Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Y Ganolfan, Porthmadog

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2015/16

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2015/16.

 

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am 2015/16.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Selwyn Griffiths yn is-gadeirydd y pwyllgor hwn am y flwyddyn 2015/16.

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

David McLean (Buddiannau Perchnogion Tir).

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 119 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o'r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Mawrth, 2015, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Mawrth, 2015, fel rhai cywir.

 

7.

ADRODDIAD Y GWASANAETH MORWROL pdf eicon PDF 209 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·         Y bwriedir ehangu/datblygu’r wefan i gynnwys mwy o wybodaeth forwrol;

·         Bod 140 o angorfeydd blynyddol o gymharu â 157 yn 2014, oedd yn adlewyrchu’r economi ehangach;

·         Yr edrychir ar y sustemau cofrestru ynghyd â ffioedd yn ystod y Gaeaf;

·         O ran y Cod Diogelwch Morwrol, y byddai’r Uwch Swyddog Harbyrau yn ei adolygu cyn i’r awdurdod annibynnol a benodwyd, sef Harbwr Caernarfon ei archwilio. Nodwyd bod y Cod yn rhoi arweiniad ac yn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd bod diogelwch defnyddwyr yn bwysig i’r Cyngor;

·         Y gwerthfawrogir sylwadau ar gynnwys y Cod gan yr aelodau;

·         Bod y gwasanaeth yn awyddus i ddatblygu Mesuryddion Perfformiad mewn perthynas â rheolaeth yr harbyrau ac y gwahoddir syniadau neu awgrymiadau cychwynnol gan yr aelodau;

·         Bod gwaith wedi ei wneud i ymateb i 1 Rhybudd i Forwyr a oedd mewn grym, sef gosod bwlb newydd yn llusern y Bwi Tramwyo. Gydag un rhybudd arall mewn grym oherwydd bod golau ar bontŵn Madog Yacht Club wedi diffodd a byddai’r Cyngor yn fodlon cynorthwyo gyda’r gwaith;

·         Bod cyfnod secondiad yr Harbwr Feistr wedi ei ymestyn tan ddiwedd Hydref 2015 pryd adolygir y swydd;

·         Nodwyd bod cyfnod cyflogaeth Cymhorthion Harbwr (tymhorol) wedi eu hymestyn hyd at 31 Rhagfyr er sicrhau ei fod yn bosibl ymateb i ddigwyddiadau a chwblhau rhaglen waith cynnal a chadw harbyrau Porthmadog ac Abermaw;

·         Y gwaredwyd llongddrylliad a oedd yn achosi perygl ac asesir 2 gwch arall cyn penderfynu os byddai angen gosod rhybudd ar y cychod;

·         Yr achoswyd difrod i wifren drydan wrth dynnu cwch hwylio o’r llithrfa, adroddwyd i’r HSE ar y digwyddiad ond nid oedd angen iddynt gynnal archwiliad. Nodwyd y pwysleisiwyd i staff yr angen i wneud asesiadau risg cyn ymgymryd â gwaith o’r math yma;

·         Bod sefyllfa incwm yr Harbwr yn niwedd blwyddyn ariannol 2014-15 yn galonogol a bod tanwariant o £29,276.

·         Y rhagwelir y byddai gorwariant o oddeutu £1,400 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol;

·         Y buddsoddwyd mewn sustem teledu cylch gyfyng newydd i’r harbwr;

·         Archwiliwyd yr angorfeydd a rhagwelir bod costau o oddeutu £3,000 i wneud gwaith arnynt ac y gobeithir cwblhau’r gwaith cyn y Nadolig;

·         Y bwriedir cyfnewid tanc disel coch Harbwr Aberdyfi gyda thanc disel yr Harbwr er mwyn cynyddu capasiti storio;

·         Bod nifer o weithgareddau wedi eu cynnal dros yr Haf. Bwriedir cynnwys rhestr digwyddiadau ar gyfer Haf 2016 yn yr adroddiad a gyflwynir i’r cyfarfod nesaf a gofynnodd i aelodau ei hysbysu o unrhyw weithgareddau er mwyn gallu eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Manylodd yr Uwch Swyddog Harbyrau ar y rhaglen waith cynnal a chadw a gofynnwyd i aelodau hysbysu’r gwasanaeth o unrhyw waith arall sydd angen ei wneud.

 

Yn ystod y cyfarfod ymatebwyd i sylwadau gan yr aelodau gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig fel a ganlyn:

·         Bod Cwch y Dwyfor yn cael ei ddefnyddio  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 9 Mawrth 2016.

Cofnod:

Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 9 Mawrth, 2016.