Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

 

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Angela Russell

 

Croesawyd y Cynghorydd W Gareth Roberts fel aelod newydd i’r Pwyllgor Trwyddedu   Cyffredinol

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 60 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 9fed o Fedi 2019 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd Medi 9fed 2019 fel rhai cywir.

 

 

5.

COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL pdf eicon PDF 109 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol:

 

a)    01.08.2019

b)    18.09.2019

c)    20.09.2019

d)    07.10.2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Derbyniwyd, er gwybodaeth gofnodion yr Is bwyllgorau a gynhaliwyd 1af o Awst 2019,

18 Medi 2019, 20 Medi 2019 a’r 7fed o Hydref 2019

 

6.

DIRPRWYO HAWLIAU I BENDERFYNU AR GEISIADAU TRWYDDEDAU TACSI pdf eicon PDF 134 KB

I ystyried yr adroddiad

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth yr Amgylchedd yn gofyn i’r Pwyllgor gefnogi’r egwyddor o adolygu’r cynllun dirprwyo cyfredol. Eglurwyd bod gan y Cyngor, fel Awdurdod Trwyddedu ddyletswydd o dan y Ddeddf Cymalau Heddluoedd Trefol 1847 a’r Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i drwyddedu gyrwyr a cherbydau hurio preifat a hacni, a gweithredwyr. Ategwyd ei bod yn ofynnol i’r Awdurdod sicrhau bod y sawl sydd yn ymgeisio am drwydded gyrrwr/ gweithredwr, neu’n ymgeisio i adnewyddu trwydded o’r fath, yn unigolyn ‘addas a phriodol’ i ddal y drwydded honno. Atgoffwyd yr Aelodau mai prif bwrpas trwyddedu cerbydau, gweithredwyr a gyrwyr yw diogelu iechyd y cyhoedd. Dyma’r flaenoriaeth mae’r Cyngor wedi ei ystyried wrth fabwysiadau trefn bwrpasol i geisio cyfarch hyn.

 

Tynnwyd sylw at eiriad y Cyfansoddiad sydd yn gosod trefn benodol o ran pa benderfyniadau sydd wedi eu dirprwyo i swyddogion; a pha benderfyniadau sydd yn disgyn o dan gyfrifoldebau’r Is-Bwyllgor ynghyd a’r hawliau dirprwyedig sydd wedi ei dirprwyo i Pennaeth yr Amgylchedd sydd yn awdurdodi swyddogion ar ei ran.

 

Wrth drafod y drefn bresennol nodwyd bod gwydnwch i benderfyniadau’r Is Bwyllgor oherwydd bod pob ymgeisydd yn derbyn gwrandawiad teg. Rhoddir cyfle i bob ymgeisydd roi cefndir o ran y troseddau ac mae adroddiad ac argymhelliad y Swyddog Trwyddedu yn ogystal â thystiolaeth a gyflwynir yn sicrhau bod gan yr Is bwyllgor y dystiolaeth ar wybodaeth angenrheidiol ar gyfer gwneud penderfyniad. Bydd yr ymgeisydd yn derbyn eglurhad llawn ar lafar ac yn ysgrifenedig am resymeg y penderfyniad gan y Cyfreithiwr.

 

Tynnwyd sylw'r Aelodau at bedwar opsiwn dechreuol a gynigiwyd gan Pennaeth yr Amgylchedd. Amlygwyd bod trefniadau dirprwyo penderfyniadau yn amrywio o Gyngor i Gyngor, ond o safbwynt Cyngor Gwynedd amlinellwyd bod rôl bwysig i’r Is Bwyllgor yng nghyd-destun gwneud penderfyniadau, ond bod her o ddiffinio beth yw’r amgylchiadau lle dylid cyfeirio cais i Is bwyllgor.

 

Cynigwyd ac eiliwyd i ystyried adolygu’r cynllun dirprwyo cyfredol gan roi hawl i’r Gwasanaeth Trwyddedu, mewn ymgynghoriad gyda’r Adran Gyfreithiol i ymchwilio ymhellach i’r opsiynau dechreuol.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·         Derbyn bod rhai ymgeiswyr yn aros yn hir am benderfyniad

·         Bod rhai penderfyniadau  yn hawdd i’w dirprwyo

·         Bod llwyth gwaith di angen yn cael ei greu gan y drefn bresennol

·         Bod yr Is bwyllgor yn barod  i gymryd y baich yn hytrach na rhoi gormod o gyfrifoldeb ar swyddog

·         Bod hi’n amser moderneiddio ac adolygu’r drefn

·         Bod rhaid ystyried ymddygiad os nad oes collfarn

 

Ategodd y Cyfreithiwr bod geiriad yr opsiynau yn yr adroddiad yn rhy gyffredinol a bod angen sicrhau geiriad pendant, manwl a phenodol i’r opsiynau terfynol

 

PENDERFYNWYD,

·         derbyn yr adroddiad

·         cefnogi’r egwyddor o’r adolygu’r cynllun dirprwyo cyfredol

·         Ystyried yr opsiynau dechreuol a rhoi cymeradwyaeth i’r Gwasanaeth Trwyddedu mewn ymgynghoriad gyda’r Gwasanaeth Cyfreithiol i edrych mewn mwy o fanylder ar yr opsiynau neu gyfuniad ohonynt ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor gydag opsiynau terfynol a’r opsiwn a ffafrir cyn diwedd Mawrth 2020.