skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr John Brynmor Hughes, Sïon        Jones, Rheinallt Puw ac Annwen Daniels

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 72 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 11eg Mehefin 2018 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 o Fehefin 2018 fel rhai cywir.

 

5.

COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL pdf eicon PDF 77 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinnol a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol:

 

a) 22.05.2018

b) 17.07.2018

c) 24.07.2018

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod o’r Is-bwyllgorau Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd 22.05.2018, 17.07.2018 a 24.07.2018

 

6.

FFIOEDD ARFAETHEDIG TRWYDDEDAU TACSIS 2018/19 pdf eicon PDF 39 KB

I ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

          Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn adrodd ar yr ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â chodi ffioedd trwyddedau tacsi er mwyn sicrhau bod costau ynghlwm a gweinyddiaeth trwyddedau yn cael eu hadennill yn llawn. Atgoffwyd yr Aelodau bod Adran 53 a 70 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 yn amlygu y caiff y ffioedd eu codi ar lefel ddigonol i dalu costau rhesymol; byddai’r cynnydd ar gyfartaledd o 28%.

 

          Adroddwyd bod yr ymgynghoriad wedi dod i ben ar y 30ain o Awst a chadarnhawyd nad oedd unrhyw wrthwynebiad neu sylwadau ysgrifenedig wedi dod i law. Amlygwyd bod un cwmni lleol wedi crybwyll mewn e-bost y byddai yn syniad adolygu’r prisiau mae’r diwydiant yn gallu ei godi ar gwsmeriaid. Derbyniwyd y sylw hwn gan nad oedd cais am adolygiad wedi ei wneud ers blynyddoedd.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod llawer o waith wedi ei wneud i gyfarch a gwarchod y diwydiant yn y gorffennol

·         Bod cais am drwydded tair blynedd yn rhatach yn y pendraw na thrwydded blwyddyn a bod yr arbediad yn sylweddol

 

Mewn ymateb i sylw bod awgrym wedi ei wneud i adolygu ffioedd cwsmeriaid, nodwyd bod rhaid cael cais ysgrifenedig gan gynrychiolydd o’r diwydiant er mwyn cychwyn y broses yn ffurfiol. Ategwyd y byddai’r swyddogion yn annog y diwydiant i gyflwyno llythyr.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â thrafodaethau briffio gyda’r Aelodau Cabinet, ynglŷn â’r mater, adroddwyd bod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gyda’r Aelod Cabinet a bod yr Aelod Cabinet yn ymwybodol mai adennill costau yw’r egwyddor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag adolygu a chysoni rheoliadau ar draws Gwynedd, nodwyd y byddai hyn yn cael ei ystyried wrth adolygu Polisïau Tacsi Cyngor Gwynedd

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo yn derfynol y cynnig i godi’r ffioedd, yn weithredol o’r 1af o Hydref 2018, i’r lefel a argymhellir; yn unol â’r drefn a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus.