skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Elwyn Edwards, Berwyn Parry Jones, Linda Morgan, Gethin Glyn Williams a’r Cynghorydd Dafydd Meurig - Aelod Cabinet Amgylchedd

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 103 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 21.6.17 fel rhai cywir  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 21.6 2017 fel cofnod cywir o’r cyfarfod.

 

5.

DIWEDDARIAD AR Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL pdf eicon PDF 398 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Mair Rowlands

 

Ystyried  adroddiad ar ddatblygiad strategol y bartneriaeth gan Reolwr Cyflawni Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)            Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn diweddaru’r Pwyllgor ar faes gwaith y Bartneriaeth. Eglurwyd bod gofyn i’r Bartneriaeth adrodd yn ffurfiol i’r Pwyllgor yn flynyddol i gyflwyno trosolwg o brif ddatblygiadau strategol y Bartneriaeth dros y flwyddyn ynghyd a’r gwaith comisiynu sydd yn gosod fframwaith i’r blaenoriaethau. Ategwyd bod hyn yn sicrhau bod y Bartneriaeth yn cyflawni ei hymrwymiadau yn unol ag adrannau Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2006, drwy gydweithio gyda’r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf a’r Gwasanaeth Tân ac Achub.

 

Tynnwyd sylw at y prif negeseuon oedd yn deillio o weithgarwch 2016/2017 ynghyd a phrif lwyddiannau’r flwyddyn. Rhoddwyd sylw penodol i e-gylchlythyr Gogledd Cymru gafodd ei ddatblygu gan Tîm Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn ym maes Camddefnyddio Sylweddau. Derbyniodd y Tîm ganmoliaeth gan Llywodraeth Cymru a chafodd y cylchlythyr ei ddatblygu ymhellach i fod yn wefan rhyngweithiol gyda’r Tîm bellach yn arwain yn rhanbarthol arno.

 

Amlygwyd y prif gerrig milltir ar gyfer 2017 – 2018 a gofynnwyd i’r Pwyllgor Craffu gefnogi’r blaenoriaethau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ynghyd â chyfeiriad y gwaith i’r dyfodol. Ategwyd y byddai unrhyw gynlluniau / brosiectau oedd yn ymddangos yn felyn oherwydd nad oeddynt wedi eu cwblhau, yn cael eu trosglwyddo i’r cynllun ar gyfer 2017 – 2018 neu yn cael eu cynnwys mewn prosiectau rhanbarthol.

 

b)         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut roedd y Bartneriaeth yn cydymffurfio gyda’r cynllun nodwyd bod sefydlu’r Bwrdd Cymunedau Diogel wedi sicrhau bod asesiad strategol yn cael ei ddatblygu drwy ddefnydd data cyfredol a bod y gwasanaeth yn ymateb yn lleol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â ‘call block’ nodwyd bod modd cael offer gan Uned Safonau Masnach y Cyngor ac mewn ymateb i cybercrime nodwyd nad oedd prosiect wedi ei adnabod o fewn y Bartneriaeth ond bod yr Heddlu a’r Uned Safonau Masnach yn cydweithio ar y mater.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gwersi sydd yn cael eu dysgu mewn sefyllfa o  Laddiad Domestig, nodwyd bod dyletswydd statudol ar y Bartneriaeth i gynnal adolygiad i bob lladdiad domestig. Amlygwyd bod adroddiad o’r gwersi sydd i’w dysgu ynghyd ag argymhellion a chynllun gwaith yn cael eu cyflwyno i’r Swyddfa Gartref. Unwaith mae’r Swyddfa Gartref yn derbyn yr adroddiad, bydd yn cael ei rannu gyda Phartneriaethau eraill.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â throseddau tymhorol, nodwyd bod yr Heddlu yn ymwybodol o’r sefyllfa ac yn cynllunio ar gyfer y tymhorau prysuraf. Amlygwyd bod yr Heddlu yn defnyddio fformiwla arbennig i ganfod lle sydd angen blaenoriaeth. Ategwyd nad oedd mwy o adnoddau ar gael ac felly angen gwneud y gorau o bob sefyllfa.

 

PENDERFYNWYD

·         derbyn yr adroddiad

·         cefnogi blaenoriaethau a chyfeiriad gwaith y Bartneriaeth i’r dyfodol.

 

6.

