skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sion Owen  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn ar gyfer 2017-18.

Cofnod:

 

PENDERFYNWYD Ethol y Cynghorydd Dewi Owen yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2017-18

2.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

4.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

5.

COFNODION pdf eicon PDF 223 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4ydd Ebrill 2017 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4ydd Ebrill 2017 fel rhai cywir.

6.

ROL Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD

Cyflwyniad byr ar rôl y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad byr gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn amlinellu rôl y Pwyllgor hwn. Nodwyd  dyletswydd y Pwyllgor i gynorthwyo wrth ddatblygu cefnogaeth i aelodau gan gynrychioli eu cyd-aelodau, sicrhau bod staff ac adnoddau digonol yn cael eu darparu i gefnogi aelodau, ac adrodd i’r Cyngor Llawn yn flynyddol.

 

Cyflwynwyd ystadegau am gyfansoddiad y Cyngor wedi’r etholiad ym Mai 2017:

-       Bod 24 aelod newydd wedi eu hethol yn 2017 o’i gymharu â 30 yn 2012

-       Bod llai o aelodau benywaidd yn aelodau o’r Cyngor wedi’r etholiad o’i gymharu â 2015. Bellach, 23% o aelodau Cyngor Gwynedd sydd yn fenywaidd.

-       Bod y ganran o aelodau gwrywaidd y Cyngor sydd rhwng 45 a 65 oed wedi cynyddu o 18.18%.

-       Nad oedd aelod o’r Cyngor yn y grŵp oedran 18-24 yn 2017

 

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:-

 

·         Nodwyd ei fod yn ddiddorol fod y nifer o aelodau hŷn wedi cynyddu.

·         Nad oedd yn ymddangos fod pobl ifanc yn cymryd diddordeb yn y broses ddemocrataidd, ac y byddai’n fuddiol petai’r Pwyllgor yn ystyried ymgysylltu gyda charfannau o bobl ifanc er mwyn eu haddysgu am y broses ddemocrataidd a’u hannog i gymryd rhan.

·         Nodwyd siom nad oedd yn ymddangos i waith caled yr Is-grŵp Amrywiaeth mewn Democratiaeth ddod a newid i ystadegau y Cyngor newydd, er y nodwyd o’r dechrau y byddai’n anodd iawn profi effaith gwaith y grŵp.  Byddai’n fuddiol gweld os oedd dadansoddiad oed/rhyw ar gael ar gyfer holl ymgeiswyr yr etholiad ym Mai 2017.

·         Nodwyd fod gwahanol adegau mewn bywyd, megis magu plant ifanc, yn medru bod yn rhwystr i rai fyddai’n dymuno bod yn gynghorwyr.

7.

RHAGLEN WAITH pdf eicon PDF 377 KB

I adnabod eitemau ar gyfer Rhaglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2017-18.

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn awgrymu eitemau posib ar gyfer rhaglen waith y Pwyllgor yn 2017-18.

 

Yn dilyn trafodaeth, ychwanegwyd y materion canlynol i raglen waith y Pwyllgor:

·         Cydweithio’n agosach gyda’r Pwyllgor Safonau, gan gynnwys derbyn adroddiad ar waith y Pwyllgor hwnnw.

·         Gwaith ymchwil i egluro’r amgylchiadau sy’n medru effeithio ar gyfraddau presenoldeb aelodau yng nghyfarfodydd cyhoeddus y Cyngor.

·         Bwlio a chyfryngau cymdeithasol

·         Ehangu gwaith hybu democratiaeth

·         Ymchwilio i weld sut allai Aelodau etholedig y Cyngor gyfrannu tuag at unrhyw arbedion pellach.

 

PENDERFYNWYD: Ychwanegu’r eitemau uchod i’r rhaglen waith

8.

CROESO AC ANWYTHO

Cyfle i werthuso’r dyddiau croesawu ac anwytho a gynhaliwyd yn dilyn yr etholiadau diweddar.

