Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd John Brynmor Hughes a Dewi Wyn Roberts |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 19.6.17 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 o Fehefin 2017 fel rhai cywir. |
|
COFNODION IS BWYLLGORAU TRWYDDEDU PDF 241 KB Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinnol a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol: a) 26.7.17 b) 02.8.17 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfodydd o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd 26.7.17 a 2.8.17 |
|
ADOLYGIAD O'R DATGANIAD POLISI HAPCHWARAE PDF 123 KB I ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad drafft gan Pennaeth yr Amgylchedd yn gofyn
i’r Pwyllgor ystyried a chymeradwyo cynnwys y polisi, yn unol a Deddf Hapchware
2005, ar gyfer ei fabwysiadu gan y Cyngor Llawn. Atgoffwyd yr Aelodau, yng nghyfarfod Pwyllgor 6.3.17 wrth drafod y
polisi drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, bod pryderon wedi codi
ynglŷn ag amlder hysbysebion hapchwarae oedd yn ymddangos ar sianeli
teledu a’r rhyngrwyd. Amlygwyd, bod yr Adran Trwyddedu wedi cyfleu'r pryderon
i’r Comisiwn Hapchwarae, a bellach wedi derbyn ymateb i’r pryderon hynny. Fe
ddarllenwyd y llythyr allan yn y cyfarfod. Nodwyd bod y ‘Department for
Digital, Culture, Media & Support’ (DCMS) wedi cwblhau arolwg gyda
thystiolaeth i’w gyhoeddi at ddiwedd mis Hydref 2017. Tybiwyd y byddai’r
dystiolaeth yn ymateb mewn rhyw fodd i’r pryderon a amlygwyd gan y Pwyllgor. Mewn ymateb i’r llythyr gwnaed sylw bod sawl awdurdod yn gyfrifol am y
gadw rheolaeth a bod angen i’r Cyngor gadw llygad ar y mater ac ystyried
canfyddiadau'r adolygiad pan fyddant yn cael eu cyhoeddi. Derbyniwyd
y wybodaeth a gyflwynwyd yn y llythyr. Nodwyd bod Adran 349 o’r Ddeddf Hapchwarae yn gofyn i Awdurdodau
Trwyddedu, bob tair blynedd, baratoi a chyhoeddi datganiad o egwyddorion
trwyddedu y maent yn dymuno eu rhoi ar waith wrth ymgymryd â’u swyddogaethau yn
unol â’r Ddeddf. Nodwyd bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei gynnal am gyfnod o
12 wythnos ac ni dderbyniwyd unrhyw ymatebion i’r ymgynghoriad. Eglurwyd mai’r cam nesaf fydd i’r polisi
drafft gael ei asesu gan y Swyddog Cydraddoldeb. Wedi hynny bydd yr Aelod Cabinet yn
cyflwyno’r Datganiad i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Datganiad Polisi Hapchwarae drafft yn unol â
Deddf Hapchwarae 2005 gan ei gymeradwyo ar gyfer ei fabwysiadu gan y Cyngor
Llawn, yn dilyn asesiad gan y Swyddog Cydraddoldeb. |