Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Eryl
Jones-Williams, Sïon Jones a Peter Read Amlygwyd pryder ynglŷn â phresenoldeb rhai
Aelodau. Nodwyd bod y mater wedi cael ei gyfeirio at y Swyddog Monitro a’r
Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 10 Medi
2018 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 10 o Fedi 2018 fel
rhai cywir |
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL PDF 74 KB Cyflwyno,
er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinnol a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol: a)
10.09.2018 b)
17.10.2018 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd, er
gwybodaeth, gofnodion cyfarfod o’r Is-bwyllgorau Trwyddedu Cyffredinol a
gynhaliwyd 10.09.2018 a 17.10.2018 |
|
ADOLYGU TREFNIADAU PROFION MECANYDDOL CERBYDAU TACSI PDF 53 KB I ystyried adroddiad Pennaeth yr Adran
yr Amgylchedd Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Adran yr Amgylchedd yn
argymell trefniadau newydd ar gyfer profi cerbydau hacni
a hurio preifat dros 10 oed. Amlygwyd bod hi’n ofynnol i bob cerbyd hacni a hurio preifat dderbyn prawf MOT safonol yn
flynyddol gyda gorfodaeth ychwanegol am ddau brawf mecanyddol unwaith mae
cerbyd yn cyrraedd 10 oed. Ategwyd bod y profion yn allweddol i sicrhau
diogelwch y cerbydau tacsi. Nodwyd bod y gofynion wedi eu hymgorffori fel
amodau trwydded ac wedi eu mabwysiadu ym mholisi trwyddedu cerbydau tacsi’r
Cyngor. Mae’r gofynion hefyd yn seiliedig ar y cyngor a geir yng nghanllawiau
ymarfer da’r Weinyddiaeth Drafnidiaeth. Nodwyd bod nifer o Gynghorau, oherwydd pryderon dros reoli
safon a chysondeb profion mecanyddol, yn awdurdodi modurdai sydd yn gwasanaethu
fflyd cerbydau’r Awdurdod i wneud profion mecanyddol ar gerbydau trwyddedig.
Ategwyd y byddai yn fanteisiol oherwydd bod posib cadw rheolaeth dynn ar y
safonau a bod cyfle hefyd i greu incwm i’r Cyngor. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â nifer profion
mecanyddol sydd eu hangen dros y 12 mis nesaf, nodwyd bod cynnal dau brawf ar
geir dros 10 oed wedi cael eu cynnwys yn y niferoedd o fewn yr adroddiad.
Ategwyd bod modurdai'r Cyngor yn awyddus iawn i fod yn rhan o’r drefn ac er
mwyn osgoi gormod o bwysau arnynt cynigir bod tri modurdy arall yn cael eu
hawdurdodi fel rhai ‘wrth gefn’ yn ystod y cyfnodau prysur. Nodwyd bod trafodaethau
cychwynnol wedi eu cynnal gyda’r Post Brenhinol i ddefnyddio eu modurdy ym
Mangor fel un o’r modurdai wrth gefn gan fod y Post Brenhinol yn cadw at
safonau cenedlaethol i brofi eu fflyd. Nid oedd y ddau fodurdy arall wedi eu
hadnabod. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gofynion yr ail brawf,
mynegwyd bod y prawf yn ehangach na MOT cyffredinol ac y bydd yn cynnwys e.e.,
cyflwr y car, arwyddion, gwregys diogelwch a darpariaeth cymorth cyntaf.
Ategwyd bod y rhestr gwirio yn un sylweddol. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfnod terfynol
defnydd car fel tacsi nodwyd mai 12 oed oedd y cyfnod a bod hyn yn cael ei
adolygu. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â monitro safonau'r 16
modurdy (ar draws Gwynedd) sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwneud profion,
nodwyd bod archwiliadau yn cael ei gynnal gan swyddog trwyddedu. Bydd pob
modurdy sydd yn gymwys i gynnig MOT hefyd yn gorfod bod yn gymwys i ofynion
VOSA (Vehicle and Operator
Services Agency). Amlygwyd pryder gan un o’r Aelodau y byddai rhai cwmnïau
tacsis yn gwyro oddi ar y drefn, ond
cadarnhawyd y byddai’n parhau yn orfodol i geir hyd at 10 oed gael eu profi gan
un o’r 16 modurdy awdurdodedig. Ategwyd y byddai’n orfodol i gerbydau dros 10
oed fynd at un o fodurdai'r Awdurdod. PENDERFYNWYD derbyn
yr argymhelliad gan gymeradwyo trefniant newydd isod o brofi cerbydau dros 10
oed. • Fod ceir dros 10 oed sydd angen dau brawf mecanyddol y flwyddyn yn cael eu cyfeirio at fodurdai'r cyngor yng Nghibyn, Pwllheli a Dolgellau i gael ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
HYSBYSU'R PWYLLGOR O'R CAMAU NESAF AR GYFER PARATOI POLISI TRWYDDEDU TACSI UNEDOL NEWYDD Pwrpas –
hysbysu’r Aelodau, ar lafar, o’r bwriad i sefydlu grwp tasg o aelodau i
edrych ar brif agweddau y Polisi Unedig Trwyddedu Tacsi drafft ; cyn yr
ymgynghoriad cyhoeddus – ac i sefydlu cylch gorchwyl ar gyfer y grwp. Cofnod: Cafwyd diweddariad ar lafar bod y
polisi unedol yn parhau i gael ei ddatblygu gyda’r bwriad i gyflwyno drafft ym
mis Mawrth. Amlygwyd y bwriad i sefydlu grŵp tasg a gorffen i edrych ar
brif agweddau’r Polisi Unedig Trwyddedu Tacsi cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus.
Ategwyd bod bwriad hefyd i sefydlu cylch gorchwyl ar gyfer y grŵp. DERBYNIWYD
y wybodaeth |