skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Y Ganolfan, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9LU. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Mandy Williams-Davies (Aelod Cabinet – Economi).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 131 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2016, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Hydref, 2016, fel rhai cywir.

 

Cyfeiriodd Cynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub at gefnogaeth yr aelodau i gynnal archwiliad diogelwch o ardaloedd aber y Glaslyn a Thraeth y Graig Ddu a chael sgwrs ddilynol i edrych ar sut y gellir gwella’r sefyllfa o fewn yr adnoddau. Amlygodd bod y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig wedi cadarnhau y byddai’n cysylltu efo Sefydliad y Bâd Achub yng nghyswllt archwiliad diogelwch. Mynegodd ei anfodlonrwydd nad oedd hyn wedi ei weithredu a bod y Swyddog wedi nodi ym mis Ionawr y byddai swyddogion y gwasanaeth yn cwblhau’r archwiliad diogelwch. Nododd ei fod wedi anfon e-bost at yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned ond nid oedd wedi derbyn ymateb.

 

Amlygodd y Cadeirydd mai Pwyllgor Ymgynghorol oedd y Pwyllgor ac felly nid oedd rheidrwydd i’r swyddogion weithredu.

 

Nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned ei fod yn gwerthfawrogi sylwadau Cynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub ac yn derbyn ei bryderon. Nododd y ceisir osgoi gwneud nifer uchel o archwiliadau oherwydd yr adnoddau prin a’r tebygolrwydd ni ellir gweithredu mesurau i liniaru’r risg. Pwysleisiodd bod y Cyngor yn croesawu mewnbwn partneriaid gan gynnwys Sefydliad y Bâd Achub ac yn cydweithio efo’r sefydliad o ran lliniaru risgiau yn Abermaw. Ymddiheurodd nad oedd y cynrychiolydd wedi derbyn ymateb i’w e-bost ac fe fyddai’n rhoi ystyriaeth i’r e-bost.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod y byddai’n ddefnyddiol derbyn mewnbwn gan Sefydliad y Bâd Achub o ran Porthmadog, nododd Uwch Reolwr Economi a Chymuned bod y Gwasanaeth yn blaenoriaethu o ran risg.

 

Nododd yr aelod ei siomedigaeth na ofynnwyd am fewnbwn Sefydliad y Bâd Achub o ran yr archwiliad o ardaloedd aber y Glaslyn a Thraeth y Graig Ddu, gan nodi y gallai’r Cyngor rhoi ystyriaeth i’r materion a amlygir gan y Sefydliad a blaenoriaethu'r hyn oedd angen i wneud i liniaru’r risgiau.

 

Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod y Gwasanaeth yn cymryd i ystyriaeth barn y Pwyllgor Ymgynghorol. Adroddwyd bod swyddogion profiadol y Gwasanaeth wedi cynnal archwiliad ac o ganlyniad yn y broses o osod mwy o arwyddion yn yr ardal yn ogystal ag adolygu taflenni gwybodaeth a roddir i ddefnyddwyr y traeth yn pwysleisio’r risg o ran Banc y Gogledd.

 

Nododd Cynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub bod y sefydliad eisiau parhau i gyd-weithio efo’r Gwasanaeth ac yn cynnig cynorthwyo ym Mhorthmadog fel y gwneir yn Abermaw a Thywyn. Ychwanegodd ei fod yn cydnabod bod arbenigedd yn y Gwasanaeth ond yn anfodlon nad oedd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig wedi cysylltu â Sefydliad y Bâd Achub wedi iddo gadarnhau yn y cyfarfod diwethaf y byddai’n cysylltu.

 

Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod asesiad risg wedi ei gwblhau gan Sefydliad y Bâd Achub o ardal Morfa Bychan dwy flynedd yn ôl a ni ystyrir ei fod yn amserol i ail-ymweld  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 145 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·         Ni dderbyniwyd sylwadau o ran y Côd Diogelwch Morwrol yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf.

·      Roedd y Gwasanaeth yn mawr obeithio derbyn adolygiad gan arbenigwr allanol Asiantaeth Gwylwyr y Glannau ym mis Ionawr. Yn anffodus, oherwydd diffyg capasiti nid oedd yr archwiliad wedi ei gynnal ac roedd y Gwasanaeth yn disgwyl i ail drefnu’r adolygiad. Rhagwelwyd y cynhelir yr adolygiad ym mis Medi 2017.

·         Cynhelir archwiliad manwl gan archwilwyr Awdurdod Goleudai Tŷ’r Drindod ar yr 31ain o Orffennaf 2017. Nodwyd oherwydd y buddsoddiadau diweddar rhagwelir y byddai’r adroddiad yn cadarnhau parhad mewn gwelliant yng nghyflwr a lleoliadau Cymhorthion Mordwyo Harbwr Porthmadog.

·         Bod 2 Rybudd i Forwyr mewn grym yn Harbwr Porthmadog. Roedd y rhybudd yn gyfredol ar gyfer Bwi Rhif 1 (Traethell) - oedd ddim ar ei safle (rhybudd rhif 10.). Nid oedd cymhorthydd Bwi Rhif 3 (rhybudd rhif 9) ar ei safle ac fe rybuddir morwyr i fordwyo gyda gofal yn yr ardal hon hyd fydd y cymhorthion wedi eu hail leoli ar eu safle cywir. Nodwyd yr hysbyswyd Tŷ’r Drindod o’r sefyllfa ym Mhorthmadog drwy system PANAR yn unol â’r gofynion.

·         Bod sianel fordwyo Harbwr Porthmadog wedi newid yn sylweddol yn ystod yr wythnosau diwethaf yn enwedig yn ardal Cwt Powdwr. Nodwyd bod y Gwasanaeth yn archwilio’r sianel yn rheolaidd ar lanw isel er ceisio sicrhau fod y cymhorthion mordwyo yn y lleoliad fwyaf addas. O ganlyniad i’r newid cyson yn y sianel, roedd sicrhau fod y cymhorthion yn eu safle cywir yn heriol.

·      Fel yr adroddwyd yn y cyfarfod diwethaf, ymestynnwyd cyfnod cyflogaeth 2 Cymhorthydd Harbwr at ddiwedd mis Rhagfyr 2016 er sicrhau cefnogaeth a pharhad i’r gwasanaeth ar draws y Sir. Nodwyd yr ymestynnwyd cyfnod y swyddi ymhellach hyd at ddiwedd mis Mawrth 2017 ar drefniant tri diwrnod yr wythnos. Adroddwyd yr hysbysebir y swyddi Cymhorthyddion Harbwr ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2017 i 30 Medi 2017.

·         Diogelwyd cwch a adawyd i ddirywio ger Cei Balast a fe’i symudwyd i ardal y llithrfa. Nodwyd bod y Gwasanaeth yn cysylltu gyda’r perchennog gan dynnu sylw bydd yn fwriad gwerthu neu waredu’r cwch oni bai bod y cwch yn cael ei chludo o’r Harbwr yn ystod y ddeufis nesaf. Nodwyd os oedd yr aelodau yn ymwybodol o unrhyw brosiectau a fyddai’n dymuno derbyn y cwch iddynt gysylltu â’r Gwasanaeth.

·         Y sefyllfa gyllidebol hyd at ddiwedd Ionawr 2017, gan nodi na ragwelir y cyrhaeddir y targed incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol.

·      Y byddai cwch newydd o wneuthuriadPowercatyn cael ei leoli ym Mhorthmadog.

·      Bod ffioedd drafft Harbwr Porthmadog ar gyfer blwyddyn ariannol 2017-18 wedi eu cyflwyno yn y cyfarfod diwethaf, cadarnhawyd y bwriedir cynyddu’r ffioedd 2% ar gyfartaledd er cwrdd â her cyllideb a tharged incwm  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 11 Hydref 2017.

Cofnod:

Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 11 Hydref, 2017.