Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Y Ganolfan, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9LU

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2017/18.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18.

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd am 2017/18.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Nia Jeffreys yn is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18.

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Selwyn Griffiths (Cyngor Gwynedd), Jason Humphreys (Cynrychiolydd Cyngor Tref Porthmadog) a Peter L. Williams (Cynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub).

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

No declarations of personal interest were received from any members present.

 

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 132 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2017, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Mawrth, 2017, fel rhai cywir.

7.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 238 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·        Bod y Pwyllgor Ymgynghorol yn statudol a bod yr aelodaeth yn unol â Rhan 6(2)(a-j) Gorchymyn Diwygio Harbwr Porthmadog. Derbyniwyd cais gan Clwb Rhwyfo Porthmadog i gael cynrychiolaeth ar y Pwyllgor Ymgynghorol. Nododd yr eglurwyd iddynt bod Dr John Jones-Morris yn cynrychioli buddiannau hamdden ar y Pwyllgor Ymgynghorol a gellir cyfeirio materion ato i dderbyn ystyriaeth.

·        Bod 135 o gychod ar angorfeydd blynyddol yn Harbwr Porthmadog yn 2017 o gymharu gyda 129 yn 2016. Roedd yn galonogol bod cynnydd bychan yn y niferoedd eleni.

·        Bod Adran Trafnidiaeth y Llywodraeth wedi cyhoeddi addasiadau i’r Cod Diogelwch Porthladdoedd ym mis Tachwedd 2016. Roedd copïau o’r cod newydd wedi ei ddosbarthu i holl Aelodau’r Pwyllgorau Ymgynghorol gyda chopi hefyd ar gael ar wefan Asiantaeth Gwylwyr y Glannau.

·        Cynhaliodd archwilwyr Asiantaeth Gwylwyr y Glannau arolygiad trylwyr o drefniadau a systemau diogelwch presennol harbyrau bwrdeistrefol Gwynedd er sicrhau cydymffurfiaeth a’r Cod Diogelwch Porthladdoedd rhwng y 19eg a’r 21ain o Fedi 2017. Barn gychwynnol yr archwilwyr oedd bod y Cyngor yn cyd-fynd gyda’r gofynion yn gyffredinol ond bod angen addasu rhai elfennau yn gysylltiedig â chofnodi dyletswyddau a nodi Deiliwr Dyletswydd. Fe fu i’r archwilwyr ymweld ag harbyrau Aberdyfi, Porthmadog a Phwllheli yn ystod yr archwiliad. O ran Harbwr Porthmadog, bod y sylwadau a dderbyniwyd yn wych ac nid oedd problemau wedi dod i’r amlwg. Diolchodd i’r Harbwr Feistr a’r Uwch Swyddog Harbyrau am eu gwaith yn sicrhau bod y ddogfennaeth briodol mewn lle.

·        Derbyniwyd adroddiad ysgrifenedig gan yr archwilwyr ar ddiwrnod y cyfarfod yn amlinellu’r materion a fydd angen sylw gan y Cyngor. Eglurodd bod gan y Cyngor gyfnod penodol i addasu trefniadau ac fe fyddai Asiantaeth Gwylwyr y Glannau yn ail ymweld â’r gwasanaeth oddi fewn 12 mis o gyflwyno’r adroddiad ble bydd disgwyl bod argymhellion a gyflwynwyd yn yr adroddiad wedi eu gweithredu. Nododd y byddai’n cylchredeg copi o’r adroddiad i’r aelodau.

·        Yn dilyn trafodaeth gyda’r archwilwyr cytunwyd mewn egwyddor byddai’n fuddiol bod dyddiad yr ail ymweliad yn cyd-fynd a dyddiad Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr. Awgrymwyd i’r archwilwyr byddai’n fuddiol bod yr archwilwyr yn mynychu cyfarfod o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog gan wahodd cynrychiolwyr Pwyllgorau Ymgynghorol Aberdyfi, Abermaw a Pwllheli i’r cyfarfod ym mis Hydref 2018.

·        Ni dderbyniwyd sylwadau o ran y Côd Diogelwch Morwrol yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf.

·        Cafwyd archwiliad manwl gan archwilwyr Awdurdod Goleudai Tŷ’r Drindod ar yr 2il Awst 2017. Mewn cymhariaeth ac adroddiadau blaenorol roedd adroddiad 2017 yn cadarnhau gwelliant pellach yng nghyflwr a lleoliadau Cymhorthion Mordwyo Harbwr Porthmadog. ‘Roedd siart yn arddangos lleoliadau cyfredol y cymhorthion mordwyo wedi eu rhannu yn y cyfarfod.

·        Bod 1 Rhybudd i Forwyr (Rh-15/2017) mewn grym yn Harbwr Porthmadog. Roedd y rhybudd wedi ei ryddhau oherwydd nad oedd bwi rhif 8 ar ei safle priodol. Eglurodd bod y bwi wedi symud at gyfeiriad Bwi rhif 6 ac fe fyddai’n cael ei ail leoli ar y cyfle cyntaf.

·        Bod Bwiau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ETHOL SYLWEDYDDION

I ethol sylwedyddion i wasanaethu ar y canlynol –

 

a)    Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi

b)    Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw

c)    Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli

 

 

 

Cofnod:

Adroddwyd bod angen ethol sylwedydd/ion i wasanaethu ar Bwyllgorau Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi, Abermaw a Pwllheli.              

 

PENDERFYNWYD ethol Dr John Jones-Morris i wasanaethu fel sylwedydd ar Bwyllgorau Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi, Abermaw a Pwllheli.

9.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 7 Mawrth 2018.

Cofnod:

Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 7 Mawrth, 2018.