Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Sion Owen 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer gweddill 2018-19. Cofnod: PENDERFYNWYD:
Ethol y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn is-gadeirydd y Pwyllgor hwn. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. |
|
Bydd y cadeirydd yn cynnig fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2018 yn cael eu llofnodi yn gywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 25
Hydref 2018 fel rhai cywir. |
|
DARPARIAETH DYSGU A DATBLYGU I AELODAU PDF 141 KB Rhoi trosolwg o’r ddarpariaeth Dysgu a Datblygu i Aelodau, gan amlygu llwyddiannau, sialensau a datblygiadau. Cofnod: Cyflwynodd y Rheolwr Dysgu a Datblygu’r
Sefydliad ei adroddiad gan roi trosolwg o’r ddarpariaeth dysgu a datblygu i
aelodau a nodi'r llwyddiannau a’r heriau a brofwyd. Nododd y pwyntiau canlynol: -
Fod y ddarpariaeth wedi derbyn adborth
cadarnhaol iawn -
Fod y rhaglen dysgu a datblygu yn parhau i
esblygu, gan gynnwys eitemau oedd wedi eu cynnig gan aelodau. -
Fod cyfle i aelodau i gynnal sgyrsiau datblygu
personol er mwyn gwyntyllu eu hanghenion, a bod cynllun mentora ar gael. -
Fod presenoldeb wedi bod yn anghyson yn y
sesiynau, a bod y gwasanaeth yn ceisio bod yn hyblyg o ran lleoliad ac amser
sesiynau ac yn arbrofi gyda thechnoleg. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth: -
Fod lleoli’r rhan fwyaf o sesiynau yng
Nghaernarfon wedi profi’n rhwystr i aelodau Meirionnydd a nodwyd dyhead i leoli
mwy o sesiynau dysgu a datblygu yn swyddfeydd y Cyngor yn Nwyfor a Meirionnydd. -
Fod angen i’r cynllun mentora fod ar gael i
aelodau newydd yn syth ar ôl etholiad. -
Oedd unrhyw aelodau oedd wedi eu hadnabod a’u
cymhwyso fel mentoriaid wedi cael y cyfle i fentora? -
Fod y sgyrsiau datblygu personol wedi cael eu
gwerthfawrogi. -
Oedd cynlluniau i ehangu’r ddarpariaeth
e-ddysgu? -
Ei fod yn gyffredin ymysg aelodau newydd i fod
yn ansicr pa swyddogion i gysylltu â hwy mewn perthynas â materion ward, ac y
dylid cynnal hyfforddiant penodol ar strwythurau’r Cyngor. -
Tra bod pwysigrwydd dysgu a datblygu wedi ei
gydnabod, fod y ffaith nad oedd mynychu sesiynau yn orfodol yn golygu nad
oeddynt yn cael eu blaenoriaethu gan aelodau. Oedd yno unrhyw awgrym y byddai
sesiynau hyfforddi yn dod yn orfodol yn y dyfodol? -
Fod sesiynau a gynhaliwyd ar ddiwedd 2018 a
dechrau 2019 i drafod gosod cyllideb 2019-20 wedi eu cynnal mewn modd
effeithiol, a gwnaed cais i gynnal sesiynau cyffelyb yn rheolaidd. -
Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith a’u
cefnogaeth. Mewn ymateb nododd y Rheolwr Dysgu a
Datblygu’r Sefydliad sylwadau’r Pwyllgor gan ychwanegu ei fod yn ymwybodol
fod perthynas mentora wedi ei sefydlu
rhwng rhai aelodau, ac mai cyfeiriad y gwasanaeth i’r dyfodol oedd i gynnal mwy
o gyfleon dysgu a datblygu trwy ddulliau digidol. Nododd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd
fod nifer o aelodau newydd wedi gwneud yr un sylw ynglŷn â’r dryswch wrth
geisio cyfeirio materion ward at y swyddogion priodol, ac y byddai angen
cyfarch hynny yn well wrth anwytho aelodau newydd. Awgrymodd y byddai’n fuddiol
i Aelodau oedd wedi cael profiadau dysgu a datblygu da i son wrth aelodau
eraill a lledaenu’r neges. Ychwanegodd fod gwneud hyfforddiant aelodau yn
orfodol wedi cael ei grybwyll mewn dogfennau ymgynghorol ym maes llywodraeth
leol, ond nad oedd unrhyw sicrwydd pa ofynion fyddai’n cael eu gosod yn y
ddeddfwriaeth derfynol. |
|
ADRODDIADAU BLYNYDDOL AELODAU ETHOLEDIG PDF 62 KB Ystyried unrhyw
addasiadau i’r adroddiadau a threfniadau eu llunio. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau
Democrataidd ei hadroddiad gan nodi tra bo gofyn statudol ar y Cyngor i
alluogi’r aelodau oedd yn dymuno gwneud hynny i gyhoeddi adroddiad blynyddol,
nad oedd unrhyw orfodaeth i aelodau unigol i wneud hynny. Gwahoddwyd y Pwyllgor
i gynnig eu sylwadau ar yr adroddiadau a’r broses o’u creu. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth: -
Fod tynnu ystadegau presenoldeb a manylion
gwaith pwyllgorau o’r adroddiad a’i gynnwys mewn dolen yn gam yn ôl. -
Croesawu fod pwyslais cynnwys yr adroddiad ar
waith ward yr aelodau gan mai dyna oedd yn bwysig i’r etholwyr. -
Fod angen gwneud y ddolen at yr adroddiadau yn
fwy amlwg. -
Nad oedd angen cynhyrchu adroddiadau blynyddol
gan y byddai etholwyr aelod cydwybodol yn ymwybodol fod yr aelod yn eu
gwasanaethu’n ddiflino. -
Faint o’r cyhoedd oedd yn edrych ar yr
adroddiadau? -
Fyddai posib rhoi dolenni at newyddlenni lleol
yr aelodau? -
Oedd cost ychwanegol i gynhyrchu’r adroddiadau? Mewn ymateb nododd y Rheolwr Gwasanaethau
Democrataidd fod y pwyslais wedi newid i’r gwaith ward gan fod manylion
diweddaraf presenoldeb ac ati aelodau yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.
Ychwanegodd fod defnydd tudalen y wefan oedd yn cynnwys yr adroddiadau
blynyddol yn cynyddu’n sylweddol wrth i etholiad agosáu. Cadarnhaodd nad oedd
unrhyw gost tu hwnt i amser staff i gynhyrchu’r adroddiadau, a thra byddai’n
ymchwilio mewn i rannu newyddlenni ward, byddai’n rhaid i unrhyw ddeunydd fynd
trwy brosesau golygyddol y Cyngor cyn eu cyhoeddi trwy’r wefan gorfforaethol. Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaethau
Democrataidd mai un dull ymysg nifer er mwyn cyfathrebu gydag etholwyr oedd yr
adroddiadau blynyddol, a bod etholwyr unigol yn derbyn gwybodaeth mewn sawl
ffordd wahanol. |
|
CYFARFODYDD Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD PDF 63 KB Ystyried y nifer o gyfarfodydd cyffredin y Pwyllgor a gynhelir yn ystod y flwyddyn fwrdeistrefol Cofnod: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau
Democrataidd ei hadroddiad gan nodi fod llwyth gwaith y pwyllgor yn dilyn
cylched oedd yn cyrraedd ei uchafbwynt o gwmpas etholiad. Yn y cyfnod rhwng
etholiadau nid oedd cymaint o lwyth gwaith ac ‘roedd hynny yn cael ei
adlewyrchu yn llwyth gwaith pwyllgorau gwasanaethau democrataidd mewn cynghorau
eraill. Nododd fod gofyn statudol i’r pwyllgor gyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn,
ond nid oedd uchafswm a bod angen strwythuro cyfarfodydd y flwyddyn i gyfarch
anghenion Gwynedd. ‘Roedd trafodaethau ynglŷn â rhesymoli cyfarfodydd
hefyd wedi eu cynnal mewn pwyllgorau eraill. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth: -
Fod 3 cyfarfod ffurfiol y flwyddyn yn synhwyrol
yng nghyfnod canol tymor etholiad. -
Fod angen amseru’r cyfarfodydd fel eu bod yn
cael eu cynnal ar yr adegau cywir er mwyn i’r Pwyllgor gyflawni ei bwrpas. -
Fod angen ail afael yn y gwaith o hybu
amrywiaeth mewn democratiaeth. -
Rhagwelwyd y byddai mwy o lwyth gwaith yn
disgyn ar y Pwyllgor pan fyddai deddfwriaeth llywodraeth leol nesaf y Cynulliad
yn cael ei gyhoeddi. -
Fod angen gwerthuso’r nifer o aelodau oedd ar
holl bwyllgorau’r Cyngor, yn enwedig o ystyried ei fod yn debygol y byddai’r
nifer o aelodau ar Gyngor Gwynedd yn gostwng wedi’r etholiad nesaf. Mewn ymateb nododd y Pennaeth Gwasanaethau
Democrataidd fod croeso i aelodau gynnig eitemau i’r Pwyllgor, yn enwedig os
oedd cysylltiad gyda gwasanaethau i aelodau. Byddai cyfle hefyd i’r
is-grŵp amrywiaeth i gydweithio gyda’r grŵp prosiect oedd yn gweithio
ar gyflawni blaenoriaeth ‘Merched mewn Arweinyddiaeth’ oedd wedi ei gynnig i
Gynllun y Cyngor ar gyfer adolygiad 2019. Nododd y rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y
byddai lleihau’r niferoedd o gyfarfodydd ffurfiol y Pwyllgor yn arwain at
ryddhau amser er mwyn gyrru gwaith is-grwpiau’r Pwyllgor yn eu blaen.
Ychwanegodd y byddai’n bosib galw cyfarfod ychwanegol o’r Pwyllgor pe byddai’r
llwyth gwaith yn teilyngu hynny. Cynigwyd ac eiliwyd cynnal 3 cyfarfod
ffurfiol y flwyddyn o 2019-20 ymlaen PENDERFYNWYD: Newid nifer cyfarfodydd
rhaglenedig y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd o 4 cyfarfod y flwyddyn i 3. |
|
CALENDR CYFARFODYDD Y CYNGOR 2019-20 PDF 47 KB I ystyried calendr cyfarfodydd y Cyngor ar gyfer 2019-20. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau
Democrataidd gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, gan gyflwyno fersiwn
ddrafft o galendr cyfarfodydd y Cyngor ar gyfer 2019-20. Nododd y byddai angen
ail-drefnu dyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor hwn yn sgil eu penderfyniad
blaenorol. Ychwanegodd fod trafodaethau wedi bod yn cael eu cynnal gyda
phwyllgorau eraill er mwyn rhesymoli’r nifer o gyfarfodydd, a thra ‘roedd y
Pwyllgor Safonau wedi cytuno i resymoli nid oedd trafodaethau mewn pwyllgorau
eraill wedi aeddfedu digon i fedru dod i benderfyniad ar gyfer calendr 2019-20. Nodwyd gan aelod o’r pwyllgor fod dyddiad
Pwyllgor Harbwr Aberdyfi wedi ei osod y rhy fuan yn yr hydref, ac y dylai gael
ei symud i gyfnod hwyrach er mwyn rhoi amser i swyddogion gynhyrchu adroddiad
mwy cynhwysfawr ar weithgareddau’r tymor gwyliau. |