Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru  01286 679 878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Craig ab Iago, Dilwyn Morgan, Mike Stevens a Glyn Thomas

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 380 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 19.5.2016 fel rhai cywir  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 19 Mai 2016 fel cofnod cywir o’r cyfarfod yn ddarostyngedig i gywiro presenoldeb Aelodau yn y fersiwn Saesneg.

5.

DIWEDDARIAD BLYNYDDOL Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL pdf eicon PDF 359 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

Cyflwyno adroddiad ar ddatblygiad strategol y bartneriaeth gan Reolwr Cyflawni  Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)            Croesawyd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Aelod Cabinet Diogelwch Cymunedol), Catherine Roberts (Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn) a’r Prif Arolygydd Mark Armstrong (Heddlu Gogledd Cymru) i’r cyfarfod.

           

b)            Amlygodd yr Aelod Cabinet bod maes gwaith y bartneriaeth yn un eang a dyrys gyda’r prif nod o gadw ein Cymunedau’n ddiogel. Tynnwyd sylw at yr adroddiad oedd yn olrhain cefndir y gwasanaethau a’r adnoddau, ynghyd â gwaith y bartneriaeth. Nodwyd bod atebolrwydd yn heriol oherwydd bod angen cydweithio gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol a’r Partneriaethau Rhanbarthol. Ategodd bod cydweithio da gyda Môn.

 

c)            Eglurwyd bod gofyn i’r Bartneriaeth adrodd yn ffurfiol i’r Pwyllgor yn flynyddol gan gyflwyno trosolwg o brif ddatblygiadau strategol y Bartneriaeth dros y flwyddyn ynghyd a’r gwaith comisiynu sydd yn gosod  fframwaith i’r blaenoriaethau. Mae hyn yn sicrhau bod y Bartneriaeth yn cyflawni ei hoblygiadau yn unol ag adrannau Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2006  

 

ch)         Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau a gyfeiriwyd at y Bartneriaeth yn dilyn cyfarfod paratoi, cafwyd y sylwadau canlynol.

 

·         Ceir di-dreth. Cyfeiriwyd at wefan berthnasol lle y gellid mewnbynnu manylion. Nodwyd mai'r Heddlu oedd yn ymdrin â cheir heb dreth gyda chydweithrediad y DVLA.

·         Parcio ceir heb ddefnydd - dim yn ymddangos yn flaenoriaeth i’r Heddlu, ond amlygodd y Prif Arolygydd nad oedd hyn yn gywir a bod yr Heddlu yn cydweithio gyda Gwasanaethau Gorfodaeth y Cyngor a’r DVLA i ddatrys y problemau hyn. Anogwyd yr Heddlu i gydweithio hefyd gyda’r Cymdeithasau Tai

·         Argaeledd Plismon Lleol - amlygwyd nad oedd rhifau swyddfeydd yr Heddlu bellach yn cael eu rhannu – hyn yn cael ei weithredu yn ganolog. Cytunwyd bod gwaith papur yn tra arglwyddiaethu'r gwaith plismona, ond bod pob ymgais yn cael ei wneud i wella'r sefyllfa yn lleol. Un o’r gwelliannau hynny yw presenoldeb y PSO’s ar ein strydoedd.

·         Cynllun OWL (Online Watch Link) - Nodwyd bod oddeutu cost o  £30k ar y cynllun a gafodd ei gyllido gan yr Heddlu. Adroddwyd bod y cynllun wedi dod i ben gan nad oedd digon wedi cofrestru gyda’r cynllun a bod cyfryngau cymdeithasol megis twitter a facebook yn gweithio yn well

·         Cynlluniau cefnogi’r blaenoriaethau. Adroddwyd bod 26 cynllun 2015/2016 yn wyrdd, 8 yn felyn ac 1 yn goch. Nodwyd bod nifer o’r cynlluniau melyn wedi eu trosglwyddo i gynllun 2016/2017.

·         Galwadau Niwsans.  Adroddwyd bod yr Heddlu wedi bod yn cydweithio gyda Adran Safonau Masnach i geisio gwarchod pobl hŷn, bregus. Nodwyd bod teclyn ‘truecall’ wedi cael ei hyrwyddo ac wedi bod yn llwyddiannus.

·         Mabwysiadau Pwerau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Adroddwyd bod Gwynedd, fel Môn, bellach wedi cwblhau’r broses o fabwysiadau’r pwerau ers Gorffennaf 2016.

·         Trosglwyddo Tîm WISDOM (sydd yn cynnwys swyddogion yr Heddlu a’r Gwasanaeth Prawf), i weithio o adeilad y Cyngor ym Mhenrallt. Mae’n wasanaeth ble mae’r ddwy asiantaeth yn cydweithio yn agos i reoli'r troseddwyr mwyaf peryg yn ein cymunedau. O ran amserlen, y gobaith yw symud y tîm i’r adeilad ym mis Tachwedd.

·         Amserlen cyflawni dadansoddiadau anghenion  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD TROSOLWG O BERFFORMIAD pdf eicon PDF 415 KB

Aelodau Cabinet Tlodi, Amddifadedd, Economi, Tai â’r Amgylchedd

 

Y Cynghorydd Mandy Williams-Davies                        Economi a Chymuned

Y Cynghorydd Ioan Thomas                             Tai ac Amddifadedd

Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn                          Iaith

Y Cynghorydd John Wynn Jones                     Amgylchedd

Y Cynghorydd Dafydd Meurig                          Cynllunio a Rheoleiddio

 

Ystyried adroddiad Arweinydd y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Yn unol â chyfundrefn rheoli perfformiad y Cyngor, cyflwynwyd adroddiad trosolwg o berfformiad y Cyngor yn canolbwyntio ar Tlodi, Amddifadedd, Economi, Tai, Y Gymraeg a’r Amgylchedd. Amlygwyd bod yr adroddiad yn cyfarch cynlluniau trawsnewidiol y cynllun strategol yn ogystal â thynnu sylw at y mesurau perfformiad sydd yn bwysig i bobl Gwynedd ac yn ganolog i waith dyddiol y Cyngor

 

i.       Maes yr Economi

 

a.    Swyddi gwerth uchel ac o ansawdd - amlygwyd bod prosiect gyda Llywodraeth Cymru i werthu potensial Gwynedd i ddatblygwyr wedi chwarae rhan flaenllaw mewn creu 35 o swyddi gwerth uchel yn y Sir (diffiniad o swydd gwerth uchel yw cyflog £26,500+ ).

b.    Tynnwyd sylw at 15 swydd yn NMI Gaming Parc Menai: nifer o gyfleoedd yma a potensial i greu oddeutu dros 200 o swyddi yn y Sir: angen ystyried sgiliau priodol, meddylfryd a bod yn greadigol  i geisio'r budd gorau o’r cyfleon hyn

c.    Dyraniad proffil gwerth uchel – adroddwyd nad oedd arian yn cael ei dalu tan ar ôl  y digwyddiad. Cyfle yma i werthuso faint o gyfleodd  mae cwmnïau lleol wedi ei gael i ddarparu bwyd a llety er enghraifft, a’r cyfleoedd o rannu delweddau o’r Sir.

 

Materion yn codi o’r drafodaeth:

-        Nid oes arian i fuddsoddi ac felly angen bod yn greadigol wrth ystyried dulliau gweithredu mewn ardaloedd fel Dwyfor a Meirionnydd. Awgrym y dylai'r Cyngor weithio fel galluogwr - hyn yn her sylweddol. Grantiau ac adnoddau yn prinhau ac anodd yw adfywio economi heb arian - rhaid bod yn arloesol a defnyddio'r arfau ar adnoddau sydd ar gael yn well.

-        Twristiaeth yw prif economi'r ardal - nid oes cefnogaeth ddigonol gan y Cyngor i dynnu pobl i mewn

-        Cyfarch buddsoddiadau Zip World a Parc Menai, ond siomedig nad oedd cyfeiriad at fuddsoddiad Plas Heli, Pwllheli

-        Angen ymestyn y llwybrau cerdded / llwybrau beicio ym Mhenllyn

-        Yng nghyd-destun canran cwsmeriaid sydd yn fodlon gyda’r gwasanaeth Amgueddfeydd a Chelfyddydau – awgrymwyd y dylai'r gwaelodlin fod wedi ei osod cyn trafod y toriadau

-        Amgueddfa Lloyd George - rhaid ceisio gweithio mewn ffordd wahanol i arbed y gwasanaeth

-        Awgrym i addasu geiriad yr adroddiad i adlewyrchu toriadau

 

ii.      Maes Tai

 

a)    Prosiect Cydymdrechu yn erbyn tlodi yn cynnwys dwy flaenoriaeth - tlodi gofodol a thlodi poblogaeth. Nodwyd bod gwaith ymchwil gan y Cyngor wedi adnabod bod 6,500 o gartrefi yng Ngwynedd yn cael eu heffeithio gan y Ddeddf Diwygio Lles. Amlygwyd bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i aelwydydd un rhiant.

b)    Agenda Trechu Tlodi - nid yw yn treiddio trwy adrannau'r Cyngor ac felly awgrymwyd gwahodd Penaethiaid, Swyddogion ac Aelodau Cabinet at ei gilydd i sicrhau bod yr agenda yn cael ei cyfarch.

