Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr, Annwen Daniels, Dilwyn Lloyd, Peter Read a John Wyn Williams a Gareth Jones (Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd)

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Nodwyd bod yr hyfforddiant diweddar ‘Licensing for Members’ gan Mr Jim Button wedi bod yn fuddiol iawn ac wedi amlygu i’r Aelodau bod y pedwar amcan trwyddedu yn ganolog i bob penderfyniad.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 273 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 1.12.15 fel rhai cywir   . 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 1af o Rhagfyr 2015 fel rhai cywir.

 

5.

COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU pdf eicon PDF 212 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion cyfarfod o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar y dyddiad canlynol:-

 

09.10.15

24.11.15

21.12.15

12.01.16

29.01.16

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar

 

09.10.15

24.11.15

21.12.15

12.01.16

29.01.16

 

6.

POLISI GAMBLO CYNGOR GWYNEDD

Ystyried adroddiad y Rheolwr Trwyddedu

 

Dogfen i ddilyn

Cofnod:

Cafwyd diweddariad  ar lafar gan y Rheolwr Trwyddedu yn amlygu  dyletswydd  y Cyngor  i adolygu eu Datganiad o Bolisi Deddf Gamblo 2005 bob tair blynedd. Yn unol â’r trefniadau a weithredwyd i ddiweddaru Datganiad Polisïau  Deddf Trwyddedu 2003, nodwyd bod Grŵp Gogledd Cymru wedi penderfynu defnyddio'r un broses i fynd ati i adolygu a diweddaru Datganiad o Bolisïau Gamblo ar gyfer 2016 - 2019. Adroddwyd bod un cyfarfod ar y cyd eisoes wedi ei gynnal i gytuno ar y strwythur a’r cynnwys, gyda bwriad bellach i fwrw ymlaen i weithredu addasiadau i’r polisi. Nodwyd y byddai'r Polisi yn dilyn steil a fformat  Polisïau Deddf Trwyddedu y Cyngor er mwyn sicrhau cysondeb.

 

Ategwyd mai un newid ar gyfer y cyfnod yma o addasiadau  yw i ymateb i’r gofyn i greu ‘proffil ardal lleol’. O Ebrill 2016 ymlaen bydd angen i bob eiddo sydd â thrwydded Gamblo baratoi asesiad risg ar gyfer y busnes fydd yn ystyried y lleoliad a’r mathau o bobl sydd o’i amgylch, i sicrhau eu bod yn cadw at yr amcanion gamblo. Pwrpas y ‘proffil ardal lleol’ yw  cynorthwyo'r busnesau hyn  i lunio asesiad risg  -  drwy rannu gwybodaeth am natur Gwynedd (toriad o’r boblogaeth, defnydd o’r iaith Gymraeg, ffaith bod llawer o dwristiaeth yn y Sir  a bod natur gamblo yn cyd fynd a’r meysydd carafanau mawr), bydd y wybodaeth yn llunio patrymau er mwyn creu darlun clir o’r sefyllfa ar gyfer y busnesau.

 

Adroddwyd bod y Rheolwr Trwyddedu wedi dechrau ar y gwaith o lunio polisi drafft gyda bwriad o’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trwyddedu cyn dechrau ar y broses ymgynghori gyhoeddus, unwaith bydd y ‘proffil ardal lleol’ wedi ei gwblhau,  O ran amserlen, nodwyd y dylai’r Polisi Drafft fod yn barod erbyn mis Mehefin 2016.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

·         Cymeradwyo yr angen i adolygu’r Datganiad o Bolisi Gamblo

·         Cynnydd mewn hysbysebion gamblo ar y teledu ac felly angen sicrhau bod y polisiau yn addas a chywir

 

Derbyniwyd y wybodaeth ac awgrymwyd cynnal cyfarfod arbennig petai'r Polisi Drafft wedi ei gwblhau cyn hynny.

 

7.

YMARFERIAD FFORDD GWYNEDD GYDA THRWYDDEDU

Adroddiad ar lafar gan Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd

Cofnod:

Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Rheolwr Trwyddedu ar ymarferiadau diweddar  gan y gwasanaeth i adolygu prosesau gwaith Trwyddedu er mwyn sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i’r hyn sydd yn cael ei weithredu. Nodwyd bod sawl holiadur wedi ei gwblhau i ganfod barn a sylwadau am waith yr adran ac ategwyd bod y sylwadau hyn wedi bod yn gefnogol iawn ac wedi cynnig ystyriaethau posib e.e.,  cyfleoedd hunanwasanaeth. Adroddwyd mai'r cam nesaf yw rhestru ac adolygu'r prosesau hyngan eu blaenoriaethu yn ôl eu hangen.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth;

·         Awgrym y dylid sicrhau cyfathrebu a chydweithio da rhwng yr unedau gwahanol o fewn Gwarchod y Cyhoedd i sicrhau bod unrhyw gŵyn neu sylw yn cael ei gyfarch.

·         Awgrym i gynnal ymweliadau di rybudd neu gwsmer ffug i fusnesau

·         Angen addysgu'r cyhoedd o ofynion ac amserlen gwrandawiad

·         Angen addysgu darparwyr gwasanaeth

·         Angen amlygu prinder adnoddau i’r Pwyllgor Trwyddedu

 

Mewn ymateb i’r sylw ynglŷn ag amserlen gwrandawiadau, nodwyd bod bwriad i fesur y perfformiad yma drwy ddangosydd newydd - ‘cyfnod prosesu cais’.

 

Ategwyd bod adnoddau'r Uned Trwyddedu yn dynn iawn ac awgrymwyd efallai mai canlyniad  ymarfer Ffordd Gwynedd fydd yr angen am adnoddau ychwanegol.

 

Diolchwyd i’r Rheolwr Trwyddedu am y wybodaeth a rhoddwyd canmoliaeth i’r Uned fechan am eu  gwaith da.