Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Y Ganolfan, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9LU

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2018/19.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19.

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd am 2018/19.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Nia Jeffreys yn is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19.

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Ioan Thomas (Aelod Cabinet Datblygu’r Economi).

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Nododd y Cadeirydd nad oedd Barry Davies, Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd ei fod i ffwrdd o’r gwaith o ganlyniad i anaf. Dymunwyd adferiad buan iddo.

 

Nododd aelod ei werthfawrogiad o broffesiynoldeb a dyfalbarhad staff yn wyneb ymddygiad annerbyniol unigolion mewn digwyddiad ar draeth Morfa Bychan. Ategwyd y sylw gan nodi diolchiadau aelodau’r Pwyllgor.

 

Llongyfarchwyd Dr John Jones-Morris (Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden) ar ei benodiad yn Ddirprwy Gomodor Clwb Hwylio Madog.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 74 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2018, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 7 Mawrth, 2018, fel rhai cywir.

7.

DIOGELWCH HARBWR

I ystyried unrhyw fater diogelwch harbwr.

Cofnod:

Ni nodwyd unrhyw fater o ran diogelwch harbwr.

8.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 71 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Tywysodd yr Uwch Swyddog Harbyrau yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Mewn ymateb i argymhellion Asiantaeth Gwylwyr y Glannau, yn eu hadroddiad ar drefniadau a systemau diogelwch harbyrau bwrdeistrefol Gwynedd a chydymffurfiaeth â’r Côd Diogelwch Morol, byddai Cabinet y Cyngor yn cael eu penodi’nDdeilydd Dyletswydd’ a Chapten M. Forbes (Harbwr Feistr Conwy) ynBerson Dynodedig’.

·         Bod archwilwyr Asiantaeth Gwylwyr y Glannau i fod i ail-ymweld â’r gwasanaeth a rhoi cyflwyniad i’r Pwyllgor ynghylch y Côd Diogelwch Morol. Fodd bynnag, oherwydd amgylchiadau annisgwyl, gohiriwyd yr ymweliad tan fis Mawrth 2019 i gyd-fynd â chyfarfod y Pwyllgor hwn.

·         Daeth cyfnod cyflogaeth Cymhorthydd Harbwr Porthmadog (tymhorol) i ben 30 Medi 2018. I sicrhau cymorth gyda gwaith yr harbwr, ymestynnwyd y cyfnod cyflogaeth ar drefniant tri diwrnod yr wythnos, mis ar y tro.

·         Yn ddibynnol ar gyfyngiadau ariannol a chyllidebol, bod y gwasanaeth yn chwilio am bosibilrwydd cyflogi cymhorthydd harbwr llawn amser i weithio yn harbyrau Porthmadog, Aberdyfi ac Abermaw. Byddai swydd cymhorthydd harbwr ym Mhorthmadog fel arall yn dychwelyd i weithio'n llawn amser ar 1 Ebrill 2019.

·         Cyfeiriwyd at grynodeb bras o gyllidebau'r harbwr a'r sefyllfa ariannol bresennol hyd at ddiwedd y chwarter.

·         O safbwynt ffioedd a thaliadau arfaethedig Harbwr Porthmadog yn ogystal â ffioedd lansio Badau Dŵr Personol yn 2019/20, bwriad y gwasanaeth oedd addasu'r ffioedd yn unol â'r gyfradd chwyddiant. Disgwylir am gadarnhad o’r cyfraddau oedd i’w defnyddio.

 

Cyflwynodd Harbwr Feistr Porthmadog adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb o'r materion mordwyo a gweithredol a gododd yn ystod y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Medi 2018, gan gynnwys materion cynnal a chadw a digwyddiadau yn ystod y cyfnod. Diolchodd i Gynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub a chriw Bad Achub Cricieth am eu cymorth wrth ymdrin â suddiad y cwch catamaran ‘Jessica’s Day’ yn yr Harbwr gyda’r nos ar 23 Gorffennaf.

 

Nododd Cynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub bod Bad Achub Cricieth wedi ymateb i 3 galwad yng nghyswllt unigolion mewn trafferth ar Fanc y Gogledd ar draeth Y Graig Ddu, gan achub bywyd 10 unigolyn. Pwysleisiodd pwysigrwydd bod yr arwyddion diogelwch newydd yn cael eu gosod mor fuan â phosib. Cyfeiriodd at y bwriad i dynnu rhai o’r arwyddion yn ystod misoedd y gaeaf er lleihau difrod gan y tywydd garw, gan nodi ei bryder. Nododd nad oedd y risg yn lleihau yn ystod y gaeaf gyda digwyddiadau yn bosib yn ystod y cyfnod.

 

Nododd aelod y dylid gweithredu yn unol â chyfarwyddyd Sefydliad y Bad Achub. Mewn ymateb, nododd Harbwr Feistr Porthmadog y byddai’r arwyddion diogelwch yn cael eu gosod yn unol â’r hyn a gytunwyd mewn ymgynghoriad â Sefydliad y Bad Achub.

 

Nododd aelod bod y gwaith a wnaed fel rhan o’r Cynllun Lliniaru Llifogydd ym Morth-y-gest wedi bod yn destun trafod. Ymhelaethodd bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 6 Mawrth 2019.

Cofnod:

Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 6 Mawrth, 2019.