 

Materion yn codi o’r drafodaeth:

-        Tlodi plant - angen treiddio'r broblem i mewn i wasanaethau Cyngor

-        Cludiant ôl 16 yn enghraifft o ddiffyg ymroddiad i sicrhau bod plant o aelwydydd tlotaf Gwynedd yn cael addysg uwch

-        Calonogol gweld lleihad yn yr amser disgwyl ym maes digartrefedd

-  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ARGYMHELLION YMCHWILIAD CRAFFU GORFODAETH STRYD pdf eicon PDF 423 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd John Wynn Jones

 

Ystyried Adroddiad Ymchwiliad Craffu Gorfodaeth Stryd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad yr ymchwiliad craffu Gorfodaeth Stryd i’r Aelod Cabinet John Wynn Jones. Atgoffwyd pawb beth oedd cefndir y briff a rhoddwyd crynodeb o’r gwaith a wnaed gan y Cynghorydd Angela Russell (gan fod y Cynghorydd Annwen Daniels, Cadeirydd yr ymchwiliad wedi gorfod ymadael a’r cyfarfod yn gynnar)

 

b)    Ategodd yr Aelod Cabinet ei ddiolch i’r aelodau am eu hymchwiliad trylwyr, ac wedi ymgynghori gyda sawl un, cydnabuwyd bod yr adroddiad yn adlewyrchiad teg o’r gwaith.

 

c)    Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

 

·         Bod yr ymchwiliad yn cynnig ymateb creadigol e.e., defnyddio cwmni allanol i osod dirywion fel y gall yr uned fewnol ganolbwyntio ar elfennau megis hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth

·         Awgrym y dylai busnesau gyfrannu at gynnal a chadw cylchfannau drwy noddi

·         Ymgynghori gydag ysgolion yn allweddol - rhaid addysgu pobl i warchod yr amgylchedd

·         Cyfleoedd yma i newid diwylliant

 

ch)       Mewn ymateb, derbyniodd yr Aelod Cabinet yr angen i fod yn greadigol. Adroddwyd bod gwaith codi ymwybyddiaeth da ac ymgyrchoedd llwyddiannus yn cael ei gwneud gan yr Uned Gorfodaeth. Os bydd  penderfyniad i ddefnyddio cwmni allanol i osod dirywion, rhaid sicrhau bod pob Cynghorydd yn gefnogol i’r  penderfyniad a bod cynllun ymgysylltu, effeithiol mewn lle.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, derbyn yr argymhellion ynddo a cheisio adroddiad yn ôl gan yr Aelod Cabinet mewn tua 6 – 9 mis o’r hyn sydd wedi ei gyflawni yn dilyn yr argymhellion.

 

8.

ADOLYGIAD CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY pdf eicon PDF 232 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn adrodd ar y bwriad i adolygu a diweddaru’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy a chael mewnbwn dechreuol gan y Pwyllgor ar y broses. Eglurwyd bod Deddf Cefn Gwlad Hawliau Tramwy 2000 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau i baratoi a chyhoeddi Cynllun Gwella Hawliau Tramwy.  Ategwyd bod gofyn statudol i adolygu'r cynllun bob 10 mlynedd a bod Gwynedd angen cynnal adolygiad cyn Tachwedd 2017.

 

b)    Amlygwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i Awdurdodau Lleol sydd yn egluro’r drefn a’r camau sydd i’w cymryd ar gyfer cynnal adolygiad ynghyd â pharatoi cynllun newydd. Rhaid i’r Awdurdod ystyried pwrpas a defnydd y Cynllun fel dogfen sydd yn cwmpasu dyletswyddau’r Awdurdod ac yn gosod blaenoriaethau ym maes hawliau tramwy a mynediad ar droed, beic a marchogaeth.

 

c)    Ers cyhoeddi’r cynllun yn 2007, adroddwyd bod newidiadau mawr wedi dylanwadu ar y maes, megis toriadau mewn cyllidebau at waith cynnal y rhwydwaith o lwybrau, dyfodiad a dylanwad deddfwriaethau newydd sydd yn gorgyffwrdd a’r maes mynediad, ynghyd a thwf cyffredinol yn y galw am lwybrau a chyfleusterau mynediad o safon uchel a chydnabyddiaeth o’u pwysigrwydd i’r diwydiant twristiaeth.

 

ch) Gofynnwyd i’r Pwyllgor gytuno bod angen  a chyfiawnhad dros baratoi cynllun newydd ar gyfer Gwynedd ynghyd a bod yn gefnogol i’r bwriad o adolygu’r cynllun.

 

d)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â rhwydwaith y Sir, nododd  Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd bod y cynllun presennol yn blaenoriaethu'r llwybrau poblogaidd ac felly'r adnoddau yn cael eu rhoi yma. Ategwyd y byddai adolygiad yn rhoi cyfle i Wynedd ail edrych ar y blaenoriaethau o safbwynt cynnal y rhwydwaith yn hytrach na blaenoriaethu'r rhai poblogaidd. Ychwanegodd mai tasg werthfawr fyddai adolygu'r cynllun.

 

dd)   Mewn ymateb i sylw ynglŷn â hawliau mynediad cyfartal i bawb, adroddodd y byddai’r Ddeddf Hawliau Cyfartal yn cael ystyriaeth fel rhan o’r adolygiad ac y bydd asesiadau cydraddoldeb angen eu gweithredu.

 

e)    Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r posibilrwydd o gydweithio gyda’r Parc Cenedlaethol er nad yw’n ofynnol i’r Parc fod yn rhan o’r adolygiad, nodwyd bod trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda’r Parc ers tua 18 mis.  Er nad yw yn statudol i’r Parc gynhyrchu cynllun, yn ymarferol byddai yn gwneud synnwyr i sefydlu cynllun a fydd yn cwrdd ag anghenion y Cyngor a’r Parc. Ychwanegwyd ond bod y Parc yn cefnogi'r egwyddor o baratoi Cynllun ar y cyd. Cydnabuwyd yr angen i drafod adnoddau a chyllid, ond gyda’r angen am wybodaeth arbenigol  am rwydwaith y Parc, awgrymwyd, drwy gydweithio, y byddai’r cynllun yn fwy cadarn ac ymarferol.

 

f)     Mewn ymateb i sylw ynglŷn â sut bydd llwybrau yn cael eu blaenoriaethu ac yr angen i ystyried adnoddau lleol i gadw llwybrau yn agored, adroddwyd na fyddai'r cynllun newydd yn rhoi manylder ar lwybrau penodol, ond yn edrych ar roi fframwaith yn ei le ar gyfer blaenoriaethu gwaith gan geisio sicrhau trefniadau gweithredu effeithiol.

 

ff)     Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

 

·         Beth yw maint y rhwydwaith? A oes modd canolbwyntio  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

BRIFF YMCHWILIAD CRAFFU - Y DREFN CYNLLUNIO pdf eicon PDF 229 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

         

a)    Cyflwyno crynodeb sgopio ar gyfer ymchwiliad craffu

b)    Ystyried  aelodau i wasanaethu ar yr Ymchwiliad Craffu

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd brîff ar gyfer cynnal ymchwiliad craffu ar y drefn gynllunio i ystyried cyfundrefnau cynllunio’r Cyngor a’u haddasrwydd ar gyfer cyd-fynd ag anghenion cymunedau’r Sir yn economaidd, yn ogystal â ffactorau eraill.

 

PENDERFYNWYD derbyn y briff.

 

Enwebwyd yr  Aelodau canlynol i wasanaethu ar yr ymchwiliad:  Y Cynghorwyr Eric M Jones, Angela Russell, Gruffydd Williams a Tudor Owen.

 

Awgrymwyd anfon neges i’r Aelodau oedd yn absennol er mwyn rhoi cyfle iddynt enwebu eu hunain.

 

10.

BLAENRAGLEN CRAFFU 2016-2017 pdf eicon PDF 73 KB

Cyflwyno blaenraglen waith er gwybodaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd blaen raglen waith y Pwyllgor am 2016 - 2017

 

                        Derbyniwyd y wybodaeth.