Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2016/17 Cofnod: Penderfynwyd
ethol y Cynghorydd Tudor
Owen yn Gadeirydd y
Pwyllgor hwn am y cyfnod
2016 – 2017 Diolchwyd i’r Cynghorydd
Eryl Jones Williams am ei waith
fel Cadeirydd y Pwyllgor
2014 - 2016 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is
Gadeirydd ar gyfer 2016/17 Cofnod: Penderfynwyd
ethol y Cynghorydd Annwen Hughes
yn Is Gadeirydd y Pwyllgor
am y cyfnod 2016 - 2017 |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Peter
Read ac Wyn Williams a Geraint Brython (Cyfreithiwr) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad
o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y
cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 07.03.2016 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 7fed o Fawrth
2016 fel rhai cywir yn ddarostyngedig ar nodi bod y Cynghorydd Angela Russell
yn bresennol |
|
COFNODION IS BWYLLGORAU PDF 219 KB Cyflwyno,
er gwybodaeth cofnodion cyfarfod o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar y dyddiad canlynol:- i.
09.02.2016 ii.
04.03.2016 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod o’r
Is-bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar 07.03.16 05.04.16 |
|
POLISI DOSBARTHU FFILM PDF 180 KB I ystyried adroddiad Pennaeth yr Adran
Rheoleiddio Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Cyflwynwyd adroddiad
Pennaeth yr Adran Rheoleiddio yn argymell y Pwyllgor i fabwysiadau Polisi
Dosbarthu Ffilm yn ogystal â chymeradwyo codi ffi ar gyfer dosbarthu ffilm a
gweinyddu’r broses er pwrpas adennill costau yn unig. Amlygwyd bod Cyngor Gwynedd, fel yr Awdurdod Trwyddedu yn gyfrifol am
awdurdodi dangos ffilmiau’n gyhoeddus ac yn unol ag Adran 20 o Ddeddf Trwyddedu
2003. Nodwyd pan fo Trwydded Eiddo neu Dystysgrif Eiddo Clwb yn caniatáu dangos
ffilm (Iau), rhaid i’r drwydded gynnwys amod sydd yn nodi y dylid cyfyngu
mynediad plant i ffilmiau yn unol â’r argymhellion a wnaed unai gan y British
Board of Film Classification (BBFC), neu gan yr Awdurdod Trwyddedu.
Pwysleisiwyd bod rhaid i ffilmiau sy'n cael eu dangos yn gyhoeddus ar eiddo
trwyddedig gael eu dosbarthu gan y BBFC neu eu hawdurdodi gan yr Awdurdod
Trwyddedu dan bwerau Deddf Trwyddedu 2003. Nodwyd
mai pwrpas y Polisi Dosbarthu Ffilm yw llunio trefn ffurfiol i’r Awdurdod Trwyddedu ddosbarthu ffilm. Y prif
amcan trwyddedu mwyaf perthnasol yw Amddiffyn Plant Rhag Niwed. Amlygwyd yn yr
adroddiad y canllawiau perthnasol ar gyfer dosbarthu ffilm ynghyd â
sefyllfaoedd gwahanol y gall cais ddod i law. O
ran trefn, nodwyd y byddai'r pŵer i awdurdodi dosbarthiad ffilm yn cael ei
ddirprwyo i’r Pennaeth Rheoleiddio gan y Pwyllgor Trwyddedu Canolog. Unwaith
bydd ffilm wedi ei hawdurdodi gan yr Awdurdod Trwyddedu, bydd yn cael ei
awdurdodi ar gyfer arddangosfa neu ŵyl benodol yn unig, yn amodol ar yr
argymhellion a osodwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu (oni bai y gwnaed cais am
ailddosbarthiad pellach). Yng
nghyd-destun gosod ffioedd, amlygwyd nad oedd unrhyw ffi statudol wedi ei bennu yn y ddeddfwriaeth ar gyfer
pwrpas dosbarthu ffilmiau ac i adennill costau'r broses yn unig mae rhai
Awdurdodau lleol yn codi ffioedd. Ystyriwyd y byddai yn rhesymol cyflwyno ffi
am y broses fyddai yn adlewyrchu cost amser y swyddog yn gwylio’r ffilm ynghyd
a chost cynhyrchu a phrosesu’r dystysgrif. b)
Mewn ymateb i gwestiwn
nodwyd y bydd y ffi yn amrywio ac yn cael ei fesur yng nghyd-destun hyd y ffilm. O ran egwyddor, nid
oes angen gosod ffi rhy uchel gan fod angen hybu dangos ffilmiau ond eto rhaid
ystyried yr egwyddor o adennill costau. Awgrymwyd codi ffi am £30 am gynhyrchu
a phrosesu'r dystysgrif ynghyd ag amser swyddog yn gwylio’r ffilm. c)
Mewn ymateb i gwestiwn
nodwyd na fyddai’r polisi yn cael effaith
ar noson ffilmiau mewn neuaddau cymunedol cyn belled a bod trwydded gan
y neuadd. Amlygwyd mai cyfrifoldeb deilydd y drwydded fydd sicrhau bod trwydded
yn ddilys neu geisio am drwydded digwyddiad dros dro ynghyd a phenderfynu sut
fydd y digwyddiad yn cael ei reoli. ch) Mewn
ymateb i sylw bod angen cynnal trafodaeth am reoli ffilmiau / darnau o ffilmiau
ar ddyfeisiadau digidol, nodwyd bod cyfrifoldeb moesol ar aelodau a swyddogion
i fonitro hyn. Nodwyd bod y polisi yn
caniatáu gwrthod dosbarthu ffilm
(oherwydd rhesymau dadleuol, anaddas i blant neu peri pryder i gymdeithas), hyd
yn oed os yw wedi ei ddosbarthu gan y BBFC. d) Mewn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
POLISI HAPCHWARAE Diweddariad
ar lafar gan y Rheolwr Trwyddedu Cofnod: a)
Cafwyd diweddariad ar lafar
gan y Rheolwr Trwyddedu yn amlygu bod y Polisi Hapchwarae / Gamblo wedi ei
gwblhau (fersiwn drafft). Amlygwyd bod y proffiliau ardal wedi eu creu ac wedi
eu cyflwyno fel atodiad i’r polisi. Nodwyd nad oedd y polisi ar gael i’w
gyflwyno i’r aelodau gan fod angen sicrhau cysondeb gyda chynghorau eraill y
Gogledd. Nodwyd y byddai’r polisïau yn cael eu trafod mewn cyfarfod rhanbarthol
er mwyn sicrhau cysondeb a bod y gwaith yn mynd i’r un cyfeiriad. b)
Yng nghyd-destun y
proffiliau ardal, amlygwyd nad oedd rhain wedi amlygu problemau sylweddol megis
hotspots trosedd ac anrhefn o
ganlyniad i gamblo. c)
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan aelodau unigol: ·
Mai ardaloedd tlawd sydd yn
gweld yr effaith fwyaf ·
Pryder bod gamblo yn hawdd
cael ato ·
Gormod
o hysbysebion yn ymwneud â gamblo ar y teledu sydd yn annog pobl i ddefnyddio eu ffonau symudol i osod
bet. ch) Cynigiwyd ac eiliwyd i osod eitem ar raglen y
Pwyllgor i annog trafodaeth ar bryderon hapchwarae / gamblo gyda’r bwriad o
gyfeirio’r sylwadadu at y Comisiwn Gamblo. Derbyiwyd y sylw ac atgofffwyd yr aelodau y
byddai cofnodion o’r Pwyllgor hwnnw yn cael eu gwneud yn gyhoeddus. Nodwyd, pan fyddai’r Polisi yn cael ei gyhoeddi bydd cyfle i aelodau
unigol a/neu'r Pwyllgor gyflwyno
sylwadau. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth. |