INCWM Y GWASANAETH DIFA PLA pdf eicon PDF 258 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)            Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth yr Amgylchedd yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar  gynnydd yn ymdrech Gwasanaeth Difa Pla y Cyngor i gynhyrchu mwy o incwm. Atgoffwyd yr Aelodau fel rhan o raglen arbedion effeithlonrwydd Adran yr Amgylchedd bod ystyriaeth wedi ei roi i diddymu'r gwasanaeth. Yn dilyn penderfyniad gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn Ionawr 2016, i wneud y gwasanaeth yn hunangynhaliol gyllidol,  lluniwyd fframwaith a chynllun i greu incwm ychwanegol. Cyflwynwyd y cynllun i’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol ym Mehefin 2016 lle cafodd yr argymhellion eu derbyn. Ymhellach, penderfynodd y Cabinet gynyddu targed incwm y Gwasanaeth yn hytrach nai ddiddymu.

 

Tynnwyd sylw at natur y gwasanaeth oedd yn cael ei gynnig a hefyd at y gwaith manwl a wnaed i ystyried yr opsiynau oedd ar gael i sicrhau gwasanaeth hunangynhaliol. Cyflwynwyd ffioedd newydd ar gyfer pob agwedd o’r gwaith yn Medi 2016 ynghyd ac ymgyrch farchnata gyda chefnogaeth yr Uned Gyfathrebu. Adolygwyd trefniadau gwaith a’r costau oedd ynghlwm ynddynt. Er nad oedd modd adrodd ar effaith yr addasiadau yn llawn, adroddwyd bod cynnydd o oddeutu £10k eisoes wedi ei wneud dros hanner blwyddyn ariannol 2016 / 2017. Ategwyd bod yr Adran yn hyderus o gyrraedd y targed o £40k erbyn diwedd y flwyddyn ariannol yma.

 

Amlygwyd y byddai’r Gwasanaeth yn cadw llygad ar y galw sydd yn ddibynnol ar nifer o ffactorau tu hwnt i’w rheolaeth. Adroddwyd bod cynllun wrth gefn i gynyddu’r incwm petai'r llif gwaith yn annigonol.

 

b)         Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

·                                    Bod angen gwella’r elfen farchnata gan ystyried logo / brand / arwyddair deinamig

·           Bod angen ystyried gwasanaeth fyddai yn ychwanegu gwerth i’r dyfodol - un fyddai yn gwneud elw yn hytrach na hunangynhaliol yn unig

·           Bod angen herio cwmnïau cenedlaethol yng nghyd-destun cytundebau masnachol

 

c)         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a unrhyw sylwadau gan y cyhoedd am anfodlonrwydd y gwasanaeth, adroddwyd bod yr adborth oedd wedi ei gasglu hyd yma yn galonogol iawn ac y gorau o fewn yr Adran Eiddo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â difa pal ar y stryd, adroddwyd nad oedd y gwaith yma yn denu incwm, ond pe byddai pla yn tarfu ar iechyd y cyhoedd , byddai’r mater yn cael ei flaenoriaethu ac fe  fyddai’r Gwasanaeth yn cydweithio gyda Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd i ymdrin â’r broblem.

 

ch)       Croesawyd yr adroddiad a chanmolwyd y gwasanaeth. Ategwyd bod y gwasanaeth yn mynd i’r cyfeiriad cywir.

 

            PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad

 

7.

ASIANTAETH SAFONAU BWYD pdf eicon PDF 239 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)            Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd yn diweddaru'r Aelodau ar y cynnydd a wnaed gan Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd i gyfarch argymhellion yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn dilyn archwiliad a gynhaliwyd Chwefror 2016.

 

Adroddwyd bod y Gwasanaeth wedi darparu cynllun gweithredu manwl i gyfarch y 34 argymhelliad. Tynnwyd sylw bod 21 o’r argymhellion wedi eu cyfarch hyd yma gyda’r gwaith i gwrdd ar 13 arall yn parhau. Ategwyd bod rhai o’r argymhellion hynny sydd heb eu cyfarch yn ddibynnol a’r gyfeirio mwy o adnoddau i’r Gwasanaeth. Adroddwyd bod y Gwasanaeth wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn staff o ganlyniad i’r gyfundrefn toriadau ond yn parhau i geisio blaenoriaethu'r gwaith. Er hynny, nodwyd nad oedd sefydliadau risg isel yn derbyn archwiliadau o fewn yr amserlen sydd yn cael ei argymell gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Adroddwyd hefyd bod cymwysterau'r Asiantaeth Safonau Bwyd, sydd yn gorff annibynnol yn archwilio sefyllfa ddelfrydol,  yn uchel, ond y gwasanaeth bellach yn cynnig hyfforddiant i gyfarch hyn.

 

Nodwyd bod dros 2000 o sefydliadau bwyd o fewn ardal wledig Gwynedd gyda 1500 ohonynt yn cael eu harchwilio yn flynyddol. O ran perfformiad, adroddwyd bod 98% o’r sefydliadau bwyd ar draws y Sir yn sgorio rhwng 3 a 5 sydd yn dda iawn. Ategwyd bod y gwasanaeth hefyd yn edrych ar sicrhau modd y gall swyddogion weithio yn fwy effeithiol drwy fod allan yn y maes yn hytrach na dyblygu gwaith gweinyddol / ychwanegol yn y swyddfa. Nodwyd bod sefydliadau bwyd yn gwerthfawrogi'r Gwasanaeth ac yn cynnig adborth cadarnhaol i’r gwaith.  Ategwyd bod y Gwasanaeth yn cefnogi’r economi leol wrth gynnal yr archwiliadau hyn.

 

b)            Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

·           Pryder nad oedd gan y Gwasanaeth adnoddau digonol i gyflawni gofynion yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn llawn

·           Bod angen gwella cymwysterau staff

·           Bod angen monitro'r sefyllfa yn aml

·           Y dylid rhoi blaenoriaeth i sefydliadau risg uchel

·           Y dylid ystyried codi ffi am ymweliadau neu gosb am beidio cydymffurfio

 

c)            Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gwella cymwysterau, nodwyd bod cyfres o sesiynau hyfforddi wedi eu cynnal a bod y gwasanaeth yn debygol o gyrraedd y lefel disgwyliedig.

 

Mewn ymateb i sylw am godi ffi am ymweliadau, nodwyd bod y sylw wedi ei drafod yn genedlaethol, ond gan fod y  gwaith yn statudol, nid oedd modd codi incwm. Ategwyd nad oedd llawer o sgôp i godi ffi am waith o fewn y maes ond gyda hawl darparu cyngor byddai modd ystyried hyn.

 

PENDERFYNWYD

·         Bod y Pwyllgor yn hapus bod mwyafrif o’r argymhellion wedi eu cyflawni, ond bod pryder o ddiffyg adnoddau i gyflawni’r gwaith statudol o fewn yr amserlen yn creu risg i’r Cyngor ac i drigolion y Sir.

·         Bod y gwasanaeth yn cyflawni gwaith da o dan amgylchiadau heriol.

·         Cynnig i’r Adran gyflwyno mwy o wybodaeth a ffeithiau er mwyn herio'r angen am fwy o adnoddau i gyfarch y gofynion statudol.

8.

GORFODAETH GWASTRAFF pdf eicon PDF 246 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth Griffith

 

Ystyried adroddiad Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)            Cyflwynwyd adroddiad gan  Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn gofyn i’r Pwyllgor  am gefnogaeth i sefydlu Tîm Tasg o Aelodau’r Pwyllgor i edrych i mewn i faterion Gorfodaeth Gwastraff ac i bwrpas, cynghori’r Pwyllgor ar y ffordd ymlaen.

 

Tynnwyd sylw at gefndir y bwriad lle'r oedd cynnig gan gyn Aelod  wedi ei fabwysiadu gan y Cyngor Llawn Mawrth 2017, i’r Aelod Cabinet ystyried cyflwyno cosb fel mater o flaenoriaeth i drigolion sydd yn gwaredu eu sbwriel ar ddiwrnod anghywir neu yn y ffordd anghywir.

 

Awgrymwyd bod angen pedwar aelod o’r Pwyllgor i ymuno â swyddogion perthnasol ar gyfer y Tîm Tasg.

 

PENDERFYNWYD

·         Derbyn yr egwyddor

·         Rhaglennu a blaenoriaethu llwyth gwaith y Pwyllgor yn y Cyfarfod Anffurfiol gan fod tri ymchwiliad / gweithgor bellach angen eu cynnal.

·         Enwebu y Cynghorwyr Stephen Churchman, Keith Jones, Mike Stevens a Catrin Wager fel aelodau i’r Tîm Tasg Gorfodaeth Stryd