Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni
dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 11.12.17
fel rhai cywir . Cofnod: Llofnododd
y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 11eg o Ragfyr 2018
fel rhai cywir. |
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL PDF 223 KB Cyflwyno, er
gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinnol a gynhaliwyd ar y
dyddiau canlynol: a) 12.01.2018 Cofnod: Cyflwynwyd,
er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd 12.01.2018 |
|
MANYLEB MESURYDDION CERBYDAU HACNI PDF 347 KB I ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth yr Adran Amgylchedd yn gosod cefndir a
diweddariad ar ddatblygiadau ym maes mesuryddion cerbydau hacni (clociau
tacsi). Gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo cynnig i newid yr amodau fel rhan o
adolygiad ehangach i bolisïau ac amodau trwyddedu tacsi sydd wrthi’n cael eu
hadolygu. Cyflwynwyd rhestr o’r amodau presennol ynghyd a’r amodau arfaethedig. Amlygwyd mai un o’r meysydd trafod oedd cynnydd yn y defnydd o Systemau
Lleoli Byd-eang (GPS) i fesur tal mewn cerbydau trwyddedig. Er bod y defnydd
yma yn cael ei groesawu fel system i weithredwyr reoli ac anfon cerbydau at
gwsmeriaid a chyfrif pris taith yn effeithiol, adroddwyd nad oes unrhyw system
GPS ar hyn o bryd yn cydymffurfio gyda gofynion Rheoliadau Offer Mesur 2006. O
ganlyniad, ni ellir eu defnyddio fel mesurydd cymeradwy. Eglurwyd mai'r bwriad
oedd ychwanegu amod yn egluro statws cyfreithiol presennol systemau GPS i reoli
ac anfon tacsi Adroddwyd nad oedd trefniant yn ei le i gerbydau hacni yng Ngwynedd gael
eu cloc tacsi wedi ei brofi yn gyfnodol. Mewn ymateb i hyn cynigiwyd amodau i
berchnogion cerbydau tacsi sicrhau bod y cloc yn gweithio’n briodol; darparu
tystysgrif yn cadarnhau bod y cloc o fanyldeb (specification) a gymeradwywyd;
wedi ei osod yn unol â Rheoliadau Offer Mesur (2006); wedi ei galibradu
i sicrhau mai dim ond tariff cyfredol Cyngor Gwynedd sydd yn cael ei
ddefnyddio. Bydd gofyn i’r perchennog ddangos y dystysgrif yn flynyddol i’r
Awdurdod Trwyddedu i brofi bod y mesurydd yn gywir. I hybu’r newidiadau, y
bwriad yw i’r Uned Trwyddedu sefydlu rhestr o brofwyr clociau tacsi cymeradwy i
osod a chynnal y profion blynyddol. Nodwyd bod angen ymgynghori gyda’r diwydiant ynglŷn â’r newidiadau
i amodau trwydded cerbyd hacni. Y bwriad yw bod hyn yn cael ei wneud fel rhan o
waith ymgynghori ehangach ar adolygiad polisïau trwyddedu tacsi. Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Bod yr argymhelliad yn un i’w
groesawu - yn gosod cysondeb ·
Amserol fydd derbyn cyngor
cyfreithiol ar faterion defnydd GPS ·
Bod y polisi yn cael ei adolygu
mewn ymateb i newidiadau mewn technoleg ·
Bod mantais reolaethol i ddefnydd
GPS ac felly angen sicrhau bod y ddwy drefn yn cydweithio Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phwy fydd yn gwirio’r addasiadau i
glociau tacsi, nodwyd mai cyfrifoldeb y cwmnïau fydd cydymffurfio gyda’r amodau
arfaethedig. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sicrhau bod gyrrwr tacsi yn ‘yrrwr
diogel’ (yn dilyn digwyddiad diweddar i ddiddymu trwydded gyrrwr oherwydd
defnydd cyffuriau), nodwyd mai drwy’r diwydiant, gan amlaf y bydd yr Uned
Trwyddedu yn derbyn gwybodaeth. Petai pryder gan yr Uned Drwyddedu neu
wybodaeth yn dod i law gan y cyhoedd am yrrwr yn ymddwyn yn amhriodol bydd yn Uned yn gwneud
cais i’r Heddlu am wybodaeth. Yn sgil newidiadau i’r Ddeddf Rheoli Data,
amlygwyd nad oedd gorfodaeth bellach ar yr Heddlu i rannu gwybodaeth yn
awtomatig gyda’r Uned am unigolion oedd wedi troseddu yn ddiweddar. Yn dilyn yr ymateb, awgrymwyd llythyru Comisiynydd yr Heddlu yn amlygu pryderon y Pwyllgor ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
ADOLYGU POLISÏAU TACSI CYNGOR GWYNEDD I dderbyn diweddariad ar lafar ar yr adolygiad Cofnod: Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Rheolwr
Trwyddedu ar y broses o adolygu holl bolisïau
tacsis Cyngor Gwynedd gan atgoffa’r Aelodau mai'r bwriad oedd
cyflwyno un polisi unedol fydd yn
cynnwys penderfyniad y Pwyllgor i weithredu
adrannau 165, 166 a 167 o’r
Ddeddf Cydraddoldeb. Ategwyd bod yr Uned Trwyddedu wedi ymgynghori yn anffurfiol gyda’r
diwydiant ac wedi derbyn rhai sylwadau.
Mynegwyd mai un sylw cyffredinol oedd eu bod yn
gwrthwynebu newidiadau i bolisïau yn
ymwneud a cherbydau hygyrch i gadeiriau
olwyn ac yn dadleu bod y sefyllfa yn annheg. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau
canlynol gan Aelodau unigol: ·
Bod addasu
polisi cerbydau sydd yn hygyrch i
gadeiriau olwyn yn ymateb i ofynion y Ddeddf Llesiant ·
Rhaid i
gwmnïau tacsi gyfarch yr angen ·
Awgrym i osod
gweledigaeth bod pob tacsi yn gerbyd aml bwrpas i’r dyfodol ·
Awgrym bod
pob Awdurdod Lleol ar draws y Gogledd yn mynegi barn fel un llais i geisio
gorfodi pob tacsi i fod yn aml bwrpas i’r dyfodol Cynghorodd y Cyfreithiwr, i’r Uned Drwyddedu gyflwyno adroddiad
i’r Pwyllgor er mwyn cael eglurdeb parthed yr opsiynau ac arweiniad ar y ffordd
ymlaen er mwyn cael penderfyniad. DERBYNIWYD
y wybodaeth |