skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Simon Glyn a Linda Morgan.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 92 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 5ed o Ragfyr 2019 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr, 2019, fel rhai cywir.

 

5.

GORFODAETH STRYD pdf eicon PDF 45 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Catrin Wager

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad cynnydd yr Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ar yr isod:-

 

·         Defnydd camerâu gan staff morwrol;

·         Effaith newidiadau trefniadau ailgylchu;

·         Cydweithio gyda siroedd eraill cyfagos i wella’r ddarpariaeth;

·         Ail ystyried lefelau staffio presennol yr uned gorfodaeth stryd;

·         Ehangu’r cydweithio rhyngadrannol lle mae staff eraill y Cyngor yn derbyn yr hawl dirprwyedig i orfodi ar y stryd.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun gan nodi:-

 

·         Y bu’r newidiadau i’r trefniadau ailgylchu yn Nwyfor yn bositif iawn, gyda lleihad yn y casgliadau a fethwyd.  Bu’r newid yn fwy problemus yn Arfon oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys tywydd gwael, cerbydau’n torri a llawer mwy o wastraff yn cael ei gynhyrchu yn ystod cyfnod y Nadolig.  Dymunai ymddiheuro i’r cymunedau hynny oedd wedi cael eu heffeithio a nododd ei bod yn ffyddiog bod y gwasanaeth yn llawer gwell erbyn hyn.  O ganlyniad i’r anawsterau yn Arfon, gohiriwyd cyflwyno’r newidiadau ym Meirionnydd tan ar ôl y Pasg.

·         O ran cydweithio gyda siroedd eraill cyfagos i wella’r ddarpariaeth, roedd yn ymddangos bod pob sir yn cyfarch y gwaith mewn ffordd wahanol, oedd yn rhoi mwy o ofyn ar y Cyngor hwn i ddatblygu ei ffordd ei hun o weithredu.

·         Iddi gael y cyfle’n ddiweddar i fynd i weld y system teledu cylch cyfyng newydd.  Nododd fod y system yn arbennig o dda o ran ansawdd, a bod lle i ddefnyddio’r math hwn o ddarpariaeth lawer mwy i’r dyfodol.  Ychwanegodd y gofynnwyd i’r gweithwyr oedd yn rhedeg y system ddod i’r fforymau ardal i esbonio mwy am y ddarpariaeth.

·         Ei bod yn hynod bwysig iddi fod cymunedau’r sir yn edrych yn lan ac yn daclus ac yn lle braf i fyw.  Roedd tri rhan i hynny, sef sicrhau bod y trefniadau casglu’n dda, bod y Cyngor yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a chymunedau i uchafu edrychiad yr ardal, a hefyd yr elfen gorfodaeth.

 

Ymhelaethodd y swyddogion ar gynnwys yr adroddiad ac yna gwahoddwyd yr aelodau i ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

 

·         Nodwyd bod deunyddiau yn dal i ddisgyn allan o’r loriau ailgylchu, gan eu bod yn cael eu gyrru i ffwrdd gyda’r drysau’n dal yn agored.  Derbynnid bod hyn yn anochel mewn ardaloedd trefol gan nad oedd yn ymarferol cau’r drysau rhwng bob eiddo, ond dylid atgoffa’r gyrwyr i gau’r drysau mewn ardaloedd gwledig, lle mae tai ar wasgar.

·         Mynegwyd bodlonrwydd gyda’r gwasanaeth casglu newydd yn Nwyfor a nodwyd bod y sefyllfa wedi tacluso’n arw yn dilyn y newidiadau yma.

·         Nodwyd bod baw ci yn dal yn broblem gynhennus ac awgrymwyd mai’r unig ffordd o ymdrin â hyn oedd drwy osod camerâu dros dro ar rai o’r llwybrau lle mae’r broblem waethaf.

·         Nodwyd y dylid gwagio biniau stryd ddwywaith y dydd yn ystod gwyliau ysgol.

·         Tynnwyd sylw at y ffaith bod arwyddion ffyrdd y sir yn fudr.

·         Awgrymwyd y dylid gweithio gyda’r Adran Forwrol i osod arwyddion gorfodaeth ar y traethau, gan y byddai hyn yn cael effaith bositif ar yr amgylchedd, ynghyd â chynllun  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

YMATEB I ARGYMHELLION YMCHWILIAD CRAFFU GORFODAETH GWASTRAFF pdf eicon PDF 52 KB

 

Aelod Cabinet : Cynghorydd  Catrin Wager

 

Derbyn adroddiad gan yr Aelod Cabinet ar weithredu argymhellion yr Ymchwiliad Craffu

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad cynnydd yr Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ar weithredu argymhellion yr Ymchwiliad Craffu Gorfodaeth Stryd yn y categorïau canlynol:-

 

·         Gweithredu’n syth;

·         Cydweithio yn y tymor canolig gyda gwasanaethau / partneriaid eraill er gweithredu'r argymhellion.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun gan nodi:-

 

·         Y dymunai ddiolch i’r Rheolwr Gwasanaethau Stryd am ei holl waith yn y maes hwn.

·         Bod y gwaith yn amlygu’r ffaith bod sicrhau trefniadau casglu da, cydweithio gyda chymunedau, a gorfodaeth, yn uchafu edrychiad y sir er budd pawb.

·         O ganlyniad i gyflwyno’r drefn gasglu newydd yn Nwyfor ac Arfon, gohiriwyd dod â’r pwerau gorfodi i mewn oherwydd pwysigrwydd darparu gwasanaeth cywir cyn edrych ar orfodi.

·         Bod yr adroddiad yn rhoi cryn sylw i Fangor.  Cychwynnwyd cydweithio gyda gwahanol bartneriaid, a sefydlwyd Grŵp Ffocws ar Fangor, oedd yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol, gyda’r heddlu’n rhan o’r cyfarfod cyntaf hefyd.  Roedd yr Adran yn rhan o Grŵp Delwedd Bangor hefyd, sef grŵp ehangach oedd yn edrych ar edrychiad y ddinas.

·         Y bwriedid treialu sticeri ‘QR codes’ yn yr ardaloedd myfyrwyr ym Mangor Uchaf, ac o bosib’ Hirael hefyd, a gobeithid y byddai yna ddiweddariad o ran amserlen hynny yn fuan.

·         Bod llawer o waith y gellid ei wneud o ran hyrwyddo’r gwasanaethau oedd yn cael eu cynnig ac o ran newid ymddygiad. 

·         Bod angen i’r Cyngor gyrraedd targed ailgylchu o 64% erbyn Mawrth eleni, gyda’r targed yn codi i 70% ar ôl hynny. 

·         Ei bod yn awyddus i ddatblygu rhaglen ymgysylltu a chyfathrebu gyda’r Uned Gyfathrebu fel bod modd mynd allan i’r cymunedau i siarad gyda phobl a chodi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion gwastraff.

 

Ymhelaethodd y swyddogion ar gynnwys yr adroddiad ac yna gwahoddwyd yr aelodau i ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

 

·         Croesawyd argymhellion yr ymchwiliad craffu.  Nodwyd bod y swyddogion wedi cymryd sylw o farn aelodau’r ymchwiliad a chredid y byddai gweithredu’r argymhellion hynny yn gwneud gwahaniaeth i’r gwasanaeth ac i’r amgylchedd ar gyfer y trigolion. 

·         Nodwyd bod tueddiad i wyro tuag at Fangor, ond yno roedd y problemau dwysaf oherwydd y boblogaeth myfyrwyr a daearyddiaeth y ddinas.

·         Pwysleisiwyd bod angen i Wynedd fod yn bencampwyr ailgylchu.  Roedd hyn yn mynd i gymryd mwy o fuddsoddiad, ond nid oedd dewis arall.  Roedd y Cyngor yn gwneud gwaith da iawn yn y maes, ond roedd angen gwneud ychydig mwy eto.

·         Mynegwyd pryder y byddai dirywio pobl yn arwain at gynnydd mewn tipio slei bach, yn enwedig yn y wardiau cefn gwlad.

·         Canmolwyd y gwaith da yn y ganolfan ailgylchu yn Ffridd Rasys a gofynnwyd i’r pennaeth gyfleu’r neges honno i’r gweithwyr.

