Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Craig ab Iago, Louise Hughes, Tudor Owen, Nigel Pickavance, Caerwyn Roberts a Mike Stevens

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 231 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 24.1.17 fel rhai cywir  

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 24 01 2017 fel cofnod cywir o’r cyfarfod

5.

ADOLYGIAD CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY pdf eicon PDF 254 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)            Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn diweddaru’r Pwyllgor ar yr hyn oedd wedi ei weithredu ers i’r Aelod Cabinet gyflwyno adroddiad ym Medi, 2017 yn gofyn i’r Pwyllgor gefnogi'r bwriad o adolygu a pharatoi Cynllun Gwella Hawliau Tramwy i Wynedd. Amlygwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i Awdurdodau Lleol yn egluro’r drefn a’r camau sydd yn gosod arweiniad ynglŷn â gofynion statudol ac atodol.

 

Tynnwyd sylw at yr holiadur drafft oedd wedi ei atodi yn yr adroddiad. Pwrpas yr holiadur, oedd wedi ei lunio gyda chefnogaeth y Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu,

oedd casglu barn y cyhoedd a charfanau penodol, am Hawliau Tramwy. Pwysleisiwyd hefyd y byddai’r Cynllun yn cael ei baratoi ar y cyd gydag Awdurdod Y Parc cenedlaethol (Eryri) ac fe amlygwyd yr egwyddorion cydweithio oedd wedi eu llunio. Gyda 3500km o rwydwaith angen ei asesu cydnabuwyd bod y dasg yn un anodd ac felly yn ddibynnol ar gefnogaeth eraill. 

 

b)            Mewn ymateb i’r holiadur, awgrymwyd yr angen i gynnwys blwch ‘plant’ yng nghwestiwn C5 ‘Pa rai o’r canlynol fyddech yn mynd efo chi?’

 

c)                    Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

·         Bod diffyg arwyddion ar lwybrau

·         Rhaid bod yn ymwybodol o broblemau sydd yn codi gyda thir feddianwyr. Awgrymwyd bod angen pwerau i sicrhau nad yw un person yn cael effaith

·         Bod angen sicrhau bod yr ANHE ac Uned Cefn Gwlad yn cyfrannu at y Cynllun

·         Bod mwy o fuddsoddiad mewn llwybrau mynyddig ac arfordirol

·         Rhaid ystyried mabwysiadu polisi i warchod y tir rhwng llwybrau arfordirol a’r môr a sicrhau bod pobl a thirfeddianwyr yn deall eu sefyllfa

·         Diffyg adnoddau yn sicr o godi pryderon cynnal a chadw llwybrau

·         Grantiau yn allweddol i’r gwaith cynnal a chadw

·         Awgrym i gydlynu gwirfoddolwyr a ‘r gwasanaethau ieuenctid - rhaid magu parch yn y gymuned at asedau lleol

·         Awgrym i hybu’r ap pathwatch ymysg staff - effeithiol i rannu gwybodaeth

 

Mewn ymateb i’r sylw ynglŷn â grantiau derbyniwyd bod grantiau gwahanol ar gyfer cynnal gwelliannau, ond yr amserlen ariannol yn mynd i orfodi rhaglen o flaenoriaethau. Amlygwyd bod categorïau 1 - 5 wedi eu llunio i reoli'r adnoddau ac awgrymwyd bod angen adolygu’r categorïau hyn. Amlygwyd hefyd bod bwriad gan Lywodraeth Cymru i adolygu deddfwriaeth hawliau tramwy ac felly bydd ymgynghoriad gyda chynigion ymarferol yn debygol o gael ei gyflwyno yn y misoedd nesaf.

 

                        PENDERFYNWYD:

 

a)    Rhoddwyd cefnogaeth i’r Adran barhau gyda’r meysydd gwaith sydd i’w gweithredu dros y 6 mis nesaf, sef

·         Parhau i gasglu gwybodaeth am gyflwr y rhwydwaith a chychwyn  y gwaith o ddadansoddi’r wybodaeth.

·         Cydweithio gyda APCE i adnabod anghenion adnoddau.

·         Cydweithio gyda’r Uned Cyfathrebu / Ymgysylltu i adnabod y dulliau gorau o ymgysylltu i gyrraedd y gynulleidfa ehangaf phosib. Cwblhau’r  holiadur a chynnal  ymgynghoriad  cyhoeddus yn ystod Mai a  Mehefin.

·         Parhau i werthuso'r CGHT  blaenorol.

·         Edrych sut mae’r CGHT  yn gorgyffwrdd a deddfwriaeth, cynlluniau a pholisïau eraill.

·         Tuag at ddiwedd y cyfnod (oddeutu mis Medi) dechrau ar y dasg o gyrraedd  casgliadau yn seiliedig ar y wybodaeth fydd i law  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ARGYMHELLION ADRODDIAD YMCHWILIAD CRAFFU TREFNIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 322 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Ystyried Adroddiad Ymchwiliad Craffu Cynllunio

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad yr ymchwiliad craffu trefniadau cynllunio i’r Aelod Cabinet. Atgoffwyd pawb beth oedd cefndir y briff a rhoddwyd crynodeb o’r gwaith a wnaed gan y Cynghorydd Eric M Jones, Cadeirydd yr ymchwiliad.

 

b)    Ategodd yr Aelod Cabinet ei ddiolch i’r aelodau am y gwaith da a wnaed o fewn cyfnod byr. Trafodwyd yr argymhellion fesul un ac fe nodwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelod Cabinet:

·      Croesawyd yr awgrym am yr angen i aelodau ynghyd ag aelodau cynghorau cymuned dderbyn hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gynnwys y Cynllun Datblygu Lleol (wedi iddo ei gymeradwyo)

·      Y byddai adolygiad Ffordd Gwynedd o’r gwasanaeth yn cael ei weithredu pan fydd yr amserlen yn caniatáu

·      Derbyn yr angen i gynnwys / tynnu sylw penodol i faterion economaidd o fewn adroddiadau Pwyllgor Cynllunio

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol:

 

·      Awgrym y dylid ystyried cyfarch amserlen, rhannu ymarfer da a sylwadau cynllunio addas fel rhan o hyfforddiant cynghorau cymuned

·      Awgrym y dylid cynnwys sylwadau calonogol ynghyd a niferoedd cwynion

·      Croesawu'r argymhelliad i gydweithio a hwyluso trafodaethau gydag uned gwaith rheolaeth adeiladu’r Cyngor

 

PENDERFYNWYD, derbyn yr adroddiad, a gwblhwyd mewn amser cymharol fyr, cymeradwyo’r argymhellion a cheisio adroddiad yn ôl gan yr Aelod Cabinet mewn tua 6 mis o’r hyn sydd wedi ei gyflawni yn dilyn yr argymhellion

 

7.

YMCHWILIAD CRAFFU GORFODAETH STRYD - DIWEDDARIAD pdf eicon PDF 200 KB

 

Aelod Cabinet : Cynghorydd  John Wynn Jones

 

Derbyn adroddiad gan yr Aelod Cabinet ar weithredu argymhellion yr Ymchwiliad Craffu

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn rhoi diweddariad ar y gwaith oedd wedi ei weithredu ar yr argymhellion a gyflwynwyd ym Medi 2016. Amlygwyd bod yr uned wedi ei hailstrwythuro gyda gwaith y tîm wedi ei ail flaenoriaethu i adlewyrchu lleihad yn nifer staff yr Uned. Nodwyd bod y toriadau wedi bod yn anodd, ond bod y staff wedi ymateb yn dda. Rhoddwyd diweddariad ar yr holl argymhellion a gofynnwyd i’r Aelodau ystyried cynnal ymchwiliad craffu o’r newydd i geisio datrys y dulliau gorau o symleiddio'r drefn o rannu gwybodaeth am gasgliadau sbwriel.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol:

 

·         bod y ‘Gangiau Cymunedol’ i gyd wedi mynd o ganlyniad i Her Gwynedd

·         Lleihad mewn gwasanaethau ac felly derbyn bod angen cyflwyno dulliau gwahanol o ymdrin â gorfodaeth stryd

·         Y dylai pobl sydd yn taflu sbwriel a baeddu strydoedd dalu dirwy i gynnal gwasanaethau

·         Y Rhybudd o Gynnig a fu gerbron y Cyngor am y rhai sydd yn creu llanast trwy osod ei sbwriel allan ar y diwrnod anghywir neu yn y ffordd anghywir a’r angen i edrych ar hynny ymhellach

·         Rhaid addysgu pobl ac ystyried pobl fregus os am gyflwyno trefniadau newydd

·         Cefnogaeth gan Cadw Cymru’n Daclus a Swyddogion y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus iawn e.e., ymgyrchoedd casglu sbwriel cymunedol

·         Angen ystyried myfyrwyr lefel ‘A’ sydd yn cwblhau BAC i wirfoddoli ynghyd a Chlybiau Ieuenctid (Guides, Brownies a Rainbows) sydd yn cwblhau bathodynnau gwirfoddoli. Awgrym hefyd  i ddefnyddio’r Gwasanaeth Prawf.

·         Rhaid lliniaru materion Iechyd a Diogelwch i hwyluso trefniadau gwirfoddolwyr

·         Croesawu'r gwaith sydd yn cael ei wneud yn yr ysgolion

·         Pwysig codi ymwybyddiaeth a rhannu gwybodaeth yn amserol os am gyflwyno newidiadau

 

b)    Gofynnodd yr  Aelod Cabinet i’r Aelodau annog pobl i fanteisio  ar ymgyrchoedd  Cadw Cymru’n Daclus

 

Diolchwyd am y wybodaeth ac anfonwyd dymuniadau am wellhad buan i Peter Simpson, Rheolwr Gorfodaeth Stryd.

 

PENDERFYNWYD:

·         Bod y Pwyllgor yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei weithredu hyd yma

·         Bod yr adran yn paratoi ymlaen llaw ar gyfer cyfathrebu gydag Aelodau a’r cyhoedd cyn i’r cyfnod treialu gyda cwmni allanol ddechrau

·         Bod angen rhannu newyddion da a pharhau gyda’r gwaith o godi ymwybyddiaeth

·         Cynnwys y cais am ymchwiliad craffu ar orfodaeth pan fo rhywun yn mynd yn groes i’r trefniadau casglu ar restr o ymchwiliadau posib er ystyriaeth gan y Cyngor newydd