skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

 

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr, Craig ab Iago, Annwen Hughes, Louise Hughes, Dilwyn Lloyd, a Peter Read.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatgan o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 221 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod diwethaf y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 3 Tachwedd 2015 fel rhai cywir.

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 3ydd o Dachwedd 2015 fel rhai cywir.

           

5.

CANLYNIAD YR YMGYNGHORIAD STATUDOL AR DDATGANIAD O BOLISI DRAFFT - DEDDF TRWYDDEDU 2003 pdf eicon PDF 159 KB

Cyflwyno  adroddiad Pennaeth yr Adran Rheoleiddio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cyflwynwyd  adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu yn gosod gwybodaeth gefndirol i’r ymgynghoriad statudol cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng y 4ydd o Dachwedd a’r 24ain o Dachwedd. Cyfeiriwyd at daflen gyswllt a oedd yn crynhoi manylion yr ymgynghoriad.

 

Nodwyd bod yr Uned Trwyddedu wedi derbyn un ymateb i’r ymgynghoriad oddi wrth Uwch Swyddog Polisi ac Ymchwil ‘Alcohol Concern Cymru’, Caerdydd. Ategwyd bod y sylwadau a dderbyniwyd yn ddefnyddiol iawn a gofynnwyd i’r Pwyllgor eu hystyried.

 

Y sylw cyntaf oedd bod cyfle i’r awdurdod nodi bod Iechyd Cyhoeddus, er nad ydyw yn un o’r amcanion trwyddedu, yn bwysig i’r awdurdod ac awgrymwyd y dylid addasu geiriad y polisi er mwyn annog ymgeiswyr i ddangos yn eu hatodlen weithredu sut y byddent yn cyfrannu at nôd y Cyngor o hybu ffordd iachach o fyw.

 

Mewn ymateb i’r sylw, mynegodd yr aelodau bod amlygu pryderon fel hyn yn galonogol ac felly derbyniwyd yr angen i addasu geiriad 2.14 o’r polisi.

 

Yr ail sylw oedd cynnwys atodiad sydd yn rhestru amodau cryf y gellid eu gosod ar drwyddedau er mwyn rhwystro hyrwyddiadau anghyfrifol ac arddangosfeydd o alcohol. Nodwyd bod geiriad y polisi yn dderbyniol ac yn unol ar Ddeddf, ac ni ddylai Awdurdod Trwyddedu ddefnyddio amodau safonol.

 

Y trydydd sylw a wnaed oedd cais i gynnwys mwy o ystadegau yn y polisi, ond amlygwyd bod yr atodiad perthnasol wedi ei baratoi ar y cyd gyda Chynghorau Lleol eraill ar draws Gogledd Cymru ac felly penderfynwyd peidio addasu’r geiriad.

 

Ategwyd bod ymateb wedi ei anfon at ‘Alcohol Concern Cymruyn cydnabod eu sylwadau ac y bydd ymateb pellach o’r penderfyniad yn cael ei anfon drwy lythyr at yr ymatebydd.

 

PENDERFYNWYD

 

a)         DERBYN ADDASIAD I BARAGRAFF 2.14 O’R DATGANIAD YN UNOL Â’R SYLWADAU A DDERBYNIWYD

 

b)         CYMERADWYO Y DATGANIAD O BOLISI TRWYDDEDU AR GYFER YSTYRIAETH Y CYNGOR LLAWN AR Y 10 FED O RAGFYR 2015

6.

ADDASIAD I DDEDDF TRWYDDEDU 2003 - GORCHYMYN DIWYGIO DEDDFWRIAETHOL (TRWYDDEDU ADLONIANT ) 2014

Derbyn diweddariad ar lafar gan y Rheolwr Trwyddedu

Cofnod:

a)         Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Rheolwr Trwyddedu yng nghyd-destun newidiadau i weithgareddau a ystyrir fel adloniant wedi ei reoleiddio. Mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Canolog a gynhaliwyd ar y 9fed o Fawrth 2015, tynnwyd sylw penodol at ddiwygiad,

 

Nid oes angen trwydded rhwng 8am ac 11pm ar unrhyw ddiwrnod, heb unrhyw gyfyngiad ar nifer y gynulleidfa i unrhyw adloniant sy’n digwydd ar eiddo’r awdurdod lleol os yw’n adloniant sy’n cael ei ddarparu gan neu ar ran yr awdurdod lleol

 

Atgoffwyd yr aelodau o’u penderfyniad, i’r Adran Trwyddedu gysylltu gyda’r Adran Addysg i amlygu’r newidiadau ynghyd a’r amodau (tu allan i oriau yn unig) gan fod potensial yma i arbed £16k y flwyddyn mewn taliadau trwyddedau (gan fod pob trwydded ysgol yn 24awr, a bod yr Adran Addysg yn berchen pob trwydded).

 

Mewn ymateb i’r penderfyniad hynny, nodwyd bod yr Adran Trwyddedu wedi llythyru pob ysgol yng Ngwynedd ac wedi derbyn 10 ymateb hyd yma. Ategwyd y byddai’r Adran Trwyddedu yn parhau i atgoffa eraill i ymateb.

 

b)         Mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Trwyddedu Canolog a  gynhaliwyd ar yr 22ain o Fehefin 2015, amlygwyd bod y  Ddeddf Dadreoli 2015 yn ymdrin ag amrediad eang o fesurau a oedd yn cynnwys effeithiau ar 'alcohol, chwaraeon ac adloniant' ac yn benodol Deddf Trwyddedu 2003. Nodwyd y byddai’r newidiadau yn cael eu cyflwyno yn raddol.

 

Un o’r newidiadau diweddar (dod i rym 1.10.15) yw rhoi pwerau i’r Uned Trwyddedu eithrio cyflenwadau bwyd poeth gyda chanllawiau priodol ar gyfer gweithredu hyn. Nodwyd hefyd y bydd Awdurdod Lleol a’r gallu i osod ardal benodol / neu o ddisgrifiad dynodedig e.e., gorsafoedd petrol, eiddo Awdurdod Lleol llai na 500, ysgolion llai na 500, ysbytai, neuaddau , eglwysi, eiddo sydd yn ddiwygiedig i werthu alcohol. Ategwyd, petai’r Cyngor yn penderfynu defnyddi’r pwerau hyn, buasai rhaid dilyn proses ymgynghorol er mwyn rhannu gwybodaeth o ran gosod ardaloedd dynodedig. Nodwyd, nad oedd y Cyngor wedi gosod ardaloedd dynodedig ac roedd hyn wedi ei nodi yn y polisi diwygiedig.

 

Mewn ymateb i’r sylw, nodwyd bod hwn yn ddarn o waith sylweddol a bod angen cynnal trafodaethau gyda chynghorau ar draws Gogledd Cymru ac yn Genedlaethol i weld datblygiadau cyn symud ymlaen.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth a gwnaed cais i’r Uned Trwyddedu roi diweddariad ar bob diwygiad / ymgynghoriad fel y byddant yn dod i rym