skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Peter Read, Louise Hughes, Tudor Owen a Elfed W. Williams

 

Adroddwyd bod y Cynghorydd Tudor Owen wedi derbyn llawdriniaeth yn ddiweddar a dymunwyd gwellhad buan iddo a phenderfynwyd anfon cerdyn iddo gan y Pwyllgor.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd

yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 218 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 20.06.16 fel rhai cywir    

 

Cofnod:

         

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 20fed o Fehefin 2016 fel rhai cywir.

5.

COFNODION IS BWYLLGORAU TRWYDDEDU pdf eicon PDF 185 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth cofnodion cyfarfod o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar y dyddiad canlynol:-

 

 

a)    21.07.2016

b)    09.08.2016

c)    15.08.2016

ch)  24.08.2016

d)    07.09.2016

dd)   31.10.2016

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar

 

21.07.16,  09.08.16,  15.08.16,  24.08.16,  07.09.16  a  31.10.16

 

Amlygwyd bod nifer o wrthwynebidau wedi eu derbyn ar gyfer gwrnadawiadau 07.09.16 a 31.10.16 ond nad oedd unrhyw un o’r gwrthwynebwyr wedi troi i fyny i’r is bwyllgorau. Mewn ymateb, nododd y cyfriethiwr bod y sylw wedi ei gynnwys fel rhan o’r rhesymau swyddogol dros y penderfyniad yn y cofnod.

 

 

6.

DIWEDDARIAD POLISI HAPCHWARAE

Diweddariad ar lafar gan y Rheolwr Trwyddedu

Cofnod:

Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Rheolwr Trwyddedu yn amlygu bod y Polisi Hapchwarae / Gamblo wedi ei ddiweddaru gan nodi ei fod yn amlygu blaenoraethau y Cyngor. Adroddwyd bod angen i gynghorua eraill Gogledd Cymru gwblhau ei polisiau hwy er mwyn sicrhau bod cynghorau y Gogledd yn mynd i’r un cyfeiriad er mwyn sicrhau cysondeb. Unwaith bydd y polisiau wedi eu cysoni, bydd y polisiau yn mynd allan am gyfnod ymgynghori.

 

 

          PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth