skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Y Ganolfan, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9LU

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Llywelyn Rhys (Cynrychiolydd Cyngor Tref Porthmadog) ynghyd â Mici Plwm ac Alwyn Roberts (Aelodau Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yn dilyn derbyn rhybudd gan Gwmni Wynnes o ran y bwriad i long dramwyo yn yr harbwr yn fis Mehefin 2020 bod cyfarfod brys wedi ei drefnu gyda’r cwmni ar 7 Mawrth 2019. Ymhelaethodd bod y bwriad ynghlwm â gwaith trawsnewidyddion yn Trawsfynydd a Ffestiniog. Nododd nad oedd amserlen y bwriad yn cyd-fynd gyda amserlen a thymor prysur yr harbwr a chynhelir trafodaeth yn y cyfarfod o ran yr effaith ar yr harbwr a’r gwaith sylweddol ac angenrheidiol i alluogi’r llong i dramwyo yn yr harbwr ynghyd ag opsiynau tu allan i’r prif dymor. Cadarnhaodd y rhoddir diweddariad ar y bwriad yng nghyfarfod dilynol y Pwyllgor ar 9 Hydref 2019.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ni fyddai’r bwriad yn golygu costau i’r Cyngor. Ymhelaethodd y byddai cynnig efallai i rai perchnogion symud i Bwllheli neu i le nad oedd ar lwybr mordwyo’r llong.

 

Holodd aelod o ran cyfnod y gwaith. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yn ddibynnol ar y llanw byddai’r gwaith am gyfnod o oddeutu 3 mis. Ychwanegodd y byddai’n cysylltu â’r Cadeirydd, busnesau lleol i’r harbwr a Chlwb Hwylio Madog yn dilyn y cyfarfod.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai’n trafod gyda’r cwmni o ran budd cymunedol ond yn sicr y byddai’r cwmni yn gyfrifol am y costau.

 

Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y bwriedir adolygu Is-ddeddfau’r Harbwr. Ymhelaethodd bod trafodaethau â’r Uned Gyfreithiol ac amserlen mewn lle, bwriadwyd i’r is-ddeddfau newydd ddod yn weithredol yn fis Mai 2020. Cadarnhaodd y byddai adroddiad ar yr is-ddeddfau yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf ar 9 Hydref 2019.

 

Holodd aelod yng nghyswllt y trefniadau ymgynghori. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai’r ymgynghoriad yn eang, gan gynnwys Cymdeithas Hwylio Cymru, Cyngor Tref Porthmadog, Tŷ’r Drindod ac Asiantaeth Forwrol a Gwarchodwyr y Glannau. Ychwanegodd y byddai rhybudd o’r ymgynghoriad yn ymddangos yn y papurau newydd.

 

Llongyfarchwyd Peter L. Williams (Cynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub) a Will Walker Jones (Sefydliad y Bâd Achub) ar eu penodiad yn Gadeirydd a Rheolwr Gweithrediadau Gorsaf Bad Achub Cricieth.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 87 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2018, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Hydref, 2018, fel rhai cywir.

5.

CYFLWYNIAD AR Y COD DIOGELWCH MOROL PORTHLADDOEDD

I dderbyn cyflwyniad gan Capten Forkanul Quader o Arolygaeth Asiantaeth Forwrol a Gwarchodwyr y Glannau.

Cofnod:

Croesawyd Mr Forkanul Quader o Arolygaeth Asiantaeth Forwrol a Gwarchodwyr y Glannau.

 

Gosododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y cyd-destun, gan nodi bod y Gwasanaeth Morwrol wedi ymateb i argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad a dderbyniwyd gan Arolygaeth Asiantaeth Forwrol a Gwarchodwyr y Glannau ar drefniadau a systemau diogelwch harbyrau bwrdeistrefol Gwynedd a chydymffurfiaeth â’r Cod Diogelwch Morol yn dilyn archwiliad yn 2017. Nododd ei werthfawrogiad o waith yr Uwch Swyddog Harbyrau a’r Harbwr Feistri. Eglurodd y cynhaliwyd archwiliad dilynol ar 5-6 Mawrth 2019 lle nodwyd gan yr archwiliwr bod gan y Gwasanaeth seiliau cadarn gan nodi awgrymiadau i wella. Nododd bod holl aelodau’r Pwyllgorau Harbwr wedi derbyn gwahoddiad i’r Pwyllgor ar gyfer y cyflwyniad. Datganodd ei ddiolch am waith Forkanul Quader a’i arweiniad proffesiynol.

 

Derbyniwyd cyflwyniad gan Forkanul Quader, nododd nad oedd y Cod yn statudol ond ei fod yn berthnasol a’r angen i systemau rheoli diogelwch ac asesiadau risg fod mewn lle a’u bod yn cyd-fynd â maint a gweithgareddau a wneir yn yr Harbwr. Rhestrodd y ddeddfwriaeth berthnasol a nodir yn y Cod.

 

Nododd y prif bwyntiau canlynol o ran yr hyn a oedd angen sylw gan y Cyngor:

·         Bod gan Harbwr Porthmadog statws fel Awdurdod Harbwr Cymwys, gan nad oedd llong fasnachol wedi mordwyo yn yr Harbwr ers 23 mlynedd, fe ddylai’r Cyngor ystyried os am barhau i ddal y statws a oedd yn golygu gofynion ychwanegol ar y Cyngor.

·         Bod trefniadau adolygu mewnol wedi eu sefydlu ond bod gwaith gweithredol angen ei wneud gyda lle i’r Harbwr Feistri gydweithio.

·         Bod angen adolygu Is-ddeddfau Harbwr Porthmadog er sicrhau eu bod yn cyd-fynd gydag arferion cyfredol.

·         Efallai y gallai Harbwr Pwllheli gael ei eithrio o ran rhai gofynion yn ymwneud â llygredd.

·         Bod Hafan Pwllheli yn creu incwm, gyda’r sianel yn culhau roedd yn anodd i gychod groesi a mordwyo i fyny’r sianel. Roedd angen cynnal arolwg hydrograffeg a gwneud gwaith carthu.

 

Cadarnhaodd bod gan y Gwasanaeth Morwrol arferion da iawn gan gynnwys y defnydd o telimetrics. Nododd bod ymrwymiad i’r system rheoli diogelwch gyda’r Deiliad Dyletswydd yn cymryd cyfrifoldeb ar dudalen gyntaf Cod Diogelwch Morol y Cyngor.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Datblygu’r Economi ei fod wedi cyfarfod gyda’r archwilydd i drafod ei adroddiad a bod ambell i beth angen sylw. Ymhelaethodd ei fod yn eithaf hyderus y gellir ymateb i’r hyn a godwyd gan yr archwilydd. Eglurodd bod yr archwilydd wedi canmol proffesiynoldeb ac ymroddiad swyddogion y Gwasanaeth Morwrol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y bwriedir cysylltu â Uned Gyfreithiol y Cyngor, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain i gyflwyno cais diddymu statws Harbwr Porthmadog fel Awdurdod Harbwr Cymwys. Eglurodd bod gwaith sylweddol a chyfrifoldeb o dan Ddeddf Peilota 1987 yn dod gyda’r statws ac ni fyddai diddymu’r statws yn atal llong rhag tramwyo yn yr Harbwr fel rhan o gynllun gwaith trawsnewidyddion yn Nhrawsfynydd a Ffestiniog. Nododd ei fod yn gobeithio byddai’r aelodau yn cefnogi’r bwriad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, nododd y Swyddog Morwrol a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLI'R HARBWR pdf eicon PDF 66 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Tywysodd yr Uwch Swyddog Harbyrau yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Rhagwelwyd y byddai archwiliad tanddwr o'r angorfeydd yn yr harbwr yn cael ei gynnal cyn cyfnod y Pasg, yn amodol ar ymrwymiadau'r contractwr angorfeydd a’r amodau tywydd.

·         Hysbysebir swydd Cymhorthydd Harbwr llawn amser yn Harbwr Porthmadog, byddai’r swyddog yn rhoi cymorth i’r Harbwr Feistr gyda’i ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau yn ogystal â gweithio yn harbyrau Aberdyfi ac Abermaw pan fod angen.

 

Rhannwyd crynodeb bras o gyllidebau'r harbwr a'r sefyllfa ariannol hyd at ddiwedd Chwefror 2019. Manylodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ar y cyllidebau gan nodi bod yr incwm a gasglwyd, £10,754 yn is na’r targed incwm. Nododd y rhagwelwyd gorwariant o oddeutu £20,000 ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2018/19 ond o ystyried maint a chyfrifoldebau’r Harbwr a bod adnoddau ariannol wedi eu hymrwymo ar gyfer cynnal a chadw a oedd yn fuddsoddiad yn yr Harbwr. Tynnodd sylw at ffioedd a thaliadau 2019/20.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod o ran incwm parcio Traeth y Greigddu, eglurodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod costau traethau yn cael eu cyllido dan gyllidebau traethau a nid oedd gwariant a incwm traethau yn rhan o gyllideb harbyrau.

 

Tynnodd aelod sylw bod swyddogion yr Harbwr yn gweithio ar adegau ar y traethau. Holodd os oedd yr oriau a dreulir yn cwblhau’r gwaith yn cael eu had-dalu o’r gyllideb traethau. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod trefniant yn bodoli lle'r oedd swyddogion traethau a swyddogion yr Harbwr yn cydweithio ar adegau ar waith yn yr Harbwr ac ar y traethau er cyflwyno y budd gorau i drigolion Gwynedd yn unol â Ffordd Gwynedd. 

 

Cyflwynodd Harbwr Feistr Porthmadog adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb o'r materion mordwyo a gweithredol a gododd yn ystod y cyfnod rhwng mis Hydref 2018 a mis Chwefror 2019, gan gynnwys materion cynnal a chadw a digwyddiadau yn ystod y cyfnod. Nododd bod bwi mordwyo rhif 10 wedi dod i’r lan,felly roedd Rhybudd i Forwyr wedi ei rhyddhau yn ychwanegol i’r hyn a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Nododd aelod ei fod yn braf gweld lluniau yn nodi gwerthfawrogiad o’r gwaith ynghlwm â’r morglawdd ym Morth-y-Gest gyda gwrthwynebwyr i’r bwriad bellach yn ei groesawu gan ei fod wedi gwella’r sefyllfa.

 

Nododd Cynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub bod arwyddion diogelwch Sefydliad y Bâd Achub a fwriedir eu gosod yn ardal Morfa Bychan yn arwyddion da iawn. Tynnodd sylw bod Bâd Achub Cricieth wedi achub 10 unigolyn oddi ar Fanc y Gogledd ger Traeth y Greigddu yn ystod 2018 a oedd yn ganran sylweddol o’r nifer o fywydau a achubwyd yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn ystod y flwyddyn gyda 182 bywyd wedi eu hachub yn y cyfnod. Nododd aelod bod y Gwasanaeth yn un effeithiol a phwysig iawn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod yng nghyswllt y consesiwn hufen iâ, nododd Harbwr Feistr Porthmadog y byddai’r tendr yn cael ei hysbysebu yn ystod mis Mawrth. Ychwanegodd yr aelod ei fod yn awyddus  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYLCH GORCHWYL Y PWYLLGOR HARBWR pdf eicon PDF 57 KB

I nodi cylch gorchwyl y pwyllgor harbwr.

Cofnod:

Cyfeiriwyd at gyfansoddiad y Pwyllgor gan nodi bod y Pwyllgor wedi ei sefydlu o dan erthygl 6 Gorchymyn Adolygu Harbwr Porthmadog 1998. Tynnwyd sylw bod dwy sedd wag, un sedd cynrychiolydd buddiannau perchnogion tir a sedd wag arall. Nodwyd y bwriedir cysylltu gyda Clwb Hwylio Porthmadog o ran enwebu cynrychiolydd i’r sedd wag yn dilyn derbyn cais ganddynt.

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn y wybodaeth.

8.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 9 Hydref 2019 yn ddarostyngedig i’w gadarnhau gan y Cyngor Llawn.

Cofnod:

Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 9 Hydref, 2019.