Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Sion Owen 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26/6/18 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26
Mehefin 2018 fel rhai cywir. |
|
YMGYNGHORIAD Y PANEL ANNIBYNNOL AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL 2019-20 PDF 112 KB Derbyn sylwadau’r pwyllgor hwn mewn ymateb i’r ymgynghoriad. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Panel gan y Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd. Nododd fod y penderfyniadau ar raddfeydd taliadau
oedd ar gael i gynghorau unigol yn y gorffennol bellach wedi eu dileu yn dilyn
adborth a dderbyniwyd gan y cynghorau. Ychwanegodd fod y Panel yn argymell
cynyddu'r cyflog sylfaenol o £268 y flwyddyn (1.97%), cyflog Arweinwyr ac
Aelodau Cabinet i gynyddu o £800 (gan gynnwys y £268 o gyflog sylfaenol), a
chyflogau Dinesig i £22,568 ar gyfer Pennaeth Dinesig a thaliad o £17,568 ar
gyfer Dirprwy Bennaeth Dinesig. Cyfeiriodd hefyd at argymhellion y panel
ynghylch Cynghorau Tref a Chymuned er mwyn rhoi cyfle i Aelodau’r Pwyllgor roi
sylwadau gan fod ganddynt yn aml gysylltiad â chyngor Tref a Chymuned. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth: -
Nad oedd dewis ond derbyn yr argymhellion. -
Nad oedd Aelodau y weithrediaeth wedi derbyn
codiad cyflog tu hwnt i’r codiad yn y cyflog sylfaenol ers cryn amser. -
Gresyn nad oedd elfen o amrywio taliadau yn
unol â pherfformiad a phresenoldeb. -
Cefnogi gosod taliadau ar un lefel gan nad oedd
posib defnyddio’r taliadau i wleidydda. -
Croesawyd gosod lefel cyflog Cadeirydd y Cyngor
ar yr un lefel a Chadeirydd Pwyllgor. -
Croesawyd fod Aelodau yn cael ychydig llai o
godiad cyflog na swyddogion, a chroesawyd fod hynny yn cael ei gyflwyno wedi i
swyddogion dderbyn codiad. -
Nodwyd fod angen ei wneud yn eglur i gynghorau
Tref a Chymuned pa aelodau sy’n gymwys am ba daliadau ac am ba gyfnod er mwyn
cynorthwyo eu cynllunio ariannol. -
O ran egwyddor y dylai pob aelod etholedig gael
cyflog o ryw fath er mwyn annog amrywiaeth
ac adlewyrchu’r gost amser ynghlwm a bod yn Aelod Etholedig. Penderfynwyd: 1 – Derbyn argymhellion y Panel. 2 –
Fod y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn cyfleu sylwadau’r Pwyllgor hwn i’r
Panel. |