Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Dilwyn Morgan a Peter Read

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 105 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 12.12.16 fel rhai cywir   . 

 

Cofnod:

          Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 12fed o Ragfyr 2016 fel rhai cywir yn ddarostyngedig i nodi fod y Cynghorydd Annwen Hughes yn bresennol.

 

 

5.

ADOLYGIAD O'R DATGANIAD POLISI HAPCHWARAE pdf eicon PDF 127 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd Datganiad Polisi Hapchwarae drafft i’r Aelodau ei ystyried a’i gymeradwyo cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn unol â Deddf Hapchwarae 2005. Amlygwyd prif ddibenion y Ddeddf Hapchwarae ynghyd â gofynion y Comisiwn Hapchwarae i weithredwyr hapchwarae asesu’r risgiau lleol i’r amcanion trwyddedu sydd yn codi yn sgil darparu cyfleusterau hapchwarae ynghyd â chael polisïau, gweithdrefnau a mesurau rheoli i liniaru’r risgiau hynny.

 

Nodwyd bod y Polisi drafft wedi ei baratoi mewn ymgynghoriad â Grŵp Trwyddedu Gogledd Cymru gyda’r nod o sicrhau cysondeb ledled y rhanbarth. Ategwyd bod Gwynedd wedi cyflwyno’r fformat a bod Cynghorau eraill y Gogledd wedi ei fabwysiadu. Derbyniwyd hyn fel gwybodaeth gadarnhaol.

 

Adroddwyd y byddai'r cyfnod ymgynghori yn parhau am 12 wythnos gyda’r Awdurdod Trwyddedu yn rhoi sylw i’r ymatebion a dderbynnir. Wedi cwblhau'r broses, bydd y Datganiad drafft terfynol yn cael ei ail gyflwyno i’r Pwyllgor Trwyddedu, fydd yn argymell i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu (hyn yn ofynnol o dan Adran 154 o’r Ddeddf Hapchwarae 2005).

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Amlygu pryder bod hysbysebion hybu hapchwarae diddiwedd ar y teledu

·         Bod cael mynediad at wasanaethau gamblo yn rhy hawdd

·         Bod cwmnïau yn annog pobl i brynu tocynnau loteri drwy symleiddio prosesau talu dros y we

·         Rhaid ystyried cymunedau bregus – diffyg arian gwario

·         Peiriannau hapchwarae mewn tafarndai - angen osgoi gosod y rhain mewn ardaloedd bwyta teuluoedd / allan o gyrraedd plant

·         Bod angen i’r Bwrdd Iechyd fod yn rhan o’r ymgynghoriad

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r pryderon a amlygwyd, nodwyd bod rheolaeth hysbysebion teledu tu allan i reolaeth y Pwyllgor Trwyddedu a’r Awdurdod Trwyddedu ac mai'r Comisiwn Hapchwarae oedd yn gyfrifol am y rheoleiddio.

 

Awgrymwyd anfon llythyr at y Comisiwn, Aelodau Cynulliad Arfon a  Dwyfor  Meironnydd a’r Aelodau Seneddol lleol i fynegi pryderon y Pwyllgor ar fynediad hawdd i wasanaethau hapchwarae. Amlygwyd bod dyletswydd gofal ar y Pwyllgor i amlygu hyn er mwyn gwarchod unigolion bregus.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â defnyddio swyddogion i wneud archwiliadau ar hap mewn siopau betio nodwyd na fuasai archwiliadau yn cael eu gweithredu oni bai bod asesiad risg wedi ei wneud neu dystiolaeth wedi ei gyflwyno bod pryderon / cwynion am y lleoliad / siop. Cadarnhawyd bod prawf brynu ar eitemau megis tybaco ac alcohol ond nid ar eitemau betio. Amlygwyd mai'r rheswm dros hyn oedd oherwydd nad yw’n ofyn statudol, ond petai'r Pwyllgor yn penderfynu bod hyn yn fuddiol,  ni ragwelwyd rhesymau dros beidio.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag amseriad cyflwyno datganiad drafft i Bwyllgor cyn yr etholiad a bod aelodaeth y Pwyllgor yn debygol o newid erbyn cyfnod derbyn y datganiad terfynol, nodwyd bod pob Awdurdod ar draws y Gogledd wedi cytuno cyflwyno‘r datganiad o fewn yr un cyfnod.

 

PENDERFYNWYD yn unfryfol, cymeradwyo y Datganiad Polisi Hapchwarae drafft yn unol a Deddf Hapchwarae 2005 ar gyfer ymgynhgoriad cyhoeddus a cynigiwyd y sylwadau isod:

 

·         yr Awdurdod Trwyddedu i ddrafftio llythyr yn enw’r Cadeirydd a’i anfon at y Comisiwn Hapchwarae i fynegi pryderon  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.