Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am 2018/19 Cofnod: Penderfynwyd ail ethol y Cynghorydd Peter Read yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2018 – 2019 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol
Is-gadeirydd am 2018/19 Cofnod: Penderfynwyd ail ethol y Cynghorydd Elfed Williams yn Is Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2018 – 2019 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr John Brynmor
Hughes, Sïon Jones
a Rheinallt Puw Amlygwyd pryder ynglŷn â phresenoldeb
Aelodau rhai o’r grwpiau gwleidyddol o ganlyniad i newid diweddar
yn y balans gwleidyddol. Awgrymwyd cyfeirio'r sylwadau at y Swyddog Monitro. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 5.3.18
fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod
o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 5 o Fawrth 2018 fel rhai cywir. |
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL PDF 72 KB Cyflwyno, er
gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar y
dyddiau canlynol: a) 13.03.2018 Cofnod: Cyflwynwyd, er
gwybodaeth, gofnodion cyfarfod o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd
13.03.2018 |
|
CAIS I NEWID DIWRNOD MARCHNAD PORTHMADOG PDF 74 KB I ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd Cofnod: Amlygodd y Cyfreithiwr nad oedd hawl
cyfansoddiadol gan y Pwyllgor Trwyddedu i wneud penderfyniad ar y mater ac mai
rôl y Cabinet oedd hynny. Roedd yr Uwch Reolwr
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd o’r farn
bod angen tynnu sylw'r Aelodau at y mater oherwydd
eu cylch gorchwyl ac mai priodol fyddai cael cynnwys eu
sylwadau mewn adroddiad i’r Cabinet. Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth yr Adran
Amgylchedd mewn ymateb i gais gan un o gynrychiolwyr marchnad Porthmadog i
newid diwrnod y farchnad o ddydd Gwener i ddydd Iau Eglurwyd bod ymgynghoriad
wedi ei gynnal a bod canlyniadau’r ymgynghoriad hwnnw wedi ei cynnwys yn yr
adroddiad ar ddull rhesymau o blaid ac yn erbyn y newid. Tynnwyd sylw at e-byst a
dderbyniwyd, ers cyhoeddi’r adroddiad, lle'r oedd yr Aelod Lleol yn datgan ei
fod wedi trafod y sefyllfa gyda’r masnachwyr a bod y mwyafrif helaeth ohonynt yn erbyn newid
diwrnod. Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â chyfanswm lleoliad ar gyfer
masnachwyr ym Mhorthmadog, nodwyd bod y lleoliad yn gyfyng
ac felly hyd at 12 lleoliad
sydd yn gyffyrddus.
Gyda sylw bod hyd at 18 o fasnachwyr wedi ymateb i’r
ymgynghoriad, awgrymwyd bod
masnachwyr nad oedd yn mynychu
marchnad Porthmadog wedi datgan sylw. Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â thal sefydlog dyddiol neu flynyddol amlygwyd
bod masnachwyr yn arwyddo i gytundeb
blynyddol (gyda rhai eithriadau posib). Ategwyd bod y gost yn amrywio
o ran maint y stondin gyda masnachwyr achlysurol yn talu
ychydig mwy oherwydd nad oeddynt
yn fasnachwyr rheolaidd. Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Siomedig mai un masnachwr oedd wedi gwneud
cais ·
Byddai symud i ddydd Iau
yn cael effaith
andwyol ar ddiwrnod marchnad Bermo ·
Amlwg bod rhan fwyaf o’r masnachwyr
eisiau cadw'r dyddiad fel y mae Cynigiwyd ac eiliwyd
i argymell i’r Cabinet gadw dyddiad marchnad Porthmadog i ddydd
Gwener. Diolchodd yr
Aelodau am y cyfle i gael rhoi eu
sylwadau ar y mater. |
|
FFIOEDD ARFAETHEDIG TRWYDDEDAU TACSIS 2018/19 PDF 67 KB I ystyried adroddiad
Pennaeth yr Amgylchedd Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan Pennaeth yr Adran Amgylchedd
yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo’r
cynnig i godi ffioedd, yn
ddarostyngedig i ymgynghoriad gyda’r diwydiant tacsi ac ymgynghoriad drwy rybudd cyhoeddus.
Eglurwyd bod angen i’r cynnydd mewn ffioedd
fod yn rhesymegol
ac wedi ei osod ar lefel
i adennill costau yn llawn
neu yn rhannol.(yn unol ag Adran 53 a 70 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976). Atgoffwyd yr Aelodau bod y Pwyllgor
Trwyddedu Cyffredinol wedi penderfynu, mewn cyfarfod a gynhaliwyd 24.6.13, bod yn rhaid i’r ffioedd
gael eu hadolygu
i adennill y costau yn llawn.
Nodwyd yn yr adroddiad bod y ffioedd tacsi wedi cynyddu 25% yn 2013 a 19.78% a 10.78% yn 2015 er mwyn adennill y costau’n llawn. Ni chynyddwyd y ffioedd yn 2016/17 nac yn 2017/18. Cyfeiriwyd
at effaith newidiadau mewn deddfwriaethau diweddar ar brosesau
trwyddedu sydd wedi creu cynnydd
mewn gwaith prosesu trwyddedau. Cyfeiriwyd hefyd at yr asesiad ariannol
a wnaed o’r ffioedd arfaethedig gan Adran y Trysorydd.
Amlinellwyd
y costau cyfredol a’r costau arfaethedig
oedd yn cynnwys
cost gyrru llythyrau atgoffa adnewyddu a’r gwaith gweinyddol
sydd ynghlwm wrth gynghori a chyfathrebu cyn ac yn ystod proses cyflwyno cais. Eglurwyd y byddai angen cynyddu’r ffioedd ar gyfartaledd
o 28% er mwyn adennill y costau yn llawn. Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Bod
llawer o waith wedi ei wneud i gyfarch a gwarchod y diwydiant yn y gorffennol ·
Angen
ystyried sefydlu darpariaeth talu drwy gredyd uniongyrchol misol yn hytrach na
un taliad blynyddol llawn ·
Bod
angen i’r diwydiant gyflwyno barn yn ffurfiol yn ystod yr ymgynghoriad ·
Bod
cais am drwydded tair blynedd yn rhatach yn y pendraw na thrwydded blwyddyn a
bod yr arbediad yn sylweddol Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â thrafodaethau rhanbarthol a chenedlaethol ynglŷn â
chysoni ffioedd, amlygwyd bod rhan fwyaf o awdurdodau wedi gweld cynnydd mewn
costau ers cyflwyno trwydded 3 blynedd. Ategwyd bod yr asesiad ariannol wedi ei
wneud gyda mewnbwn Adran y Trysorydd
oedd yn herio yr angen i gynyddu cost trwydded 3 blynedd. Nodwyd, bod y
penderfyniad wedi ei wneud ar sail nad
oedd llawer mwy o wahaniaeth
costau rhwng gweinyddu trwydded 3 blynedd a thrwydded blwyddyn yn dilyn y
gwaith cychwynnol. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn ag uchafu materion gorfodaeth amlygwyd nad oedd modd
defnyddio arian o’r costau i wneud hyn. PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r cynnig i godi’r ffioedd i’r lefel a argymhellir, yn ddarostyngedig
i ymgynghoriad gyda’r diwydiant tacsi ac ymgynghoriad drwy rybudd cyhoeddus |