skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru  01286 679 878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Craig ab Iago a Tudor Owen

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd yr aelod canlynol fuddiant personol am y rhesymau a nodir:

 

·         Y Cynghorydd Linda Morgan yn eitem 7 ar y rhaglen, oherwydd ei bod yn gweithio yng Ngholeg Meirion Dwyfor

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais a nodir.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 233 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 24.11.16 fel rhai cywir    

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 24 11 2016 fel cofnod cywir o’r cyfarfod.

5.

TORIADAU RHEOLAETH TRAETHAU pdf eicon PDF 249 KB

Ystyried adroddiad Uwch Reolwr Economi a Chymuned

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad cychwynnol gan yr Aelod Cabinet, yn amlinellu effaith y toriadau a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn (Mawrth 2016) ar gyllidebau rheoli traethau Baner Las a Baner Werdd. Amlygwyd yr oblygiadau a ragwelwyd ond, gan nad oedd y toriadau wedi eu gweithredu yn llawn, roedd yn anodd rhoi adroddiad manwl ar yr effaith hyd yma. Er efallai yn gynamserol i drafod yr effaith yn y cyfnod trosiannol, derbyniwyd bod angen cynnal y drafodaeth a chadw llygad ar yr effaith bosib.

 

Mewn ymateb i’r adroddiad, gwnaed cais i ystyried sefyllfa Morfa Nefyn a Nefyn gan nad ydynt bellach yn cael gwarchodaeth. Nododd y Cynghorydd Lleol nad yw’r arbenigedd gan y Cyngor Cymuned i dderbyn y cyfrifoldeb ac amlygwyd bod y Cyngor Cymuned yn ystyried rhoi'r brydles yn ôl i’r Goron.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol ynglŷn â thraethau Morfa Nefyn a Nefyn:

·         Os na fydd y Cyngor Cymuned a Chyngor Gwynedd yn mynd i warchod y traethau yma, pwy fydd yn cymryd y cyfrifoldeb?

·         Rhaid dwyn perswâd ar Ystâd y Goron i dderbyn cyfrifoldeb

·         Pa drefniadau sydd mewn lle cyn gollwng cyfrifoldeb?

·         A oes modd cyflwyno cynlluniau amgen?

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, derbyniwyd bod sefyllfa Morfa Nefyn a Nefyn yn anodd a bod angen cynnal trafodaethau gyda’r perchnogion tir i sicrhau rheolaeth mynediad i’r traeth. Nodwyd bod y Cyngor efallai wedi bod yn rhy awyddus yn y gorffennol i dderbyn cyfrifoldeb dros reolaeth y traethau, ond bellach yng nghyd-destun toriadau, amserol fyddai  cynnal trafodaethau gyda’r perchnogion tir ac amlygu iddynt y cyfrifoldeb a’r statws cyfreithiol sydd arnynt.

 

Petai Cyngor Tref Nefyn yn ildio eu prydles byddai eu cyfrifoldeb fel endid yn lleihau, a’r cyfrifoldeb yn disgyn ar Stad y Goron.

 

Amlygodd yr Uwch Reolwr y byddai yn cyfleu pryderon y Pwyllgor Craffu i Stad y Goron mewn cyfarfod ym mis Chwefror.

 

Amlygwyd y sylwadau canlynol am gynnwys yr adroddiad yn gyffredinol:

·                   Pryder am ddiogelwch y cyhoedd

·                   Angen rheolaeth dros fynediad peiriannau / cychod i’r traethau

·                   Y traethau yn un o brif asedau'r Sir ac felly rhaid eu gwarchod

·                   Baich y cyfrifoldeb ar y Cynghorau Cymuned

·                   Cyfrifoldeb moesol er nad yw yn statudol

·                   Beth yw cyfrifoldebau'r wardeniaid traeth

·                   A oes achubwyr bywyd yn cael eu cyflogi?

·                   Pwysig cynnwys gwirfoddolwyr mewn trefniadau gwarchod traethau

·                   Angen caniatáu i bobl leol gymryd rhan

·                   Beth yw dyfodol y Faner Las?

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod pwysleisiodd yr Uwch Reolwr nad oedd y cynigion yn rai yr oedd yr Adran wedi  dymuno eu gweithredu, ond eu bod yn rhan o drefniadau Her Gwynedd. Eglurodd bod y sefyllfa yn un cymhleth iawn a bod y toriadau wedi eu  gweithredu o fewn amserlen dynn iawn a bod y ffactorau yn wahanol iawn i bob ardal. Mewn sefyllfaoedd lle nad oedd y trefniadau wedi eu cadarnhau, nodwyd bod rhai sefydliadau lleol yn dangos diddordeb ac felly posib ystyried modelau addas.

 

Mewn ymateb i sylw am ddyfodol y Faner Las, amlygwyd bod nifer o ffactorau allanol yn dylanwadu ar hyn megis ansawdd y dŵr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DIWEDDARIAD AR GYNNYDD Y GWASANAETH CYMUNEDAU IACH I GWRDD GYDA THARGEDAU ARBEDION EFFEITHLONRWYDD A'R YMATEB I ADRODDIAD ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU pdf eicon PDF 498 KB

Ystyried adroddiad Uwch Reolwr Economi a Chymuned

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad llawn gan yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned yn ymateb i holl gwestiynau Cyfarfod Paratoi’r Pwyllgor Craffu am ymateb y Gwasanaeth Cymunedau Iach i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ‘Cyflawni a llai - Gwasanaethau Hamdden ynghyd a’r cynnydd y mae’r gwasanaeth yn ei wneud i gyflawni’r targed arbedion effeithlonrwydd fel y gosodwyd  gan y Strategaeth Ariannol y Cyngor 2015 - 2018.

 

Amlygodd yr Aelod Cabinet bod y targed arbedion effeithlonrwydd yn un sylweddol a canmolwyd y Gwasanaeth am weithredu a chyfarch y targed.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynnig gwasanaethau am ddim i deuluoedd difreintiedig, nodwyd nad oedd y canolfannau hamdden yn cynnig gostyngiad ar sail incwm, ond pecyn rhatach ar amseroedd tawel - ni fyddai’r gwasanaeth yn asesu lefelau incwm ar sail defnydd. Awgrymwyd bod modd edrych i mewn i hyn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sesiynau Nofio am Ddim, adroddwyd mai penderfyniad y Cyngor oedd peidio caniatáu i rieni fynd i mewn i’r pwll am ddim a bod y Cynllun Nofio am Ddim yng Ngwynedd wedi derbyn lleihad sylweddol mewn grant.

 

Mewn ymateb i sylw nad oedd Gwynedd yn ymddangos yn rhoi cyfle cyfartal i blant chwarae, nodwyd bod pob plentyn yng Ngwynedd yn derbyn aelodaeth am ddim yn y Canolfannau Hamdden.

 

Diolchwyd i’r Gwasanaeth am  yr adroddiad calonogol a llongyfarchwyd y gwasanaeth am wyrdroi'r sefyllfa. Er hynny, petai angen codi ffioedd yn uwch na chwyddiant , gwnaed sylw bod angen bod yn ofalus o beidio ‘anfon pobl i ffwrdd’.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â rhannu ymarfer da, amlygwyd bod hyn yn cael ei wneud fwyaf drwy strwythur rheolaeth ardal (lle ceir un rheolwr yn gyfrifol am fwy nag un canolfan) a staff yn rhan o dimau ar draws y Gwasanaeth. Er hynny, pwysleisiwyd nad oedd y targed wedi ei gyrraedd ac felly cyfeiriwyd at yr angen i ddarparu cynlluniau amgen er mwyn sicrhau darparu gwasanaeth cynaliadwy i’r dyfodol.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol:

·         Rhaid ystyried  dewisiadau eraill i leddfu colledion - awgrym bod angen gwaith ymchwil pellach cyn gweithredu

·         Angen gweld gwell defnydd o adnoddau

·         Angen denu mwy o bobl drwy’r drysau

·         Efallai bod angen ystyried y canolfannau hamdden fel busnes yn hytrach na gwasanaeth

·         Mae’r Canolfannau Hamdden yn hanfodol ar gyfer Iechyd a Lles

·         Rhaid ystyried  gweithgareddau ychwanegol

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phryd fydd y Gwasanaeth yn debygol o gyflwyno gwybodaeth am y modelau newydd, awgrymwyd y byddai cyfle i’r Pwyllgor graffu'r cynigion yn llawn ym mis Medi.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan ddiolch i’r Gwasanaeth am eu gwaith a nodi y byddai’r  aelodau yn croesawu derbyn gwybodaeth am fodelau amgen ym Medi 2017.

 

7.

CLUDIANT ADDYSG OL 16 pdf eicon PDF 414 KB

Derbyn adroddiad  gan yr Aelod Cabinet  ar weithredu argymhellion yr Ymchwiliad Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ymneilltuodd y Cynghorydd Linda Morgan o’r ystafell yn ystod y drafodaeth

 

Amlygodd y Cadeirydd bod y maes wedi ei graffu yn fanwl, ond mynegwyd siom gyda’r gweithrediad hyd yma.

 

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet ar y cynnydd pellach o ran gweithredu argymhellion Ymchwiliad Craffu Cludiant Addysg Ol-16. Adroddwyd, bod y coleg yn wynebu anawsterau ariannol, a bellach wedi gwrthod gweithredu fel asiant. Nid oedd unrhyw resymau penodol dros beidio bod yn asiant wedi eu cyflwyno.

 

Amlygwyd bod y Polisi Cludiant wedi ei  adolygu a bod trafodaethau rhwng y Cyngor a darparwyr cludiant wedi dwyn ffrwyth drwy ddyfalbarhad. Adroddwyd bod cytundeb ar hyblygrwydd amser teithio ar bob un o’r llwybrau ac eithrio un. (Nodwyd bod trafodaethau yn parhau gyda darparwr cludiant am y llwybr dan sylw). Er mwyn codi ymwybyddiaeth i’r newidiadau, nodwyd yr angen i drefnu ymgyrch gyhoeddusrwydd erbyn mis Mawrth.

 

Mewn ymateb i’r argymhelliad o gasglu data i ddarganfod os yw costau teithio yn arwain at fyfyrwyr yn disgyn allan o addysg bellach, nodwyd bod dau holiadur, ar gyfer y flwyddyn addysgiadol 2016 - 2017 yn cynnwys cwestiwn penodol ynglŷn â chludiant. Eglurwyd y  byddai dadansoddiad o’r holiadur ar gael ar ddechrau tymor yr haf.

 

Adroddwyd bod Fforwm Defnyddwyr wedi ei sefydlu a bod yn llwyddiannus iawn fel modd o gynnal trafodaethau.  Amlygwyd mai aelodau’r Fforwm yw cynrychiolwyr o’r Coleg, Swyddogion y Cyngor, Darparwyr Cludiant a Myfyrwyr. Awgrymwyd y gellid rhannu cofnodion y Fforwm i’r cyfarfod paratoi nesaf

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet ei fod yn derbyn bod gweithredu'r argymhellion wedi cymryd amser, ond drwy ddyfalbarhau bod y mwyafrif o’r argymhellion oedd yn ymwneud a’r Cyngor wedi eu gweithredu. Un o’r prif lwyddiannau oedd sicrhau hyblygrwydd i’r tocyn teithio.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol:

 

·                    Bod angen i’r Coleg dderbyn cyfrifoldeb dros y myfyrwyr

·                    Angen pwysleisio mai partneriaeth sydd yma rhwng y Coleg a'r Cyngor a bod angen i’r coleg chwarae eu rhan

·                    Angen parhau gyda holi'r Coleg i weithio fel asiant

·                    Coleg gyda chyfrifoldeb dros gael myfyrwyr i fynychu’r coleg

·                    Croesawu hyblygrwydd y tocyn - sgôp i ehangu oriau wedi 6pm?

·                    A fyddai modd dosbarthu holiadur i rieni?

·                    Awgrym i wahodd yr Aelod Cynulliad Mr Ken Skates (Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’c Isadeiledd) a chynrychiolwyr Coleg Menai i’r Pwyllgor nesaf er mwyn ceisio mynd at wraidd y broblem

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, er bod  yr argymhellion wedi cymryd amser i’w gwireddu, ond gyda dyfalbarhad bod y sefyllfa wedi gwella. Cynigiwyd y sylwadau canlynol:

·         Cofnodion y Fforwm Defnyddwyr i’w gyflwyno i’r cyfarfod paratoi nesaf

·         Estyn gwahoddiad i Aelod Cynulliad Mr Ken Skates (Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’c Isadeiledd a Chynrychiolwyr Coleg Menai i gyfarfod o’r pwyllgor