder i’r drefn

-       Cynnig yr angen i ‘gerdded drwy’r profiad / y broses’ drwy greu senarios enghreifftiol, gan gynnwys y Cynghorau Cymuned, fel man cychwynnol i’r ymchwiliad.

-       cyfarwyddyd clir ar gyfer cyflwyno neu ymateb i gais

-       cynnal rhaglen hyfforddiant i aelodau o’r drefn

-       ystyried trefn Pwyllgorau Cynllunio

-       sicrhau cysondeb gyda Bil Cynllunio

PENDERFYNWYD DERBYN Y BRIFF gan amserlennu’r ymchwiliad i mewn i raglen waith y Pwyllgor Craffu ar gyfer Mawrth 2016.

 

11.

ATEBOLRWYDD Y GWASANAETH TÂN AC ACHUB GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 281 KB

Ystyried Adroddiad Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol

 

Cofnod:

 

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol i graffu trefniadau’r Cyngor i herio effeithlonrwydd ac atebolrwydd yr Awdurdod Tân. Nodwyd bod gan yr Awdurdod Tân yr hawl i osod praesept ar gynghorau Gogledd Cymru er mwyn talu am y gwasanaeth. Mae’r praesept yma yn cyfrif yn erbyn gwariant y Cyngor.  Eglurwyd bod hyn yn wahanol i braesept yr Awdurdod Heddlu sydd yn cael codi praesept ar wahân. Fel enghraifft, amlygwyd praesept y Gwasanaeth Tân ar Gyngor Gwynedd yn 2015/16 yn £5,603,000. Felly byddai pob cynnydd o 1% yn £56,030 pellach i’r Cyngor ei ganfod mewn toriadau neu godiad treth

 

b)    O ran herio effeithlonrwydd y Gwasanaeth Tân, fel pob gwasanaeth arall o fewn y Cyngor, rhaid ystyried os oes cyfleoedd i fod yn fwy effeithlon. Er hynny, ar gyfer y Gwasanaeth Tân nid yw’r cyfle gennym fel Cyngor ac felly rhaid ymddiried yn ein cynrychiolwyr ar yr Awdurdod i sicrhau bod hynny ‘n digwydd. O ganlyniad , gwahoddwyd cynrychiolwyr y Cyngor ar yr Awdurdod i’r Pwyllgor hwn er mwyn cynnal asesiad cychwynnol o’r  wybodaeth sydd ganddynt fod y gwasanaeth yn effeithlon, a pha dystiolaeth sydd yna i gefnogi hynny. Holiwyd cynrychiolwyr y Cyngor am

 

-       Gynlluniau’r Awdurdod i geisio cynnydd pellach yn y praesept yn y blynyddoedd nesaf a’r  goblygiadau hynny i wasanaethau’r Cyngor ei hun

-       Drefniadau’r Awdurdod Tân ei hun ar gyfer herio effeithlonrwydd y Gwasanaeth a’r dystiolaeth ei fod mor effeithiol ag y gallai fod

-       Barodrwydd yr Awdurdod i edrych ar ardaloedd eraill tebyg sydd yn gwario llai i asesu a oes gwersi y gellir dysgu ganddynt

-       Y graddau y mae syniadau effeithlonrwydd pellach yn cael eu gwyntyllu

-       Rôl aelodau unigol o’r Cyngor yn craffu a sicrhau atebolrwydd ar drefniadau’r Awdurdod a’r graddau y maent yn medru gweithredu’r rolau hynny

 

c)    Mewn ymateb, amlygodd y cynrychiolwyr bod nifer o opsiynau yn cael eu cynnig o ran gwella effeithlonrwydd y Gwasanaeth Tân ac nad oedd cynrychiolwyr Gwynedd yn gefnogol i dderbyn cynnydd pellach i’r praesept. Nodwyd bod Is Banel Craffu wedi ei sefydlu o fewn y Gwasanaeth Tân i sicrhau tegwch wrth drafod opsiynau. Amlygwyd bod trafodaeth yr Is Bwyllgor yn cael i gyfeirio ymlaen i’r Panel Gweithredol ac yna ymlaen i’r Prif Bwyllgor. O ran cefnogaeth i rôl yr aelodau, nodwyd bod y cynrychiolwyr yn cysylltu â’r Adran Gyllid i gael gwybodaeth ynglŷn â materion ariannol. Ychwanegwyd bod y Gwasanaeth Tân erbyn hyn yn ymateb i geisiadau am wybodaeth. Hoffai’r cynrychiolwyr weld dyletswyddau cyllid y Gwasanaeth Tân yn cael eu  rhannu (ar hyn o bryd Conwy sydd yn gweinyddu). Prif amcan y cynrychiolwyr oedd gwarchod Gwynedd ac yn enwedig gwasanaethau cefn gwlad.

ch)  Yn ychwanegol, amlygodd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni bod Prif  Weithredwr y Cyngor wedi derbyn llythyr yn nodi presenoldeb y cynrychiolwyr i gyfarfodydd yr Awdurdod. Ymddengys pryder yng nghyd-destun presenoldeb  un o gynrychiolwyr Gwynedd.

PENDERFYNWYD,

 

i)         Datgan bodlonrwydd y Pwyllgor gyda’r herio y mae cynrychiolwyr y Cyngor ar yr Awdurdod Tan wedi bod yn ei wneud  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.