·         Diolchwyd i’r adran gwasanaeth brys sy’n delio â thipio slei bach a biniau stryd sy’n orlawn.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Mai diben cyflwyno dirwyon am waredu ar y diwrnod anghywir neu yn y ffordd anghywir oedd targedu lle mae problemau, yn hytrach na cheisio dal pobl allan.  Lluniwyd polisi oedd yn annog  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNLLUNIO A'R CYNLLUN DIRPRWYO (ADRODDIAD MONITRO AR WEITHREDIAD Y CYNLLUN DIRPRWYO NEWYDD) pdf eicon PDF 170 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth Griffith

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad monitro’r Aelod Cabinet Amgylchedd ar weithrediad y Cynllun Dirprwyo newydd ar gyfer ceisiadau cynllunio.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun gan nodi bod hwn yn fater oedd wedi bod yn fyw ac yn newid, a bod yr adroddiad yn rhoi darlun i’r aelodau o’r hyn oedd wedi digwydd, beth oedd wedi newid a beth oedd y drefn.

 

Ymhelaethodd y swyddogion ar gynnwys yr adroddiad ac yna gwahoddwyd yr aelodau i ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

 

·         Mynegwyd pryder ynglŷn â’r trefniadau ymgynghori gyda’r AHNE ar y sail y byddai’n fwy democrataidd petai’r sylwadau ar geisiadau cynllunio yn dod gan Gyd-bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn, yn hytrach na gan y Swyddog AHNE.  Nodwyd ymhellach y bu gwrthdaro rhwng y swyddogion ac aelodau’r cyd-bwyllgor ynglŷn â sawl cais cynhennus.

·         Mynegwyd pryder ynglŷn â’r niferoedd ceisiadau cynllunio sy’n cael eu penderfynu drwy’r drefn ddirprwyedig, o gymharu â’r nifer sy’n dod gerbron y Pwyllgor Cynllunio, e.e. yn Hydref 2019, penderfynwyd ar 107 o geisiadau gan y swyddogion o gymharu â 3 gan y pwyllgor.  Deellid bod gan yr aelod lleol yr hawl i alw unrhyw gais i mewn i’r pwyllgor, ond yn aml roedd yr aelod yn methu’r cais ac felly’n colli’r cyfle i’w alw i mewn.  Nodwyd hefyd, oherwydd daearyddiaeth Gwynedd, bod y math o geisiadau a dderbynnid yma yn wahanol i’r hyn a dderbynnid yn yr ardaloedd poblog megis Caerdydd, Abertawe a chymoedd y De.  Bu sôn hefyd bod cyflwyno llai o geisiadau i bwyllgor yn lleihau llwyth gwaith yr aelodau, ond roedd yr aelodau’n cael eu talu am wneud y gwaith hynny.

·         Nodwyd mai’r hyn oedd yn bwysig oedd bod y ceisiadau sy’n dod gerbron y Pwyllgor Cynllunio yn rhai sy’n werth eu trafod, a chroesawyd y lleihad yn nifer y cyfarfodydd ac yn nifer y ceisiadau a oedd yn dod gerbron y pwyllgor.

·         Nodwyd ei bod yn fwy anodd erbyn hyn i’r aelodau weld y rhestr wythnosol o geisiadau cynllunio oherwydd newidiadau TG, a phwysleisiwyd bod rhaid i’r aelodau fod yn ymwybodol o’r ceisiadau sydd i law er mwyn gallu bod yn rhagweithiol o ran cyfleu’r teimlad lleol ar y ceisiadau hynny.

·         Nodwyd y dylai’r aelodau hefyd dderbyn rhestr o’r ceisiadau a benderfynwyd drwy’r drefn ddirprwyo.

·         Nodwyd bod Môn wedi gwneud elw o 5.9% y llynedd ar ffioedd cynllunio (sef gwariant net o £767,000 ac incwm o £812,000) ond bod Gwynedd wedi gwneud colled o 51.9% (sef gwariant net o £1,097,000 ac incwm o £528,000).

·         Pwysleisiwyd y dylai unrhyw gais i newid amod(au) ar gais cynllunio a ganiatawyd gan y Pwyllgor Cynllunio gael ei gyfeirio’n ôl i’r pwyllgor yn otomatig, yn enwedig os yw’r newid yn rhywbeth allai fod yn gynhennus.

·         Mynegwyd pryder ynglŷn ag anallu’r cyhoedd ac aelodau i gysylltu â swyddogion cynllunio dros y ffôn.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         O ran yr AHNE, bod yna gytundeb lefel gwasanaeth yn ei le.  Roedd y Swyddog AHNE yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.