Cofnod:

Cyflwynwyd ar lafar gefndir y sesiynau a gynhaliwyd i anwytho’r Aelodau wedi’r etholiad ym Mai 2017. Nodwyd fod gwaith caled wedi ei wneud er mwyn darparu sesiynau effeithiol a bod hynny wedi talu ar ei ganfed gan fod sylwadau positif wedi eu derbyn gan Aelodau newydd ac Aelodau oedd yn dychwelyd wedi’r etholiad.

 

Cafwyd trafodaeth ar sut y gellid addasu’r sesiynau anwytho ymhellach i’r dyfodol er mwyn eu gwella. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

-       Nodwyd y byddai’n fuddiol derbyn arweiniad ar waith ward, yn enwedig ar sut i gadw trigolion Gwynedd yn ganolog

-       Byddai taith o gwmpas yr adeiladau er mwyn ymgyfarwyddo wedi bod yn fuddiol.

-       Byddai’n fuddiol petai gwybodaeth gryno am bwyllgorau a’u swyddogaethau ar gael i’r Aelodau.

-       Bod angen gwella’r cyfathrebu rhwng adrannau’r Cyngor a’r Aelodau pan fydd gwaith yn cael ei wneud neu ddigwyddiadau yn cael eu cynnal mewn wardiau penodol.

9.

DYSGU A DATBLYGU pdf eicon PDF 222 KB

I drafod y cyfleon Dysgu a Datblygu sydd ar gael i Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Dysgu a Datblygu yn diweddaru aelodau’r Pwyllgor ar y ddarpariaeth gyfredol a’r hyn oedd ar y gweill, gan geisio arweiniad a sylwadau ar ddatblygiadau pellach. Gan gydnabod a diolch am gyfraniad y Pwyllgor hwn wrth ddatblygu’r rhaglen hyfforddiant ar gyfer 2017-18, pwysleisiodd fod Dysgu a Datblygu yn llawer ehangach na sesiynau hyfforddiant ffurfiol. Nododd bod sesiynau adnabod anghenion dysgu ar gael i’r Aelodau. Nododd hefyd fod cynllun Mentora a Chymhelliant ar gael i’r Aelodau, ac roedd nifer eisoes wedi dangos diddordeb.

 

Mewn ymatebi gwestiynau gan aelodau’r pwyllgor nododd y Rheolwr Dysgu a Datblygu’r pwyntiau canlynol:

-       Er nad oedd y cynllun mentora a chymhelliant yn defnyddio cyn aelodau, nad oedd hynny yn amhosib. Er hynny, byddai’n rhaid i unrhyw fentoriaid ddilyn arfer da

-       ‘Roedd y Gwasanaeth Dysgu a Datblygu wedi bod yn ceisio trefnu sesiynau llai a’u cynnal yn amlach, fel bod y rhai oedd yn mynychu yn cael y budd mwyaf ac yn cael dewis o nifer o amseroedd er mwyn cyfleuster. Byddai sesiynau ychwanegol yn cael eu trefnu os oedd digon o alw.

 

Sylwadau pellach yn codi o’r drafodaeth:

-       Bod angen manteisio ar y cyfleoedd sy’n codi o ddatblygiadau ym myd technoleg.

-       Bod angen hyfforddiant pellach a mwy o opsiynau i aelodau unigol er mwyn cael y gwerth a budd mwyaf o’r cyfarpar sydd wedi ei rannu i’r Cynghorwyr.

-       Bod cynnal cyfarfodydd trwy fideo gynadleddau yn gallu gweithio’n dda gyda cadeirio effeithiol.

 

Mewn ymateb nododd yr Uwch Reolwr Technoleg Gwybodaeth a Thrawsffurfio ei fod yn bwysig fod yr aelodau yn cyfathrebu unrhyw rwystrau a phroblemau oedd yn codi eu pennau gyda’r Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth. Pwysleisiodd hefyd rôl y Pwyllgor hwn wrth yrru datblygiadau yn eu blaen.

 

PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad.