Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sion Owen 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn ar gyfer 2016-17 Cofnod: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Lesley Day yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn
2016-17 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar Mawrth 22ain 2016 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 22 Mawrth, 2016 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU PDF 94 KB I gyflwyno adroddiad blynyddol y Pwyllgor Safonau Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd - drafft o’r adroddiad
blynyddol sydd i’w gyflwyno i’r
Cyngor llawn ar 6 Hydref, 2016 yn rhoi diweddariad
i aelodau am weithgareddau’r Pwyllgor yn
2015-16. Pwysleisiwyd fod distawrwydd cymharol y Pwyllgor mewn cyfnod ble
mae safonau
ymddygiad cyhoeddus yn ymddangos fel
petai’n disgyn, yn adlewyrchu’n dda ar Aelodau’r
Cyngor. Yn ogystal â hynny,
pwysleisiwyd fod angen dangos arweinyddiaeth
ac aros yn driw i egwyddorion
Nolan. Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth:- ·
Bod pryder ynglŷn â lefel dealltwriaeth aelodau a chlercod Cynghorau Cymuned o’r Cod Ymddygiad. Mewn ymateb atebodd y Swyddog Monitro fod hyfforddiant wedi ei gynnal
i gynghorau cymuned, a bod copi o’r cod ymddygiad diweddaraf wedi ei ddosbarthu. Ychwanegodd fod hyfforddiant yn cael ei gynnig
gan Un Llais Cymru yn ogystal.
Nododd nad
oedd problemau sylfaenol wedi dod i’r amlwg. ·
Fyddai’n bosib cysylltu â’r Clercod Cynghorau
Cymuned er mwyn cael darlun
gwell o’r sefyllfa? Mewn ymateb gofynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau i’r Aelodau dynnu ei sylw at unrhyw
broblemau penodol. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Diweddaru aelodau’r pwyllgor o’r datblygiadau diweddaraf a gwaith y grŵp ffocws etholiadau Llywodraeth Lleol (Mai 2017). Cofnod: Cyflwynwyd - adroddiad cynnydd ar y paratoadau ar gyfer etholiad
2017 yn dilyn sefydlu grŵp ffocws yng nghyfarfod
diwethaf y Pwyllgor hwn. Adroddwyd fod 3 prif ffrwd i’r
gwaith: ·
Paratoi ymgeiswyr, gan bwysleisio ar godi ymwybyddiaeth
a defnyddio data o gyfweliadau
datblygu Aelodau er mwyn gwella profiadau’r
Aelodau fydd yn cael eu hethol
yn 2017. Hefyd trefnu sesiynau yn fuan yn
2017 ar gyfer gwybyddu darpar ymgeiswyr. ·
Rhaglen anwytho aelodau etholedig yn dilyn etholiad
Mai 2017 a rhaglen hyfforddiant
ar gyfer y flwyddyn, gan anelu
i gynnal sesiynau anwytho a hyfforddiant anffurfiol mewn arddulliau amrywiol. ·
Cyfarpar electroneg, gan adrodd fod yr
is-grŵp ar fin dechrau treialu gwahanol ddyfeisiadau electronig. Nodwyd hefyd fod y gwasanaeth
Dysgu a Datblygu wedi bod yn gweithio
ar ddarpariaeth ar-lein i Aelodau. Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth:- ·
Sut mae darparu ar gyfer
darpar ymgeiswyr na fydd yn
medru mynychu’r sesiynau gwybyddu? Atebodd yr Uwch
Reolwr Democratiaeth a Chyflawni fod y wybodaeth sydd ar wefan y Cyngor
wedi cael ei ddiweddaru, gan gynnig gwybodaeth
gynhwysfawr. Croesawir unrhyw syniadau ar sut i
ddenu mwy o sylw. ·
Fod pecynnau i ddarpar ymgeiswyr
wedi eu dosbarthu
i’r rhannu trwy’r llyfrgelloedd cyn etholiad 2012 ac wedi bod yn llwyddiant.
