skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Sion Owen  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

2.

COFNODION pdf eicon PDF 68 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26/6/18 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2018 fel rhai cywir.

3.

YMGYNGHORIAD Y PANEL ANNIBYNNOL AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL 2019-20 pdf eicon PDF 112 KB

Derbyn sylwadau’r pwyllgor hwn mewn ymateb i’r ymgynghoriad.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Panel gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd. Nododd fod y penderfyniadau ar raddfeydd taliadau oedd ar gael i gynghorau unigol yn y gorffennol bellach wedi eu dileu yn dilyn adborth a dderbyniwyd gan y cynghorau. Ychwanegodd fod y Panel yn argymell cynyddu'r cyflog sylfaenol o £268 y flwyddyn (1.97%), cyflog Arweinwyr ac Aelodau Cabinet i gynyddu o £800 (gan gynnwys y £268 o gyflog sylfaenol), a chyflogau Dinesig i £22,568 ar gyfer Pennaeth Dinesig a thaliad o £17,568 ar gyfer Dirprwy Bennaeth Dinesig.

 

Cyfeiriodd hefyd at argymhellion y panel ynghylch Cynghorau Tref a Chymuned er mwyn rhoi cyfle i Aelodau’r Pwyllgor roi sylwadau gan fod ganddynt yn aml gysylltiad â chyngor Tref a Chymuned.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

-       Nad oedd dewis ond derbyn yr argymhellion.

-       Nad oedd Aelodau y weithrediaeth wedi derbyn codiad cyflog tu hwnt i’r codiad yn y cyflog sylfaenol ers cryn amser.

-       Gresyn nad oedd elfen o amrywio taliadau yn unol â pherfformiad a phresenoldeb.

-       Cefnogi gosod taliadau ar un lefel gan nad oedd posib defnyddio’r taliadau i wleidydda.

-       Croesawyd gosod lefel cyflog Cadeirydd y Cyngor ar yr un lefel a Chadeirydd Pwyllgor.

-       Croesawyd fod Aelodau yn cael ychydig llai o godiad cyflog na swyddogion, a chroesawyd fod hynny yn cael ei gyflwyno wedi i swyddogion dderbyn codiad.

-       Nodwyd fod angen ei wneud yn eglur i gynghorau Tref a Chymuned pa aelodau sy’n gymwys am ba daliadau ac am ba gyfnod er mwyn cynorthwyo eu cynllunio ariannol.

-       O ran egwyddor y dylai pob aelod etholedig gael cyflog o ryw fath er mwyn annog amrywiaeth  ac adlewyrchu’r gost amser ynghlwm a bod yn Aelod Etholedig.

 

Penderfynwyd:

1 – Derbyn argymhellion y Panel.

2 – Fod y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn cyfleu sylwadau’r Pwyllgor hwn i’r Panel.