Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Louise Hughes, Linda Morgan, Tudor Owen, Mike Stevens, Elwyn Edwards (ar gyfer eitem 5) a Gareth Thomas (ar gyfer eitem 7 )

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 242 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid arwyddo cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 17 Medi, 2015, fel rhai cywir.

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 17 Medi 2015 fel cofnod cywir o’r cyfarfod.

5.

YR IAITH GYMRAEG Â’R DREFN GYNLLUNIO pdf eicon PDF 152 KB

Ystyried yn ehangach rôl a dylanwad yr Iaith Gymraeg ar y drefn gynllunio.

Cofnod:

a)      Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cynllunio a Rheoleiddio yn ymateb i gais yr Aelodau am wybodaeth gefndirol mewn perthynas â’r drefn gynllunio a’r iaith Gymraeg. Cyfarchwyd y materion isod yn yr adroddiad.

              i.                Gosod y cyd-destun statudol o ran Deddf Cynllunio (Cymru) 2015

             ii.                Egluro’r Polisi Cynllunio Cenedlaethol (TAN 20)

            iii.                Egluro’r Polisi Cynllunio Lleol Cyfredol (Y Cynllun Datblygu Unedol a’r Canllaw Cynllunio Atodol: Cynllunio a’r Iaith Gymraeg)

           iv.                Egluro sut mae’r Gwasanaeth yn gweithredu o fewn y cyd-destun polisi cyfredol

            v.                Rhoi gwybodaeth ynglŷn â’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (Drafft)

           vi.                Egluro sut, yng nghyd-destun gofynion TAN 20, y bydd gofyn i ni ddelio gyda’r Iaith Gymraeg wrth benderfynu ceisiadau cynllunio ar ôl i’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd gael ei fabwysiadu a sut mae’r Gwasanaeth yn ceisio ymateb i hyn

 

b)      Mewn ymateb i’r adroddiad, gwnaed cais am eglurder o ran gofynion  Polisi Cynllunio Cymru (TAN 20) a’r awgrym na ddylai ceisiadau cynllunio fod yn destun effaith ar yr iaith Gymraeg oherwydd y disgwylid fod hyn wedi ei wneud wrth baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol. Ymatebodd yr Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd, y gallasai sefyllfa’r ‘iaith’ ar ôl mabwysiadu’r Cynllunio Datblygu Lleol fod yn wannach. O ganlyniad, bydd cyfres o Ganllawiau Cynllunio Atodol newydd yn cael eu paratoi fel rhan o broses paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd gyda bwriad rhoi blaenoriaeth i baratoi Canllaw Cynllunio Atodol sydd yn ymdrin â chymunedau cynaliadwy. Bydd y canllaw yma yn cynnwys manylder ar faterion cynllunio a’r iaith Gymraeg. Nodwyd bod pwynt tyngedfennol wedi ei gyrraedd o ran datblygu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yng nghyd - destun llunio canllawiau priodol i roi ystyriaeth i'r iaith.

 

c)      Materion yn codi o’r drafodaeth:

              i.                Sut mae cloriannu egwyddorion ‘iaith’ ac egwyddorion ‘ymateb i’r galw am dai’?

             ii.                Sut gellid dylanwadu ar ffigyrau ‘anghenion tai’ sydd yn cael eu rhyddhau gan Lywodraeth Cymru ?

            iii.                Rhaid rhoi mwy o ystyriaeth i’r iaith o fewn y drefn cynllunio.

           iv.                Rhaid sicrhau cyfiawnder i’r Iaith Gymraeg

            v.                A fydd y Canllawiau Cynllunio Atodol yn statudol?

           vi.                Rhaid cryfhau'r elfen iaith er mwyn sicrhau na fydd y Cyngor Llawn yn gwrthod y Cynllun Datblygu Lleol ar sail yr elfen yma.

          vii.                Rhaid sicrhau bod Deddfwriaeth Cymru yn gadarn

         viii.                A ddylid ystyried yr opsiwn o greu ‘Bro Cymraeger mwyn uchafu’r grym?

           ix.                A ddylid ystyried polisïau lle gellid cadw pobl leol yn lleol

 

ch)  Mewn ymateb i’r sylwadau eglurwyd bod asesiadau iaith yn rhan o  broses cynllunio Gwynedd ac yn un sydd, yn mynd tu hwnt i ofynion Llywodraeth Cymru, yn lobio am newidiadau i’r Ddeddf Cynllunio ac yn gwthio ffiniau TAN mewn cyd-destun gofynion asesiadau iaith.  Eglurwyd bod Panel Cynllunio ar y Cyd yn trafod yn chwarterol faterion cynhennus sydd yn ymwneud â effeithiau cymunedol, diwylliannol ac ieithyddol ac y bydd adroddiad yn cael ei baratoi i osod fframwaith statudol ar gyfer rhoi ystyriaethau i’r iaith. Ychwanegwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYTUNDEBAU ADRAN 106 pdf eicon PDF 404 KB

Ystyried papur ar bwrpas ac ehangder cytundebau Adran 106.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Ar gais aelodau’r  Pwyllgor Craffu Cymunedau, cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cynllunio a Rheoleiddio yn amlygu trefniadau’r Cyngor ar gyfer y defnydd o gytundebau 106 a pha mor effeithiol oedd gweithredu’r polisïau hynny. Eglurwyd bod cytundebau 106 yn rhan o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac fel arfer yn gysylltiedig gyda chaniatâd cynllunio.

b)    Ategwyd bod Cyngor Gwynedd yn gwneud cryn ddefnydd o gytundeb 106 (sydd â rhestr eang o amodau) er mwyn gwireddu anghenion eu polisïau lleol sydd yn Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd - y cytundeb a ddefnyddi’r amlaf yw amod 106 tai fforddiadwy. Rhoddwyd manylion o gefndir statudol y cytundeb gan yr Uwch Gyfreithiwr ac amlygwyd bod trafodaethau eang yn cael eu cynnal yn aml gyda banciau a broceriaid ynglŷn â sicrhau benthyciadau.

c)    Mewn ymateb, nododd y Cynghorydd S Churchman yn unol a dymuniad y cyfarfod paratoi cafwyd trafodaeth gyda brocer annibynnol a oedd wedi cynnig opsiynau posib i’w hystyried  gyda chais i gynnal trafodaeth bellach gyda grŵp bychan.

ch)  Mewn ymateb, nododd yr Uwch Gyfreithiwr ei fod, ynghyd a’r Adran Cynllunio  ac Adran Tai yn cynnal trafodaethau a derbyn barn Mr Stephen Jones, Arbenigwr Tai Fforddiadwy Gogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD
GOHIRIO PENDERFYNIAD AM Y TRO A BOD GRŴP BACH O GYNGHORWYR A SWYDDOGION I GYFARFOD GYDAG UN NEU DDAU O ARBENIGWYR ALLANOL I EDRYCH AR OPSIYNAU POSIB ERAILL AR GYFER Y DEFNYDD O GYTUNDEBAU 106 GAN Y CYNGOR I'R DYFODOL.

7.

CLUDIANT ADDYSG ÔL-16 pdf eicon PDF 445 KB

Derbyn adroddiad yn ôl gan yr Aelod Cabinet ar weithrediad argymhellion yr Ymchwiliad Craffu.

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn ymateb i argymhellion  yr Ymchwiliad Craffu Cludiant Ôl-16 i Addysg Bellach. Nodwyd bod yr Aelod Cabinet wedi anfon ei ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod, ond amlinellodd yr Uwch Reolwr Ysgolion bod yr Aelod Cabinet yn diolch i aelodau’r ymchwiliad am eu gwaith trwyadl i’r maes. Ymddiheurwyd am yr oedi o gyflwyno adroddiad ac ategwyd bod y cyfle o gyflwyno  / gweithredu rhai o’r argymhellion ar gyfer Medi 2015 wedi cael ei effeithio gan gyfnod ‘purdah’. Nodwyd hefyd y bydd geiriad ac amodau Polisi Cludiant Ôl-16 yn cael ei symleiddio a’i addasu i gyfarch y newidiadau.

Eglurwyd bod yr argymhellion wedi eu rhannu i dri chategori a thrafodwyd hwy yn unigol. Rhai o’r newidiadau fydd codi un pris a dileu’r cysyniad o ddalgylch er mwyn sicrhau cysondeb o ran y ddarpariaeth. Y gobaith yw dileu rhywfaint o’r rhwystrau. Bydd geiriad ac amodau’r Polisi Cludiant newydd yn llawer symlach a darllenadwy. Bydd hyn yn sicrhau gwell  dealltwriaeth y defnyddiwr, y darparwyr addysg ynghyd â staff llinell gymorth Galw Gwynedd.

Ychwanegwyd bod yr awydd i gydweithio gyda Phartneriaid i gyfrannu at wella’r ddarpariaeth, a bod trafodaethau gyda Grŵp Colegau Llandrillo Menai i weithredu fel asiant wedi eu cynnal. Ategwyd bod diddordeb wedi ei nodi ond dim ymrwymiad hyd yma.

 

b)    Yn manteisio ar ei hawl i siarad, cyflwynodd Mr S Chambers, Llywydd Undeb Myfyrwyr Coleg Meirion Dwyfor ei gynigion ef i’r Polisi Cludiant Ôl -16. Nodwyd y sylwadau isod:
-    Safon y gwasanaeth ac nid y pris sydd yn codi amheuaeth

-       Gorlawnder ar y bysiau - y bysiau yn codi aelodau o’r cyhoedd, disgyblion ysgol uwchradd ynghyd a myfyrwyr y Coleg - risg Iechyd a Diogwch

-       Hyblygrwydd y tocyncyfyngder o ddefnydd dwywaith y diwrnod yn cyfrannu at orlawnder

-       Defnydd ‘My Travel Pass’ -  Cynllun Llywodraeth Cymru. Pam nad yw gyrwyr bysiau yn ei dderbyn?

-       Angen trefniadau gwell ar gyfer cyfnodau tywydd drwg.

-       Awgrymu rhoi ffocws ar ansawdd ac anghenion y myfyrwyr

c)   Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

-       Bod gormod o wahaniaethau rhwng Deddfwriaeth Cymru a Lloegr   ac mai ffocws gwreiddiol yr ymchwiliad oedd edrych ar yr anghysondebau hyn. Dadleuwyd nad oedd y Cyngor dim agosach at gynorthwyo pobl o aelwydydd difreintiedig

-       Pryder nad oedd ‘My Travel Pass’ yn cael ei dderbyn

-       Angen rhoi ystyriaeth i hyblygrwydd y tocyncynnig arbrofi hyblygrwydd i’r tocyn mewn ardal benodedig

-       Nid yw codi pris y tocyn o £60 i £100 yn deg - a oes modd adolygu hyn a chynnig £80?

-       Angen ystyried bysiau pwrpasol ar gyfer myfyrwyr yn unig i osgoi gorlawnder - cynnig yr angen i ymgynghori ymhellach gyda defnyddwyr

-       Angen cynnal trafodaethau pellach gyda chwmnïau cludiant cyhoeddus masnachol er mwyn ceisio atal y rhwystr o ddefnyddio tocyn unrhyw amser o’r diwrnod.

 

ch)  Cynigodd y Cynghorydd Gruffydd Williams y dylid galw ar yr Aelod Cabinet i beidio â chodi cost y tocyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.