Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Croesawyd pawb i’r Pwyllgor gan y Cadeirydd, y Cynghorydd
Eryl Jones- Williams yn arbennig y Cynghorwyr Annwen Daniels ac Wyn Williams
fel Aelodau newydd i’r Pwyllgor Trwyddedu. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y
Cynghorwyr, Craig ab Iago, Louise Hughes, Dilwyn Lloyd, W.Tudor Owen a Peter
Read. Anfonwyd dymuniadau gorau am wellhad buan i’r Cynghorwyr
Peter Read a Louise Hughes. Amlygwyd pryder eto bod angen adolygu presenoldeb aelodau mewn pwyllgorau i sicrhau bod Cynghorydd yn derbyn ei gyfrifoldeb i fynychu’r pwyllgorau y maent yn aelodau ohonynt. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatgan o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym
marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod diwethaf y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 14 Medi
2015 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 14eg o Fedi 2015 fel rhai cywir. |
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU PDF 220 KB Cyflwyno, er
gwybodaeth, cofnodion cyfarfod o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar y dyddiad canlynol:- a)
2.9.15 Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar 2.9.15 |
|
Cyflwyno adroddiad Pennaeth yr Adran
Rheoleiddio Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu. Gosodwyd gwybodaeth gefndirol yr adroddiad gan
nodi'r angen i bob awdurdod trwyddedu gyhoeddi datganiad o bolisi trwyddedu bob 5 mlynedd yn unol
ag Adran 5 Deddf trwyddedu 2003. Bydd pob awdurdod yn
adolygu eu polisi gan wneud
unrhyw ddiwygiadau a ystyrir yn briodol
o fewn y cyfnod pum mlynedd. Yng nghyd-destun Cyngor Gwynedd, nodwyd bod y polisi presennol wedi ei gymeradwyo gan
y Cyngor Llawn ar y 16 o Ragfyr 2010 gyda’r cyfnod 5 mlynedd yn dod
i ben ar y 6ed o Ionawr
2016. Bydd cyfnod ymgynghori priodol yn cael ei
weithredu cyn penderfynu a chyhoeddi polisi newydd. Amlygwyd,
fel rhan o’r prosiect cydweithio
Gwarchod y Cyhoedd ar draws Gogledd Cymru, sefydlwyd Grŵp Tasg i greu datganiad o bolisi trwyddedu ‘cyffredin’ ar draws Gogledd Cymru. Cytunwyd ar strwythur
‘Cynnwys’ y polisi, ond, oherwydd effaith
ffactorau economaidd a chymdeithasol ar bob awdurdod, eglurwyd bod pob datganiad wedi
ei eirio’n wahanol ac yn berthnasol
felly i ardal benodol. O ran fformat y polisi drafft newydd, eglurwyd bod ystyriaeth fanwl wedi ei roi
i hwyluso’r darllenydd i ddod at y wybodaeth. Creuwyd adrannau ac isadrannau i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar faterion a phwerau
sydd wedi dod i rym ers
i’r polisi presennol cael ei fabwysiadu yn
2010 (enghraifft o hyn yw’r Gorchmynion Cyfyngu Bore Cynnar ac Ardoll Hwyr y Nos).
Yn ychwanegol, amlygwyd bod geiriad y polisi wedi ei
addasu er mwyn cyfeirio at ddeddfwriaeth gyfredol (enghraifft o hyn yw bod diffiniad adloniant wedi ei rheoleiddio wedi ei addasu’n
sylweddol yn dilyn y Ddeddf Cerddoriaeth Byw 2012 a’r Ddeddf Dadreoleiddio
2015) a bod yr amcanion trwyddedu wedi ei hyrwyddo drwy’r
polisi. O ran trefniadau ymgynghoriad ffurfiol (fydd ar agor am 21 diwrnod),
nodwyd y bydd y polisi yn cael
ei rannu gyda; • Heddlu Gogledd Cymru • Gwasanaeth
Tan & Achub Gogledd Cymru • Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr • Pobl/Cyrff sy’n cynrychioli
busnesau a thrigolion y sir • Pobl/Cyrff sy’n cynrychioli
deiliaid trwydded/tystysgrif gyfredol • Cynghorwyr,
Cynghorau Cymuned ac awdurdodau cyfrifol. • Siop
Gwynedd ac gwefan Cyngor
Gwynedd Amlygwyd nad oedd unrhyw
faterion dadleuol yn y polisi ac felly ni ragwelir nifer
helaeth o ymatebion. Yn dilyn trafodaeth, nodwyd y sylwadau canlynol: Croesawu cydweithio da gyda swyddogion y Gogledd i sicrhau strwythur i’r datganiad Croesawu
bod asesiad cydraddoldeb wedi ei ddosbarthu Croesawu
bod amddiffyn plant yn cael ei gynnwys
yn y datganiad Croesawu
bod y datganiad yn haws i’w ddarllen a bod y prif faterion wedi
eu hamlygu. Diolchwyd
i’r Rheolwr Trwyddedu am ei gwaith o ddiweddaru a diwygio’r datganiad. PENDERFYNWYD CYMERADWYO'R
HAWL I BENNAETH ADRAN RHEOLEIDDIO DDECHRAU YMGYNGHORIAD STATUDOL AR Y DATGANIAD
O BOLISI TRWYDDEDU DRAFFT. BOD ADRODDIAD I’W GYFLWYNO I’R PWYLLGOR HWN 1AF O RAGFYR 2015, FYDD YN AMLINELLU’R YMATEBION A DDERBYNIWYD AC I’R PWYLLGOR YSTYRIED NEWIDIADAU ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |