Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sion Owen 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2017 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf
2017 fel rhai cywir. |
|
MATERION YN CODI GAN AELODAU PDF 204 KB Cyflwyno materion ynghlych cefnogaeth i Aelodau. Cofnod: Derbyniwyd cyflwyniad byr gan y Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd yn nodi fod materion wedi codi gan Aelodau’r Cyngor
mewn nifer o fforymau. Rhoddwyd cyfle i’r Pwyllgor rannu eu sylwadau ar y
materion oedd wedi codi yn eu rôl wrth gynorthwyo i ddatblygu gwasanaethau i
Aelodau. Lleoliadau
Cyfarfodydd Nodwyd fod sylwadau wedi eu derbyn fod
teithio i wahanol gyfarfodydd yng Nghaernarfon yn cymryd llawer o amser yr
Aelodau. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:- -
Annog defnyddio ystafelloedd cyfarfod y Cyngor
ym Mhenrhyndeudraeth. -
Annog defnyddio technoleg er mwyn hwyluso
mynychu cyfarfodydd o bell, gan alluogi Aelodau i gymryd rhan gyflawn yn y
cyfarfod. -
Dylai’r Pwyllgor hwn gymryd rôl arweiniol wrth
ddatblygu’r dechnoleg a threfniadau angenrheidiol. -
Nodwyd pwysigrwydd cysylltiad band eang cadarn
ar draws y sir er mwyn sicrhau llwyddiant. -
Fod cadeirio mewn cyfarfod sydd ag elfen o
fynychu o bell yn brofiad gwahanol, ac anos o gymharu â chyfarfod ble mae’r
mynychwyr i gyd mewn un ystafell. -
Fod sefydliadau eraill eisoes yn defnyddio
technoleg megis ‘Skype’ er mwyn dod a staff sydd mewn lleoliadau gwahanol at ei
gilydd, gyda’r diwylliant sefydliadol yn newid o’r herwydd. -
Fod angen cofio am anghenion gweddarlledu
cyfarfodydd wrth weithio ar fynychu o bell. Mewn ymateb nododd y Pennaeth Gwasanaethau
Democrataidd mai megis dechrau’r daith mae’r Cyngor o ran defnyddio technoleg i
hwyluso cynnal cyfarfodydd gydag elfennau o fynychu o bell. Cysylltu ag
Adrannau, gwybodaeth a chyfathrebu gan Adrannau a Chyhoeddi cyfeiriadau Aelodau
ar y we Nodwyd fod rhai Aelodau yn anhapus oherwydd
bod datblygiadau wedi digwydd yn eu wardiau heb i’r Aelodau gael
eu hysbysu. Nodwyd hefyd fod pryder wedi codi ynglŷn â’r manylion personol
oedd yn cael ei gyhoeddi ar y we. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:- -
Amlygwyd pwysigrwydd cyfathrebu rhwng Adrannau ac
Aelodau, nodwyd fod angen datblygu meddylfryd o gyfathrebu, yn enwedig mewn
wardiau dau Aelod. -
Nodwyd fod Rhaeadr ar gael ar y Porth Aelodau,
gyda darparu gwybodaeth i’r Aelodau fel rhan o’i bwrpas. -
Canmolwyd y ganolfan gyswllt am ymateb yn
broffesiynol i ymholiadau Aelodau. -
Fod cyhoeddi manylion personol ar y we yn rhan
o’r swydd, ac yn gymorth i’r cyhoedd i gysylltu gyda’u cynghorydd. Mewn ymateb bu i’r Pennaeth Gwasanaethau
Democrataidd annog Aelodau i rannu enghreifftiau penodol o’u profiadau o ddiffyg
cyfathrebu er mwyn deall y sefyllfa go iawn a rhoi sylw pellach i’r materion a
godwyd. |
|
CYFWELIADAU DATBLYGU PERSONOL PDF 247 KB I ddiweddaru’r pwyllgor ar negeseuon o gyfarfodydd gydag aelodau newydd. Cofnod: Nodwyd fod cyfweliadau datblygu personol
wedi eu cynnal gydag Aelodau er mwyn adnabod eu hanghenion datblygu. Cynhaliwyd
10 cyfarfod, gyda’r materion canlynol wedi eu hamlygu: -
Fod tipyn o waith cyfarwyddo gyda’r Cyngor a’i
ddiwylliant i’r Aelodau newydd, yn enwedig trefniadau cyfansoddiadol a’r ffordd
oedd y Cyngor yn gweithio. -
Fod dryswch yn aml ynglŷn â’r pwynt
cyswllt cywir ar gyfer materion ble mae’r Aelodau angen cysylltu â swyddogion y
Cyngor, a bod angen sicrhau fod y manylion ar y Porth Aelodau yn gywir a
chyfredol. -
Fod angen parhau i gynnig hyfforddiant a
chyfleon datblygu amrywiol i’r Aelodau. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:- -
Fod angen bod yn ymwybodol fod gan Aelodau
swyddi ac ymrwymiadau eraill wrth drefnu cyfarfodydd a sesiynau datblygu. -
Mewn ymateb i ymholiad, nodwyd nad oedd yno
elfen gwerthuso perfformiad yn rhan o’r cyfarfodydd datblygu personol. -
Y byddai’n fuddiol rhoi cymorth i Aelodau
newydd ar waith Ward, a hynny cyn gynted â phosib wedi iddynt gael eu hethol. -
Fod problemau yn codi gyda’r dyfeisiadau
electronig a ddosbarthwyd i’r Aelodau i’w cynorthwyo gyda’u gwaith. Mewn ymateb nododd y Rheolwr Gwasanaethau
Democrataidd y byddai sesiynau ychwanegol i’r sesiwn a gynhaliwyd ar Fedi 10fed
yn cael eu cynnal ar faterion yn ymwneud a’r Pwyllgorau. Byddai cyfarfodydd
datblygu personol hefyd yn parhau i gael eu cynnig i’r
holl Aelodau er mwyn eu cynorthwyo gyda’u datblygiad personol. Byddai’r
Gwasanaeth Democratiaeth yn edrych ar ddulliau amgen o gynnal sesiynau datblygu
i Aelodau. Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd
fod unigolion gwahanol yn dysgu trwy ddulliau gwahanol ac y byddai hynny yn
cael ei ystyried wrth gynllunio cefnogaeth i Aelodau tua’r dyfodol. PENDERFYNWYD:
1 - Cynnull is-grŵp o Aelodau’r
Pwyllgor hwn er mwyn cynorthwyo gyda datblygiad y Porth Aelodau ac arbrofi gyda
dulliau amgen o gynnal cyfarfodydd a hyfforddiant. Penodwyd y Cynghorwyr Annwen
Hughes, Nia Jeffreys a Dewi Roberts i’r is-grŵp. 2 - Fod holiadur yn cael ei ddosbarthu
i’r holl Aelodau er mwyn gweld ble’r oedd problemau gyda’r offer TG, gyda’r
canlyniadau i’w cywain mewn adroddiad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn. |
|
PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL - YMGYNGHORIAD PDF 353 KB I dderbyn sylwadau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd mewn ymateb i’r ymgynghoriad. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor
hwn ar y cyd â’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn trafod ymgynghoriad y
Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Prif argymhellion y Panel oedd fod
cyflog sylfaenol Aelodau yn cynyddu o £200 (1.49%) yn 2018/19, fod y trefniant
o alluogi dwy haen o gyflog uwch i Aelodau Cabinet a Chadeiryddion Pwyllgorau
yn dod i ben, a bod anogaeth i’r rhai sy’n gymwys i
