skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Glaslyn, Y Ganolfan, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9LU. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2019/20.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20.

 

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am 2019/20.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Nia Jeffreys yn is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod Cabinet Datblygu’r Economi), Llyr B.Jones (Uwch Reolwr Economi a Chymuned) a Malcolm Humphreys (Harbwrfeistr Porthmadog) (oedd newydd golli ei fam-yng-nghyfraith).

 

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Nodi unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Grisiau’r Môr

 

Nododd Cynrychiolydd Cyngor Tref Porthmadog y dymunai godi mater ynglŷn â Grisiau’r Môr ar gais unfrydol y Cyngor Tref yn eu cyfarfod y noson cynt, gan adrodd yn ôl i’r Cyngor Tref ar y mater yn eu cyfarfod nesaf.  Nododd y Cadeirydd nad oedd gwrthwynebiad i drafod hyn.

 

Eglurodd Cynrychiolydd y Cyngor Tref fod llythyru wedi bod ers cryn amser rhwng y Cyngor Tref a’r Uned Forwrol a Pharciau Gwledig a Chlwb Hwylio Porthmadog ynglŷn â mynediad i’r cyhoedd i Risiau’r Môr.  Pwysleisiodd fod y grisiau hyn yn rhan o etifeddiaeth a hanes tref Porthmadog a bod y Cyngor Tref yn gryf o’r farn bod angen gwarchod traddodiad oes o hawl pobl leol i fwynhau Grisiau’r Môr.  Cyfeiriodd at y gwaith o adeiladu mynediad i pontwns i lawr Grisiau’r Môr rhwng 2002 a 2004, gan bwysleisio fod llythyr a dderbyniodd y Cyngor Tref gan y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig dyddiedig 16 Medi, 2019 yn nodi “pan ddatblygwyd y cynllun gosod pontŵn gwreiddiol gan glwb hwylio, bu i’r Gwasanaeth Morwrol a Pharciau Gwledig sicrhau na fyddai’r datblygiad yn cyfyngu mynediad at y dŵr ger safle’r Grisiau Llechi [Grisiau’r Môr]”.  Roedd y llythyr hefyd yn nodi “gwerthwyd hyn i’r Clwb Hwylio, ac mae’n bosib’ bod hyn wedi’i gofnodi mewn cyfarfod o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog”. 

 

Nododd ymhellach fod y giât fetel gydag arwydd ‘Dim mynediad heibio’r pwynt yma’ arni yn gwrthddweud cyfarwyddyd yr Uned Forwrol a Pharciau Gwledig, ar adeg cynllun gosod y pontŵn gwreiddiol, bod mynediad i’r cyhoedd yn parhau.  Yn wir, roedd bellach yn amhosib’ cael mynediad i’r grisiau hanesyddol gwreiddiol eu hunain oherwydd bod Pont Mynediad y pontŵn wedi ei adeiladu ar eu pennau, ac roedd angen cywiro hyn.

 

Nododd y Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden fod y Clwb Hwylio wedi ysgrifennu at y Cyngor Tref dair gwaith yn egluro’n union beth yw’r sefyllfa, a bod yr arwydd yn nodi’n glir bod gan unrhyw un sy’n defnyddio’r harbwr hawl i gael mynediad i’r dŵr i lwytho / dadlwytho cychod, ayb.

 

Nododd Cynrychiolydd y Cyngor Tref fod yr arwydd yn dweud “Arwydd diogelwch - mynediad preifat - Pontŵn at ddefnydd defnyddwyr yr Harbwr yn unig - dim pysgota na chrabio”.  Nid oedd y geiriau ‘mynediad preifat’ na’r giât haearn yn gwahodd mynediad i’r pontŵn, hyd yn oed i ddefnyddwyr cychod, ac roedd yn gwneud i bobl deimlo fel eu bod yn tresbasu ar eiddo preifat. 

 

Mewn ymateb, eglurodd y Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden fod yr arwydd yn dweud ‘mynediad preifat’ oherwydd bod y ramp ym mherchnogaeth y Clwb Hwylio, a hwy hefyd oedd yn gyfrifol am ei archwilio, ei gynnal a’i gadw a’i yswirio.  Gan hynny, roedd yn ofynnol gosod rhyw fath o gyfyngiad ar bwy fyddai’n cael mynd yno, ond ategodd y ffaith bod gan unrhyw un sy’n defnyddio’r harbwr hawl i fynd i lawr i’r dŵr.

 

Esboniodd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig fod yr Uned wedi cydweithio gyda’r Clwb Hwylio, y pwyllgor hwn a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 91 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Mawrth, 2019 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Mawrth, 2019, fel rhai cywir.

 

Materion yn codi o’r cofnodion

 

Eitem 2 – Materion Brys

 

Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig y cafwyd trafodaeth bellach gyda Chwmni Wynnes ac y rhoddwyd neges glir iawn iddynt na fyddai’n ymarferol gwagio Harbwr Porthmadog o gychod ym Mehefin / Gorffennaf 2020 er mwyn i long oedd ynghlwm â gwaith trawsnewidyddion yn Nhrawsfynydd a Ffestiniog dramwyo’r harbwr.  Awgrymwyd i’r cwmni edrych ar leoliadau eraill ac roeddent yn y broses o asesu’r posibiliadau ar draeth Morfa Bychan, fyddai’n golygu dod â’r llong i mewn ar lanw uchel, glanio a sychu allan.  Byddai’r lori yn gadael y llong ac yn gwneud ei ffordd ar hyd y ffordd gyhoeddus at gyfeiriad Trawsfynydd.  Cadarnhawyd bod y ffordd yn ddigon llydan i gymryd y llwyth a chafwyd trafodaethau cychwynnol gydag Adran Briffyrdd y Cyngor ynglŷn ag ansawdd / cryfder y ffordd i dderbyn y llwyth.  Mater i’r cwmni fyddai gwneud asesiad o’r hyn fyddai ei angen a’r costau, ond gan na chlywyd dim pellach ganddynt ers hynny, roedd yn annhebygol iawn y byddai’r llong yn dod i’r ardal ym mis Mehefin wedi’r cyfan, ond rhoddid gwybod i aelodau’r pwyllgor petai yna unrhyw ddatblygiadau yn y cyfamser.

 

7.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETH YR HARBWR pdf eicon PDF 71 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion yr Harbwr ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mawrth 2019 a mis Hydref 2019.  Gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr Harbwr.

 

Dosbarthwyd y canlynol yn y cyfarfod:-

 

·         Crynodeb o gyllideb yr Harbwr a’r sefyllfa ariannol bresennol hyd at ddiwedd Medi, 2019.

·         Drafft o’r ffioedd a’r taliadau arfaethedig ar gyfer Harbwr Porthmadog yn 2020/21 (yn cynnwys a heb TAW).  Nodwyd y byddai’r drafft yn cael ei gyflwyno i’r Aelod Cabinet ym mis Rhagfyr.

 

Nodwyd bod y ffigurau cofrestriadau cychod pŵer a chychod dŵr personol yng Ngwynedd ym mharagraffau 2.4 a 2.6 o’r adroddiad yn wahanol i’r hyn a nodwyd yn y tablau yn yr atodiadau i’r adroddiad.  Eglurwyd na pharatowyd y ddau set o wybodaeth ar yr un adeg, ond y byddai’r ffigurau’n cael eu cysoni erbyn y cyfarfod nesaf.

 

Nododd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig bod aelod wedi holi sut roedd y Cyngor am ddelio gyda phroblem y cynnydd yn y mwd / tywod sy’n casglu ochr y trên bach o’r Harbwr.  Eglurwyd, er bod gan Gyngor Gwynedd, fel yr Awdurdod Harbwr, yr hawl i garthu’r Harbwr, nad oedd gorfodaeth arno i wneud hynny.  Roedd y gwaith o garthu unrhyw harbwr yn hynod gymhleth a chostus.  Bu rhywfaint o waith carthu’r Harbwr yn 1994, gan gludo’r mwd oddi yno i safle gwaredu cyfagos, ond gan fod hynny bellach yn groes i reoliadau Ewrop, byddai’n rhaid cludo’r deunydd i safle tua 15 milltir i’r Gogledd o Gaergybi.  Er bod y trefniadau, y lefelau incwm a’r hawliau mewn lle i garthu harbyrau Pwllheli a Chaernarfon, ni ragwelid y byddai’n bosib’ gwneud y math yma o waith ym Mhorthmadog, Abermaw nac Aberdyfi.  Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan yr aelod, eglurodd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig nad oedd y cynnydd yn y mwd / tywod yn yr Harbwr yn arwain at golli llefydd i angori mwy o gychod gan fod yna lawer o gapasiti yn yr Harbwr ar hyn o bryd i gymryd angorfeydd.  Holwyd ai perchnogion y tai ar ochr bela’r Harbwr oedd â hawl ar yr angorfeydd yno.  Mewn ymateb, nodwyd bod sedd y Cynrychiolydd Buddiannau Perchnogion Tir ar y pwyllgor hwn yn wag ar hyn o bryd a bod ganddynt hawl i enwebu cynrychiolydd i ddod i’r cyfarfodydd.

 

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Harbyrau adroddiad yr Harbwrfeistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng mis Mawrth 2019 a mis Hydref, 2019, gan gynnwys materion cynnal a chadw.

 

Dosbarthwyd y canlynol yn y cyfarfod:-

 

·         Drafft o’r Is-ddeddfau Harbwr a gofynnwyd i aelodau’r pwyllgor gyflwyno unrhyw sylwadau fyddai ganddynt ar yr is-ddeddfau drafft cyn 31 Rhagfyr, 2019.  Nodwyd bod copi electroneg o’r ddogfen ar gael petai’r aelodau’n dymuno hynny.

·         Rhaglen waith cynnal a chadw Harbwr Porthmadog yn ystod y cyfnod Hydref 2019 –Chwefror 2020.

 

Ymhellach i gynnwys yr adroddiad, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·           Nodwyd y byddai adroddiad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 11 Mawrth, 2020.

Cofnod:

Nodwyd y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 11 Mawrth, 2020.