skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2016/17

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Tudor Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2016 – 2017

 

Diolchwyd i’r Cynghorydd Eryl Jones Williams am ei waith fel Cadeirydd y Pwyllgor 2014 - 2016

 

 

2.

ETHOL IS GADEIRYDD

I ethol Is Gadeirydd ar gyfer 2016/17

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Annwen Hughes yn Is Gadeirydd y Pwyllgor am y cyfnod 2016 - 2017

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Peter Read ac Wyn Williams a Geraint Brython (Cyfreithiwr)

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 74 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 7.03.16 fel rhai cywir  

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 7fed o

Fawrth 2016 fel rhai cywir yn ddarostyngedig ar nodi bod y Cynghorydd Angela

Russell yn bresennol

 

7.

COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL pdf eicon PDF 194 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgorau Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar y dydddiadau canlynol –

 

i.              07.3.16

ii.             05.4.16

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfodydd o’r Is-bwyllgorau Trwyddedu

Cyffredinol a gynhaliwyd 07.03.16 a 05.04.16

 

8.

FFORDD GWYNEDD - YMARFER TRWYDDEDU

Diweddaraid ar lafar gan y Rheolwr Trwyddedu

Cofnod:

Cafwyd diweddariad ar lafar gan yr Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd ar ymarferiadau diweddar gan y gwasanaeth i adolygu prosesau gwaith Trwyddedu er mwyn sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i’r hyn sydd yn cael ei weithredu.

 

Nodwyd bod y broses yn rhoi cyfle i bawb gael mewnbwn i’r adolygiad gwasanaeth. Cadarnhaodd fod yr adolygiad eisoes wedi cynnwys edrych ar  bwrpas y gwasanaeth,mesuryddion perfformiad, canfod barn cwsmeriaid, ac adolygu prosesau gwaith cyfredol.. Adroddwyd bod yr ymarferiad, er yn un dwys  yn cael mewnbwn cadarnhaol gan holl staff yr Uned Trwyddedu.

 

          Sylwadau yn codi o’r drafodaeth;

 

·         Angen sicrhau cysondeb ffioedd tacsi  - cais i gynnwys hyn yn y polisi diwygiedig

·         Awgrym i ystyried hyfforddiant arbenigol yng nghyd-destun diogelwch plant,  i yrwyr tacsi

·         Awgrym i gydweithio yn agosach gyda’r cwmnïau contractio

·         Awgrym i ystyried bod gyrwyr tacsi i gael hyfforddiant cymorth cyntaf. Er nad yn ofyn statudol, byddai i’w weld fel ymarfer da - cais i’w gynnwys yn yr adolygiad polisi