skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Sion Owen  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-Gadeirydd am y flwyddyn 2018-19.

Cofnod:

Penderfynwyd: Ethol y Cynghorydd Dylan Bullard yn is-gadeirydd y Pwyllgor hwn.

2.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr Linda Ann Jones

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

4.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sydd yn fater o frys yn nhyb y cadeirydd er mwyn eu hystyried.

5.

COFNODION pdf eicon PDF 76 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig fod cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2018, yn cael eu harwyddo fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2018 fel rhai cywir.

6.

MATERION TECHNOLEG GWYBODAETH pdf eicon PDF 60 KB

Diweddariad ar ddarpariaeth O365 i Aelodau.

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth yn diweddaru’r Pwyllgor wedi i Aelodau’r Pwyllgor hwn fudo i ddarpariaeth Office 365 ar eu teclynnau Surface. Nododd fod y Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth wedi ymateb i broblemau wrth iddynt godi, gan ddefnyddio’r wybodaeth i wella’r ddarpariaeth. Nododd hefyd ei fod wedi dod i’r amlwg fod angen darparu mwy o hyfforddiant a chefnogaeth i’r Aelodau. Ychwanegodd fod cydweithio rhwng Aelodau a’r gwasanaethau sydd cynnig cefnogaeth iddynt yn hanfodol er mwyn llunio darpariaeth sydd yn diwallu eu hanghenion.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

-       Fod angen amser i ddod i arfer gyda’r ddarpariaeth newydd, a bod hynny yn anoddach i aelodau sydd yn llai hyderus gyda thechnoleg gwybodaeth.

-       Ategwyd fod angen darparu mwy o hyfforddiant TG i Aelodau.

-       Fod gweld e-byst ar ffon symudol a dyfeisiadau eraill yn ddefnyddiol iawn.

 

Mewn ymateb nododd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd alw’r Aelodau am hyfforddiant pellach.

 

Penderfynwyd:

1 - Lledaenu’r ddarpariaeth Office 365 i weddill Aelodau’r Cyngor

2 – Fod sesiynau hyfforddiant pellach yn cael eu trefnu ar gyfer hwyluso defnydd yr Aelodau o’r ddarpariaeth newydd.

7.

MERCHED MEWN DEMOCRATIAETH pdf eicon PDF 33 KB

Adroddiad gan y Cyng. Catrin Wager ar y gwersi a ddysgwyd o Gynhadledd i Hybu Rôl Merched mewn Democtiaeth

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd gan y Cynghorydd Catrin Wager yn adrodd ar y gwersi a ddysgwyd wedi iddi fynychu cynhadledd i hybu rôl merched mewn democratiaeth. Nododd fod y gynhadledd wedi cyflwyno canlyniadau gwaith ymchwil gan Gymdeithas Fawcett. Y Prif negeseuon oedd bod angen hybu polisïau i helpu merched mewn democratiaeth gan alw am newidiadau diwylliannol, a chyfansoddiadol. ‘Roedd hefyd angen trafod gyda merched er mwyn canfod beth oedd y problemau oedd yn eu hwynebu, yn ogystal ag annog merched oedd yn weithgar mewn grwpiau cymunedol i ystyried sefyll mewn etholiadau.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod y Pwyllgor wedi bod yn gweithio ym maes annog amrywiaeth mewn democratiaeth cyn yr etholiad yn 2017, a chroesawodd y wybodaeth ychwanegol oedd wedi ei rannu gan y Cynghorydd.

 

Nododd y Swyddog Polisi Corfforaethol fod trafodaethau wedi eu cynnal i gynnig hyfforddiant ar duedd anymwybodol yn dilyn profiad y Cynghorydd Catrin Wager yn y gynhadledd. Cynhaliwyd trafodaethau gyda’r Gwasanaeth Dysgu a Datblygu a’r Gwasanaeth Democratiaeth ynglŷn â chynnal hyfforddiant fel peilot.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

-       Tra bod cynghorau cymuned yn un llwybr amlwg i unigolion fyddai’n deisyfu bod yn gynghorwyr, nid oedd yn tueddu i fod yn llwybr delfrydol i ferched. Gan eu bod yn tueddu i gyfarfod ar amseroedd nad oedd yn cyd-fynd gyda bywyd teuluol ‘roedd yn fwy tebygol y byddai ymgeiswyr tebygol i’w canfod mewn grwpiau cymunedol eraill.