Nodwyd y sylw. ·
Mynegwyd pryder o weld yr amser byr sydd
rhwng yr etholiad a’r sesiynau
anwytho y gallai fod yn anodd
i Aelodau sydd newydd eu hethol
yn 2017 drefnu amser i ffwrdd
o’r gwaith i fynychu’r sesiynau
anwytho. Mewn ymateb nododd yr
Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni fod bwriad rhannu'r
dyddiadau anwytho i ddarpar ymgeiswyr
er mwyn eu
rhagrybuddio a pharatoi petaent yn cael
eu hethol. ·
Dylid annog y grwpiau gwleidyddol i ystyried arddel
system fentora drwy baru cynghorydd newydd gyda chynghorydd
mwy profiadol. ·
Byddai’n fuddiol trefnu bod cyfle i’r 75 Aelod
gyfarfod yn anffurfiol er mwyn
dysgu mwy am y gwahanol grwpiau a wardiau ac annog cydweithio. ·
Fod peryg achosi cymhlethdod ac oedi pe bai
dewis o ddyfeisiadau ar gael i
Aelodau. ·
Pwysleisiwyd fod angen hyfforddiant
trwyadl i’r Aelodau newydd, yn enwedig
ym maes TG. Atebodd yr Uwch
Reolwr Democratiaeth a Chyflawni fod gwaith
yn mynd ymlaen
i adnabod yr hyfforddiant fydd ei angen
ar Aelodau newydd, a phenderfynu pryd fyddai’r amser gorau i’w raglennu.
Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Technoleg Gwybodaeth
a Thrawsnewid fod profiadau TG wrth gyflwyno’r cyfarpar presennol i’r Aelodau wedi dysgu llawer
iddynt o ran y lefel o gefnogaeth sydd ei angen gan
Aelodau, a sut i’w amseru. ·
Fod cysylltedd rhai ardaloedd yng Ngwynedd i’r
rhyngrwyd yn araf iawn, gan
effeithio ar allu Aelodau i dderbyn gwasanaethau ar-lein. ·
Byddai’n fuddiol petai ryw
fath o lyfrgell dogfennau cyfeiriol ar gael i
Aelodau er mwyn eu cynorthwyo. PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad, gan argymell cadw
at un ddyfais electroneg er hwylustod. |
|
DIWEDDARIAD GAN YR IS-GRWP AMRYWIAETH MEWN DEMOCRATIAETH PDF 330 KB Cyflwyno diweddariad o waith yr is-grwp amrywiaeth. Cofnod: Cyflwynwyd - diweddariad ar waith diweddar yr Is-grŵp amrywiaeth, sy’n cyd-fynd â’r gwaith
uchod o baratoi at etholiadau Mai 2017: ·
Tynnu sylw darpar ymgeiswyr er mwyn eu
hannog i sefyll. ·
Deall ac adnabod y rhwystrau sydd gan ddarpar ymgeiswyr
a cheisio ymateb iddynt rhag-blaen (ble bo’n bosib) ·
Gwneud y wybodaeth sydd ar wefan
y Cyngor yn fwy hygyrch. ·
Cynhyrchu ail fideo er mwyn
hyrwyddo ac annog darpar ymgeiswyr. ·
Gwella’r hysbysebu pan mae
seddi gwag ar gael i’r
Cyngor. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
PROTOCOL CYFRYNGAU CYMDEITHASOL PDF 51 KB Cyflwyno diweddariad i’r Protocol Cyfryngau Cymdeithasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad, gan
egluro’r newid pwyslais yn y fersiwn
ddiweddaraf o’r Protocol er mwyn pwysleisio
mai’r neges graidd yw dangos
parch at eraill. Ychwanegwyd hefyd
ddarpariaeth ar gyfer cysylltu i dudalennau cyfryngau
cymdeithasol Aelodau. Amlygwyd
nad oedd
y Cyngor yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb
am eu cynnwys, ac y dylai’r cynnwys hwnnw ddilyn y protocol. Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth:- ·
Annog Aelodau i gael tudalen
‘bersonol’ a thudalen ’swyddogol’, gan gofrestru’r ddau gyda’r Swyddog Monitro er mwyn
bod gwahaniaeth rhwng bywyd personol a bywyd cyhoeddus Aelodau. Mewn ymateb atgoffodd
yr Uwch Reolwr
Democratiaeth a Chyflawni'r
Aelodau nad oedd gwahaniaeth mewn gwirionedd rhwng tudalennau personol a chyhoeddus. Byddai’r un safonau
ymddygiad yn berthnasol iddynt. ·
Bod angen rhybudd yn gwadu
cyfrifoldeb am gynnwys gwefannau allanol ar y dudalen ble
lleolir y ddolen i’r tudalennau cymdeithasol. ·
Bod angen cyfarch sefyllfaoedd ble mae Aelod wedi ‘blocio’
defnyddiwr arall (ac felly ddim yn gweld
ei negeseuon) ac felly ddim yn medru
ymateb petai’r sawl sydd wedi
ei flocio yn gyrru negeseuon
i’r Aelod. PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad |
|
Cynnig trefn safonol ar gyfer adrodd yn ol ar waith cyrff allanol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad. Adroddwyd fod y sefyllfa parthed Cyrff Allanol wedi
bod yn aneglur yn y gorffennol,
, a bod cais wedi dod i edrych
mewn i’r mater gan fod nifer
o Gyrff Allanol ac amrediad o ran eu dyletswyddau adrodd yn ôl. Nodwyd hefyd
fod angen ceisio sefydlu trefn adrodd gan
Aelodau’r Cyrff Allanol a Phencampwyr gwahanol feysydd. Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth: ·
Fod rhai Aelodau yn aelodau o gyrff allanol
am gyfnod hir cyn cael eu gwahodd i fynychu cyfarfod, sy’n amlygu’r amrediad o
ran natur gwahanol gyrff allanol. ·
Ei fod yn bwysig hysbysu’r Cyrff Allanol os
oes unrhyw newidiadau er mwyn iddynt fod yn medru diweddaru eu cofnodion. ·
Gofynnwyd pwy oedd yn penodi Aelodau i Gyrff
Allanol. Atebodd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni mai’r Aelod Cabinet
oedd yn penodi Aelodau i’r rhan fwyaf o Gyrff Allanol, a’i fod yn gwneud hynny
fel arweinydd portffolio yn hytrach na fel gwleidydd. PENDERFYNWYD Derbyn
yr adroddiad. |
|
ADRODDIADAU BLYNYDDOL AELODAU PDF 799 KB Diweddaru’r Aelodau am yr adroddiadau a gyhoeddwyd yn 2015/16 a chynnal trafodaeth fuan am y cyfleoedd a’r rhwystrau at 2016/17. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad, gan nodi fod
29 Aelod wedi cyflwyno adroddiad blynyddol ar gyfer
2015-16 er bod problemau technegol wedi effeithio ar y broses o’u paratoi. Nodwyd hefyd fod dryswch
ynglŷn â’r ffordd orau o baratoi
adroddiadau blynyddol ar gyfer 2016-17 oherwydd yr Etholiad.
Nid oedd arweiniad swyddogol wedi ei dderbyn ar
hyn o bryd. Penderfynwyd peidio cynnal trafodaeth bellach ar y mater hyd y derbynnir arweiniad swyddogol ar gyfer
gofynion adrodd 2016-17. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR 2016-17 PDF 235 KB Cyflwyno rhaglen waith ddraft ar gyfer ystyriaeth gan y Pwyllgor er mwyn blaen-raglennu gwaith y flwyddyn. Cofnod: Cyflwynwyd y rhaglen waith ddrafft. PENDERFYNWYD Derbyn y rhaglen waith. |