skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Stephen Churchman, Catrin Wager a Gethin Glyn Williams

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 378 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 10.10.17 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 10.10 2017 fel cofnod cywir o’r cyfarfod.

 

5.

ADOLYGIAD CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY pdf eicon PDF 401 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn rhoi diweddariad ar y cynnydd a wnaed gyda’r gwaith o baratoi adolygiad o’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy. Adroddwyd bod y gwaith o baratoi’r Cynllun Gwella wedi cael ei rannu’n ddau ran, sef adolygu a pharatoi Datganiad Gweithredu. Wrth adolygu, ystyriwyd gwerthuso i ba raddau y cyflawnwyd amcanion y cynllun blaenorol, asesu cyflwr presennol y rhwydwaith a chanfod i ba raddau mae hawliau tramwy yn bodloni gofynion y cyhoedd. Er mwyn sefydlu darlun o’r sefyllfa gyfredol, o safbwynt cyflwr y rhwydwaith a chanfod barn y cyhoedd, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus drwy baratoi holiadur digidol. Ategwyd bod 1,386 o ymatebion dilys wedi eu derbyn, oedd yn nifer calonogol iawn.

 

Eglurwyd bod y datganiad gweithredu drafft (a oedd wedi ei gynnwys gyda’r adroddiad.) yn ceisio adnabod y prif themâu gwaith a’r camau gweithredu ar gyfer y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy ac mai dyma fyddai sail ar gyfer paratoi rhaglenni gwaith manwl. Y gobaith yw sefydlu rhaglen waith realistig a chyraeddadwy yn ogystal ag osgoi rhai o wendidau’r cynllun blaenorol.

 

b)    Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

·         Bod y rhaglen yn un heriol o ystyried rhaglen arbedion y Cyngor

·         Bod diffyg gwybodaeth am y mynediad sydd ar gael i’r cyhoedd

·         A yw’r gyllideb yn ymateb i flaenoriaethau ymatebwyr yr holiadur?

·         Anodd coelio nad oes mapiau o’r llwybrau ar gael ar wefan y Cyngor

·         A oes cynlluniau pellach ar gyfer y dyfodol wedi eu hystyried petai praesept Cynghorau Cymuned yn lleihau neu’n dod i ben?

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfraniad y Parc Cenedlaethol a Llwybr yr Arfordir i’r rhwydwaith, amlygwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyfrannu £80k y flwyddyn ond nad oedd manylion manwl ar wariant y Parc Cenedlaethol.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â blaenoriaethu themâu'r rhaglen waith, amlygwyd y byddai agweddau o bob thema yn cael sylw, ond bod hyn yn ddibynnol ar yr adnoddau fydd ar gael.

 

Mewn ymateb i sylw am y categorïau llwybrau a phetai blaenoriaeth yn cael ei roi i gategori 1, beth fyddai yn digwydd i gategori 4, amlygodd yr Aelod Cabinet mai anodd yw cadw balans rhwng y categorïau ac nad oedd unrhyw fwriad i anwybyddu categori 4. Ategwyd y byddai’r Uned yn parhau i archwilio, cydweithio a cheisio cadw  mynediad yn agored.

 

Mewn ymateb i sylw petai rhwystrau ar y categorïau isaf, amlygwyd bod angen rhannu'r wybodaeth er mwyn ceisio datrys y rhwystr. Ategwyd mai cyfrifoldeb y perchennog tir fydd adnewyddu giatiau a chamfeydd.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â datblygu mapiau ar y wefan, amlygwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal a bod angen cefnogaeth Adran Gwefan y Cyngor i weithredu ymhellach. Nodwyd bod nifer wedi holi am y gwasanaeth ac felly'r gobaith yw datblygu mapiau i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â'r posibilrwydd i Gynghorau Cymuned  fethu ag ymdopi gyda chyfrifoldebau ychwanegol ac os oes deddfwriaeth statudol yn nodi bod angen i’r Cyngor sicrhau eu bod yn cynnal yr holl lwybrau, adroddwyd mai cyfrifoldeb y Cyngor yw sicrhau mynediad.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL pdf eicon PDF 531 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

         

 

a)    Cefndir a phwrpas

 

b)    Cyflwyno crynodeb sgopio ar gyfer Ymchwiliad Craffu

c)    Ystyried  aelodau i wasanaethu ar yr Ymchwiliad Craffu

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

a)  Cyflwynwyd er gwybodaeth adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn gosod cefndir a phwrpas Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ynghyd a gwybodaeth ar sail y polisïau ar gyfer CCA: Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy. Eglurwyd bod y CCA yn rhoi arweiniad manwl a chlir ar sut y defnyddir polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd gan Cyngor Gwynedd a Chyngor Môn yng Ngorffennaf 2017. Ategwyd bod gan bolisïau amrywiol y Cynllun rôl bwysig i’w chwarae wrth gefnogi, cynnal a chreu cymunedau trefol a gwledig nodedig a chynaliadwy, drwy sicrhau bod  Cynghorau yn cwrdd â’u dyletswyddau statudol i hyrwyddo datblygiad cynaliadwy.

 

Penderfyniad y Cyngor Llawn 28ain Gorffennaf 2017 oedd blaenoriaethu CCA Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy wrth baratoi canllawiau'r Cynllun Datblygu. Tynnwyd sylw at yr elfennau a ystyriwyd yn hanfodol ar gyfer cymunedau nodedig a chynaliadwy ynghyd ac amcan strategol y Cynllun Datblygu oedd yn ymwneud a lles yr Iaith Gymraeg a diwylliant - ategwyd bod cynnwys Polisi PS1 yn gosod fframwaith polisi lleol wrth ystyried yr agweddau hyn.

 

Cyflwynwyd yr amserlen drafft oedd wedi ei gosod ar gyfer paratoi'r CCA gan amlinellu pwysigrwydd cael y cyfle i graffu’r canllaw yn unol â dymuniad y Pwyllgor (nodwyd bod yr amserlen wedi ei haddasu i gyfarch hyn).

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â sail a defnydd  y TAN20, nodwyd bod mwy o fanylder yn y Cynllun Datblygu Lleol ac y byddai’r canllawiau, unwaith y byddant wedi eu datblygu, gyda sail llawer cryfach na’r hyn sydd yn y TAN20 sydd yn gyfyngedig ar rai gofynion. Petai Arolygwr yn ochri safbwynt TAN20, nododd yr Uwch Reolwr Cynllunio y byddai yn hyderus i gefnogi safiad ar y canllaw ac nid ar y TAN20, oherwydd byddai penderfyniad yn seiliedig ar dystiolaeth ddiweddar. Awgrymwyd bod angen sicrhau bod ymgeiswyr yn ymwybodol o hyn.

 

Derbyniwyd y wybodaeth

 

b)    Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd briff drafft ymchwiliad craffu Cynllunio a’r Iaith Gymraeg mewn ymateb i ddymuniad y Pwyllgor i graffu bod  proses ymgynghori ar y CCA Cynllunio a’r Iaith Gymraeg yn un gynhwysol. Nododd bod y Fforwm Craffu wedi cytuno rhoi blaenoriaeth i’r ymchwiliad a bod adnodd wedi ei adnabod i gefnogi’r ymchwiliad. Ategwyd bod trafodaethau cychwynnol wedi eu cynnal ar y briff gyda’r swyddogion perthnasol.

 

Amlygwyd y byddai’r ymchwiliad yn adrodd nôl i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ac i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd. Adroddwyd bod cais wedi ei gyflwyno i Cyngor Môn graffu ar y cyd gyda Gwynedd, ond ni dderbyniwyd ymateb. Nodwyd  y byddai angen hyd at 5 aelod i fod yn rhan o’r ymchwiliad a fyddai yn cynnwys un aelod o’r Pwyllgor Iaith.

 

Gwnaed cais am swyddogaethau'r Panel Cynllunio ar y Cyd ac os oedd rôl statudol o graffu gan y Panel.

 

c)    Penderfynwyd derbyn y briff

 

ch)   Enwebwyd y Cynghorwyr Seimon Glyn, Gruffydd Williams ac Owain Williams ynghyd ac Aled Evans (Pwyllgor Iaith)

 

 

 

 

7.

YMCHWILIAD CRAFFU CYNLLUNIO - DIWEDDARIAD pdf eicon PDF 245 KB

Aelod Cabinet : Cynghorydd  Dafydd Meurig

 

Derbyn adroddiad gan yr Aelod Cabinet ar weithredu argymhellion yr Ymchwiliad Craffu

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

a)         Derbyniwyd adroddiad cynnydd gan yr Aelod Cabinet yn dilyn ymchwiliad craffu i’r maes cynllunio. Amlygwyd prif ganfyddiadau’r ymchwiliad a rhoddwyd diweddariad ar yr argymhellion a gyflwynwyd ym Mawrth 2017.

 

b)         Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r argymhelliad i addasu trothwyon Cynllun Dirprwyo Gwynedd, adroddwyd bod y gwaith bellach wedi derbyn cefnogaeth Aelodau’r Pwyllgor gyda’r bwriad o fwrw ymlaen i wneud yr addasiadau yn ffurfiol drwy’r drefn briodol. Ategwyd bod bwriad i’r cynllun dirprwyo gael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ym Mawrth 2018 .

 

c)         Derbyniwyd yr adroddiad