-       Y dylid cysylltu gyda grwpiau cymunedol er mwyn annog aelodau gweithgar i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.

-       Fod llawer o gynnydd wedi ei wneud ym maes amrywiaeth, er bod diwylliant gwleidyddol yn ei wneud yn anodd i ferched gymryd rhan.

-       Fod gwaith yr is-grŵp amrywiaeth mewn democratiaeth wedi helpu

 

Mewn ymateb nododd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod nifer o ffactorau yn dylanwadu ar benderfyniad unigolion i sefyll mewn etholiad. Ychwanegodd fod y Cynulliad yn ymchwilio mewn i’r maes hefyd.

 

PENDERFYNWYD:

1 - Ail ymgynnull yr Is-grŵp Amrywiaeth Mewn Democratiaeth er mwyn penderfynu ar y ffordd ymlaen.

2 - Cynnal sesiwn hyfforddiant ar duedd anymwybodol ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor fel peilot.

8.

DIOGELWCH PERSONNOL I AELODAU pdf eicon PDF 25 KB

Codi ymwybyddiaeth Aelodau Etholedig o’r adnoddau sydd ar gael i’w cynorthwyo.

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ei hadroddiad gan nodi fod natur gyhoeddus rôl aelodau Etholedig yn golygu eu bod yn agored i gyswllt gan y gymuned ar unrhyw adeg. Tra bod y cyswllt hwnnw yn medru bod yn bositif, gallai’r cyswllt hwnnw hefyd fod yn negyddol. Nododd hefyd nad oedd unrhyw achosion penodol wedi codi o ran diogelwch Aelodau, ond fod angen codi ymwybyddiaeth ymysg Aelodau.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Fod sylw negyddol yn anochel fel rhan o waith Aelod Etholedig, a bod angen cydnabod effaith posib hynny ar unigolion.

-       Ei fod yn bwysig i Aelodau fod yn ymwybodol o’r hyn sy’n dderbyniol ac annerbyniol pan mae’n dod i sylw negyddol.

-       Ei fod yn bwysig fod pobl yn teimlo fod eu llais yn cael ei glywed a’i gyfleu, a bod hynny yn rhan bwysig o feithrin parch yn y gymuned.

-       Fod cydbwyso cyson rhwng bod yn ffigwr cyhoeddus a’r person preifat, gan ddod a dyletswydd i ymwneud a phobl anodd, ond hefyd dyletswydd i gymryd cyngor a chamau synhwyrol er mwyn cadw’n ddiogel lle bo hynny’n briodol.

-       Ei fod yn bwysig fod gwybodaeth berthnasol ar gael i ymgeiswyr yn ogystal ag Aelodau Etholedig.

 

Mewn ymateb nododd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ei bod yn cydnabod fod Aelodau yn mynd i fod mewn sefyllfaoedd anodd o bryd i’w gilydd, a bod yn aml linell denau rhwng yr hyn oedd yn dderbyniol ac yn annerbyniol.

 

PENDERFYNWYD:

1 – Fod diogelwch personol aelodau i’w gynnig yn eitem i’r Fforymau Ardal er mwyn codi ymwybyddiaeth.

2 - Fod canllawiau ar ddiogelwch personol yn cael eu gosod ar y Porth Aelodau.

9.

RHEOLIADAU DIOGELU DATA CYFFREDINOL pdf eicon PDF 32 KB

Codi ymwybyddiaeth o ofynion y Ddeddfwriaeth Newydd.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Diogelu Data Statudol gan nodi fod deddfwriaeth Diogelu Data Cyffredinol i rym ar y 25ain o Fai 2018. ‘Roedd yn rhan o rôl Aelodau i warchod data oedd yn eu meddiant yn unol â gofynion y ddeddf, a bod y Cyngor wedi eu cofrestru gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth fel ceidwaid data. Ychwanegodd bod hyfforddiant wedi ei drefnu er mwyn cynorthwyo Aelodau i gyflawni eu cyfrifoldeb i warchod a thrin data yn unol â’r rheolau. Anogodd yr Aelodau etholedig i fynychu’r hyfforddiant oedd yn ymwneud yn benodol a’u cyfrifoldeb fel Aelodau Etholedig yn hytrach na hyfforddiant oedd yn ymwneud a'r maes yn fwy cyffredinol.