hawlio ad-daliadau am gostau gofal. Gwahoddwyd sylwadau’r Pwyllgor. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:- -
Oedd yna bosibilrwydd na fyddai Aelodau yn
gorfod pleidleisio dros eu cyflogau eu hunain? -
Fyddai posib cynnwys bocs pwrpasol ar gyfer
hawlio ad-daliadau gofal ar y dudalen berthnasol o fewn y system
Hunanwasanaeth? Mewn ymateb nododd y Rheolwr Gwasanaethau
Democrataidd y byddai diddymu’r ddwy haen o gyflogau uwch yn golygu na fyddai angen pleidlais ar lefelau cyflogau Aelodau i’r
dyfodol. Penderfyniad i’r Aelodau’n unigol fyddai i dderbyn y cyflog oedd ar gael neu gyfran ohono. Nododd y Pennaeth Gwasanaethau
Democrataidd mai dim ond un awdurdod oedd wedi
manteisio ar y gallu i gyflwyno dwy haen o gyflog uwch. Anogodd yr aelodau oedd
yn gymwys i wneud hynny, i hawlio’r ad-daliad costau gwarchod, er mwyn eu
galluogi i gymryd rhan lawn. PENDERFYNWYD:
derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad fel ymateb i’r ymgynghoriad. |
|
Diweddariad ar ddata amrywiaeth yn unol â chais y Pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf. Cofnod: Cyflwynwyd - Data Amrywiaeth yn unol â chais
y Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod ar 11eg o Orffennaf 2017. Dengys y wybodaeth fod
gwaith yr Is-Grŵp Amrywiaeth mewn Democratiaeth wedi dwyn ffrwyth i
raddau, a bod lle i wella. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:- -
Awgrymwyd, er mwyn codi ymwybyddiaeth ymysg
disgyblion ysgol, fod peilot o ddigwyddiad hyrwyddo yn cael ei gynnal gan
wahodd disgyblion ysgol o Wynedd i gymryd rhan. -
Nodwyd ei fod yn bwysig tynnu’r gymuned i mewn
i drafodaethau a gweithgareddau. -
Fod cyswllt rhwng y cyflog sydd ar gael a
phroffil oedran Aelodau: Fod unigolion sy’n agos neu wedi ymddeol yn fwy
tebygol o sefyll i fod yn gynghorwyr gan nad yw’r cyflog yn ffactor hanfodol
iddynt. Ar y llaw arall nodwyd fod y cyflog sydd ar gael i Aelodau yn eithaf
deniadol i fyfyrwyr, ac mai unigolion sydd mewn cyflogaeth neu yn magu teulu
sydd lleiaf tebygol o sefyll mewn etholiad. -
Fod darpariaeth Gwynedd i Aelodau yn ymddangos
gyda’r gorau. Mewn ymateb, adroddodd y Pennaeth
Gwasanaethau Democrataidd bod cynrychiolwyr y Panel Annibynnol ar
Gydnabyddiaeth Ariannol wedi datgan yn ddiweddar bod cyflog Aelod Etholedig
wedi ei seilio ar wythnos waith o 21 awr. Cyfeirwyd hefyd at y Papur Gwyn ar
Lywodraeth Leol sydd yn yr arfaeth gan y Cynulliad, ac yn benodol at y tebygolrwydd
y bydd yn cynnwys cynigion i newid rheolau ar gyfer ymgeiswyr ac hefyd yr hawl
i bleidleisio, fyddai o bosib yn hwb i gynyddu lefel yr amrywiaeth mewn
democratiaeth. PENDERFYNWYD 1.
Ail gynnull yr Is Grŵp Amrywiaeth Mewn
Democratiaeth, gyda’r Cynghorwyr Annwen Daniels, Olaf Cai Larsen, Anne Lloyd
Jones a Catrin Wager yn aelodau. 2.
Trefnu
digwyddiad peilot i hyrwyddo democratiaeth, gan wahodd disgyblion Ysgol y
Moelwyn i gymryd rhan. |